Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
17 erthygl ar y dudalen hon
nluriau Jericho.I
nluriau Jericho. I Cyhoeddir fod Cwmni o Almaenwyr sydd er's cryn amser yn cloddio yn y lie y tybid y safai Jericho ynddo wedi gwneyd darganfyddiadau dyddorol dros ben, a phwysig hefyd. Darganfuasant !ur mawr a chadarn tuag wyth llath yn is na wyneb y tir. Mae'r mur yn 20 troedfedd o uchder a'i led:(neu el drwch) yn amrywio o 6l i 8 troedfedd. Eisoes y mae tua 450 llath o'r mur wedi ei ddwyn i'r golwg, a bwrir fod cymaint a bYnY yn aros eto heb ei glirio. AA A A -&
-Vy-TALSARNAU. I
Vy- TALSARNAU. Nos Sadwrn diweddaf, bu yr enwog W. O. Jones, Bangor (Aber gynt) yma yn traddodi ei adarlith boblogaidd ar "Y Tafod." Daeth tyrfa fawr ynghyd i wrando arno nes y gorlan- Jyd Ysgoldy y Cynghor,, ac y gorfu i amrai rai ymaith o ddiffyg lie. Cadeiriwyd yn dde- heiug gan Mr. Richard Roberts, Plasmeini, Ffestiniog. yr hwn a gyflwynodd rodd anrhyd- eddus i'r drysbrfa. Cadwodd y darlithydd y dYrfa fawr yn hoeliedig wrth ei wefusau am dros ddwy awr o amser. Pregethodd Mr. Jones ddwywaith yn Soar y Sabboth gyda Derth mawr. Yn sicr, mae y gwr hwn yn cyflawni gwasanaeth effeithiol i foesoldeb a chrefydd y wlad. Nid yn fuan yr anghofir ei ddynoethiad miniog o rai o'r hen arferion Swrthun a phecbadurus sydd yn ftynu yn rhy Syffredin o lawer yn eu plith. Y. oedd diw- eddglo y ddarlith pan yn desgrifio tafodau ar- ian y rhai ni thawent byth yn un o'r pethau wYaf ysgubol a dylanwadol a glywsom erioed "tysied yma eto yw dymuniad llawer heblaw elch-Goh.
-TRAWSFYNYDD.
TRAWSFYNYDD. MARWOLAETH.—Drwg iawn genym gofpodi rnarwolaeth y chwaer ieuangc Miss Ellen Williama, Maengwyn Street, yr hyn gymerodd e Prydnawn Sadwrn diweddaf, yn 24 mlwydd od. Dioddefodd gystudd malth a phoenus yo ystod y flwyddyn. Diameu ei bod yn adnabyddus i gylch eang yn Blaenau Festiniog gan y cofir iddi fod mewn gwasanaeth gyda -Mr. Richard Jones, Cofrestrydd, am rai Jynyddau, ac yn aelod y pryd hyny yn eglwys .C. Maenofferen. Bwriedir claddu ddydd lau nesaf yn mynwenr yr Eglwys. Gadawodd am a chwaer a Iluaws o berthynasau i alaru r el hol, gyda pha rai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf. CYFARFOD ADLONIADOL,—Cynhaliwyd yn Yr YsgQI Genedlaethol, nos Sadwrn diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. Madocks, yr Ysgol- eistr. Y peth cyntaf oedd Can Welcotne," gan pblant y G.F.S. o dan arweiniad Mrs. ~avies,-Rectory. Anerchiad gan y Llywydd. Chwareuad ar y Mouth Organ gan W. R. Lewis, yn dda iawn. Wedi hyny fe gafwyd rma gan Barti Mrs. Morris, Bronygan, Nid da bod dyn ei hunan." Y gwahanol Symeriadau oeddynt. Mr. William Jones, ¡antycelyn, Miss Kate Jones, Llys Arenig, Mr. rthur Evans, Glanywern, Mrs. Morris, Br3Dygan, Mr. John Edwares. :Postman, yr ?"?yQ'ddaarhon. Can "We Dunces," | „ ant Y G.F.S. dan arweiniad Mrs. Davi?s, ectory. Cystadleuaeth ateb 6 Cwestiwn, o u, Mrs. Davies, Rectory. Actio, Three ggars," John E. Hughes, Penrallt, David ]? 1 iIams, Bryn Iorwerth, Robert Evans, en an. Deuawd, Hywel al Blodwen," ga" Annia Jones, Eden View,. a Mr Fra H1s: ^°^eg Llanbedr, yn rhagorol iawn. ,kdroddiad Dedwydd Dri," gan Mr. loh E?wards, Postman. Act, Urchins we," -P?. P, Evans, Pengarreg Street; W. R. Lewis, "??werth, a J. E. Hughes, Penrallt. Can, I,??9,IIY," gan Mr Evan W. Davies, ac encor- ? llvyd- it chanodd Pistyll y Llan." Talwyd y dio) "??dau gan Mr Davies, Rectory, a chan-  God Sa.ve the King dan arweiniad Mr n°' Cafwyd cyfarfod da neillduol ac e?y?btr yn miaea yn awchus am gael clywed ?aQtata y Blodau" gan gor Mr W. J. "?ards cyn bo hir iawn eto. c Dwg genym mae parhau yn wael y mae y c?yf am dyddan Mr Edward Vaughan, ond da op ym weled ei fod yn troi ar wella.
.PENRHYNDEUDRAETH. I
PENRHYNDEUDRAETH. I Nos Fawrth, cynhaliwyd cyfarfod brwd- frydig neillduol o dan lywyddiaeth Dr. J. R. Jones, i'r dyben o sefydlu adran o'r Fyddin Diriogaethol (Territorial) yn y pentref. Y mae y clod mwyaf yn ddyledus i Mr. G. Parry Jones am drefnu mor ddeheuig, ac yr oedd ol ei lafur i'w weled yn amlwg ar y cynulliad. Yr oedd cynulliad da a brwdfrydig o ddynion ieuangc mwyaf addawol yr ardal wedi dod at eu gilydd, yn dangos yn amlwg i gryn lawer o baratoad fod gan Mr. G. P. Jones. Eglurocd yr Uwchgadben Mutton y telerau i ymuno a'r holl drefniadau perthynol i'r Fyddin Newydd mewn dull hapus iawn, ac anogodd ddynion ieuaingc teiiwng yr ardal i ymuno.—Cafwyd gair befyd gan Mr. Powell Hugbes yn llawn hwyl.—Mr. R. O. Davies, Blaenau Ffestiniog, a siaradodd yn gymraeg gyda'i hyawdledd a'i arabedd arferol gan gario y cyfarfod gydag ef. Mr. Owen Owen, Deintydd, Blaenau Ffestin- iog, a roddodd hanes yr Ah anyn Blaenau Ffestiniog, a'r modd llwydolanus yr elid yn mlaen yno.—Ar ddiwedd y cyfarfod gwnaeth yr Uwchgadben Mytton hysbysiad pwysig a theilwng i ddal arno. Dygid cyhuddiad yn ami yn erbyn y Fyddin ei bod yn Anghristion- ogol, ond yr oeddid yn benderfynol o gael y Fyddin Gartrefol yn un wir Gristionogol, a byddai yn alluog i hysbysu yn fuan fod un o brif weinidogion yr ardal wedi ei benedi yn Gaplan i Adran Blaenau Ffestiniog.—Unodd nifer dda o ddynion ieuangc, ac y mae nifer fawr eto yn debyg o ddilyn eu hesiampl.
IChwarel y Wrysgan.
I Chwarel y Wrysgan. Yn Ciniawdy yr uchod, dydd Iau. dan llywyddiaeth Mr Thomas Hughes, Tanygrisiau cafwyd yr anrhydedd o gyflwyno anrheg feohan i Mr. Lewis J, Thomas, Salem, fel gwerthfarwogiad o'i gymdeithas tra yn ein plith, yr hwn sydd yn paratoi gogyfer a'r maes cenhadol, ac nid yn ami y gv/elir peth fel hyn yn Ffestiniog. Wrth gyflwyno y rhodd gwnaeth y Llywydd sylwadau hynod briodol o'r amgylchiad, gan ddymuno wrth derfynu. Duw yn rhwydd." Yna cafwyd gair byr gan Mr. John Roberts, Penrhyndeudraeth, dros yr oil o'i gydweithwyr. Diolchai Mr. L. J. Thomas yn gynes am y teimladau da ddangos- wyd tuag ato, a chaed anerchiad rhagorol ganddo, dygai dystiolaeth uchel i gymeriad moesol y chwarelwyr, a dywedai na welodd, ac na chlywodd ddim tra bu yn ein mysg a barai iddo ofidio o'i blegid, ac yn sicr ei fod yn ein gadasl yn llawer hwn gwell na phan y daeth attom, cyn ymwahanu cododd pawb ar ei draed, a canwyd yr hen emyn adnabyddus, "Dan dy fendith."—OJ.J.
I BLAENAU FFESTINIOG.
I BLAENAU FFESTINIOG. Angen y Cyhoedd yw cael Nwyddau goreu am y prisiau isaf. Mae Bacon campus, Lard, Caws, a Menyn diguro, ar werth gan Parry, Shop Newydd, h Street. SALE.-Dymunwn alw sylw darllenwyr at y Sale bwysig sydd gan Mri. Blackwall, Hayes, & Co., yn Benar View Mineral Water Works ddydd Iau nesaf. Gweler y manylion yn mhlith hysbysiadau y firm mewn colofn arall. CANTORES.—Da iawn genym gael cofnodi lhvyddiant un o gantoresau mwyaf swynol yr ardal hon gynt, sef Miss Maga Jones (Megan Dwyryd), Glasgow House, Rhiwbryfdir. En- illodd gini o wobr am yr her-unawd, allan o 8 o ymgeiswyr mewn cyngherdd mawreddog yn Donaldon St, Lerpwl, nos Sadwrn diweddaf, a rhoddwyd y ganmoliaeth uchaf yn bosibl i'w llais a'i mhedr gan y beirniad, Mr E. D. Lloyd, R.A.M., Bethesda.
Family Notices
'▼▼ ▼ ▼▼▼▼▼wvvv v.v -v r v vvv v VVVVVV Priodasau. HUGHES -JON ES.-Ionawr 8, yn Porthmadoc, Mr. Thomas Ellis Hughes, Dinas Road, gynt Tanyfron Terrace, a Miss Maggie Ann Jones, 4, Taliesyn Terrace y ddau o Bl. Ffestiniog. Marwolaethau. HUGHES.—lonawr 7, yn 77 mlwydd oed, wedi llesgedd hi, ond cystudd byr, Mrs. Catherine Hughes, 11, Lord Street, gweddw y diwedd- ar Hugh John Hughes. Claddwyd Ionawr 9, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. G. Parry Hughes(M.C.), Nefyn a'i gweinidog, .y Parch. John Hughes. Gadawa ar ei hoi dri mab, ac un ferch-Mrs. William Jones, Painter, yr hon a'i phriod fuorlt yn nodedig o ofalus o honi yn ei chystudd a'i llesgedd. Mae ein cydymdeimlad cywiraf s'r teulu oil. DAVIES.-Ionawr 9fed, yn 59 mlwydd oed, Mrs. Davies, anwyl briod Mr. Thomas Davies, Chwarel Ganol Oakeley gynt. Gedy ar ei hoi briod, un ferch, a dau o feibion, y rhai sydd ar y mor, ac yn anffodus yn mhell iawn. Cydymdeimlir yn ddwys a hwy. yn eu galar. Claddwyd hi yn mynwent Beth- esda prydnawn dydd Mercher. DAVIES.-Ionawr lOfed, yn 29ain mlwydd oed, yn nhy ei mham, Mrs. Owen, 1, Maen- offeren, Blaenau Ffestiniog, Mrs. Maggie Davies, anwyi briod Mr. Richard Davies, Masnachydd Glo, Bethania. Cafodd Mrs. Davies dros flwyddyn o gystudd caled, ond dyoddefodd y cyfan gydag amynedd ac ymostyngiad gwir Gristion. Bu gofal ei mham a'r boll deulu yn fawr iawn am dani yn ei gwaeledd. Mae ein cydymdeimlad dyinaf a'i phriod a'i bedwar plentyn bach, ei mham, a'r holl deulu. Claddwyd hi ddydd Mercher yn mynwent Bethesda, pryd y gwasanaethwyd wrth y ty gan Mr. Wm. Humphreys (Elihu), ac wrth y bedd gan Mr. J. D. Davies. A.A.AA.AAAAA.AA.AA..A.
. IFFESTINIOG.
FFESTINIOG. ??haiiwyd Pwyllgor y gwelliantau Ileol n Pawrth, yn y Pengwern Arms Hotel, a chaf cyfrif manwl am y flwyddyn, ynghyd a £ a^r°ddiad o safle y pwyllgor ar hyn o bryd ecderfynwyd galw cyfarfod cyhoeddus y& y 141?113,ld Gvbceddus, nos Iau nesaf, Ionawr yr 21'i", i'r diben a gy?wyco yr adroddiad i sylw Y trethdalwyr. Disgwy!? y bydd i'r ardalwyr loddi eu presenoldeb.—Ysgnfenydd.  Y mae y Cwmni Dramayddol yn hynod o br dyddiau hyn yn parotoi gogyfer a *n<?"?o''mto Drama ddyddorol ac addysgiadol .Y Bardd a'r Cerddor." o waith Elphin, Yn alcr, fe ddylai gael pob cefnogaeth gan ei bod Yn tueddu i ddyrchafu chwaeth a moes. Y ae y Scenes yn cael eu gweithio gan y brodyr t • Lloyd Jones, Bodunig, a W. Parry Davies, A. H.
TREFRIW. I
TREFRIW. I Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf cymdeithas Ym- drech Cristionogol yn Peniel, nos Sul, pryd y dewiswyd Mr. J. R. Williams yn Llywydd, Misses A. Williams. Mary E. Evans, a Mr. W. O. Pritchard, yn Ysgrifenyddes. Darllenwyd papur rhagorol gan Mr. R. Roberts, Bronderw, ar "Y fendith, a'r perygl o'i cholli." Cymer- wyd rhan pellach gan Mrs. Pritchard, Miss Williams, Hill Crest, Miss Evans. Wern. ac unawd gan Mr. Pierce Evans. Dr. W. M, Williams sydd wedi ei benodi yn Feddyg y Pandora Mine. Y mae Miss Nellie Davies wedi ei phenodi i chwareu yr Organ yn nghapel Peniel am y tri mis presenol. Cynhaliwyd pwyllgor dylanwadol i ystyried y priodoldeb o sefydlu Cor Undebol yn y pen- tref. Penderfynwyd cael Cor, a dewiswyd Mr W. O. McGall yn arweinydd, ac ymrestrodd 35 yn aelodau.
Dirgelwch y Foneddiges oI…
Dirgelwch y Foneddiges o I Lanelwy. Nid oes dim eto wedi dod i'r goleu yn nglyn a'r foneddiges,—Miss Violet Charlesworth, Boderw, Llanelwy, yr hon a ddywedid oedd wedi myned dros y clogwyn i'r mor trwy ddamwain i'w mhodur rhwng Conwy a Phen- i maênmawr. Y mae yr hanes wedi rhoddi llawer o waith "hela gwyddau gwylltion" i'r Gohebwyr Seisneg, ond methiant hollol fu pob ymgais hyd yn hyn i gael hyd i'r foneddiges.
LLANRWST. j
LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. St. Crwst.—Parchn. D. C. Davies, B.A., a J. Morgan, B.A. St. Mary.—Parchn. J. Morgan, B.A., a D. C. Davies, B.A. Y Methodistiaid. Seion-Parch. O. Islwyn Jones, Deganwy. Heol Scotland.—Mr. W. H. Roberts. Yr Annibynwyr. Tabernacl.-Mr. J. O. Jones, Aneddle. Ebenezer.—Cyfarfodydd Gweddio. Y Wesleyaid. Horeb.—Parch. T. C. Roberts. St. James (English Chapel).—Mr. H. W. Jones Colwyn Bay. Y Bedyddwy. Penuel.-Cyfarfodydd Gweddio, Da genyn ddeall fod y Parch John Morgan, Rheithor parchus y plwyf wedi gwella mor dda ar ol yr ymosodiad trwm a gafodd o anwyd yr wythnosau diweddaf. Cafwyd oedfaon gryjius ar hyd yr wythnos yn nghapel Horeb, pryd y pregethwyd gan y Parchn. Edward Humphreys a Richard Lloyd Jones. Cwynir yn gyffredinol trwy y dref gan y "clwy penau" yn mhlith y plant. Cafwyd nyth aderyn y t6 o dan do ysgubor Maesol, Llangernyw. ADDYSG.-Prydnawn ddyd Llun, a dan lyw- yddiaeth Mr. W. Hughes, cynhaliwyd cyfarfod Pwyllgor Addysg y Dosbarth, ac yr oedd yn bresenol y Parch.sW. Cynwyd Williams, Mri. T. R. Jones. W. G. Owen, E. Mills, David Roberts, W. E. Roberts (Clerccynorth- wyol), a Thomas Williams (Swyddog presen- oldeb).-Pasiwyd i wneyd i fyny y diffygion yr adroddai Mr. T. R. Jones oedd ar ysgol Llan- rwst.—Pasiwyd i alw sylw y Pwyllgor Sirol at yr angen am ychwaneg at y staff yn Capel Garmon.-Argymellwyd enw y Parch. T. Gwilyifl Roberts i fod yn Rheolwr Addysg dros Eglwysbach gan fod y sedd yn wag.— Pasiwyd i wahodd amryw o aelodau y Cyngor Sirol i gymeryd rhan yn Agoriad Ysgol Nanty- rhiw.—Y Swyddog Presenoldeb a adroddodd fod enwau 1128 ar y llyfrau, a chyfartaledd y presenoldeb yn 1031, yr hyn oedd yn 90'5, ar gyfer 89'5 y mis blaenorol. Yr oedd rhai o'r ysgolion wedi cyraedd safle anrhydeddus iawn ar y rhestr. Mr. John Davies a hysbysodd yn Nghapel Seion nos Sul fod y casgliadau cyhoeddus yn unig yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yn cyr- aedd y swm o 4138 4s 6c. Tv DORWYR.—Yn Mrawdlys Chwarterol Sir Gaernarfon, dedfrydwyd John Owen Jones, Saer, a Georgo King Owen, Groom, i garchar am dri mis gyda llafur caled am dori i mewn i Gwydr Cottage ar nos Sul, a lládrata nifer o bethau oddiyno. Cynhaliwyd Te Parti a chyfarfod Adloniadol yn yr Ystafell Genhadol (Eglwysig), Heol Scotland, ddydd Iau. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol:- Miss Morgan, Mrs. Roberts, Fronderw Mrs. Edwards, Mrs. Watling, Mrs. Dodd, Mrs. W. Hughes, Devon House, Mrs. A. Hughes, Tyn- yfynwent, Mrs, Morris, Miss Williams, Glan- aber, a'r Weinyddes Cooke, yn cael eu cynorthwyo gan amryw foneddigesau ieuaingc. Wedi clirio y byrddau, cafwyd cyfarfod dydd- orol dros ben o dan lywyddiaeth y Parch. D. C. Davies, a Miss Owen, R.A.M., a Mrs. Dodd yn cyfeilio. Awd trwy y Gantata brydferth The Little Gipsy," gan blant yr Ystafeli Genhadol. Hefyd cafwyd Musical Sketch gan Mr. Headham, a darluniad gyda'r Hud-lusern gan Mr. Hayes a Mr. J. J. Lloyd eu hegluro nes swyno pawb yn y lie. Rhodd- odd Miss Crawford anrhegion gwerthfawr i nifer fawr am eu presenoldeb cyson yn y cyfarfodydd. Hefyd cyflwynwyd anrheg i Miss Edwards yr hon a fu yn athrawes ffyddlon iawn ar ddosbarth yno, ac yn hynod weithgar am dros ddeuddeng mlynedd, ond oedd yn awr yn ymadael am Llandudno. Cyflwynwyd yr Anrheg-Silver Mounted Writing Case, gan Mr. Albert Hughes, Llywydd yr Ysgol Gen- hadol. Wedi diolch i bawb am eu haelioni, sel, a ffyddlondeb, canwyd yr Anthem Genedlaethol i ddiweddu y cyfarfod. Y FRAWDLYS CHWARTEROL.— Yn Mrawdlys Sir Ddinbych ddydd Gwener, daeth David Jones, 20 oed, fyny am ei brawf am dori i Ficerdy Llanddewi, a lladrata olwyn- farch eiddo y Parch. D. Felix bddi yno Tach 27.—Yr ydym wedi cyhoeddi manvlion yr achos eisoes. Yr oedd naw dedfryd wedi bod arno yn fiaenorol am ladrata. Anfonwyd ef i garchar am naw mis, gyda llafur caled. Cyhuddwyd Reginald Wellington Chambers, 17 oed, Brewery, Llanrwst o achosi niweidiau corphorol difrifol i Ernest Bradburn, 10 oed, trwy ei saethu Tachwedd 17.—Cafwyd ef yn adieuog, a gollyngwyd ef yn rhydd. Yn yr un Frawdlys ddydd Sadwrn, daeth Moses Davies, 20 oed, eilliwr, Denbigh Street, Llanrwst, i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o fod yn meddu offerynau at dori i mewn i dai yn ei feddiant boreu Su!, Rhagfyr 20.—Yr amddiff- yniad oedd iddo fod yn edrych am y meddyg gan ei fod yn dyoddef poen oddiwrth smocio Cigarettes.—Cafwyd ef yn euog.—Cyhuddwyd ef yn euog. Cyhuddwyd ef yn mhellach o beidio dod i fyny a gofynion Deddf troseddwyr ar Brawf, o dan yr hon y rhwymwyd ef yn y Frawdlys Chwarterol diweddaf pan ar ei brawf am ladrata.—Anfonwyd ef i garchar ar y cyhuddiad hwn am ddeuddeng mis o dan gyfundrefn Borstal. Taflwyd allan achos apel o eiddo Thomas Evan Jones, yn erbyn archeb Ynadon Llan- rwst mewn achos o dadogiad, gyda'r costau.
I HEDDLYS LLANRWST.I
HEDDLYS LLANRWST. Dydd Llun, o flaen y Milwriad Sandbach (Cadeirydd), Dr. T. E. Jones, O. Isgoed Jones, L. W. Jelf Petit, L. O. R. Ashley, William Hughes, a'r Parch. H. Rawson Williams, Ysweiniaid. Clamp o Lo. Mr. Severs, Rheolwr Cwmni y Gwalth Nwy a gyhuddodd Charles Purley, o ladrata clamp lo gwerth dwy geiniog o'r yard. Tystiodd yr achwynydd iddo weled Purley yn cymeryd y glo, ac yn ei guddio o dan ei got a myned ag ef i'w dy. Pan aeth ar ei ol a'i gyhuddo o'r lladrad, daeth a'r glo a thafiodd ef yn ei ol.- Cadarnhawyd y dystiolaeth gan y goleuwr lampau (Thomas J. Jones).—Yr heddgeidwad J. Jones a ddywedodd iddo gyhuddo y Diffyn- ydd o ladrata y glo, ac addefodd yntau iddo ei gymeryd o drol, a'i bod yn galed i edrych ar ei wraig a'i blant yn rhynu. Dododd y glo yn ei 01 pan welodd y Rheolwr ef: Yr oedd pobl yn codi y glo a ddisgynai o'r troliau, a gwnaeth yntau yr un modd.—Gorchymynwyd y Diffyn- ydd i dalu y costau (18/-) yn unig.—Dangosodd yr erlynydd bellebyr dderbyniodd o'r Brif Swyddfa yn Caergybi yn ei gyfarwyddo i erlyn y Diffynydd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn beth hollol anmhriodol i'w wneyd, ac am iddo anfon at ei uwchafiaid i hysbysu hyny. Meddw. Dirwywyd Ellis Roberts, Tynygroes, i bum' swllt a'r costau am fod yn feddw ac afreolus. Trwyddedau. Ar gais Mr. J. E. Humphreys caniatawyd trosglwyddiad dros dymor o drwydded y Red Lion Inn o enw A. Wildman i enw John Evans, hyd nes y byddo y swm sydd i'w dalu i'r tynant sy'n myned allan wedi ei benderfynu. Ar gais Mr. Humphreys, caniatawyd tros- glwyddiad dros dymor o drwydded yr Albion Hotel, Llanrwst, o enw y diweddar Mrs. Lloyd i enw Mr. David Rowlands. Meddiant o Ystabl. F. G. Parry, gwerthwr Pvsgod, Denbigh St, a ofynodd am archeb i gael meddiant o ystabl wrth ei dy oddiar Thomas Fletcher Hughes, Greengrocer, Station Road. -Amddiffyn id gan Mr J. E. Humphreys.—Profwyd i foddlon- rwydd y Faingc fod Hughes yn talu y rhent yn mlaen, a'i fod wedi talu tri mis yn mlaen ar Rhagfyr 4, a gwrthodasantwaeyd yr archeb a ofynid. Herwhela. Evan Morris a Richard Owen Morris, dau frawd yn byw gartref gyda'u mham yn Beud-dy Gwyn, Capel Garmon, a gyhuddwyd o herw- hela yn y nos ar dir Arglwydd Penrhyn.—Ym- ddangosodd Mr. J. E. Humphreys i erlyn, ac amddiffynwyd gan Mr. J. D. Jones.-Mr. Foster, Ceidwad Helwriaeth Arglwydd Pen- rhyn, a dystiodd i'r ddau Ddiffynydd gael eu dwyn ato tua haner awr wedi deg y nos gan ddau o'r Ceidwaid Helwriaeth oedd o tano, y rhai yn clywed saethu a ddaliasant y ddau ar dir Arglwydd Penrhyn. Cariai yr hynaf wn un baril, a'r ieuengaf Pheasant mewn bag. Yr oedd y Ceidwaid wedi eu gwylio er's cryn amser. Daliwyd y ddau yn ymyl Plas ei Arglwyddiaeth ac o fewn ychydig latheni o'r coed o'r hwn y daethant. Gofynodd y ddau iddo faddeu iddynt, ond gwrthododd am nad oeddynt yn ddynion tlodion mewn angen. Gwrthododd faddeu hefyd, am eu bod wedi bod yn herwhela er's cryn amser, a bod y ceidwad helwriaeth wedi cael trafferth fawr i'w dal. Ar dir Taihirion yr oeddynt, yr hwn oedd tua milltir o'u rartref; Arglwydd Pen- rhyn oedd perchenog y ddwy fferm. Nid oedd gan yr un o honynt drwydded i gario gwn.- Mr. J. D. Jones a blediodd euogrwydd. Yr oedd yr amgylchiadau yn rhai eithriadol iawn. Nid oedd y Diffyngdd hynaf ond 20 ced, a'r ieuengaf yn 15. Gwneid y teulu i fyny o dad, mam, a naw o blant. Aeth y tad ac un o'r meibion drosodd i'r America i geisio enill byw- oliaeth. Bu y Diffynydd hynaf am ddwy flynedd a haner gyda'r fyddin, ond prynwyd ef yn rhydd gan ei frawd cyn iddo fyned i'r America, er mwyn iddo edrych ar ol y fferm a gofalu am y cartref. Yr oedd yn aelod o'r Gymdeithas Ddirwestol. Datganai y ddau eu gofid mawr am yr hyn a wnaethant, ac yr cedd- ynt yn dra edifeiriol.—Dirwywyd yr hynaf (E. Morris) i ddwy bunt a'r costau, a'r ieuengaf (R. O. Morris) i bunt a'r costau. Gwrthododd y Faingc wneyd unrhyw archeb gyda golwg ar v gwn. Y ddau Billposter. Morris Hughes, Bill poster, 1, Jones Terrace, Llanrwst, a gyhuddodd William Williams, Bill Poster, 18, Scotland Street, 0 yihosod arno Rhagfyr 30,—Erlyniwyd gan Mr. T. Latimer Jones.—Tystiodd Morris iughes fod y Diffynydd yn dodi hysbysleni ar draws ei rai ef, a chanfu iddo wneyd hyny Rhagfyr 30. Aeth ef ar hyd y byrddau oedd ganddo yn dal hysbysleni, a thynodd i lawr "y rhai ddododd William Williams arnynt heb hawl o gwbl. Daeth Williams ar ei ol a thynodd gydyn o'i farf, yr oedd y cydyn bwnw yn cael ei ddàngos i'r Faingc.-Aeth y-a ddrama o'r fath fwyaf ddramayddol rhwng yr Achwynydd a'r Diffynydd, ond y diwedd fu rhwymo y ddau i gadw'r heddwch yn y swm o bum' punt, a'r Diffvnydd i dalu y costau.— Rhoddodd y Cadeirydd gerydd i'r Achwynydd am ysgrifenu ato yn nglyn a'r achos hwn cyn iddo ddod o flaen y Faingc. Ni ddylasai wneyd hyny ar unrhyw gyfrif.
-Tanygrisiau.----I
Tanygrisiau. YMWELIAD MARCHOG Y SIR AG ETHOLWYR TANYGRISIAU.-Nos Wener nesaf am 7 o'r gloch yn Ysgoldy y Cyngor, bydd Mr. A. Osmond Williams, A,S, a'r Parchn. John Owen, Bowydd, a John Hughes, Jerusalem, yn anerch ar brif byngciau y dydd. CYRDDAU GWEDDIO.—Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gweddio eleni eto fel arfer, a chafwyd cynulliadau da yn y gwahanol addoldai.—Nos Fercher yn Bethel bu yr eglwys yn cymuno ya lie nos Sul.
,.- ................................................-…
V' MAENTWROG. Yr oedd dydd Gwener diweddaf yn un yr edrychid yn mlaen ato gyda dyddordeb neill- duol gan Eglwyswyr y Maen, oblegid dyna'r dydd y cynhelid eu Social flynyddol. Paroto- wyd gwledd o'r fath oreu i blant yr Ysgol Sul ac wedyn i'r bobl. Yr yr holl drefniadau yn nwylaw teulu caredig y Rheitbiordy, ac y mae dio1chgarwch yn ddyledus iddynt hwy a'r boneddigesau fuont mor garedig a gweini wrth y byrddau. Wedi bawb gael eu digoni cyn- lialiwydfjcyngherdd difyr. Cadeiriwyd yn fed- rus fel arfer gan y Rheithior parchus, ac awd trwy y rhaglen a ganlyn:—"Tramp, tramp, tramp," gan blant yr Ysgol Sul; solo, "Ben- dithiaist goed y maesydd," Johnnie Williams; Bull Street; adroddiad, "Y Postman," Mrs. Jones, Tanlan, encoriwyd; solo, gwnewch bob- peth yn Gymraeg," D. Williams, Belle View; "Gondolierus Song," plant yr Ysgol Sul; solo, My dear Soul," Miss N. Price, Rectory; duett, "Y ddeilen ar yr afon," Mrs. Williams, Belle View, aj. Williams, Bull Street; adrodd- iad "Lasha," Miss Jenks, y Plas, encoriwyd; Solo, "Llam y Cariadau," S, Jones, Tanybwlch Station, encoriwyd: duett, Miss Nancy a Teddy Price, Rectory, encoriwyd; duett, Mrs Jones Tanlan, a Mr. J. R. Roberts, The Gardens, encoriwyd; triawd, Misses H. Ll. Hughes, Maria a Jemima Williams, Bull street. Yna cyflwynwyd rhoddi Mr. Gorvyest V. Humphreys, ar ei ymadawiad i Goleg Caerfyrddin. Cyfl- wynwyd y rhodd, sef Dressing Case hardd, ar ran yr Ysgol Sul, gan Mr. E. Anwyl, yr Arol- ygwr, a chydnabyddodd Mr. Humphreystnewn ychydig eiriau pwrbasol. "Y Blodcuyn olaf," gan barti Mr. T. Jones, Tanybwlch Station solo Tuyder tea," Miss Davies Canycoed isaf; Romeo & Juliett," Master Jack a T. Price, a phlant yr Ysgol Sul; Death of Nelson," Thos. Jones; adroddiad "The Hugenots, Miss Jenks, y Plas; solo, "Good Company," Mr. J. R. Roberts; pedwarawd "Y Bwthyn ar y Bryn," D. Williams a'i barti; yna cafwyd per- fformiad o'r Ddrama, "Nid da bod dyn ei hunan." Cymerwyd rhan ynddi gan Mr. E. Jones, Tanlan Miss A. Roberts, Tanlan Mr, D. M. Jones, Tan-y-dduallt; Mrs. Jones, Tan- Ian; a Mr. J. R. Roberts. Ar ol canu yr Anthem Genedlaethol, ymwabanwyd wedi treulio noswalth hynod o ddifyr, Addurnwyd y Stage yn prydferth a dail bytbol-wyrdd o'r Gerddi, a gwasanaethwyd fel Stage Manager gan Mr. E. Jonos, Tanlan, a gwnaeth ei waith i foddlonrwydd pawb. Da genym i'r gweith- rediadau gael cefnogaeth yn mhresenoldeb teulu y Plas. Y mae clod yn ddyledus i'r ysgrifenyddion, sef Mri. J. R. Roberts a D. M. Jones, am dynu allan raplen mor chwaethus. Cyfeiliwyd gan Mrs a Miss Price a Mr. J. E; Jones, yr organydd.—Maenog.
[No title]
Ofnwn na wnaethom yn ddigon eglur y tro diweddaf yn nglyn ag Ysgoldy M.C. Llechwedd Du mae y Sul cynt yr agorwyd yr Ysgoldy Newydd pryd y pregethodd y Parch R. Evans am y waith gyntaf. Mae ysgol yn cael ei chynal yno er's llawer o amser,
IqpPPPENMAOHNO.vvTTVYY'ï
q p P P PENMAOHNO. v v T T VYY'ï MARWOLAETH.—Yr ydym rywfodd yn edrych yn ol i'r hen flwyddyn gyda hiraeth dwys ar ol ami i wyneb siriol dorwyd i lawr gan "angau Brenin braw," ac nad ydyw y flwyddyn hon yn eithriad yn hyn etto. Mae lonawr oer ei awelon wedi tori i lawr un o aelodau eglwys Bethania yn mherson Mrs Mary Vaughan, Bodalaw. I-lunodd yn dawel yn yr lesu yn gynar fore Sul, lonawr 3ydd, 1909, yn 68 mlwydd oed. Cafodd gystudd maith, ac yr oedd iddi air da gan bawb o'i chydnabod, byddai yn wastad yn cydymdeimlo a'r tlawd a'r anghenns. Yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r Wesleyaid. Yr oedd yn meddu ar fywyd crefyddol uchel, ac yn meddu ar argyhoeddiadau dwfn a goleuedig o bethau'r Efengyl, a glynai wrthynt yn ffyddlon. Bu yn selog iawn yn y seiat, a byddai yn sicr o ddweyd adnod fyddai yn ffitio ei phrofiad i'r dim, megis "Crea galon lan," &c., ac yn ei dagrau byddai yn tori i lawr. Clywais hi yn diolch lawer tro am drugareddau'r daith, ac am y nerth oedd yn gael o dan law yr Holl- alluog, ac erbyn heddyw mae wedi tyrhaedd yr hafan glyd. Prydnawn dydd Mercher, daeth tyrfa hardd i hebrwng yr hyn oedd farwol o honi i fynwent yr eglwys. Gwasanaetbwyd yn y ty gan y Parchn Phillip Price, Conwy, a T. Gwilym Roberts, Eghvysbach, ac yn yr eglwys a glan y bedd gan y Parch G. O. Pritchard, Rheithor Capel Garmon. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu galar. Nos Lun, yn nghapel Salem, bu y Parch R. Rowlands, Llanrwst, yn traddodi pregeth ar Ddirwest a Phurdeb, oddiar Mathew 12, 12. Cawsom bregeth ragorol a chynulliad da.
U Ni bydd."'O'*-I
synhadledd genhedlaethol y cyfeiriasom ati yr wyhnos ddiweddaf. Y mae wedi ei argyhoeddi fod mwy o wahaniaeth barn nag a dybiodd fod ynghylch y dymunoldeb o ffurfio Cyngor Addysg Cenhedlaethol a phenodi gweinidog Cymreig. Credwn ei fod wedi gwneyd y peth doethaf yn yr amgylchiadau, oblegid o'r braidd y mae] y mater yn ddigon aeddfed eto. Ni fyddwn ar ein colled—dichon y byddwn ar ein henill o aros tipyn.