Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
- - - %, - 'If l",Nf- "I 0…
'If l",Nf- "I 0 GADAtR YWYS FADOG. TREMADOG. Bwriadai Eglwys Peniel wneyd ysgoldy a thy capel newyddion.—Prysur yw yr Eglwyswyr ya parotoi at ei heisteddfod leol dechreu y flVyddyn. BEDDGELERT. Y mae lampau newyddi0on wedi cael en gosod yn Eglwys St. Mair, Bedd- gelert. Pregethwyd yn ngwasanaeth diolcb- garweh am y cynhauaf yn yr eglwys gan y Ficer. CADBEN JOHN TIMOTHY.-Prudd iawn genyf hysbysu am farwolaeth Cadben John Timothy, Borth-y-Gest, uno frodorion hynaf y pJwyf. Bu yn llywydd y "Glanrafon" am flynyddoedd. Yr oedd yn forwr medrus ac ym- roddgar, a phan ymueillduodd o'r mor, cii ddyddordeb mawr mewn'pysgota. Ni bu ii: 'o blant, ond mabNvysiadcjCd ef-a, Mrs. Timoiliy ferch fach i chwaer yr olaf, yr hon sydd erbyn hyn yn wraig briod. Anibynwr selog oedd yr ymadawedig, yn aelod gweithgar yn Salem ac yn un o'r cyfeillion a fuont am lawer o flynydd- oedd yn cadw Ysgol Sul genadol yn Smith Street. Yr oedd ganddo brofiad eglur a di- amwys yn y gyfeillach, a dawn ymadrodd trylith i ddweyd ei feddwl. Mab ydoedd i'r ddiwecldar Ann Timothy, un 0 hen gymeriadau duwiolaf y dref. Brawd iddo yw Mr. William; Timothy. Yr oedd yn 80..in mlwydd oed. NOFELAu.-Darlithiodd y Parch E. O. Jones, M.A., Llanidloes, nos Lun, yn ystafell Gynullol yr Eglwys, ar "Nofelau a Darllen Nofelau." Beirniadodd yn effeithiol iawn luaws o'r nofelau a ddavllenir y dyddiau hyn gan y Saeson Ychydig oedd ganddo i ddweyd am nofelau Cymraeg. Llywyddai y ficer. CYFARFOD I ATHRA'\VON.Dydd Sadwrn nesaf, cynhelir cyfarfod i holl athrawon Ysgol- ion Sul y Cylcb pryd yr anerchir hwynt gan Plenydd. x mae vn eglur fod yn rhaid Y v, -i e I d rl'j 1 i enyn sal yn yr Ysgol Sul, :<1 tan y dJ. tV ::yddir:.n tywyH yn ei hanes. rw iod bron yn anmhosibl j — u Wm. Owen, w»;r ydd Gv.euer, ar y c. yn gofalu am i?efiv Jones ei <. ■■ ■■ r :r enstap, 8s 6c. W. I 1 AT GEFFYL. uuui yn yr tu- ti greniondeb at i iv j bv ,e'». ddoluriau dan goiai a 111 an strap ];> ? y ceffyl. Gwadai y 1 i L, xw r: fel yr honid, a d [n > r J. bleidio yn ■ v f 11 1 c cyhuddiad.- CinviLxO Aii •• ioedd Dorothy Jones, y 1 Francis J- tt?o; yr nstusiaid am y cyb.-odcl- ifd < v ? t- gaeirbyw d: ■■■■■: aliwilio am Francis! n' {' r b on eto os y U j 0" i. \T a Y DIWEDDAR MR. EVAN JONES, GLAS- DRAETH.—Bu Mr. Evan Jones, Glasdraeth, farw ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, ar ol cystudd blin. Yr oedd yn flaenor yn Ramoth (B), a bu yn hwsmon yn Ynysfor am flynydd- oedd.
Cyfarfod Ymadawol y Parch.…
Cyfarfod Ymadawol y Parch. D. D. Jones (W.), Rhiw. Nos Iau diweddaf, Hydref 24ain, cynhal- iodd Eglwysi Soar, a Gorphwysfa Tanygrisiau, o'r Gylchdaith hon, gyfarfod ymadawol a Mr. D. D. Jones, ein Lay-agent. Fel y mae yn wybyddus i lawer, y mae Mr. Jones wedi ym- adael o'r Gylchdaitb hon, ac wedi ymsefydlu yn Llangollen. Bu yn aros yn Blaenau Ffes- tiniog am bedair blynedd yn gweinidogaethu eglwysi Soar a Gorphwysfa, a gellir dyweyd mae nid yn ofer y llafuriodd yn ein plith. Yr oedd yr eglwysi hyn mewn gwir angen am un i'w bugeilio pan ddaeth yma. Yr oedd eglwys Tanygrisiau 0 dan faich trwm, ond bu i Mr Jones roddi ei ysgwydd dan y baich, a bu o gymorth mawr i ysgafnhau y cyfryw. Yr oedd eglwys Soar drachefn yn cychwyn o'r newydd, a phan ddaeth ein brawd i lafurio atom o gylchdaith Llanrwst, nid oedd gan yr eglwys hon ar y pryd le i adeilsdu addoldy, fel y gallai gael mantais i gynal ei moddianau rheolaidd yno, ac fel y gwyddis bu yr eglwys hon yn cynal eu moddianau yn ysgoldy Glan-y-pwll am amser maith. Erbyn hyn y mae yr aelodau yn y lie, nid yn unig wedi sicrhau tir, ond hefyd wedi adeiladu capel hardd a theilwng o'n Cyfundeb, a theg ydyw dyweyd fod gan Mr. Jones ran he'aeth yn nygiad y gwaith hwn yn mlaen. Bu ei weinidogaeth yn Soar a Than-y-grisiau yn foddion i ddwyn llawer yn nes at yr Ar- glwvdd, i gael y rhai oedd yn flaenorol, yn oer a difater gyda phethau crefyddol, i ystyried fod ganddynt hwythau eu rhan i gario yr achos yn ei flaen. Rhyfedd ydyw gweled llawer o'r rhai y cyfeiriwyd attynt mor fyw i'w dyled- swyddau crefyddol, ac y mae y ffaith hon i'w briodoli i raddau helaeth iawn i lafur Mr. Jones yn ymwneyd a hwy yn bersonol. Bu yn ffyddlon i gyfeillachau y ddwy eglwys tra yn ein plith, ac yn sicr, erys adgofion am lawer cyfeillach yn hir ar ein meddwl. Heblaw bod yn ffyddlon i'w ddyledswyddau yn y ddwy eglwys uchod, bu hefyd yn hynod o wasanaeth- gar i'r ardal mewn materion cyhoeddus. Yn ami iawn gelwid arno i siarad mewn cyfarfod- ydd dirwestol a gynhelir ar nos Sadyrnau yn yr awyr agored gerllaw gorsaf y Diphwys. Byddai Mr. Jones bob amser, os byddai gartref yn barod i ufuddhau i gais y Bwrdd Dirwestol. Llanwodd ei gylch yn deilwng yn Nghyngh- rair yr Eglwysi Rhyddion. Bu yn nodedig o fiyddlon ac ymroddgar i wahanol faterion cyhoeddus yr ardal. Yr oedd yn nodedig o weith gar yn y gylchdaith. Efe ydoedd arhol- wr y plant yn y Maes Llafur, a gwnaeth ei waith i foddlonrwydd pawb trwy y gylchdaith. Yngwyneb ei ymroddiad i'w ddyledswyddau yn Soar a Thanygrisiau, penderfynodd cyfeillion y ddwy eglwys na chawsai ymadael a ni heb wneyd rhywbeth i ddangos ein gwerthfawrog- iad o'i lafur tra yn ein plith. Penderfynwyd cynal cyfarfod ymadawol iddo yn Soar, y noson uchod. Llywyddwydy cyfarfod gan y Parch. T. I. Hughes, arolygwr y gylchdalth, gan yr hwn hefyd y cafwyd anerchiad hynod o bwrpasol i'r amgylchiad. Cyfeiriodd at lawer o bethau oeddynt yn nodweddion amlwg yn nghymeriad Mr. Jones, pa rai a ddylai gael eu gwerthfawr- ogi a'u hefelychu. Siaradwyd hefyd gan Mri. James Smith; Alun Griffith, Tanygrisiau; a Richard Jones, Salem Cottage, ar ran y ddwy eglwys, ac ar ran y rhanbarth gan y Parch. Thomas Griffith (A.), Salem. Da genym ddyweyd fod yr oil yn dwyn tystiolaeth uchel iddo yn ein plith, ac yn un teilwng i wneuthur ohonom hyn iddo." Adroddwyd gan Miss Nellie Jones, Dyffryn House. Datganwyd yn y cyfarfod gan Miss Blodwen Hughes, Oakeley Square; Mri. Rhys Jones, Bryn- hyfryd; W. W. Roberts, New Market Square, a John Williams, Blaen-y-cae, neu fel yr adnabyddid ef oreu John Williams, Graigddu. Hefyd cafwyd triawd mewn modd swynol iawn gan Miss Blodwen Hughes a'i chyfeillion, Duw bydd drugarog." Prif waith y cyfarfod ydoedd cyflwyno tysteb fechan i Mr. Jones fel arwydd o barch y ddwy eglwys tuag ato ar ei ymadawiad o'n plith. Cyflwynwyd y cyfryw gan yr hen dad Mr. Richard Williams, gan yr hwn y cafwyd anerchiad doniol a hwyliog. Yn ddilynol cafwyd gair gan Mr. Jones er hun. Diolchodd yn gynes am y teimladau da a ddangoswyd tuag ato. Hawdd ydoedd canfod fod eglwysi Soar a Than-y-grisiau wedi cael lie dwfn yn ei feddwl a'i galon. Dygodd hyn waith y cyfar- fod i ben, a therfynwyd trwy weddi. Wedi ffarwelio a'n bugail yr ydym yn dymuno Duw yn rhwydd iddo ef a'i deulu yn ei faes newydd. Tra yr ydym yn gofidio o golli un oedd mor hoff genym, y mae yn dda genym hysbysu cyfeillion Llangollen eu bod hwy ar eu mantais dirfawr wrth ei gael i'w plith. Bydded i lwyddiant ddilyn ein brawd yn ei faes newydd yw dymuniad pawb ohonom.—HAFODFAB.
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Casglodd cynulleidfa Nazareth £ 32, yn Ngwyl Diolch am y Cynhauaf. Cynulleidfa Gorphwysfa £23, a Minffordd £ 15. Hysbysir fod y diweddar Mr. David Griffith, wedi gadael tri chan' punt yr un i eglwysi Bryngwyn a Ramoth. Bu y Parchn. R. Hughes, Porthmadog, a D. W. Davies, M.A., Ficer Llangernyw yn gwas- anaethu gyda y Ficer yma Ddydd Diolchgar- wch. Yr oedd yr eglwys wedi ei gwisgo gyda phob math o flodeu a dail, wedi eu rhoddi gan foneddigesau o'r Penrhyn.
[No title]
'VVVI DYFARNWYD ?42 15s Oc a'r costau, i Mr. Arthur A. Sarson, Deintydd, Colwyn Bay, am wasanaeth a wnaeth ar ddanedd Robert Frazer, perchenog llongau 0 Caer, yn ystod Mawrth ac Ebrill. Bydd y fath fil yn achos o dipyn o feddwl anfoddhaol i Mr. Frazer yn nglyn a'i ddanedd.
'VVVVVVV'\ I_RHOS A'R CYLCH.
'VVVVVVV'\ RHOS A'R CYLCH. Nos Fercher, bu y Prif-fardd Elfyn yma yn darlithio ar Dynion a adwaenais," a chafodd pawb eu cadw mewn hwyl dda ganddo am ddwyawr. Elai yr elw i Mr. John Hughes, yr hwn sydd yn wael ers rhai misoedd. Nos Iau, cafwyd papur neillduol o dda ar Offeiriadaeth Crist yn Ysgoldy y Tabernacl, gan Mr. John Griffiths, North Road. Cynhaliwyd Sale of Work perthynol i eglwys M.C., Hill Street, dyddiau Mercher a Iau, a sylweddolwyd elw o £230 tuag at ddileu y ddyled sydd ar y capel. Nos Iau, tarawyd Hannah Williams, gwraig oedranus a adwaenir yn well fel Hannah gwraig Sei, gan y cerbyd trydan wrth yr Efail rhwng Johnstown a Gwrecsam, alladdwyd hi yn yfan, Claddwyd hi dydd LIun yn mynwent y Wern. Nos Lun, bu Syr Foster Cunliffe yu cynal cyfarfod politicaidd yma, gyda Syr Watkin W. Wynn yn y gadair. Bwriada Syr Foster wrth- wynebu Mr. Hemmerde, A.s., yn yr etholiad nesaf. Rhoddwyd amser blin i'r cadeirydd yn y cyfarfod am ei waith yn rhoddi gwysiau i ym- adael i'w holl denantiaid. Teimlir cryn anhawsder i gael Maer newydd i Wrecsam yn olynydd i Mr. Edward Hughes ceisiwyd pwyso arno ef i sefyll am ail etholiad ond hysbysodd ei fod yn analluog i sefyll. Cynygiwyd eraill o'r Cyngorwyr ond gwrthod- ai pob un sefyll. Aft.AAA I
[No title]
¡ Prif enllyn y mis hwn yw Caws Caer goreu am saith geiniog y pwys gan E. B. Jones &:Co" j Canton House.
Advertising
 Ujs iQjst ^.rtC.a atsnrfess IS f!> TJ fy «► fe Sb JLJS« a èi¡f <!PO' O.1i'. Ct'' é't- j 'f b ",i, 1: 11: t( j; < r t' }'li U' jrJ 9?????? £ 2 rnake? ? 3 good cakes, p ,¡,tftU" ?? better way-of makins cnkes. ? It is a perfectly pure cako ? '3 flour of fine quality, with all Vg 3 the dry ingredients wanted in |g ?' ? a cake. The proportions "re  exact and the mixing is per- 2 fect. ::J It saves timo and trouble, F|t? ;¡ and It makes the nicest and u ? lightest cakes possible, 3? ? It makes any &nd eve''y ? r, cake and not only oas 5# £:J And it is economical in ute-il costs less than ihs ? old-fashioned way. | ? | From all Grocers, Stores, and ? In the British Isles, In 3?. packets, crch ? ? :cti¡t:W'e:;p:C"t u '.1. 2:   T mL1 11.' & C" 11 11 tJ & Co., Ltd,, !??  LATHAM & Co., Ltd., J* gJ SK LIVERPOOL, W "? ??'? _?? ?? ? ?  ? fsr. %%?<SQ??QQ??????
TAITH I'R AIFFT.
TAITH I'R AIFFT. GAN MR. J. R. ARTHUR. I DAU SPANIARD. WEDI dychwelyd yn ol i'r Hong yn Gibraltar, gwelsom amryw o deithwyr newyddion. Yn y Smokeroom canfyddwyd Spaniard a'i ben mor lyfn a'r billiard ball- cyrion uchaf ei fodolaeth heb achosi unrhyw drafferth iddo. Yn y Saloon drachefn canfydd- wyd un arall wrthi yn taclo platiad o ginger- bread a photel o Barm Beer. Gofynodd hwnw i ni pa fath fwyd a roddid ar fwrdd y llong. Tybiais mai ryw "gastronomic" field marshal" o Spaen ydoedd, oblegyd ymddang- hosai yn bryderus iawn yn nghylch ansawdd lluniaeth bwrdd y Tabor. A thra yr oeddym yn rhoi araetb iddo ar y eatables a'r drink- ables, ac fod digon, a C jon dros ben, o'r danteithion brasaf a melusaf yn hulio'r byrddau yn barhaus, yr cedd y Spaniard mewn ysbryd llawen a nwyfus a'r gingerbread yn diflanu o'r golwg fel perchyll drwy sausage machine. Y Spaniard hwnw oedd y cyntaf, i ni sylwi i gael gingerbread o goffrau y Cogydd. Ac fe sylwodd rywun y pjiodolir darganfyddiad gingerbread i Farwn ilon a llawen fel hyn:- Wedi dychwelyd o hono adref o wledd canfu ei Feistres yn pobi toos, a chan ei fod o dymer dipyn yn sydyn, rhoddodd hergwd i'r badell nes y cymysgodd y toes a swm o driagl a synsur oedd ger llaw. Ac wedi i'r gymysgfa gael crasiad-wele, yn ol traddodiad, y dargan- fyddiad cyntaf o gingerbread Ond sut bynnag am hyny, nid oedd dim galw ar y Spaniard i boeni o gwbl pa fath prescription a geid gan y Cook, oblegyd bu fyw ar fara sych-gras a dwr lemon y cwbl o'r daith o Gibraltar i Malta. GLAN I MI. UN diwrnod heulog anturiodd ar fwrdd y Hong yn fuan ar ol gadael Algiers. Lled-orweddai mewn cadair wellt, lapiai ei hun a muffler a thopcot, rugs yn ei tiankio o bob cyfeiriad, a llestri yn cynwys caws, cnau, a chacenau o gwmpas ei draed. Un prydnawn, gwelwyd y waiter yn gosod platiad o porridge stiff, a dipyn o botes biff o'i flaen, ac wrth ei basio gofynodd y captain iddo—" Sut yr ydych chwi heddyw?" "0 dear me," meddai, "dydirdaithymaddimyndygymoda mi, ac nid wyf wedi bwyta y nesaf peth i ddim ar ol hwylio allan o Gibraltar." "Wei," meddai'r Captain yn gellweirus, mi ddeallais i mai am seibiant i'ch cyllau y daethach ar y bwrdd. Fe gewch ddirfawr les o hyn eto. Peidiwch A phoeni meddai. Your worry end your fret and fuss just makes things hard for all of us." Rheswm y Spaniards drcs eu gcrtbrymder oedd fod arogl y peirianau yn upsetio eu peirianau treulial, ond gwell cedd genyf fi ac ereiil gredu niai ryw affinity cedd rhyngddynt a'r terra iirma, CODI YR ANGOR. CODWYD yr anger sm 4 o'r gloch y prydnawn, a hwyliwyd allan o I Gibraltar rhwng rbesi o rhyfel- longau Spaen, Frainc, Italy, a I Germany, pa rai oedd wedi ymgynull yno i agor y conference yn Algeciras-i settlo yr vaghydweledisd rhwng Ffrainc a Germany o Larthynas i ymherodraeth Morocco. 0 hyn allan yr cedd cwrs y Tabor yn cael ei newid. Yr ceddym wedi bod am 7 diwrnod rx For y Werydd yn mordwyo i'r de bellach yr oedd gwyneb ein Llestr i fod am 8 diwrnod arall ar For y Canoldir, yn mordwyo dwyrain, a gwledydd codiad haul. Ein cyfeiriad ncsaf ydoedd Algiers. Saif porthladd Algiers yn ngogledd cyfandir Affrica, oddeutu 400 milldir o Gibraltar, a golygai fordaith o ddiwrnod a haner i'r Tabor. Yn Gibraltar, oddi?,r fwrdd y Tabor, yr oeddym oil fel teithwyr yn cael hyfrydwch a dyddordeb mawr wrth syllu ar, ac edmygu copau y bryniau ar mynyddoedd cribog o'n hamgylch, a gweledigaethau add- urnol eraill sydd i'w gweled yno fel panorama I o degwch creadigo!. Ychwanegwvd at dded- wyddwch a dysgleirdeb ein gobeitbion dywydd hafaidd a hyfryd iawn; a rhwng pobpeth yr oeddym yn meddu rhesymau da dros ddrsgwyl cael mordwy yn gysurus, hwylus, a hapus, ar lasfor y canoldir rhwng Gibraltar t.c Algiers, ac oherwvdd hyny gwelid yr hetiau gwellt, yr esgialau gwynion, siwtiau flannelette, a'r sun- shades, yn gwneyd eu hymddanghosiad; ond yr oedd y boddhad a arddanghosid gan for- deithwyr y Tabor wecii cael 8i dynghedu i fod 0 fyr barhad, fel y cawn sylwi yn y man. Ym- wthiai y Tabor yn brydferth drwy yr aig di- don nes cvrhaeddyd ohonom gyffiniau Malaga, ac Y2 ystod y fordaith fer hono, gwelsom am y tro cyntaf arfodir Spaen dan wanwyn gwyrdd, yn gwisgo inyrdd o swynion. Tl RIO G A Et EIRA. YNio canfy(.Ciz",?,? I'll?Vll' YNO anfydàwy,¡ chwar- eii -?,iiarmor:7 Gata, a mynyddoedd creigiog a chribog y? Sierra Nevada, tiriogaethau y rhew a'r eira tragwyddol, yn y back-ground—"pregeihwyr mawr Cymanfa natur yno yn liyfnwynion, dan eu corcn cesol wen, ac yn ymgrlbn yn urddasol a mav-reddog am 12,000 o droedfeddi r' (neu 4 gwaith YD uwch i.td'f Wy??t? i  ¡ad hd mawr y gcrfolsdd. <)yu? yr owg ar diricgaeth Spaen, ac yr ocdàym. yn awr, vn f&rweHo a ehyfandir E'ltrp 1./ « 5 dychwelyd chcnom yn "humbi.uml.' YSIORGlvi Ú L¡i,.tf AM y ddau ddiwrncu caalyuol, buom yn crwydfo yn flin buu  m?.Q bTur, <¡d bA.t y !o??/, Ei brc?r,  i v a phawb yn sinec^-ydd. hi rhw'h'o *.rn gy3nr o fewn y SiRteror.-?>!3. Lir-irl %'r Smck?onm. ie ysiafeiloedd y peirianau, yr oedd braidd bob teithiwr yn wyneb-dmt, a'r boned?i?esau v'? ddieithriii?lp,'u "gA'e?an'n lied lipa i lawr, r. :vva; yn hir. ac yn fawr." Neb yn crv a reb J bid siwr am Yr cedr. v rnnr v?rtbi '111. brvsnr, pr ton^d y wawr, vn nc; f\ 'fy-wes, i j i f1lnst 7 pvdfi-n V -.• ) r;u. fynegu ystcrm. Erbyn yucrcu- j! c^dd i yn poeri heli i'n gwynebau, a symudiadau di- ddeddf y Hong yn peri dryswch i bawb, ac yn gwneyd havoc yn mhlith dodrefn palasdy y Cogydd; ac yr oedd y tebygolrwydd i'r person hwnw, yn ei gap a'i blouse gwyn fethu coginio i gau genau grwgnachlyd, yn peri iddo ollwng allan frawddegau surion, a bathu geiriau na fuasent yn weddus eu gosod mewn un math o Eiriadur. O'm cwmpas yr oedd llongau eraill i'w gweled yn ymsiglo yn fygythiol, ac ymrwyfo yn mlaen yn debyg i ffarnwyr yn aredig, ac yn wawd i'r tonau. Oddeutu haner dydd yr oedd sigladau di- seremoni y Tabor yn gwneyd i'n cydbwysedd ni, a sefydlogrwydd gwahanol bethau oedd yn ein hamgylchu, i ddod yn faterion pwysig i alw sylw atynt, ac erbyn un o'r gloch, yr oedd ysgytiadau y Llong wedi gwneyd pob troed yn ddigon llonydd syllem o'n cabins ar donau beiddgar,-tonau ysgythrog, yn llamu yn hoenus ar fwrdd ein llestr, nes gwneyd i'r gwan a'r distadl ei amgyffredion, i oeri a chwysu bob yn ail. Yr oedd y gwynt cythryblus yn cafnio'r eigion dwfn o'n hamgylch, ac yn achos i ni ddod i adnabyddiaelh atgas a thonau mawr chwyddedig oedd fel pe wedi penderfynu chwythu y Tabor Ion oddiar ei hechel i eithafion nef o'r bron. Yr oedd nerth- oedd y rhyferthwy, y pryd hyny, yn peri fod ein llestr gyda 5,000 o dunelli o cargo, yn neidio yn frawychol. Un fynyd gwelid hi a'i bow yn annelu am y cymylau, ac yn suddo drachefn yn sydyn fel pe am gorddi twll yn ngwaelod mor y canoldir. Erbyn hyn, yr oedd pob teithiwr wedi diflanu i'r cilfachau diogelaf, a'r llyw a'r Propellers a nerthoedd cryfaf y cread yn ymladd a'u gilydd am oruchafiaeth. YR ARCH-ELLYLL. YN esgill y storm march- ogai ellyll. Yr ellyll mwyaf ciaidd, caled.g a mileinig, elhd ei ddychymygu, ei ddyteisio neu ei ddesgrifio-yr arch-ellyll, salwch y mor." Yn mhresenoldeb yr ellyll creulon hwn mae bywyd, natur, a dynoliaeth yn colli ei swyn. Ni cheir amser i fyfyrio, a ydyw bywyd yn werth ei fyw," pan ddaw hwn i guro wrth ddrws y gllon. A mawr fu caledi, cur, cystudd, pryder, a chyfyngder, a ddygwyd ganddo i blith y gwanllyd ei gyfansoddiad yn mhlith mor-deithwyr y Tabor, yn yr ystorm fawr a ddigwyddodd rhwng Gibraltar ac Algiers. "Steward," ebe teithiwr unwaith, "a welsoch chwi hurricane ffyrnicach.^neu storm debyg i hon yn ystod eich profiad morwrol ?" "Wel do, Syr" "Pa bryd?" "Y tro diweddaf y buom round yr Horn.—Yr oedd y rhyferthwy neu y dymhestl y tro hwnw yn gyfryw fel yr oedd dau o honom a'n holl egni, ar y bridge, yn dal sou' wester ar ben y Captain. Fe chwythwyd bon ei wallt a'i farf, a'r paent oddiar y bulwarks i ffwrdd yn lan. Huricane oedd hono, Syr, yn iaith y morwr. "Squalls" oedd hi boreu heddyw, a gale ydyw hon yn awr." Dyna, ar wahan i ffrwythlondeb dychymyg y Morwr, drindod o dermau mor- wrol i bai rai y dosbarthir ystormydd—Squalls, Gales, a Hurricanes. l'zv barhmr. A A. A
FOOTBALL.I
FOOTBALL. I NORTH WALES COAST FOOTBALL I LEAGUE. Table up to and including last Saturday. I DIVISION 1. Goals. P. W. L. D. F. A. P. Beaumaris 4 4 0. 0 18 5 8 Holyhead 3 2 1 0 11 4 4 Bangor 3 2 1 0 .10 8 4 Carnarvon U. 4 2 2 0 .15 8 4 Llanrwst 4 2 2 0 7 8 4 Rhyl Res. 4 2 2 0 9 7 4 Colwyn Bay 2 1 1 0 3 3 2 Llandudno A. 3 1 2 0 5 9 2 Denbigh 3 1 2 0 4 .10 2 Bl. Festiniog 3. 1 2 0. 5 .18 2 Conway 3 0 3 0. 7 .14 0 Last Saturday's Results I NORTH WALES TUNIOR CUP TIE. I BLAENAU FESTINIOG V LLANDUDNO AM- ATEURS.—The above teams met in the first round of the above cup tie on Saturday last at the Recreation Ground, Blaenau Festiniog. The ground did not afford a secure footing, having been well soaked by the rain of the previous day, but it was better than we have seen it on many occasions. The fine display of the Festiniog team against Holyhead three weeks ago made the bulk of the home support- ers feel confident that their engagement with Llandudno meant a certain win, but the large crowd o( spectators which lined the ropes —the largest "gate" to date-were greatly disappointed, for their display can only be described as very moderate. Un- doubtedly the non-appearance of stalwart Kinner and Hutt went a long way to account for this reverse. Yet, when it is borne in mind that Llandudno had only a scratch team on the field-their notable captain, Johnny Williams, along with three others being absent, a better display could be expected of them. The same pluck and determination as was manifested in the Holyhead game was entirely lost in last Saturday's game, and from start to finish every attempt at feeding seemed to benefit the opponents more than the homesters. No blame, however, could be attacked to the defence of the Blaenau backs,-Mc Naughton and James Lloyd,—but for the others little can be said. The left wing showed a great lack of understanding, and this was emphasised on several occasions, yet it cannot be reasonable expected for them to shine much wing to the game being their first meet this season. Eager as Jack Jones, the home captain, was to shine, the visitors left half was by far on Saturday his superior. Combination is lacking sorely in the home team, and more faith in the backs and custodian is required of the half-backs and forward line. Without distinguishing any individual player of the Llandudno team, their combination was unique: and the exhibition they gave was of a high standard. W. Stone, the Visitors outside left, met with a slight injury by coming into contact with the home left back, and had to leave the field, but during the second half re- appeared. The final score read-Llandudno 3 goals; Festiniog 1. Mr. W. Llewelyn Jones, Llanrwst, acted as referee, and there is nothing but praise due to him for the fair and impartial was he carried out his duty, Fortunately, the above game was not a league match, and we yet entertain sirong hopes of finding Festiniog ere long in a far better position than they are at present situated. Next Saturday they will entertain Conway in a league match on the Recreation Ground, as much depends on their position through this engagement. Buck up, Blaenau boys, is the earnest wish of- FFESTINGO. Next Saturday, the Festiniog Town will be visited by Conway, under the auspices of the North Wales Coast League. Kick-off 2-30 p.m. Admission 4d. Team :-S. Johnson, D. Macnaughton, J. Lloyd, Bradley, J. Kiniar, Wm. Jones, Roberts, W. Williams, W. R. Hutt, W. Meirion Jones, J. Jones (Colonel). -Reserves.Ellis Hughes, M. E. Morris, W. R. Owen.
CHWARELWYR CYSGLYD FESTINIOG.
CHWARELWYR CYSGLYD FESTINIOG. At Olygydd Y RHEDEGYDD. Mr. Gol.-Anturiodd un a eilw ei hun yn Gydweithiwr i anfon gair at Weithwyr Chwareli Oakeley trwy golofnau eich newyddiadur, gyda'r amcan doeth o geisio cael gan y gweithwyr hyny ymofyn a'u meistri onid ellid cael gweithio amser llawn, yn lIe pedwar diwrnod fel y gwneir yn bresenol. Y munyd y gwelais y llythyr dywedais wrthyf fy hun, Wel, dyma ffwl! A ydyw wedi byW gyda gweithwyr yr Oakeley gyhyd o flyn- yddoedd heb eu hadnabod ? Onid yw yo gwybod fod yn well ganddynt gario cynffonaa yn hytrach na gweithredu yn ddynol a gwyneb agored at eu gilydd ac at eu meistri? Oni wyddai y buasent yn edrych ar gario allan yr hyn a argymellai yn gyf-ystyr a gwaseidd-dra ? Dyna y pethau redai trwy fY meddw] ar y pryd, erbyn hyn yr wyf wedi cael sicrwydd fy mod yn iawn, canys fel y medd- yliais y troes pethau allan. Y mae Cyd: weithiwr yn cael edrych arno fel anogwr « waseidd-dra,' ac nid pobl yw chwarelwyr Oakeley a el byth yn wasaidd, hyny yw, yn 01 eu syniad hwy am waseidd-dra ond y maent yn ddigon gwrol (gwasaidd, yn ol syniad pawb. ond hwy eu hunain) i wynebu eu gwragedd a'tl plant gyda chyflogau darn o wythnos, air gwragedd yn cael eu gorfodi i fod mor wrol (gwasaidd) a gofyn i'r masnachwr roddi ymborth iddynt ar goel am nad yw eu gwyr yn "gweitbio mwy na 4 diwrnod," a myned i Lys arall i ofyn ystyriaeth drugarog am yr un rheswm gresynus. Ond canmil gwell yw hyny yn eu golwg hwy, na gwneyd cais at y Meistri i'w cyfarfod i drafod y sefyllfa bresenol. Collodd y bobl hyn eu Harweinwyr, a diau i'r rhai hyny deimlo i faich mawr fyned oddiar éU hysgwyddau trwy gael ymwared oddiwrthynt. Yn awr y maent heb neb i fod yn 11 enat, iddynt" i ymddangos o flaen eu mheistri, a gwell ganddynt adael eu gwragedd i wynebU yr ystormydd a nodais, neu ymadael a'u hardal yn hytrach na bod yn wyr" a gwynebu eU mheistri mewn cyd-ymgynghoriad. Y gwir di- gwmpas yw, pe buasai y bobl hyn yn Undebwyr nid yn y ffos y maent y gwelsid hwy ondna, wivj son am Undeb wrthynt, canys buasai ratu talu ychydig at fod yn aelodau, ac nid oes talu at bethau o'r fath yn eu crwyn. Pa iddynt hwy a'u teuluoedd yw, fod arian y Fund, ac arian y Meddyg, yn cael eu dal yn y Swyddfa, neu buasai llawer 0 honynt heb Y naill a'r llall mewn achosion o galedi. e cadwesid arian yr Undeb yr un fath, gwelsid golwg dra gwahanol ar amgylchiadatf Chwarelwyr Festiniog. Gresyn gweled dos- barth mor oleuedig (honiadol felly,) yn troi yn nghaddug eu hunan-dybiau am yr hyn sydd weddus a phriodol rhwng meistr a gweithiwr. Gwn pe cant afael ar "Cydweithiwr" y byddai ei le yn boeth am iddo feiddio rhoddi cyngof iddynt fel un sydd yn cyd-ddyoddef a hwy yn y wasgfa bresenol. Yr wyf yn dod yn fw argyhoeddedig y naill ddydd ar ol y llall, mai gadael i'r chwarelwr haner newynu yn y goreu yn hytrach na dadleu dim ar ei ran gyda ef el hun, na chyda'i feistri. Iddo ef y mae cyngof yn ddirmyg, a chyfarwyddyd yn sarhau- Solomon yw efe, a mantell y Pab anffaeledig am dano, a phaham y dylid goddef i Gyd' weithiwr" distadl, er yn egwyddorol a gonest, i feiddio agor ei enau ar bwngc ddeallif x raddau mil-mil chwyddwydrol well nag of. Druain o'r chwarelwyr yn Ffestiniog! UNDEBWK.