Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
LlacSrata Ci yn Nhrawsfynydd.
LlacSrata Ci yn Nhrawsfynydd. Dydd Sadwrn, yn Heddlys Arbenig Blaenau Ffestiniog, o fiaen Mri. W. P. Evans, a J. Vaughan Williams, daeth Robert Davies (Robin Alic), brodor o Blaenau Ffestiniog, i fyny yn ngofal yr heddlu ar y cyhuddiad so ladrata Ci Defaid Mr. Robert Jones, Ty Ucha, Llanelltyd, ar Medi 19, 1908. Gwysiwyd y carcharor i Lys Tachwedd, ond nid ymddang- osodd, a rhoddwyd gwarant allan i'w ddal. Llwyddodd i osgoi yr Heddlu hyd ddydd Iau. Tystiwyd i'r Ci gael ei roddi i Mr. Hugh Owen, Grelgle, Trawsfynydd, i'w ddysgu gyda defaid. Collodd Owen y Ci Medi 18, ac ni welodd ef hyd yn nechreu Hydref. Yr oedd y pryd hwnw gan Mr. Richard Evans, Tyllwyd Farm, Trawsfynydd, a gwrthododd Mr. Evans ei roddi i fyny am ei fod wedi ei brynu gan y carcharor.—Tystiwyd yn mhellach, i'r carcharor werthu y ci i amaethwr yn yr ardal, ar ol i hwnw gael ei foddloni ei fod yn eiddo gonest iddo, am 7/6. Daeth at yr amaethwr hwnw i grefu an ei gael yn ol, a thalodd 9/6 am dano. Yna gwerthodd ef i Mr. Evans, lie y cafodd Mr. Hugh Owen olwg arno, ac i hyny arwain y carcharor i'r ddalfa. Eglurwyd i'r Faingc, fod y Carcharor yn gwasanaethu gydag amaethwyr yn Tyddyn Bach, yr hwn oedd gerllaw Gwersyllfa y Milwyr, ac yn arferol a myned yno gryn lawer yn ei oriau hamddenol. Ymddengys i'r Ci dan sylw,ddod i'r Gwersyll ar i'r carcharor gael gafael arno. —Tystiwyd fod y ci yp werth tair punt.— Mewn amddiffyniad, dywedodd y carcharor iddo gael y Ci yn y Camp gan un o'r milwyr yn anrheg. Nis gallai y Faingc gredu y stori lion, a dywedodd y Cadeirydd eu bod yn ystyried y trosedd yn un difrifol ond rhoddent un cyfle i'r carcharor trwy ei ddirwyo yn lie ei anfon i garchar.—Dirwy £ 2, a £ 2 10s 0c o gostau. neu ddau fis o garchar gyda lIafur I caled.
LLANFROTHEN.
LLANFROTHEN. Nos Sadwrn diweddaf, cynhaliwyd yr ail o gyfarfodydd Llenyddol Siloam. Llywyddwyd gan y doniol Mr. William Hughes, Prenteg, yr hwn a draddododd anerchiad amserol iawn, enillwyd y gwobrwyon fel y canlyn:—Arholiad Safon 4, leuan Williams, Bryntirion Safon 5, Maudie Williams, eto; Safon 6, Willie Wil- liams, eto; Dosbarth dan 21 oed, Mr. Robert Owen, Plas. Adrodd i blant dan 10 oed, "Nid oes neb rhy fach i'th garu," Jennie Roberts, Bronmeirion. Am y ddadl oreu, Hannah E. Davies, ac Alice Williams, Plas. Am yr Araeth oreu, Gwell dysg na Golud," Mr. O. M. Roberts, Liwyn Onn. Darlun goreu o'r Brenin Edward 7, Hugh D. Evacs, Tynycoed, Table Centre, Miss Jones, Tyddyn Gwyn, a Miss Roberts, Garreg Fawr, yn gydradd. Am y llythyr yn "Desgrifio Noson yn y Diwygiad," Griffith Jones, Brongarnedd. Cyfieuthu, Miss Ellen Williams, Bryntirion, a Mr. Elias Jones, Rhyd, yn gydradd. Amy Testynau goreu at y Cyfarfod nesaf, Mr. Elias Jones. Canu i rai dan 10 oed, "Nid oes neb rhy fach i'th garu," Madge Jones. Llan. Canu Ton ar yr olwg gyntaf, Griffith Roberts. Traian. Unawd Soprano neu Denor, Laura Williams, Tanlan. Unawd Bass, G. Roberts, Traian. Parti a gano yn oreu, Coronwch Ef yn Ben," parti Mr. Ephraim Williams, Danwdeg, a Mr. Owen M. Roberts, Llwyn Onn, yn gydradd. Y Beirniad Cerddorol oedd Mr. J. H. Griffiths, Brynteg. Arholiadau Parch. W. R. Jones. Gwniadwaith Mrs. Jones, Council School, a Mrs. Jones, Garreg Uwcbaf. Drawing Mr. S. J. Owen, Plas, a'r gweddill gan Mr. Jones, Council School, a Mr. Cadwaladr Williams, Plas. Pasiwyd pleidlais gyffredinol o ddiolchgarwch i'r Llywydd a'r Beirniaid am eu caredigrwydd. Ar y cyfan cafwyd cyfarfod llewyrchus a chynulliad da.—GAREG ATEB.
.Toronto, Canada.I
Toronto, Canada. AIL EISTEDDFOD CYMRU.-Cynhaliwyd yr uchod yn y Temperance Hall, Bathurst Street, o dan nawdd Ysgol Sabbothol y Cymru, Rhag. 19eg. Yr oedd y paratoi wedi bod yn eithriadol o dda. Cafwyd cystadleuaeth frwd ar bob canghen, ond yn enwedig yn y rhan gerddorol. Llywyddwyd yn hynod o ddeheuig gan Mr. J. O. Morgans, Gomy St. Awd trwy y rhaglen fel y canlyn Ymdaith Gwyr Harlech," gan y Toronto Welsh Glee Parti. Anerchiadau gan y Beirdd. Cystadleuaeth Unawd Baritone, goreu, Mr Tom Davies. Tri phenill coffadwr- iaetbol ar ol y ddiweddar Mrs J. O. Morgans, goreu, Mr W. C. Roberts. Deuawd Tenor a Bass, y goreu o bump parti ydoedd Mri Ellis Evans a J. R. Edwards. Llythyr caru, goreu Miss Jones, Moresson Street. Unawd Tenor neu Soprano, Mrs Williams, Crawford St. a Mr Tom "Davies yn gyfartal. Unawd Contralto, goreu, Miss May. Traethawd "Cartref," goreu o bump ydoedd Mr O. Williams, Togan Ave.. Talybont.iG.C, Pedwarawd, "Emyn Hwyrol," i ymgeisiodd pedwar parti, a'r goreu ydoedd Bolton Ave. Parti, sef Mrs Tomkins, Miss Hachet, Mri Ellis a Peglar. Casgliad o enwau Cymru Toronto, neb yn deilwng, Prif Gys- tadleuaeth y cyfarfod ydoedd un y partlon, ar ddatganu "Sailors Chorus," Nid ydoedd pet- rusder yn meddwl y beirniad nad y Toronto Glee Parti (Parti Cymraeg ag sydd yn canu llawer yn y Ddiras hon) oedd y goreu. Ar- weinydd, Mr David Powell, brodor o Rbos- llanerchrugag, a chafodd dlws aur ysplenydd, rhoddedig gan Mr John Williams, Togan Ave. Derbyniwyd y feirniadaeth gyda chymeradwy- aeth fyddarol. Clorianwyd y Gerddoriaath gan Mr Merinar, Organydd Eglwys First Ave.. a gwasanaethwyd fel beirniaid ar y canghenau eraill gan Mr. Williams, Crawford Street, a Mr Caradog Rhydwen. Diweddwyd trwy gann Hen Wlad fy Nhadau," a God Save the King." IAAAAAAAAAAAA
Llyfrau Newydd.
Llyfrau Newydd. Dyma restr y Llyfrau Cymraeg (Class G.) a I chwanegwyd at gasgliad rhagorol ein Llyfrgell Gyhoeddus yn ystod y flwyddyn Diwygiadau Crefyddol Cymru (Henry Hughes) Barddoniaeth Cynddelw. Cynfeirdd Lleyn, 1500-1800 (Myrddin Fardd). Y Ffenestri Aur (Anthropos). Darlithiau Hiraethog. Gwaith leuan Brydydd Hir. Llyfr Adar (R. Morgan). Tro trwy y Gogledd (0. M. Edwards. Clych Adgof (0. M. Edwards.) Pregethau Cynddylan Jones. Gweithiau Cawrdaf. Robin Ddu Eryri. Capelulo (Elfyn). Cerrig-y-Rhyd (Winnie Parry). Tlysau Ynys Prydain (H. B. Hughes). Athrawiaeth Anfarwoldeb (D. M. Phillips). Cofiant Roger Edwards (T. M. Jones). Trem ar y Ganrif (J. M. Jones). Caniadau Prof. J. Morris Jones. Gwedi Brad a Gofid (T. G. Jones). Plant y Gorthrwm (Gwyneth Vaughan). Robinsoe Crusoe. Gwelir bod yn eu plith lawer llyfr y bydd yn werth i'n pobl ieuainc dreulio birnos gauaf i'w darllen a'u hastudio. Bwriadwn roddi rhestr o'r llyfrau newyddion a chwanegwyd at y dosbarthiadau eraill, a gobeithiwn y bydd galw sylw atynt fel hyn yn foddion i godi awch yn ein darllenwyr am eu gweled a'u darllen.
GARN DOLBENMAEN. II
GARN DOLBENMAEN. DRAMA.—Nos y Nadolig bu i Gwmni Dram- anyddol y lie ucbod roddi chwareuad o'r Ddrama boblogaidd Y Bardd a'r Cerddor," yn Ysgol y Cvnghor. Gallwn longyfarch y Cwmni ar eu chwareuad rhagorol, a danghos- ent ol llafur mawr, ac yr oedd naturioldeb rhai o'r aelodau yn ein gwneud i feddwl ein bod yn edrych ar ffaith. Sicr genym y caiff rhai o'r ardaloedd cylchynel rywbeth gwerth i edrych a gwrando arno, os bydd iddynt fyned oddicartref. Y COR.Da genym longyfarch y Cor ar eu hymgyrch Iwyddianus i Golwyn Bay. Cawsant Goron hardd, a gwobr haeddianol. Er nad oedd yno gystadleuaeth, nid gwaith rhwydd ydoedd i Gor gwledig ganu dernyn fel Cydgan yr Angelion," a derbyn canmoliaeth cerddor gwych fel Mr. D. Evans. MARWOI.AETH.-Ganol dydd Iau, yn ddis- ymwyth iawn, bu farw yr ben gymeriad dydd- orol a'r amaethwr parchus, Mr. Griffith Morris, Tyddyn Mawr, wedi gadael ei 80 mlwydd. Claddwyd ef dydd Llun yn Nolbenmaen angladd anghyoedd. Chwith genym feddwl na chawn weled ei wyneb siriol mwy. Gorph- wysed yu dawel bellach. A A A.A A A AA A AAAAA, A A A A AiAfAA A AA AV
I - -a -y c- -------o -r a-…
-a -y c- -o -r a- d- I Lafayette, Colorado. Gan fod gymaint o blant Ffestiniog yn yr ardal hon, efallai nad anyddorol gan ddarllen- wyr y RHEDEGYDD fuasai cael gair o'n hanes yn awr ac yn y man. Byddwn yn ymfrjyfrydu mewn cael myned at ein gilydd i ganu ac ad- rodd, yr hyn sydd yn nodweddiadol iawn o honom fel cenedl, a chan fod llawer o symud yn ol ac ymlaen yn ein plith, mae wedi myn'd yn hen arfer genym i gynal cyfarfodydd ymad- awol i'r cyfeillion fydd yn ein gadael. Yr wythnos hon yr oedd genym gyfarfod felly i'r cyfaill Mr. Richard Owen Parry, Tanygrisiau, yr hwn oedd wadi peaderfynu talu ymweliad a'i gartref, a'r hwn erbyn hyn sydd yn eich plith. Llywydd y cyfarfod oedd Mr John R. Williams, Bronymaes, ac nid oes angen dyweyd nad oes ei gymwysach yn ein- plith, Awd trwy y rhaglen a ganlyn Ton Gvffredinol. Anerchiad gan y Llywydd, yr hon '■'vdd yn Hawn o gynghorion i'r cyfaill oedd yn ein gadael. Cap gan Daniel Hughes, "Dacw Gymru yn y golwg." Gaior gan John Hughes- Roberts. Can gan David Evans "SwaneeRiver," Gair gan Humphrey Parry. Adroddiad gan Harry Edwards. Yna cafwyd Refreshments yn cynwys pob math o ffrwythau, ar ol i bawb lonyddu awd ymlaen gyda'r cyiarfod, sef anerchiadau gan y Beirdd, anerchwyd gan y rhai canlynol, Mri. John Howell Jones, Hugh Roberts, Humphrey Hughes, ac Edward John Hughes. Yna rboddwyd gyfleusdra i'r cyfeillion ddweyd gair, a siara.dodd Mri. John Corris Jones, Griffith Jones, Daniel Hughes, John Price Jones, David Evans, ac Humphrey Hughes. Can gan Humphrey Hughes, Peidiwch gofyn i mi ganu." Gair gan Edward J. Hughes. Can gan David Hughes Roberts. Gair gan John C. Williams. Can gan John Ffestin Jones. Can gan Tom Wiiliams, Gair gan Tom Roberts, ac yna cafwyd can gan y llywydd, efallai nad oedd llawer o ddarllenwvr y RHEDEGYDD yn I gwybod fod yr Hen gefnder yn gallu canu, ond y mae bob amser yn tynu y ty i lawr hefo'i ganu yma, yna, cafwyd gair o ddiolch- garwch gan Richard Parry, ac i ddiweddu can- wyd Hen Wlad fy Nhadan." I HARRY EDWARDS. I
BWRDD GWARCHEfDWAED LLANRWST.
BWRDD GWARCHEfDWAED LLAN- RWST. Cyfarfu y Bwrdd ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. John Roberts (Cadeirydd), John Lloyd Morris, John Hughes, John Berry, Edward Mills, W. Griffith Jones, W. Williams, J. Llewellyn Richards, Henry Jones, R. T. Ellis, T. T. Roberts, David Owen, John Davies (Bryniog), 0, Lloyd Jones, R. R. Owen (Clerc), Thomas Hughes (Clerc Cynorthwyol), Edward Hughes (Meistr), T. C. Roberts ac O. Evans Jones (Swyddogion Elusenol). Yr Elusenau a'r Tlodion. Adroddodd y Clerk fod 33 o dlodion yn y Ty ar gyfer 39 yr un amser y ilynedd llai o 6. TIodion yn derbyn allan-gynorthwy, 280 ar gyfer 295 llai o 15, Talwyd o Elusenau yn ystod y mis £ 175 4s Ie, ar gyfer Z183 13s 5c: llai o £ 8 9s 3c. Y Clerc a sylwodd fod nifer y Tlodion a swm yr Elusenau yn gostwng y naill fis ar ol y Hall, ac os eid yn mlacn air yr un ilinellau byddid heb dlodion yn y eyfodol.-Y Cadeirydd, Wel, newydd da iawn fyddai hyny. Y Merched alr Meibion.. Galwodd y Clerc sylw at achos Wynne, gynt o Lanrwst, ond oedd yn awr gyda'i ferched yn Colwyn Bay. Yr oedd wedi enill ei blwyfoliaeth yn- Colwyn, ond dymunai y merched am wneyd eu goreu i'r hen wr yn hytrach na gofyn elusen gan ei fod yn 68 mlwydd oed, ond nid oedd y meibion yn barod i wneyd dim. Yr oedd yr oil o'r plant yn abl i helpu, a phe gwnelent hyny am ddwy flynedd, deuai eu tad i mewn am flwydd-dal.- Y Cadeirydd a ddywedodd fod y meibion yn sefyll yn eu goleu eu hunain, ond mater iddynt hwy oedd hyny. Gan mai perthyn i Undeb Conwy yr oedd yr achos, nid oedd ganddynt ond gadael i'r Bwrdd hwnw ddelio ag ef. Par o Esgidiau. Pasiwyd i anfon par o esgidiau cartref i'r bacbgen o'r Ty sydd yn gwasanaethu yn ymyl y Bala. gan y cwynai ei Feistr fod arno angen am rai. Geneth Ddail. Mrs Lloyd Roberts, Llys ldwal Cottage, Llanrwst, a anfonodd air i hysbysu fod Lizzie, ei mherch, wedi dod adref o Ysbytty Hendhaw, He y cafodd bob chwareu teg a charedigrwrdd. Yr oedd wedi cael triniaeth dda i'w Hygaid, a tbeimlai yn hynod ddiolchgar i'r Bwrdd am yr hyn a wnaethant yn yr achos.—Datganodd y Bwrdd eu boddhad o glywed y newydd da am ferch hon, ac am deimladau da y fam o dan yr amgylchiadau. Cydymdeimlad. Ar gynygiad y Cadeirydd, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr John Williams, un o'r aelodau, ar farwolaeth ei chwaer, gan yr hon yr oedd deg o blant. Y diweddar W. Jones. Mr O. Evans-Jones a ddarllenodd adroddiad manwl am y derbyniadau a'r treulion gyda'r diweddar William Jones, gynt o'r Farm Yard, Llanrwst, yr hwn a fu farw yn y Gwallgofdy. Yr oedd £ 4 2s He yn aros yn ddyledus i'r Bwrdd, ac yr oedd yr Ysgutorion o dan yr ewyllys yn barod-i dalu yr arian. Adroddiad y Meistr. Dywedodd y Meistr fod y tlodion oedd yn y Ty yn ddiolchgar iawn am y wledd Nadolig a gawsant gan y Bwrdd. Hefyd yn ddiolchgar i Mrs. Owen, Brynyftyr, am y wledd a gawsant ddydd Calan pryd y difyrwyd hwy hefyd gan Mr. Fredericb Tavlor, Bank Buildings gyda'r Gramaphone.—Diolchwyd yn gynes i Mrs. Owen, Mr. Taylor, a chyfeillion eraill oeddynt wedi anfon eu rhoddion i'r Tlodion, sef, Mri. A. Parry, a W. Morris, Eillydd, Station Road. Y Meistr a adroddodd am ddau achos dif- rifol ddaeth i'r Ty o Heol Scotland, Llanrwst. Un ydoedd gwraig Casey, gyda tri plentyn. Yr oeddynt wedi eu troi allan, yn ol adroddiad y wraig, gan y gwr. Gweithiai y gwr yn awr o dan y Cyngor Dinesig gyda thori cerig. Yr oedd y wraig yn orweddiog, ac anmhosibl ei symud.—Y Clerc a ddywedodd ei bod yn hollol anghyfreithlon i gadw y wraig yn y Ty a'r gwr allan. Nid lie i beth felly oedd y Ty.—Y Swyddog Elusenol a ddywedodd ei fod yn gwybod am yr achos hwn yn dda. Lletya yr oeddynt mewn vstafelloedd, ac anaml iawn y byddai y gwr yn gweithio i gadw ei hun a'i deulu.—Pasiwyd i anfon bil i Casey, a bod ei wraig i fyned allan o'r Ty mor fuan ag y byddo wedi gwella ddigon i hyny. Adroddodd y Meistr am achos arall, Daeth tri phlentyn i'r Ty y dydd blaenorol, gan fod eu tad wedi ei anfon i garchar am feddwi. Yr oedd mam y plant wedi myned i ffwrdd a'a gadael hwy a'u tad er mis Mai.—Y Swyddog a ddywedodd i'r bachgen hynaf o'r tri, yr hwn oedd yn ddeuddeg ned, ei hysbysu na bu yn yr Ysgol o gwbl er's pan aeth ei fam i ffwrdd. Yr oedd ef yn methu deall sut yr oedd hyny wedi cael ei ganiatau.—Mr John Berry, a sylwodd y gallai fod a wnelo y ffaith mai i Ysgol y Pab- yddion yr arferai y plant fyned rywbeth a'i hyn a grybwyllid.-Mr. John Davies, Nid yw o bwys i ba ysgol y mae yn myned. Nid oes reswm o gwbl drcs ei fod yn cael ei oddef i es- geuluso yr ysgol. Ystyriwoh y golled ydyw i'r bachgen ac i'r trethdalwyr."—Pasiwyd i alw sylw Awdurdodau Addysg y Dosbarth at y mater.
Family Notices
IVSarwoiacthau. LLOYD.-Boreu ddydd Calan, yn bum' mis oed, Robert Owen, anwyl blentyn Mr. a Mrs. Hugh Lloyd (Dyfrdwy), 4, Maenofferen, Blaenau Ffestiniog. Hebryngwyd ei wedd- Blion ddydd Litin i fynwect Bethesda, pryd y gwasanaethwy d gan y Parch. John Hughes, Jerusaler^. Mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'r rhieni yn en profedigaeth o goUi eu un bach anwyl. THOMAS —-lonawr 3, bu farw Kate Ann, plentyn ieuengaf Mr, a Mrs. John Thomas, 5, Walter Terrace, Blaenau Ffestiniog, yn 15 mis oed.
CYNGOR DiiMESSG FFESTIWiOG.…
CYNGOR DiiMESSG FFESTIWiOG. I Cyfarfu y Cyngorwyr canlynol yn nghyfarfod misol rheolaidd y Cyngor,—Mri.j John Cadwaladr (Cadeirydd); -Evan Jones, (Is- gadeirydd) J. Lloyd Jones (Hynaf); Cadwaladr Roberts; David Williams; Hugh Jones; W. J. Rowlands; J, Lloyd Jones (leu.) E. Lloyd Powell; Hugh Jones (Llan); Ben T. Jones; T. J. Roberts William Edwards; E, T. Pritchard; T. R. Davies; R. O. Davies (Clerc) E. Lewis Evans (Rheolwr Gwaith) W. W. Jones (Cyfrifydd) George Davies (Arolygydd) a Dr. Richard Jones (Swydddog Meddygol). Dymuniadsu Da. Y Cadeirydd a ddymunodd Flwyddyn Newydd Dda" i'r holl aelodau, a chynrych- lolwyr y Wasg. Y Clerc ar ei ran ei hun a'i Syd-swyddogion a ymunodd yn y dymuniadau a hyn, ac hyderid am flwyddyn fwy llwydd- iacus ar fasnach yr ardal nag a gafwyd y flwyddyn oedd newydd eu gadael. Mr. Llew Davies, Cambrian News, a ddiolchodd ar ran y Gohebwyr am y teimladau da amlygwyd at y wasg, ac unid i ddymuno yn dda i'r holl Gyngor a'i swyddogion. Y Llyfrgell. Yn nglyn a'r Llyfrau Newydd a archwyd, adroddodd y Llyfrgellydd (Mr J. Lloyd Jones) nad oedd y copi gafwyd o'r "Welsh Political Review yn gyflawn, a phasiwyd i'w ddych- welyd er mwyn cael un arall yn ei le.-Gan fod amryw lyfrau archwyd gan Mri Hey wood heb ddod i law am nad oeddynt yn eu mheddiant, pasiwyd i bwyso arnynt am en cael yn ddiym- droi, oblegid eu bod i'w cael ond eu ceisio pawn swyddfeydd eraill.—Derbyniwyd cynyg- lad Plaid Annibynol Llafur i gyflenwi y Llyfr- gell a Phapur y Blaid.-O berthynas i'r Llyfrau yr adroddai y Swyddog Meddygol eubod mewn cYfiwr afiechydol, pasiwyd i'w cadw o gylch- rediad, a bod nifer o'r Pwyllgor i'w harchwilio gyda'r Llyfrgellydd cyn eu dinystrio, a bod rhestr o'r rhai a ddinystir i'w chadw er mwyn Pwrcasu rhai yn eu lle.-Eglurodd y Clerc i'r Pwyllgor fu'n dethol llyfrau beth oedd y sef- yllfa arianol, a phasiwyd i'r cyfryw orphen eu gwaith o ddewis rhagor o lyfrau i fyny i'r swm sydd wrth law i'r amcan o'u prynu.—Ar gyn- Ygiad Mr. E. Lloyd Powell (Cadeirydd y Pwyllgor) a chefnogiad Mr. W. Edwards mab- Wysiadwyd yr adroddiad. Cyhoeddi Blwyddiadur. Yr oedd Is-bwyllgor y Rheolau sefydlog wedi ei. stedd amryw weithiau, ac argymellent rai cyfnewidiadau pwysig yn y cyfryw y rhai a ddodwyd ger bron y Cyngor i'w cymeradwyo. Yn nglyn a'r Rheolau Sefydlog, cyflwynwyd Copiau o Flwyddiaduron gyhoeddir gan Gyngorau eraill, y rhai a gynwysant y Rheolau Uchod a lluaws o fanylion eraill. Yr oeddid wedi gofyn am brisiau gan yr Argraffwyr am Oll cyhoeddi, ond nid oeddid wedi eu derbyn yd yn hyn.—Y Clerc a ddywedodd fod yr amser yn rhedeg yn mhell os arhosid hyd y gyngor nesaf, a byddai yn well i'r Cyngor "enderfynu pa un a roddid hawl i'r Is-bwyllgor "I,Oilhredu yn derfynol neu beidio.—Pasiwyd 1 r Blwyddiadur gad ei gyhoeddi os ystyriai yr Is-bwyllgor y pris yn rhesymol am wneyd y gwaith. Y Cynllun Carthffosawl. I Cyflwynwyd adroddiad yr Is-bwyllgor fu yn edrych y gwahanol fanau fuont dan sylw yn flaenorol fel lleoedd priodol at drin carthion 4dran 4, sydd yn cynwys ardaloedd poblog y Rhiw a Tanygrisiau. Argymellid i'r Rheolwr Gwaith gymeryd mesuriad o'r lie wrth Bont Maesneuadd; beth fyddai y gost o gario y Pibelli i Dolwen ac a ellid gwneyd trefniad i grin y carthion perthynol i'r tai ar y manau *«af ar wahan i'r cynllun at y gweddill o'r dosbarth.—Mabwvsiadwyd yr adroddiad. be Bu Cyngor arbenig yn eistedd i ystyried tha wnaed gyda golwg ar gwblhau Adran 3, o'r cynllun. Yr oedd Mr. Alltwen Williams wedi gwneyd y planiau &c, yn nglyn a'r gwaith Carthffosawl yn Cwmbowydd, ac jtoicangyfrifai y gost o'i gwblhau yn £ 1215. meradwywyd y planiau, a phasiwyd i'w hanfon i fyny i Fwrdd y Llywodraeth Leol i'w lerbyn gyda'r amcan o gael benthyciad at orphen y gwaith. Eisteddodd y pwyllgor cyn i'r Cyngor YlDgynull, a bu adroddiad y Rheolwr Gwaith ar y Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd o eu hystyriaeth. Yr oedd y gwaith bron edi ei gwMbau, ond fod y cario ar 01. Rhodd- yd awdurdod i Mr. Evans i gymeryd rhywun  yn oreu os ? byddai y cariwr cyfnfol In Y gwaith hwnw yn gallu ei wneyd. Man-ddeddfau. I Cyflwynwyd adroddiad y Pwyllgor fu'n ys- tyried y gwahanol Fan-ddeddfau fwriedid eu a.el.yn y Dosbarth, Hysbysodd y Clerc fod atebiad wedi ei dderbyn yn nghylch amryw o a dysgwyliai at y Cyngor nesaf y bydd- a Wedi gor pher- gyda'r oil o'r deddfau hyn. Goleuo Springfield Terrace. Y Rheolwr Gwaith a adroddodd i'r Pwyllgor ?d oedd y lamp yn goleuo ond i Yard Capel -'?usalem, yr hwn oedd yn !!e private, ac ar- ??eHai ei symud fel ag i oleuo i Springfield ?rrace ac OSsren Cottages, a chymeradwyai y pwyllgor yr awgrymiad.—Mr. David Wil- la.m.s a wrthwynebodd. Yr oedd y Cyngor wedi gwneyd cam dybryd a Chapel Jerusalem pa.n yn ad-drefnu y lampau. Darparwyd goleu at bob capel arall ond cymerwyd eiddo hwn i QWrdd. Yr oedd y lamp hon yn gwasanaethu i alenQ y fynedfa at ystafell y gwneid nrvy o defnYdd cyhoeddus o honi na'r uu arall yn yr hall ardal. Yno y cynhelid y cyfarfodydd dlrwestol bob nos Sadwrn, Fc amryw gyfarfod- y^d cyhoeddus eraiil, Pe symudid y lamp feI Yr awgrvmld, ni byddai yn ateb ond yn rhanol tr yn olygid iddi wneyd. Byddai hefyd yn ^Urion i'r Rheolwr Gwaith edrych i mewn a Oedd y ffordd ar yr boa y golygai ddodi y lamp un gyhoeddus ac a oedd wedi ei chymeryd tosodd gan y Cyngor, Cynygiai i'r mater gael ei droi yn ol i'r pwyllgor am ystyriaeth I pellach, a phasiwyd hyny. Gorsaf Dan. I Yr oedd y Pwyligor blaenorol wediawgrymu tri He i godi Gorsaf arnynt i gadw y Peiriant a'r offerynau ciffodd tan. Yn y pwyllgor diweddaf, ystyrid ystablau y Commercial Hotel yn anghyfaddas i'r pwrpas am yr un rheswm y gosodwyd y lie y talodd y Cyngor am dano yn ei ymyl, sef y perygi oedd yno oherwydd agos- rwydd y graig fregns oedd yno. Cafodd y pwyllgor adroddiad Mr. Evans ar y tir wrth gefn y Swyddfeydd cyhoeddus, a gofynwyd iddo ddarparu cynllun i ddefnyddio rhan o'r Farchnadfa at y pwrpas i aresjjtrefniant pellach a pha un a ellir defnyddio y gor.gl wag sydd wrth y Farchnadfa i'r un perwyl. Yr oeddid hefyd yn gofyn am amcan-gyfrif o'r gost. Oedwyd ystyried cynygiad Mr. Evan Morris i werthu ei Laundry i'r Cyngor at wneyd Gorsaf Dan hyd nes y ceid adroddiad Mr. Evans.— Mr. C. Roberts a ofynodd a oedd yr adroddiad yn barod, ac atebodd Mr. Evans nad oedd wedi cael hamdden i edrych i mewn i'r mater fel ag i allu cyflwyno ei adroddiad y noson hono.—Mr. C. Roberts, Y mae y mater hwn yn llusgo digon. Yr ydyrn yn codlo gydag ef er's blynyddoedd. a gwerth ugeiniau o bunau o eiddo y trethdalwyr yn dyfetha o eisiau lie i'w cadw. -Yr wyf yn cynyg fod Mr. Evans a'r pwyllgor yn myned i olwg y lie yn ddiym- droi, a bod Pwyllgor v Nwy a'r Dwfr yn cael ei alw i ystyried adroddiad Mr. Evans, a Chyngor arbenig i fod ar ei ddiwedd i gadari- hau y gweithrediadau.Cefnogodd Mr. D. Williams, a phasiwyd yn unfrydol. Ffordd Cwmbowydd. Anfonodd Mrs, Thomas, Cwmbowydd, gais am i'r Cyngor adgyweirio y ffordd o Bont Frongoch at Cwmbowydd, gan mai y Cyngor oedd wedi ei dryllio. Gofynwyd i Mr. Evans wneyd adroddiad ar y ffordd, yr hyn a wnaetb, gan hysbysu iddo gael allan, nad oedd y Cyngor wedi defnyddio y ffordd er's amser maith, ac felly nad oedd yn ystyried y dylid ei hadgyweirio. Pan ddarllenwyd ei adroddiad i'r Cyngor dywedwyd wrtho fod rhywun wedi ei gamarwain gan fod sicrwydd i'r Cyngor gario llawer ar hyd-ddi. Y canlyniad o'r ad- roddiad fu i Mrs. Thomas anfon at Mr. Evans i'w hysbysu na chaniatai i ragor o gerig gael eu codi ar dir Cwmbowydd heb i'r Cyngor dalu am y dresmas, a bu raid iddo yntau atal amryw ddynion o'r achos. Addawodd y Clerc weled Mrs. Thomas yn y cyfamser. Bu i'r Clerc a Mr. Evans weled Mrs. Thomas, a chytunwyd i gael caniatad i godi cerig ar y deall fod y ffordd yn cael ei hadgyweirio. Goleuo Baron Road. I Hysbyswyd fod Mr. Thomas Jones yn I gwneyd trefniadau gyda'r Cwmni Trydanol i I oleuo y ffordd uchod. Arianbl. I Argymellai y Pwyllgdr Arianol i dalu gofynion mewn cyflogau, &c, yn gwneyd cyfanswm o £ 880 5s Ie, a phasiwyd hyny. Yr oedd deg gitii, fee y Peirianydd (Mr. W. E Alltwen Williams), am Jjaratoi planiau, &c, cysylltiol ag Adran 3, o'r gyfundrefn Garth- ffosawl, yn y swm uchod. Mr. Richard Robert a ddywedodd fod y perchenogion yn tynu yn ol eu hawliad o ddeuddeg punt }n nglyn a lledu y ffordd yn Tanygrisiau, a phasiwyd pleidlais o ddiolch- garwch iddynt. Derbyniwyd cynygiad y Peirianydd i wneyd plan cyflawn o holl ffosydd, pibelli dwfr, a pbibelli nwy trwy'r Dosbarth. Y cyfrifydd a ddywedodd i £ 464 5s 5c gael eu casglu i mewn o wahanol ffynonellau, a daeth benthyg o £ 959 i law. Byddai y ddyled yn yr ariandy ar ol talu y biliau yn £ 1222 12s 4c. Mewn atebiad i Mr. C. Roberts hysbysodd y Clerc nad oedd y diffygion yn nghyfrifon y diweddar Mr. W. P. Owen yn cyraedd dau gant o bunau, ac yr oedd yr hawliad wedi ei anfon i Gwmni Yswiriol yr Ocean. Deuai yr arian i law mor fuan ag y ceid y papurau gofynol i'w hanfon i fyny.—Mr. C. Roberts, Dylem geisio cael pob dimeu a allwn i mewn yn lie talu llog yn yr Ariandy am arian ydym yn godi oddiyno." Mr. David Davies a ofynodd a'i ni ellid defnyddio y J959 gafwyd yn fenthyg i roddi gwaith i'r diwaith yn yr ardal?—Y Clerc a atebodd mai arian oedd yrhai hyn at orphen y Gwaith yn CwmbQwydd, l!e y rhoddir gwaith i amryw bobl fel y profai y ffaith eu bod yn talu dros dri chant o bunau y mis hwn yn nglyn a'r lie. Yr oeddid yn awr yn gwneyd cais am ddeuddeg cant o bunau at waith pellach, a byddai y rhan fwyaf o'r arian yn myned yn gyflogau i'r gweithwyr. Adroddiadau y Swyddogion. I Yr Arolygydd a ofidiai orfod adrodd i 36 Achos o glefydon gael eu Nhodi i fyny hyd Rhagfyr 21, ar gyfer 14 achos y mis cynt, a 5 yr un amser y llynedd, ac yr oedd 30 o'r 36 yn Dwymyn Coch. Pasiwyd i gario allan y gwaith a nodai yr Arolygydd oedfi yn ofynol yn nghefn y Manod Hotel a'r tai cysylltiol. Y Swyddog Meddygol a hysbysodd i Ysgol y Babanod yn M»an«ff«ren gael ei chau hyd lonawr 11 oherwydd y Twymyn Coch.—Gan- wyd 17 yn mis Rhagfyr, a bu farw 8.—Yr oedd nifer fawr o achosion o'r Twymyn Coch (Mr. G. Davies, Saith a deugain,") wedi tori allan, yn neillduol yn rhanbarth Maenoffersn, Meddyliai y byddai yn briodol iawn wneyd cais at Gymdeithas y Gweinyddesau am i un o'r Gweinyddesau gymeryd gofal yr achos- ion hyn o glefydon er mwyn ceisio eu clirio o'r lie. Yr oedd yn cael ar ddeall nad oeddynt yn brysur iawn ar hyn a bryd, ag y gellid cael un i'r pwrpas a nodwyd, Yr oedd yn abl i brcfi fod y clefyd wedi dod i'r Dosbarth, ac nad oedd wedi cychwyn yn eu phth hwy.—Ar gynygiad Mr. C. Roberts a chefnogiad Mr. D. Williams pasiwyd i wneyd y cais am Nurse. Cymeradwywyd adroddiad y Clerc ar y gwahanol faterion ymddiriedwyd i'w ofal; a'r un modd Adroddiad y Rheolwr Gwaith. Goheblaethau. Pasiwyd i adael Hythyr Richard Roberts, Pengwern; a ilythyr Robert R. Davies, Incline Terrace, Tanygrisiau, ar y Bwrdd. Bu tipyn o siarad yn nglyn a llythyr Davies gyda golwg ar drwsio y Gamfa ar lwybr Tanygrisia.u, ond td yn unig a gododd eu dwylaw dros ei thrwsio. Pasiwyd i gefnogi deiseb o Gyngor Glasgow i gynwys dodi treth ar werth tirol (land values) yn y Gyllideb (Budget), Sylwodd Mr. J. Lloyd Jones yr arbedid haner trethi y Dosbarth pe tretbid gwelth tirol, Ar gynygiad Mr. Cadwaladr Roberts a chefnogiad Mr. D. Davies pasiwyd i ofyn i Mr. H. O. Davies draddodi yr Anerchlad oedd i'w roddi i'r Clwb Rhyddfrydol, yn y Neuadd mewn cyfarfod cyhoeddus ar ol cyfavfod y Clwb, Testyn Mr. Davies fydd,— Rhvddfreiniad Prydlescedd."—Rhoddwyd ar ddeall fod Mr, Davies yn myned i'r Cyngor Rhyddfrydol yn Caerdydd, ac addawodd ddatgan yno beth oedd teimlad Cyngor Ffestiniog sr y materion uchod, & & & & &