Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Cyhuddiad o Ladrata Dillad…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyhuddiad o Ladrata Dillad Gweithwyr. Dydd Iau, o flaen y Mri J. Parry Jones a J. Vaughan Williams, yr Arolygydd Roberts a gyhuddodd David Roberts, 2 Freeman Terr., a Hugh Morris Hughes, Back Park Square, Bl. Ffestiniog, o fod wedi lladrat.ta 8 o gotiau gwerth 7/6, a'u gwerthu i John Davies, Gener- al Dealer, High Street, Bl. Ffestiniog. Wedi eu cymeryd i'r ddalfa addefasant iddynt gym- eryd y cotiau ond na ddarfu iddynt dori i mewn i'r caban. William Rowland, Lord-gt, a dystiodd ei fod yn gweithio yn chwarel Fotty a Bowydd, ac iddo gloi y caban lie yr oedd y dynion yn cadw eu dillad, cyn gadael y chwarel bump o'r gloch nos Lun, a dododd yr agoriad mewn twr o gerrig. Boreu dranoeth yr oedd y drws yn agored, a'r clo a chyn ar y fainc yn y caban a'r agoriad yn ei le arferol heb ei symud. Thomas Davies, Manod Road; John Row- lands, Lord St. ac Owen Solomon Williams, Glynllifon Street; a dystiasant eu bod wedi colli eu cotiau, ac yr oeddynt yn eu hadwaen yn mhlith y carpiau ddangoswyd iddynt gan y Rhingyll Lloyd. John Davies, General Dealer, High Street, a dystiodd iddo brynu sachaid o garpiau yn pwyso 38 am 1/6 gan y ddau garcharor. Yr oedd Hughes wedi bod yn siarad ag ef yn y prydnawn yn nghylch pris carpiau oedd gan- ddo yn y ty.-Hugh M. Hughes, "Ni ddywed- ais fod genyf garpiau, ond gofyn pa faint y Cant roddid am danynt." Yr Heddgeidwad John Jones, a ddyweddodd iddo gymerydd David Roberts i'r ddalfa yn Nolwyddelen prydnawn ddydd Mawrth. Gwadodd bobpeth wrtho pan gyhuddodd ef, Y Rhingyll John Lloyd a dystiodd am y modd y cafodd allan am y Iladrad a'r irosedd- wyr. Pan gyhuddodd y ddau gvda'u gilydd, dywedodd David Roberts, "Waethi migy- faddef y gwir, mae'n siwr o ddwad alien. Cymerasom y cotiau; ond ni ddarfu i ni furstio y drws, a gwerthasom hwy i John Davies."— Hugh Morris Hughes, OvTIP '•> y eoliau ond ni thorais y drws." Pan gyhuddwyd dywedcdc1 Hugh Mori sT' he iddo It-, i j v cotiau; sc addefc-l ,f helpu gyda • chael hancL y J Dedfrydvv v J tiugn Morris Hugaes x m id j o garchar, a David Roberts i chwech wythnos o garchar. Galwodd y cadeirydd ar John Davies yn mlaen, a dywedodd ei fod wedi ei rybuddio o'r blaen am brynu pethau amheus, ac y delid ato os ceid ef yn euog o hyny eto. Gwraig H. Morris Hughes a ddywedodd ei bod hi wedi rhybuddio Davies lawer gwaith yn nghylch cymeryd pethau gan ei gwr, ac yr oedd ei mhodrwy ganddo.—Y Cadeirydd a orchymynodd i'r Arolygydd edrych i mewn i'r mater hwn.

Advertising

Advertising

FOOTBALL. I

[No title]