Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
16 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Ni chynygiwyd erioed harddach na gwell detholiad o GARDIAU nag sydd i'w cael eleni. Mae y LLYFR NEWYDD i'w weled yn SHOP Y RHEDEGYDD. Gallwch roddi archeb HEDDYW a'u cael rywbryd a nodwch cyn y NADOLIG. PRIS- IAU o 1/9 y dwsin i fyny. PRIVATE CHRISTMAS CARDS. No better choice of CARDS have ever been offered than are to be had this year. The NEW BOOK may be seen at the RHEDEGYDD OFFICE. You can place your order TO-DAY and have the CARDS supplied at any given date before CHRISTMAS. PRICES from 1/9 per dozen upwards.
Negro yn ceisio taflu Teithiwr…
Negro yn ceisio taflu Teithiwr o'r Tren. Yn Heddlys Eccles, dydd Llun, dirwywyd negro o'r enw David Wright i £ 40 a'r cosiau, am ymosod ar un Eustace Gray, oedd yn cyd deithio ag ef yn yr express rhwng Lerpwl a Manceinion, ac am geisio ei daflu allan or tren pan oedd yn myned yn ei chyflymder. Nid oedd ond Gray a'r carcharor yn y cerbyd hwnw. Pan oedd y tren yn myned gyflymaf, taflodd y negro y drws yn agored a dywedodd y buasai yn dangos iddo sut yr oeddynt yn teithio yn America." Ar hyny dechreuodd ymlafnio a Gray, hyd nes yr oedd hwnw wedi diffygio. Canodd Gray y gloch ac ataliwyd y tren. Daeth y Guard yno, a chlowyd y carcharor mewn cerbyd wrtho ei hun. Ond bu raid myned i mewn ato eilwaith a chael pedwar i'w ddal i lawr. Yr oedd y carcharor yn feddw wallgof ar y pryd. Rhuthrai arnynt fel ci cynddeiriog a brathodd Gray yn ei fraich. Bygythiai ladd pob dyn gwyn.
? I -- -- --- -, I .TDros…
? I I T Dros Archwiliad Meddygol. T I Dadleuai Mr. Lloyd George y dylai gyried- yddion fyned o dan archwiliad meddygol yn ami, a daw cefnogaeth hynod i'w ddadl yr wythnos hon yn hanes gyriedydd ar linell y Midland, o'r enw Wilkin, yr hwn a ddisgynodd yn farw ar y peiriant nos Sadwrn diweddaf, tra yn gyru tren nwyddau o Loughborough i Lei- cester. Yn y trengholiad a gynhaliwyd yn Leicester tystiai y meddyg Dr. Riddett, fod y trancedig yn dioddef oddiwrth y ffurf waethaf ar glefyd y galon, a phe byddai wedi ei archwilio yn ddiweddar nis gellid peidio canfod hyny. Dywedai y trengholydd fod yr achos hwn yn ddadl gref dros archwilio gyrwyr, ac awgrymwyd y gallai mai dyma yr achos o'r trychineb mawr yn yr Amwythig. Dywedai Dr. Riddett y dylai gyrwyr gael eu harchwilio o leiaf bob dwy neusdair blynedd.
Marwolaeth Banker Adnabyddus,I
Marwolaeth Banker Adnabyddus, Nos Sul yn nhy ei frawd yn Ngwrecsam, bu farw yndrasydyn Mr. Richard Meredith Jones, cyn arolygydd y North & South Wales Bank, Lerpwl, yn 79 mlwydd oed. Treuliodd Mr. Jones ei oes yn ngwasanaeth y Bane uchod. Cychwynodd yn Ngwrecsam, ac aeth Qddiyno i Groesoswallt, lie yr oedd Mr. George Rae yn Arolygydd ar y pryd, a phan symudodd hwn i Lerpwl cymerodd Mr. Meredith Jones i'w ganlyn fel un o'i staff. Wedi hyny daeth Mr. Jones yn olynydd i Mr. Rae fel Arolygydd yn Lerpwl. Claddwyd ef yn Ngwrecsam dydd Mercher.
Trenerholiad yn Abermaw.I
Trenerholiad yn Abermaw. Dydd Sadwrn, canhaliodd Mr. Guthrie Jones, Dolgellau, yr Is-grwner, drengholiad ar gorph Mr. Hugh Lewis, Caefadog a Gorllwyn Fawr, yr hwn a fu farw yn dra sydyn nos Wener, yn 70 mlwydd oed. Yr oedd y trancedig wedi myned allan y noson hono, tra yr oedd y teulu yn y capel, i swpera yr anifeiliaid, a chafwyd ef gan rai o'r cymydogion a bwced yn ei law wedi syrthio yn farw wrth ddrws y stabl. Priodolid ei farwolaeth i glefyd y galon, a bwriwyd rheithfarn gytunol a hyny.
Gwrthwynebiad i Mr. S. T.…
Gwrthwynebiad i Mr. S. T. Evans, A.S. Mae glowyr Morganv/g wedi penderfynu dwyn allan ymgeisydd Llafur i wrthwynebu Mr. S. T. Evans, A.S., yn yr etholiad nesaf, a phenodwyd un Mr. Hartshorn, yr hwn a atl- waeair fel agent y glowyr a socialydd. Ffurfia glowyr canol Morganwg gyfartaledd mawr o'r boblogaeth ac y mae y penderfyniad hwn yn rhwym o beri anesmwythyd yn ngwersyll y Rhyddfrydwyr.
"Y GENINEN " A'R DOSBARTHI…
"Y GENINEN A'R DOSBARTH I GWEITHIOL. Mr. Gol.Darllen.Lis, gyda llawer o ddy- ddordeb, y nodiadau ar Y Geniuen yn eich rhifyn diweddaf, yn gosod allan y sylw amlwg a delir ganddi i'r dosbarth gweithiol a'u hiawnderau. Y mae ysgrifau fel y rhai a addewir ar Gyfalaf a Llafur," Urddas Llafur," Cyfiawnder i'r Gweithiwr," Chwarelwyr a Chwarelyddiaeth," Peryglon i Iechyd y Glowr," Nodweddiou Gwahan- iaethol y Glowr a'r Chwarelwyr," Pwnc v Tir yn Nghymru, Y Llafurwr Amaethyddol," &c., yn sicr o adael dylanwad arosol er lies y { dosbarth gweithiol. Da genyf weled y fath raglen gyfoethog o destynau a phynciau mor ddyddorol, ac o ysgrifenwyr adnabyddus ac addfedig alluog at y flwyddyn nesaf. Llawenydd i bob Cymro diledryw yw gweled y fath gylchgrawn gwir genedlaethol yn dal ei dir mor lew, ac yn ychwanegu nerth bob blwyddyn. Prln y mae angen anog yr un Cymro darllengar i fynu Y Geninen." Sicrheir iddo arlwy o'r defnyddiau llenyddol mwyaf blasus a maethlon hefyd, i'w wneuthur yn Gymro gwresog, goleuedig, gwrol a chadarn. Dyna yw dylanwad y cyhoeddiad uchelryw hwn wedi bod er pan yr ymddang- osodd gyntaf. Y mae yn dwr arfau i genedl- garwyr Cymreig a bydd ymofyn mawr am dano yn ddiau am amser maith. Cymer oes eto i fesur gwasanaeth Y Geninen i'n cenedl ni.—Yr eiddoch. I 'AAAAAAAAA:c::r:A AV
Marvvoiaeth Pencercfd Maelcr.…
Marvvoiaeth Pencercfd Maelcr. Dydd Mercher, rhoddwyd gweddillion mar- wol'y Parch. Hugh Davies, G.T.S.C., awdwr y dernyn rhagorol "Awn, awn, i ben y Wyddfa Fawr," i orwedd. yn mynwenfc y Garth, ger U., .J.: .1 .ll!. Jl. ''i v L "tJ.. 1 b" Llangollen. Ganwyd yr ymadawedig yn y Garth 63 mlynedd yn ol. Ymunodd a'r Corph pan yn ieuanc, a bu yn weinidog yn Plasmarl, ger Abertawe, am y 12 mlynedd diweddaf. Bu yn enillwr mewn amryw o eisteddfodau, yn benaf am donau cynulleidfaol. Yr oedd cyn-1 ifer a 30 o weinidogion yn bresenol yn yr au- gladd, a bu i lawer ohonynt gymeryd rhan.
TREFN OEDFAON Y SUL
TREFN OEDFAON Y SUL Y METHODISTIAID. PENIEL.—Parch. W, R. Jones, Llanfrothen. ENGEDI-Parch. R. J. Williams, Liverpool. GWYLFA-Parch. D. O'brien Owen, Caernar- fon. BETHESDA.—Parch. Evan Roberts, Dolgellau. TABERNACL.—Parch. John Owen, M.A. GARREGDDU.—Parch. Thos. Hughes, B.A., Rhiw. A ;• MAENOFFEREN.—Parch. E. J, Evans, Pen- rhyn. CAPEL SEISNIG (English. Chapel).—Rev. Ellis Edwards, M.A,, Bala. BOWYDD.—Parch. Thomas Williams, Gwalch- mai. RHIW.—Parch. T. R. Jones, Towyn. BETHEL.—Parch. J. Ellis Jones, Glynceiriog. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.—10, Parch. George Davies, B.A. 6, Parch. R. Talfor Phillips. HYFR YDFA. -Parch. A.'D. Thomas, Dolwydd- elen. BF-THANIA.-Parcli. J. Rhydwen Parry. JERUSALEM.—Parch. J. Williams-Davies, Hyfrydfa. BRYNBOWYDD.—10, Parch, R. Talfor Phillips. 6, Parch George Davies, B.A. SALEM .-Cyhrfod Gweddi. CARMEL.—Parch, John Hughes. Y WESLEYAID. EBENEZER.-IO, Parch. D. D. Jones. 6, Parch. T. Isfryn Hughes. < .sg DISGWYLFA.—10, Mr. J. R. Jones. 6, Mr. E. R. Evans. SOAR, RHIW.—10, Parch. T. Isfryn Hughes. 6, Parch. D. D. Jones. TANYGRISIAU.-2, Parch T. Isfryn Hughes. 6, Cyfarfod Gweddi. FFESTINIOG.—Convention. Y BEDYDDWYR. SEION.-Proff. J. T. Evans, M.A., Bangor. I CALFARIA.—Parch. E. Cefni Jones, Calfaria. MORIAH.-2, Parch. E. Cefni Jones. PISGAH.—Mr. Daniel Davies, Wern," CAERSALEM.—Mr. J. D. Davies, Bl. Ffestin- iog.
Advertising
'1 n 1,,Y -0 H FEL HYNII. Cyn prynu unrhyw OFFERYN Cerdd o I unrhyw fath anfonwch attaf am 1 CATALOGUE, a CEWCH WELED nas GALLWCH I brynu yn well mewn unrhyw fan. 8 Cymeraf Hen OFFERYNAU yn rhan- I dâl am rai N ewyddion, a rhoddaf y 1I pris goreu am DANYNT. Telerau goreu sydd bosibl. I J. BOLLOTEN, NCDT 2 CARLTON DEPT. ?. HOUSE, IBANSOR. ? 1 1 u a!?mmma??BBB?mM??m _?-—N !t ——?.?——W B?tBtBMM) Argraffwaith. ^Vrgraffwaith- Pob math o ARGRAFFWAITH ar gyfer C) Y N G H E R D DA U, CYMANFAOEDD CANU, a CHYFARFODYDD o bob natur. Rhoddir Prisiau am Argraffu CY- HOEDDIADAU, CYLCHGRONAU ADRODDIADAU Y CAPELAU, YSTADEGAU CYFUNDEBAU, a LLYFRAU BACH neu FAWR. CARDIAU COFFA. CARDIAL1 PR (0 DAS. I YMWELED. Yn ngbyda llu o ueihau ar gyfer BUSIES, megis BILLHEADS MEMORANDUMS, MANIFOLD LETTER BOOKS, CHECK BOOKS &c., &c., i'w cael yn y modd GOREU ?. FR??rA.F, yn 1 i i "■ v n ?3?' ??nj ?? M  ??.? ? ? 6? ? ? R? I t "}: n f i ???'??????a REGISTRY OFFICE. DYMUNA MRS. O. PIERCE, DDRAIG GOCH TEMPERANCE, Church Street, Blaenau Ffestiniog, hysbysu ei bod wedi cym- eryd drosodd fusnes Cofrestru Morwynion a gerid yn mlaen gan Mrs. Evans, Melbourne House, Church Street. Mae Mrs. Evans yn ymneillduo o'r busnes, ac wedi ei gyflwyno i Mrs. Pierce. Hyderit allu rhoddi yr un bodd- lonrwydd ac a gafwyd yn y gorphenol, ac sicrheir cefnogaeth gyffredinol trwy hyny, Ymofyner yn bersonol neu trwy lythyr a MRS. PIERCE, Ddraig Goch Temperance, Church Street, Bl. Ffestiniog. ?  ?X?-?  K?? ??.iC?.O-?'x g )C?-<3  X=?—a  E? f • LIVERPOOL. ■ i I Mbl HUGH JONES 1 I ?f????")! ??° SON, Bangor HOUSE, •  r c: "r, ç'nTTPE T I 3 AND *5, ST. R IUL'S ?Q.UARE. A ?? WERTHIR TOCYNAU (Single a EST- t ?' VT URN) YN MHCB dosbarth gyda'r ¥ gwahanol LIOELLWI o AGERLONGAU i'r Unol G ? Dalaethau, CANADA, South America, S. ? ? Africa, Awstral?, PATAGONIA, ac i bob X parth O'R byd am y pns?u tool??f. I I Gwerthir hefyd Inland Tickets gyda'r ? A ■ g?Nahano? KEII FFYRDD i BOB PARTH ?m y H W telerau RHATAF RHODDWN Reduced R%te 9 I RAILWAY ORDER I bob un o'n PasBêngers I B o'r Blaenau YMA, BYDDWN YN cvfi?rfodein H 7 PASSENGERS ar eu glaniad yn y Station ■ • yma GOFALWA &m eu Luggage, a deuwn 7 f GYDA HWY ar fwrdd YR AGERLOUG yn mha 1 ? un y byddant wedi penderfynu hwyUa A ¥ I'W Berthio yn y modd mwyaf BODDHSOL J A a CHYSURUS yn Y r adran goreu o'r Hong, ■ ar y dirnod HWYLIO. Y sgrifenwch AIR a chewch gyda throad £W I y POST restr o'r gwahanol HwyHadaa, ya J 4 nghyda'r Farea. A Pob hwylusdod. Ystorfa rhad AT J gadw Luggage. I A Mae'r cyfeiriad uchod yn He cysurus, t @ rhosymol, a chan,I*a i ym-,?elw yr ? dref. ?<?  ..c:rc&:c-oN NtynvfGfo GB»&QH tecft Heb ddim Pimples, Doluriau, Ysfa, Brychau, Toriad Allan, Scurvy, Penddu- ynod, Eczema. SARZINE | At S?O?D ? BMM y ?F?r??'?' J Gwaed. Is 112C a 2s 6c y botel. Gan bob Druggist, neu oddiwrth y Perch- enog (3c yn ychwanegol)— HUGH DA VIES, Machynlleth. BRYSIWCH I geisio potelaid gan y Fferyllydd nesaf atocb, cyn i'r Anwyd fyned yn waeth. Coflwssts. COUGH MIXTURE HUGH DAVIES, Machynlleth. il3\n. a ?. 9c. y botel. g DAVIES'S COUGH MIXTURE At Beswch, 5 DAVIES'S COUGH MIXTURE Anwyd, 8 DAVIES'S COUGH MIXTURE Asthma, DAVIES'S COUGH MIXTURE Bronchitis, J! DAVIES'S COUGH MIXTURE Pas. Crygni, 5 DAVIES'S COUGH MIXTURE Influenza. SswEffigWffWllBWlllBIJIIHMIMu Miiwww i man iifaBaBWBTO^^ INFLUENZA. -Ysgrifeiia y Parch. E. W. Davies, Ton, Pentre, yn ddiweddar Gallaf ddwyn tystiolaeth glir i boblogrwydd mawr Hugh Davies's Cough Mixture, ac i dderbyniad lies neillduol fel siaradwr cyhoeddus oddiwrth ddefnyddiad o hono, ac hefyd i'w werth yr adeg hon gyda'r haint Influenza." Os gofynwch am Davies's Cough Mixture mynwch ei gael. Y mae rhai diegwyddor yn cymhell pethau eraill mwy proffidiol. DAVIES'S T'l- .TLC; ANTIBILIOUS ydyw y rhai mwyaf diogel at Rwyiaeid gweithieut yn esmwyth, yn sier. ac heb boen. Os ydych ya metlxil nrweithio, methu bwyta, methn treniio bwyd, poen yn y cfin, poea yu yr ystumog, bias drvvg ar ygsnaa.yn diiiysbryd a dig%loa, cyrasrwoh dose o'r Pills yma bob yn ail no3. Diogftl i bob oed a rbyw. 134o y boos gan bob D;:llggist.-fIUGH DAVIES, Ohembt, Mt\.chyn- lldh. CASH ACCOMMODATION. 10 TO ,.0000 ON THESE TERMS. £ I S D- 10 REPAY 11 5 0 I 15 16 7 6 | 20 22 10 0 j 30 33 is .0 I :6 C p 1101" r 200 225 0 0 £ £ S. P 4CO repay 450 0 0 562 10 Q 500 „ 562 10 0 .700 785 10 Q 900 1012 10 0 1000 1125 0 0 cs re.} 'red. v V J AC Kb ON, ? ■ FI'outh Grcve, [ 70, Plymouth Grove, MANCHESTER. ? Letters receive prcmpt attention.
Y SEREN. III
Y SEREN. II I Ser can gemau anian-a welir Ar oriel pendryfan; Myrddiynau o fotymau tan, Ar oludog awyr lydan. Blaenau Ffestiniog. HEN DDILLEDYDD.
YR EIRA CYNTAF ELENI. I
YR EIRA CYNTAF ELENI. I Wyddfa tan eira oerwyn-a welir 0 waelod y Penrhyn Wele brawf fod dol a bryn Yn bloeddio diwedd blwyddyn. DWYRYD. I
Y BWTHYN TO BRWYN. I
Y BWTHYN TO BRWYN. I Pa Ie mor hardd a'r hen Gefnhir? I mi mae'n llawn o swyn Can's dyna'r fan lle'm ganwyd gynt, Mewn Bwthyn a tho brwyn. Ond pan yn edrych ar y fan, Daw ryw hiraethus gwyn, Nid oes i'm gael ond olion gwael O'r Bwthyn a'r to brwyn. Ei goed a'i gerig,-wf-Ft i 'raib, I rywle ga'dd eu dwyn, Ac nid oes heddyw ond lie bu Y Bwthyn cu to brwyn. 'Rwyn caru'r fan ba'r aelwyd glyd, Lie rhoddais gynta' nhroed, Cyn dechreu teimlo poenau'r daith, Na gofid chwaith erioed. Oddeutu'r fan lie safai'r bwth, Mor delaid yw y tir, Anwylaidd le a swyna feirdd, Yw llenyrcit heirdd Cefnhir. Mi welais lawer tro ar fyd Ond nid i gyd yn gwyn, Er pan y darfu'm ganu'n iach A'r Bwthyn bach to brwyn. Mae pedwar ugain mlynedd llawn, Hyd yma wedi'm dwyn, Ond byw yr erys ar fy ngho' Y Bwthyn a'r to brwyn. EVAN DAVIES. I ranybanc, Penrhyndeudraeth.
CYFLWYNEDIG I
CYFLWYNEDIG I Mr.: a Mrs. Lewis V. Davies, Spennymor, County Durham, ar ol ei geneth fach GWEN. I wlad y bythol hedd, A gwlad y palmwydd gwyrdd, I wlad lie mae yr aur Yn balmant ar ei ffyrdd; A gwlad sy'n llawn o flodeu blydd, Heb nos o'i mhewn, Ond un tragwyddol ddydd. I wlad yn lie mae hoen Ar uchaf orsedd wen, Y wlad Ile nad oes boen Yn trigo dan ei nhen Cartrefle iechyd ydyw hon, Heb un yn llesg, Ond pawb o'i mhewn yn lion. WeI, dyna i chwi'r fan Lle'r aeth eich Gweno fach, I rodio'n rhydd ar lan Ei dyfroedd gloywon iach A chanu'n ber yn nghwmni'r llu Mewn nefol hwyl, o glod i'r Iesu cu. Chwi welwch ffrindiau mad Nid iawn yw bod rhy drist, Gan fod eich Gweno fwyn Yn nghwmni Iesu Grist; Mae hi yn hapus yno'n siwr Mewn lie mor hardd, A chwmni y fath Wr. Ac hefyd gyda hi, Mae myrdd o blantos man, Rhai anwyl iawn i mi, Maent yno dyblu'r gan Pereiddiach ydyw canu'r nef Fed Gweno fach Yn canu, Iddo Ef. Mi gredwch yn ddible Fod ffordd o Durham ddu, Yn arwain tua'r ne' Er fod ei rhwystrau'n Ilu: 'Run ffordd yn union ydyw hi I fy'nd i'r nef, A'r ffordd o Gymru gu. Faint bynag aeth o'i blaen O'ch teulu tua'r wlad, Mae yno un yn fwy- Mae yno'ch Gweno fad Ymdrechwch chwithau ffryndiau pur I chwyddo rhif Preswylwyr Canaan dir. uurham. M. J.
CAPEL CYMRAEG (M.C.) ELDON,I…
CAPEL CYMRAEG (M.C.) ELDON, DURHAM. Capel Eldon, pa beth ydyw ? Pabell lor, gobeithiaf yw, Lie i'r Cymru gwasgaredig Ddod ynghyd i foli Duw Ddod i ganu hen Emynau Cysegredig Cymru fad, Ac i anfon anadliadau Pur i'r nef yn iaith eu gwlad. Pabell godwyd yw yn "Gosen," Gwlad yr Aipht estronol dir, Lle'r mae'r gelyn mewn mawrhydi Dan ei draed yn sarn mae'r gwir, Man mac pob rhjhv annuwioldeb Ar ei eithftf yn cael lie, Tra yn gruddfan yn eu clwyfau Dan eu traed mae deddfau'r Ne, Beth yn wir sy'n fwy cydweddol, Ag anianawd Cymro pur, Ns. bol iddo fan addoii, N ic i ti i f i.-n mewn estron dir Gwrando gair yr iachawdwriaeth Yn ei iaith a pheraidd flas, A chael cyfarch Duw ei dadau I Gyda gwrgs wrth Orsedd Gras. Cofia'r Cymry gwasgaredig," 0 drugaredd nefol Dad, Dyro iddynt fodd i ganu, Er yn byw mewn estron wlad Hollalluog Dduw y tadau," Profa heddyw'n Dduw i ni, Dyro dy amddiffyn drosom Rhag ein cario gan y lli'. Llu o demtasiynau creulon Am ein cario oil i bant, O drugarog Dduw y Tadau Bydd di eto'n Dduw eu plant; Tywallt ysbryd gras a gweddi, Yna Arglwydd, Ti geir'r clod, Cepel Eldon yn breswylfa Fyth i Ti a ninau fod. Durham. M. J. ???s/?
? - - -e s- -y ------------r…
-e s- -y -r I "V Gormes yr Arglwyddi Tir yn I Nghymru. Y ddaear yw cwpwrdd mawr y teulu a chan nad pa mor dda bynag y dichon i landlords fod, gwallgofrwydd fyddai eu gadael i reoli bywioliaeth cenedl; ac ofer disgwyl i'r bobl anadlu yn rhydd hyd nes y cant agoriad y cwpwrdd yn eu llaw eu hunain. Nis gellir disgwyl i'r landlords ymadael yn ewyllysgar. Nid o'u bodd yr aeth y rhai hyny o Gadara ond yr oedd cael gwared o honynt yn werth goddef ysgydwad. Aethant allan o Ffrainc trwy y cleddyf, ac ni ddychwelasant yno byth gobeithio yr ant allan o'r wlad hon drwy weddi ac ympryd sut bynag, bydd raid iddynt f yned. Bydd awdurdod y landlords a buddianau y bobl yn dyfod i wrthdarawiad parhaus. Ni cha y tenant drin y tir yn y drefn fwyaf manteisiol. Gall yr Arglwyddi tir droi ymaith denantiaid i wneyd Ile i ddefaid a helwriaeth gallant omedd lie i fasnachwr adeiladu. Mae miliynau o erwau yn llai dan yd heddyw nag oedd yma ugain mlynedd yn ol. Gall y rhodd- ant le i adeiladu,—ond ar amodau afresymol. Hyd prydles yn y wlad hon ydyw 59ain neu 99ain mlynedd, a gini o ground rent y flwyddyn. Costia adeiladu y ty, dywedir [200; a'r ground rent yn gwneyd [304. Bydd y ty yn myned yn llai ei werth bob dydd tra y bydd gwerth pob peth arall yn codi ac yn y diwedd daw y landlord yn mlaen a chymer feddiant o'r cwbl heb gymaint a diolch. Mae dull cyfreithiol hwn o yspeilio gweithwyr y fath na oddefir mohono mewn un wlad ar gyfandir Ewrob. Drachefn, wedi i ddyn osod i fynu fasnach daw y landlord yno i ddrysu y gwaith,—bydd y tai yn myned yn ddiwerth, fel y mae llawer o ardaloedd yn gwybod drwy brofiad. Gallai 60ain o landlords, pe yn dewis, gau i fyny bob chwarel lechi yn y deyrnas a gallai 120ain o landlords osod terfyn ar bob gwaith glo yn y wlad. Pan fyddo un landlord yn marw bydd yno ryw ddyryswch yn cymeryd He yn nglyn a'i olynydd cedwir y gwaith i sefyll am dymor, —chwe' mis neu flwyddyn ond i ba le y mae y gweithwyr i droi eu gwyneb am damaid ? Pe y gweithfaoedd yn eiddo y Llywodraeth cedwid hwynt i fyned heb golli diwrnod, fel y cedwir y llythyrdy i fyned er marw o'r post- feistr. Mae hawl pob dyn i'r tir yn gydradd gyfar- tal. Dywedir fod y landlords wedi cael eu tiroedd yn onest, drwy ewyllys neu drwy bryniad ond atoiwg, gan bwy yr oedd hawl i werthu y ddaear ar y dechreu ? Os oedd hawl gan rywun i werthu rhai ohoni, onid oedd hawl ganddo i'w gwerthu i gyd, a'i chadw i gyd, fel ei oriawr, at ei wasanaeth ei hun ? Cyn y gallai dyn adael tir i un ei ewyllys rhaid ei fod wedi cael hawl iddo ond nis gallai fod hawl gan neb i unrhyw wrthrych os nad wedi ei wneud ei hun, neu wedi talu am ei wneud, neu wedi ei gael drwy bryniad neu drwy ewyllys rhywun a'i cynyrchodd. A oes mwy o reswm dros gredu y gall dyn werthu tir na gwerthu dwfr, awyr neu oleuni ? Gwerthir y llong, ond nid y dwfr yn yr hwn y mae hi yn nofio gwerthir y ceffyl, ond nid y tir lie y mae y ceffyl yn pori; gwerthir y ty, yr hwn a adeilad- adwyd gan rywun, ond nid y tir ar yr hwn y mae y ty yn sefyll. Nid gwaith dyn yw y ddaear nid drwy ddylanwad nac ar gost y dyn y gwnaed hi ni chafodd neb mo honi yn rhodd gan yr hwn a'i gwnaeth; ac nis gellir ych- wanegu ati na thynu oddiwrthi yr oedd yn perthyn i'r teulu yn wreiddiol: a chan nad faint o grwyn llwydion sydd gan y landlords i ddangos ei hawl iddi, mae yr hen gytundeb— Efe a roddes y ddaear i feibion dynion," yn gryfach na hwynt i gyd ac y mae "rights of iiiai-t yn fwy dwyfol na "rights of property" —(O'r Geninen am Hydref). V^A^>/vVVVvVVVWVVVVVVVVVVVV