Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

[ BLAENAU FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BLAENAU FFESTINIOG. Cynyg Arbenig yr wythnos hon, Lard fresh 5c y pwys gan E. B. Jones & Co. PENODIAD.-Ar gynygiad Mr. W. P. Evans, pasiwyd yn Nhyd-bwyllgor Heddlu Meirion i ranu y Sir yn dair rhan mewn achosion o gyflogi cyfreithiwr i erlyn ar ran yr Heddlu, yn hytrach na llusgo cyfreithiwr o bell ffordd i wneyd y gwaith. Mae y dosbarth hwn yn cynwys adran Ffestiniog, a'r Penrhyn, a llongyfarchwn yr Heddlu ar eu dewisiad o gyfreithiwr mor fedrus a Mr. R. O. Davies i ymddangos ar eu rhan yn y Llysoedd hyn. FOOTBALL.-Dydd Sadwrn diweddof, bn ymdrechfa am oruchafiaeth yn y Recreation Ground, rhwng Clwb Llandudno a Ffestiniog, ac yr oedd yn boen arnom edrych ar fechgyn Llandudno yn gwneyd rings o gwmpas ein clwb lleol. Ymddangosai Ffestiniog fel pe ar ol yr oes gyda chwareu y bel droed. Ceisia pob un o honynt ddangos ei allu fel chwareuwr i'r dorf, ac nid cydweithio y bel at y goal. Yr unig ddau ag a haedda ganmoliaeth ydoedd y ddau Full Back, ond gallai un o honynt wella llawer ar ei chwareuad pe byddai iddo wneyd i ffwrdd a'r dull 'rough sydd ganddo weithiau. Nid yw chwareu felly yn Football o gwbl. Hefyd, gwelsom un o'r chwareuwyr yn codi ei ddwrn i fyny fel pe am daro ei wrthwynebydd. Dylai hyn gael sylw difrifolaf y pwyllgor. Yr oedd un neu ddau o edrychwyr hefyd yn y cae a'u hymddygiad yn hollol anheilwng. Pa- ham na fuasai un o'r Pwyllgor oedd yn bres- enol yn rhoddi gorchymyn i'r heddgeidwaid ei droi allan ar unwaith. Yr ydym yn hoffi Foot- ball ond iddi gael ei chwareu yn iawn, ac y mae digon o allu yn ein bechgyn i wneyd hyny ond iddynt gymeryd eu dysgu. Y mae un peth arall yr hoffem sylwi arno, sef eu bod yn dech- reu y game yn yr adeg fydd wedi ei bender- fynu ac nid cadw y dorf am ddeg neu ugain munyd i aros i'r clwb gyrhaedd. Hyderwn y gwelir gwell game' dydd Sadwrn nesaf gyda chlwb Conwy. Chwareuwch y "game" gyf- eillion pe byddai i chwi golli pob match," neu Chuck it up.CYNIRo. DIRWESTOL.—Cynhaliwyd cyfarfod dir- westol nos Sadwrn diweddaf o dan lywyddiaeth Mr. Robert Morris. Dechreuwyd gan Mr. Hugh Roberts. Ton gyffredinol. Anerchiad gan y Llywydd. Adroddiadau gan Annie M. Evans, Mary Dilys Thomas, a William Ellis. Can gan Kate A. Jones. Unawd gan Gwladys M. Jones. Deuawd gan Lizzie Jones a Maggie Jones, Bethania. Can gan Maggie Williams, Jerusalem. Anerchiad gan y Parch. John Owen, M.A., Bowydd, a T. R. Jones. Towyn. Caed cyfarfod da a chynulliad lluosog, ond gallasai mwy o blant fod yno nag yr oedd, ond daw yn well.-T. R. GWELLIANTAU.—Gwelwn fod Cyd-bwyllgor Heddlu y Sir wedi pasio i adgyweirio yr Adeiladau Sirol yn Park Square, oddifewn ac oddiallan; ac y mae y gwaith eisoes mewn llaw gyfarwydd i'w gario allan. ARWAIN CYMANFA.—Y cyfaill diwyd, Mr. O. T. Jones (Alaw Ffestin), Pentre (gynt o Blaenau Ffestiniog), sydd wedi ei ddewis i arwain Cymanfa Ganu Bedyddwyr Sir Gaer- narfon am 1908. Llawen genym weled yr anrhydedd hon wedi disgyn i'w ran. GWAELEDD.—Da genym ddeall fod Mrs." Hannah Jones, priod Mr. Ellis Jones, 106 Manod Road, yn gwella yn foddhaol, a'i bod yn abl i fyned ychydig o amgylch.—Parhau yn bur wael y mae Mrs. Williams, priod Mr. Richard Williams, Park Square. Eiddunwn i'r ddwy adferiad buan a llwyr. EGLWYS JERUSALEM.—Y mae yr eglwys hon yn symud yn mlaen at roddi galwad i un ddod i'w bugeilio. Siomwyd hwy o gael Mr. Vernon Lewis yr hwn oedd wedi addaw dod yma ar ol gorphen ei gwrs addysg. CYFARFOD SEFYDLU.-Nos Iau diweddaf, cynhaliwyd Cyfarfod Sefydlu Mr. Robert Wil- liams, Garregddu, Blaenau Ffestiniog, fel Bugail ar Eglwys Gymreig y Methodistiaid Calfinaidd yn Pendleton, Manceinion. Llyw- yddwyd gan Mr. Daniel Roberts, blaenor hynaf yr eglwys. Dechreuwyd y cyfayfod drwy ddarllen a gweddio o dan arweiniad y Parch. E. Wynn Roberts, Heywood Street. Yna cafwyd hanes yr alwad gan Mr. Hugh Evans, Ysgrifenydd y Pwyllgor, yr hwn hefyd a ddar- llenai lythyrau oddiwrth Mr. J. Parry Jones, U.H., Blaenau Ffestiniog, ac amryw eraill, yn datgan eu hanallu i fod yn bresenol. Dymunai Mr. Parry Jones lwyddiant abendith i'r Eglwys a'r Bugail yn yr uniad hwn. Yn nesaf galwyd ar y Parch. David Jones, Garregddu, Cynrych- iolydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, yr hwn, mewn araeth a werthfawrogid yn fawr gan bawb, a gyflwynodd y Bagail newydd i eglwys Pedleton a Chyfarfod Misol Manceinion Yr oedd ei gynghorion i'r eglwys a'i Bugail yn rhai pur newydd. Yna rhoddodd y Cadeirydd dderbyniad ffurfiol i Mr. Williams i'n plith. Siaradwyd hefyd gan y Parch. S. S. Roberts, Bolton, a Mr. E. Mason Powell, ar ran Cyfar- fod Misol Manceinion. Hefyd croesawyd ef i Manceinion gan y Parchn. W. E. Davies, gwesnidog gyda'r Annibynwyr Seisnig yn Pedleton; J .'Washington Jones, gweinidog yr Annibynwyr Cymreig yn Salford. Yn ystod y cyfarfod siaradwyd hefyd gan- Mr. Thomas Jenkins, o eglwys Charing Cross Road, Llun- dain, He y cychwynodd Mr. Williams bregethu, vr hwn a Mr. Ricihard Pierce, oeddynt wedi teithio o Lundain i fod yn y Cyfarfod. Cafwyd gair hefyd gan y Parchn. D. D. Williams, Moss Side, ac Edward Humphreys, Rochdale, a chan y Gweinidog newydd ei hTInaJ). Y PROFFESWR JAMES T. EVANS, M.A.— Cafodd Eglwys Seion wasanaeth y gwr ieuanc dysgedig uchod yn ei phwlpud y Sul diweddaf, a mawr cedd ei braint, yr oedd yn pregethu yr hen ie yr hen hen hanes" gyda grym, heb arliw yr hyn a elwir gan ddysgedigion y dyddiau hyn yn "Dduwinyddiaeth Newydd." Nid dyma y to cyntaf i'r Proffeswr Evans, fod yn llenwi pwipud Seion bu yma ryw 5 mlynedd t (Parhad yn Tudalen 8).

0 Beddgelert i Toronto ynI…

[No title]

- - - - - - |LLANRWST.