Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Damwain yr Amwythig.
Damwain yr Amwythig. Er i ymchwiliad manwl gael ei wneyd i f achos o'r ddamwain ar y rheilffordd gerllaw yr Amwythig, ychydig iawn yn wir o oleuni sydd wedi ei gael arno. Yr oil sydd yn weddol sicr-yn wir mae'n hollol sicr yw fod y tren yn teithio yn ol 60 milltir lIe na ddylasui fyn'd yn ol mwy na 10 milltir yr awr. Paham y teithiwyd gyda'r fath gyt" lymdra nis gwyr neb. Yn yr ymchwihaa gohiriedig ddydd Mawrth dywedodd cyn- rychiolydd cyfreifhiol y Cwmni fod y Cwmni yn cydnabod ei fod yn gyfrifol i dalu iawn i deuluoedd y lladdedigion ac i'rclwyfedigion. Gan fod nifer y rhai hyn yn fawr, bydd yn rhaid i'r Cwmni dalu swm sylweddol i'r hawlwyr oil gyda'u gilydd. Os cymer dam* weiniau fel hyn le o bryd i bryd pan y bydd dynion profiadol yn gweithio'r •rheilffyrdd' beth a all ddigwydd-ac yn debygol o dai- gwydd- os safant hwy allan fel y bygythiant ac y cymerir eu lleoedd gan ddynion heb brofiad o gwbl yn y gwaith ? Mae'r cwest- iwn yn un y dylai cyfarwyddwyr y cwmniau edrych yn ei wyneb, oblegid (a chymeryd yr olwg isaf ar y peth) nis gallant iforddio cael llawer o ddamweiniau o'r fath yma.
Athraw newydd i Goleg Y sala.…
Athraw newydd i Goleg Y sala. r it* Y mae y Parch. W, Porter, M.A u- Edinburgh, wedi ei benodi yn Athraw Hebrog i Goleg Duwinyddol y Bala, yn lie yr Athrav Stevenson, yr hwn sydd wedi ei benodll gadalr Hebreig Athrofa Glasgow. Cyflwynwyd Porter yn ffurfiol i'r myfyrwyr gan y Prif athraw Edwards, a thraddodwyd anerchiada croesawol gan yr Athrawon Hugh Williams a Stevenson.
Advertising
Have you tried WOLSEY = = = UNSHRINKABLE UNDERWARE ? IF NOT, get them = = For the COMING SEASON! Every WOLSEY GARMENT is all Pure Wool. Every Garment is excellently made, and Every Garment is guaranteed unshrinkable (and will be replaced free if it turns out otherwise.) NEW STOCK just arrived at SHOP=YR=ERYR, Co=operative Buildings, BI. Ffestiniog, & SliOP ISAF, Maentwrog. On receipt of enquiry, samples will be gladly sent to intending purchasers. OCT, 1907. T. ROBERTS. RECORD CHEQUE PROVES RECORD SALES. AND RECORD, POPULARITY! Yes, the fact that the Largest Cheque forgTea-Duty ever paid amounted to £ 111,848:7s. Id., and|wa@!|paid|by the mflypoLE PAiRy ço., LTP. and represented over Five million Pounds of the WORLD-FAMOUS "MAYPOLE" TEA Proves indeed that it is by far the best and most popular Tea. OVER 520 BRANCHES NOW OPEN. rlHii nil 1 IMB^ ? Dyma gwestiwn a ddylai I | gael eich sylw difrifolaf, a || A ydyw eich hyny heb oedi, Os ydyw eich golwg yn | Golwg yn ddrwg nid oes modd ei wella I Drw dlffygi. ol 1 ? heb rhyw gyfrwng allanol i I1 Ddiffygiol ? ? wneyd hyny. IGoc!i@iwcli rfiagj ?ew!a eich ?pesioB 1 a eich hunain, ??! hyny ?ofs ?H 1 j fwy o niwed o Rawer. 1 Yr wyf yn barod i brofi eich g golwg yn rhad, aa os byc1d '?*??'*?  *"?*?" angen Spcctol arnoch geJIaf g%el rl120i i'ch siwtio am bris II Ul' Thorn'" :!P.1'IIfm j L'O4 ?e ä., ".nl?;;¡< 'v?,Wl aatt cco hI i'rr,ake,p & Optician:' F t, s ti ii Stationery i% fancy (joods.. Note Paper of every description, in neat boxes 6d. and is. Penny Packets, the trade supplied at wholesale prices. a FOREIGN NOTE PAPER. S. p, R- IL 1' lJ] B'; f JÕi. II, I! ntfI": k" "(j:¡; 'Di"fj',4'1! Bl. Ffestiniog. I V iP EJ iI! i. '!W åV \$ "¡£ III iff ¡HJellil I AT EIN DARLLENWYR. BYDD y "RHEDEGYDD" i'w gael o hyn allan bob Wythnos yn y lleoedd canlynol ar hyd Glanau Meirion:—Pwllheli, Criccieth, Porthmadog, Penrhyndeudraeth, Talsarnau, Harlech, Llanbedr, Dyffryn, a'r Abermaw.
I Helynt y Rhilffyrdd. I
I Helynt y Rhilffyrdd. Cymerwyd dan"'gani pwysig ynglyn a'r helynt yma yn nghorph yr wythnos ddi- weddaf. Hyd yn hyn un o'r cymdeithasau undebol sydd yn mhlith y gweithwyr sydd wedi brwydro drostynt; yn awr mae yr oil o'r cymdeithasau hyny chwech mewn nifer wedi ymgysylltu ynghyd i osod angenrhaid ar y cyfarwyddwyr i gydnabod yn swyddogol yr undebau hyn trwy dderbyn dirprwyaethau oddiwrthynt a chwynion oddiwrth y gweithwyr drwyddynt. Diau fod hyn wedi chwalu gobaith oedd gan y cyfarwyddwyr y deuai y mantais iddynt hwy yn y frwydr o ddiffyg undeb llawn ymhlith y gweithwyr. Drachefn, mae Mr. Lloyd- George, fel Llywydd Bwrdd Masnach, wedi symud yn y mater. Anfonodd genadwri at y cyfarwyddwyr i geisio ganddynt drefnu i'w gyfarfod fel y caffent ymddiddan a'u gilydd gyda'r bwriad o heddychu y pleidiau. Ar un olwg nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond cydsynio a'r cais, oblegid cyfrif- asid hwy yn euog o anfoesgarwch tra an- esgusodol pe gwrthodasant. Nid yw yr adeg y cyferfydd ef a hwythau wedi ei wneyd yn hysbys, gan nad yw Mr. Lloyd- George yn barnu fod cyhoeddi yn angen- rheidiol nac y byddai yn fuddiol. Mae'n ddealledig y bydd iddo, wedi iddo weled y cyfarwyddwyr, anfon am Mr. Richard Bell, A.s fel y caffo ymddiddan ag ef hefyd fel cynrychiolydd y gweithwyr. Yr unig beth sydd yn sicr yw ei fod wedi rhoddi ei law i waith anhawdd dros ben. Oblegid nid ynghylch cyflog nac oriau gwaith y dadleu- ir yn awr. Mae'r materion hyny wedi eu gosod o'r neilldu dros amser, hyd oni phen- derfynir a gydnebydd y cyfarwyddwyr hawl y gweithwyr i ffyrfio undeb neu undebau, a hawl yr undeb hwnw neu yr undebau hyny i siarad dros y gweithwyr. Dywedodd Mr. Bell yn ddiweddar mai hyn sydd i'w ben- derfynu yn gyntaf, ac oni phenderfynir ef yn ol eu hewyllys hwy mae'n sicr mai sefyll allan a wna'r gweithwyr. Ymddengys y cyfarwyddwyr yr un mor benderfynol a hwy. Mae hyn yn ddigon i ddangos fod Mr. Lloyd-George wedi ymgymeryd a gorchwyl sydd wedi ei amgylchu ag anhawsderau. Oblegid nid oes ganddo awdurdod i orfodi y pleidiau i wneyd dim ond a welant yn dda. I lwyddo i'w heddychu rhaid )ddo ddar- bwyllo y cyfarwyddwyr a'u perswadio i wneyd y peth maent yn dywedyd yn ben- dant na wnant mo hono, neu ynte berswadio y gweithwyr i ymfoddloni i'w hundeb gael ei anwybyddu gan y cyfarwyddwyr. Os gall rhywun heddychu pleidiau mor anghym- odlawn, Mr. Lloyd George, dybygwn, ydyw hwnw. —
I Etholiadau'r Cynghorau Trefol.I
I Etholiadau'r Cynghorau Trefol. Cymer yr etholiadau hyn le trwy Gymru a LIoegr yr wythnos nesaf, a chan yr ymleddir hwynt gan mwyaf ar linellau gwleidyddol edrychir ymlaen atynt gyda llawer o ddydd- ordeb. Os troant allan yn ffafriol i'r Ceid- wadwyr, cymerir hyny fel arwydd fod y gwaith mae'r Llywodraeth wedi ei wneyd ac ar fedr ei wneyd yn arghymeradwy yn yn] ngholwg y m lad. Ac y mae yn fwy na phosibl y pair i'r arglwyddi ymhyfhau yn fwy i w neuthur drwg pan ddaw yr amser iddynt benderfynu tynged y Mesur Addysg a'r Mesur Trwyddedol a ddygir gerbron y Senedd yn y man. Ar y Ilaw arall, os bydd i'r Rhyddfrydwyr ddal y t'r sydd yn eu meddiant, ac yn enwedig os enilliant dir newydd, calonogir hwy a gwan- heir gobaith eu gwrthwynebwyr. Dywedir y dygir allan gynifer a 1,200 o ymgeiswyr Sosialaidd. Nid ydym yn tybied y dych- welir hwy i gyd mae'n sicr na wneir. Ond teimlwn yn lied sicr yr etholir nifer fawr o honynt-y fath nifer ag a ddengys i bob dyn ag y mae ganddo lygaid i weled fod Sosial- aeth wedi dyfod, nid i fyn'd ymaith'drachefn ond i aros. Am y tro cyntaf bydd merched ymhlith yr ymgeiswyr hyd yn awr nid oedd yn gyfreithlon iddynt eistedd mewn Cyngorau Trefol. Mae eisoes sicrwydd y bydd pymtheg o honynt yn ymgeisio, ac y mae dwy o honynt yn Nghymru—Miss Dillwyn yn Abertawe, a Miss Morgan vn Aberhonddu.
Glanhau'r Dclinas. I
Glanhau'r Dclinas. I V chydig ilynyddoedd yn ol, yn Lerpwl, nid oedd raid i dafarnwyr ond gofyn am drwydded a rhoddid hi iddo, a hawdd oedd cael trwydded i chwareudy. Nid felly y mae'n awr. Mae Ynadon Trwyddedol y ddinas yn wyr sydd wedi sylweddoli ycyfrif- oldeb sydd arnynt, ac y mae y rhai a gan y rhai a ymddangosant ger eu bronau i geisio adnewyddiad eu trwyddedau achos i fod yn bryderus iav, n. Dydd Mawrth, gofynai perchenog chwareudy neillduol yn y ddinas am i-'w drwydded gael el hadneviyddu. I Pan alwyd yr heddgeidwaid i dysliolaethu ynghylch y modd yr oedd y chwareudy wedi ei reoli y llynedd, yr oedd eu tystiolaeth yn mhell o fod yn ffafriol. Holodd un o'r ynadon y perchenog ynghylch dernyn neillduol a chwareuwyd yno yn ddiweddar. Ni fynai y gwr fod dim i'w ddewedyd yn erbyn y dernyn, ond cafodd wybod nad oedd yr ynadon o'r un farn ag ef. Ni fu llawer rhyngddynt ag atal y drwydded, ond y diwedd fu iddynt eu hadnewyddu. Wrth wneyd hyny yn hysbys dywedodd y Cad- eirydd (Syr Thomas Hughes) fod yn rhaid iddo reoli ei dy yn well a darparu arlwy fwy chwaethus i'r sawl a'i mynychant. Oni wna hyny, bydd yn ddrwg arno ymhen y flwydd- yn. Da ydyw gweled ynadon Lerpwl dan arweiniad ein cydwladwr Syr Thomas Hughes yn' ymroddi gyda'r fath sel a doethineb i'r gwaith da o buro'r ddinas boblog. Nid ydynt am adael ffordd rydd i bobl chwanegu elw iddynt eu hunain trwy lygru eraill. A llygru meibion a merched ieuainc a wna nidychydig o'r gwleddoedd a ddarperir ynddynt yn chwareudai ein trefi mawrion.
Cynrychiolaeth BwrdeisdrefiI…
Cynrychiolaeth Bwrdeisdrefi I Fflint. Mae gwybodaeth sicr bellach ynghylch y gwr a ddewisir i sefyll fel ymgeisydd Rhydd- frydol am gynrychiolaeth Bwrdeisdrefi Fflint yn lie Mr. Howell Idris yr hwn sydd wed; amlygu ei fwriad i ymneillduo pan ddan, Etholiad Cyffredinol. Enwyd amryw a rhoddwyd eu henwan i bleidlais yn nghyfar- fodydd Rhyddfrydwyr rhai rhanbarthau. Yn eu plith yr oedd Mr. W. C. G. Gladstone o Gastell Penarlag, Ychydig ddyddiau yn ol anfonodd air i ddeisyf ar i hyny beidio cael ei wneyd eto. Felly y mae ef wedi myn'd o'r maes, a da fyddai i ddau neu dri eraill sydd wedi eu henwi wneyd yr un modd. Oblegid mae'n hollol amlwg mai Mr. J. W. Summers ydyw y gwr y myn mwyafrif mawr iawn o Ryddfrydwyr y bwrdeisdrefi ei an- rhydeddu. Sicrheir ni gan un sydd yn ei adnabod y byddai yn llawer hawddach cael ei waelach na'i well. Mae wedi gwasanaethu yn dda ar amryw Gynghorau er mai Sais ydyw mae yn parchu Cymry ac wedi yfed i fesur helaeth o'u hysbryd ac y mae yn Rhyddfrydwr holliach. Nid ydym yn gwyb- od beth sydd sydd nac i ddyfod o Mr. Alfred Elias yr hwn yn ddiweddar a hysbys- odd Gymru, LIcegr a Llanrwst ei fod wedi ei ddewis (gan pwy, nis gwyddom) fel yr Ymgeisydd cenhedlaethol am] gyn- rychiolaeth Bwrdeisdrefi Fflint ac wedi ei ddewis yn lfaenor Plaid Genedlaethol Gymreig. Hyd eithaf ein gwybodaeth nid yw y blaid hono wedi ei geni eto. Fel rheol rhaid wrth ryw lun o blaid cyn y gall neb fod yn flaenor aini. Ond y mae Mr. Alfred Elias wedi dewis ei hun yn flaenor plaid nad yw eto yn bod. Boed felly. Mae'n ei foddloni ef, ac yn peri mwynhad neu ddifyr- wch i'w gydnabod, ac nid yw yn gwneyd drwg i neb am a wyddom.
Y Ddirprwyaeth Eglwysig.I
Y Ddirprwyaeth Eglwysig. Ychydig wythnosau yn ol hysbyswyd ni fod trefniadau wedi eu gwneyd i'r Ddirprwy- aeth eistedd yn feunyddiol ar hyd y mis hwn a'r mis nesaf, a bod y ffordd i hyny yn agor- ed yn gymaint a bod y cadeirydd wedi ei ryddhau dros dymor oddiwrth ei waith fc 1 un o Farnwyr yr Uchel Lys. Ond mae gwaith y Ddirprwyaeth yn sefyll ei's wyth- nos bellach. Priodolir hyny i anmharod- rwydd yr Anibynwyr i gyflwyno eu tystiol- aeth (dros yr enwad fel y cyfryw) ac i anmharodrwydd cyffelyb gyda'r dysiolaeth sirol a gyflwynir gan wyr yn perthyn i'r gwahanol enwadau. Yr oeddym yn deall fod tystiolaeth yr Eglwys Sefydledig yn barod er's l'awer o fisoedd. Os oedd, paham na alwasai y Cadeirydd am hono ? Nis gwyddom ac y mae yn bosibl na wyr neb arall ond efe a'r arweinwyr Eglwysig. Mae'r wlad wedi colli bron yn llwyr bob dyddordeb yn y ddirprwyaeth a'i gwaith. Bu yn edrych ami i'w gwawdio, erbyn hyn y mae yn ei hanwybyddu. Dechreuodd y Ddirprwyaeth yn ddrwg, a brysiodd i fyn'd o ddrwg i waeth. Mae ymneillduad Mr. S. T. Evans, A.s., a'r Athrawon Renry Jones a Faribairn wedi ei gyfiawnhau a mwy na'i gyfiawnhau.
" Y Fasnach." I
Y Fasnach." I Ffaith awgrymiadol-ie ffaith ofnadwy o awgrymiadol i'r ystyriol, mai Y Fasnach yn Mhrydain Fawr ydyw y fasnach mewn diodydd meddwol. Nid y Fasnach mewn glo, neu flawd, neu gotwm, ond y fasnach mewn nwydd sydd tu hwnt i bob peth arall y gellir ei enwi wrth wiaidd y tlodi a'r cyni a'r anfadwaith sydd yn y wlad. Rhaid hyd y nod i Lywodraeth, a hono yn Llywodraeth mor gref a Llywodraeth Syr Henry Campbell- Bannerman, wrth fesur helaeth o wroldeb i estyn ei Haw yn erbyn masnach mor gref a hon—i estyn ei Haw yn ei herbyn i gyfryngu arni, i atal ei rhwysg, ac felly i beri i gryn lawer o bobl ddylanwadol ofni fod gobaith eu helw yn myn'd i golli. Yr wythnos cyn y diweddaf, dywedodd Mr. Leif Jones, A.S., wrth lywyddu cyfarfod blynyddol Cyngrair Dirwestol y Deyrnas Gyfunol, yn Mancein- ion, am Gwmni Darllaw Watney-Combcs ei fod yn berchen deuddeg cant o dafarnau, a bod yn mhlith cyfranddalwyry Cwmni bedwar due, dau ardalydd, dau-ar-bymtheg o iarl- lod, pum' is-larll, deunaw o farwniaid, chwe' -barwnig-a'r-hugain, un-a'r-bymtheg o farchogion, tri-ugain-a-phump o feibion a merched Arglwyddi (sy'n aelodau o Dy'r Arglwyddi), un arch-ddiacon, un deorr a dau ganon yn Eglwys Loegr, a llu mawr iawn o swyddogion milwrol o raddl uchel. Gellir bwrw fod gan bob un o'r r.hai hyn dipyn o ddylanwad ar lawer o bers onau, a bod yn Nhy'r Arglwyddi ac yn' Nhy'r Cyffredin nifer da o wyr a chanddynt fawr ofal am eu buddianau. Dengys hyn oil y bydd yn rhaid i'r Llywodraeth gyfarfod gwrthwynebiad cryf a phenderfynol iawn a'i drechu hefyd cyn y chwanega at ddeddfau ein gwlad ddeddf drwyddedol gwerth ei chael, a dengys hynu drachefn yn si dro fod angen am i garedigion sobrwydd drwy y deyrnas sefyll ysgwydd wrth ysgwydd i'w chynorthwyo. Yr ydym yn disgwyl gweled hysbysiadaufod trefniadauyn cael eu gwneyd i sicrhau cydweithrediad felly. Mae'n hwyr bryd trefnu cyfarfodydd mawrion mewn gwlad a thref er mwyn dangos i bawb ag y perthyn iddynt wybod fod corph mawr pobi oreu y deyrnas yn barod i sefyll wrth gefn y Llywodraeth ac er mwyn deffroi ac enyn brwdfrydedd y dyrfa fawr sydd yn ddifravv a difater. Mae ganddi ewyllys i wneyd gwaith effeithiol mae'n ddyledswydd ar Anghyd- ffurfwyr a Rhyddfrydwyr a Sosialwyr y deyrnas i gryfhau ei dwylaw a rhoddi iddi y gallu nas gall neb ond hwy ei roddi iddi.
Undeb yr Anibynwyr eymreig,
Undeb yr Anibynwyr eymreig, Cynhelir cyfarfodydd yr Undeb y flwyddyl1 nesaf yn y Rhos. Traddodir Pregethau yr Undeb" gan y Parcbn. R. E. Peregrine, Rhymni; D. Lloyd Morgan, Pontarddula; W. J. Nicholson,<Porthmadog; a D. G. Wil- liams, Henllan. Boreu ddydd Mercher, tradd. odir anerchiad y Cadeirydd gan y Parch. Root. Thomas, Glandwr. Darllenir papur gan ?_ Athraw Edward Anwyl Aberystwyth, & "Awdurdod mewn Crefydd," yn y cyfario llywyddir gan yr Athraw Thomas Bangor. Llywyddir cyfarfod arall gan M?r" ?J?' Jones Morris, Porthmadog, ac agorir traf0d aeth ynddo ar Addysg gan y Parch. D. Williams, Barry, yr hwn sydd yn aelod blaen- llaw o Fwrdd Addysg Sir Forganwg. -° y cyfarfod cenhadol gynhelir o dan lywyddlaetb Dr. E. Lewis Lloyd, Towyn, darllenir ppur gan y Parch. John Hughes, ar Dr. Morris a'i ddylanwad yn China." Cynhelir hefyd gyfarfod i drafod materion Cymdeithas Siaredir gan y Parch. John Davies, ar ~ocl aeth gwir a gau. Mr. Davies a enillodd y wobf ar y pwngc yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddl; weddaf. Sieryd y Parch. J. D. Jones, "Burdeb Gwleidyddol," a'r Parch. W. Cynwyd Williams, Llanrwst, ar o'r Wern." Pregethir trwy y dydd day Ian.
TANYGRISIAU.
TANYGRISIAU. Y GYMDEITHAS LENYDDOL,—Nos Iau■ weddaf yn Festri Bethel, cynhaHwyd cyl?? cyntaf y tymhor, pryd y caed darlith ?? .?j gan y Parch R. Silyn Roberts, M.A. -4 to- DAMWEINIAU.—Cyfarfyddodd dau 5javi<3 a damweiniau yr wythnos hon, slr??f David Wynne, tra yn dilyn ei orchwyl yn y Lechi Ysgrifenu, a derbyniodd niwei'aU, wyneb. Ac Owen Parry, Ysgoldv. a derbyn- iodd niweidiau i'w goes wrtb groesi dras ^eS pigog" yn y Foel. DIOLCHGARWCH.—Dydd L!un, ca.t??, ?? res o gyfarfodvdd gweddi i ddiolch ?m J gasglu i ddid?,?l ,?-,r  ,y d d, hauaf, ac am bin deg i'w gasglu i ddiddosr?wy Yr oedd cynulHadau hynod o dda yn yr 011 0 1 ca-pel,gi:, yma, ac yr oc:rld r,iyw ellci,id fa-" capelau yma, ac yr oedd rhyw eneiniad ^vj a gweddi i'w deimlo yn v cyfarfodydt-. Befy yr oedd casgliadau yn cael eu gwnejd yn cyfarfodydd. Casglwyd yn Carme! -?,?7, lr, Yrl Bethel trad-,Ic)Co?6 v ar--h Isfryn Hughes bregeth rymus iawn yn ngn?gj Gorphwysfa i gynuliiad da.
FFESTINIOG. -..._..... ITti
FFESTINIOG. ITti I RHY\lJDD.-Mae nifer o ferched ie'^a ymwthio yn bennoeth i ganol hog'? 0 £jiaea masnachdy neillduol yma, ac yn ?  clyrnunir weryrllyd eu swn ar hyd y Dan, a "Y ?mUf ,r iddynt gymeryd rhybudd oddiwrta ry,au y digwydd i rywun roddi mwy o l-'y?- rwydd iddynt.—RHYWUN.