Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
BLAENAU FFESTINIOG. I
BLAENAU FFESTINIOG. I ANFFAWD,—Y Sabbath diweddaf, hvsbvs- wyd ni am y ddamwain ddigwyddodd i Miss Elizabeth Pierce Jones, 17, Manod Road, trwy i ddwfr berwedig droi ar ei thraed.-o.H.s. JERUSALEM. Cynhaliwyd y Gymdeitbas Ddiwylliadol nos Fawrth, o ea-i lywyddiaeth Mr. John Jones, Fronbeulog. Daeth cynull- iad rhagorol yn nghyd, a chafwyd dadl ar A ydyw yn bosibl cael Ffestiniog i beidio dibynu ar y chwareli?" Cymerwyd yr ochr gadarn- haol gan Miss Madge Roberts aCaerwyson; a'r ochr nacaol gan Mri. E. T. Pritchard ac Henry Williams. Cafwyd mwyafrif cryf dros y cadarnhaol. Y CLWB RHYDDFRYDOL,—Nos Ian, cyn- haliwyd cyfarfod y C!wb Rhyddfrydol o dan lywyddiaeth Mr. Griffith Roberts, Adeiladydd. Yr oedd Morgan E Phillips, D sc., yr Ysgol Uwchraddol i draddodi Darlith ar "Dair blynedd o waith y Weinyddiaeth Ryddfrydig gan ei hegluro gyda Hudd-lusern, ond an- alluogwyd ef i foti. ya bresenol trwy afiechyd. Anfonodd Mr. Phillips ei sylwadau i Mr. R. Griffith, Tegfan, ac nis gallesid meddw1. am neb gweli at grmeryd ei le. Aeth Mr. Griffith trwy y sylwadau yn fedrns iawn, a gofelid am y Lantern gan Mr. J. T. Evans. Diolchwyd yn gynes i Mri. Phillips, R. Griffith, a J. T. Evans am eu gwasanaeth gwerthfawr. CYFARFOD LLENYDDOL BowyDD.- Cynhal- iwyd yr uchod nos Wener a nos Sadwrn di- weddaf, a chafwvd cyfarfodydd llwvddianus iawn, er i'r tywydJ droi braidd yn anffafriol, a hefyd y "Cheap Jack," a'r "Living Pictures" yn ymyl. Yr oedd y pwyHgor wedi sicrhau Mr Tudor Ov;en, A.P..C M., fel Befrniad Cerddorol a gwnaeth ei waith yn ddeheuig dros ben, ac yn ddiddadi y mae cystal dyfodol iddo fel 'beirniad ag fel datganwr. Rhoddodd ei holl feirniadaethau foddSonrwydd cyffredinol. Gellir dweyd yr uo modd am Mr H. E. Hughes (Dery!). Yr oedd ynt?.u yn ei hwvliau goreu, a cbanmolai y gwahanol gystadleuaethau Y Cyfeilwyr oec1 Int :-Nos Wener, M. Lewis Jones; a nos Sadwrn gan Mr. F. P. Dodd, M.A Llywvddwyd cyfarfod Wecer gan Mr. White Phillips, gan yr hwn y cafwyd anerchiad yn ystod y cyfarfod. Yr Arweinydd ydoedd y Parch J. Owen, M.A., yr hyn a wnaeth gyda i fedrusrwydd arferol. Wele restr o'r goreuon —Unawd i rai dan 8 osd, 1, Bob Thomas, 2, Annie Williams, 3, cydradd Elizabeth Ellen Jones ac Albert Thomas. Eto, o 8 i 10 oed, 1, Owen Price Griffith, 2, Gwennie May Thomas, 3, Maggie Williams. Hefyd i enetliod .010 i 13 eed, 1, Catherine J. Richards, 2, Annie C. Edwards, 3, Winnie Hughes a Nellie Rowlands. Eto, i fecbgyn o 10 i 16, 1, Meir- ion Llovd Jones, 2. Samuel Williems, 3, Wm. David Williams. Eto i enethod o 13 i 16. 1, 'Nell Thomas. 2. Cassie Roberts, 3, Kate Ellen Hughes. Dsuawd dan 16, 1, Nell Thomas a Grade Owen, 2, Dilys a Maggie Williams. Modulator, 1, Nell Thomas, 2, Annie Williams Dysgu alkin, Safon I, 1, Sallie Parry a Lizzie Jenkins. Safon II, I, Sallie Parry ac Annie Aled WilMams. Safon III, 1, Owen Price Griffith a Katie Edwards, 2. Katie Owen ac Albert Thomas. Ssion IV--IX, 1, Sallie Rowlands, 2, Sydney Rowlands. Safon X, 1, 'Nell Jones. Adroddiad i rai dan 10 oed, Evan Emlyn Roberts a Lizzie Jenkins; 2. Maggie Williams, 3, Albert Thomas, Eto o 10 i 15, 1, John Rhys Roberts a Laura Jenkins; 2, Nancy Lloyd Jones Gwriidwaith, 1, Jennie Owen, 2. Cassie Rcb?rts, Drawing, 1, John Rhys Roberts, 2. Hugh Parry. Arholiadau Ysgrif- enedig Safon IV, 1, Austin Roberts, 2, Nancy Lloyd Jones, 3, Wiiiie Hughes. Safon V, 1, Sallie Rowlands, 2, Jennie Alice Jones, 3, Annie C. Edwards. Safon VII, l,Meirion LL Jones, 2. John Rhys Roberts, 3. Rowland Edwards. Safon IX, 1, Hannah Elian Owen, 2, Blodwen Williams. Corau Plant. Daeth tri cor ymlaen, a dyfarnwyd yn oreu yr un dan arweiniad Willie Osborne Thomas. Cyfarfod nos Sadwrn, y Llywydd ydoedd Mr. William Owen, Plasweunydd, a chafwyd anerchiad byr ,ganddo. Yr Arweinydd ydoedd Mr. John Owen. Hefyd yr oedd Mr. R. J. Davies (Barlwydon), beirniad y farddoniaeth yn traddodi ei feirniadaethau, ac yr oedd mewn 'hwyI anarferol. Dyfarnwyd y. gwobrwyon fel y ca.nlyn :-Llythyr at frawd nEm chwaer yn yr America, 28 o ymgeiswyr, 1, Mrs. Evan Rob- erts, Wynn Road; 2, Miss Myfanwy Jones, 'Uncorn Cottage. Unawd Contralto neu Bass, Mrs Evan Roberts, a hi enillodd nesaf am wneyd Wool Scarf. Arholiad Ysgrifenedig i rai dan 21 oed, Miss Nell Jones, 2, cydradd Miss Myfanwy Jones a Mr Robert J. Williams, 3, Miss Blodwen Roberts. Chwe* phenill, Disgwyl gwawr," Mr. Thomas Williams. Unawd Soprano neu Denor, Mr. David Wil- liams, Wynn Road (gynt Brondwyryd) Englyn. Y Gorlan," goreu In ei chysgod." yr hwn nid atebodd i'w enw. Unawd i rai dros 50 oed, 1, Mr. Robert Ellis, 2, cydradd Mri. David R. Pritchard a John G. Roberts. Prif-adroddiad, "y Ncs." Mr. Tom Jenkins, Wynn Road (enillydd Gwylfa) Ateb cwest- iynau ar yr lawn, cydradd Mrs. Edward Lloyd a Mr Evan Roberts. Deuawd, Miss Blodwen Blanche Roberts a Mrs. Evan Roberts, Trathawd i rai dan 21 oed, 1, Miss Myfanwy Jones, Uncorn Cottage 2, John Rhys Roberts Traethawd i farched, cydradd Mrs Lloyd Jones a Mrs Evan Roberts. Prif-draethawd, 1, Mrs. Evan Roberts. Herunawd Bedd Glyndwr," Mr. Ted Jones. Daeth pedwar o Gorau yn mlaen i ddatganu "Deuwch, canwn i'r Ar- glwydd," sef Brynbowydd (R. Roberts), Hyf- rydfa (HughPagh), Bowydd (Edward Thomas) a Pant Iwyd (W. E. Ephraim). Dyfarnwyd y wobr i Gor Pantllwyd. Ar ol i Mr. J. Owen ddiolch i bawb a wasanaethasant yn nglyn a'r cyfarfodydd, ymwahanwyd. SEINDORF FRENHINOL OAKELEY YN TRE- FFYNON.—Y nos Sadwrn o'rblaen bueinSein- dorf yn cadw Cyngerdd ya Nhreffynon, Sir Fflint, dros yr hwn y llywyddid gan Mr J. Petrie, Maesglas. Cyfeiriodd Mr Petrie at .safle urddasol y Scindorf, a bod gwledd yn aros y dorf. Fel hyn yr edrydd newyddiadur y Sir am y rhaglen yr awd trwyddi:—" Y der- nyn agoriadol oedd y "Dreadnaught" March, i ba un y rhoddwyd chwareuad effeithiol, ac yn dilyn cafwyd detholiad o ddarnau cystadleuol, i ba rai y rhoddwyd encore. Cafwyd encore byddarol i Maritana," yr oedd yr unawd ar y Trombone "Let me like a Soldier Fall" yn feistrolgar. Yr oedd yr Unawdau yn y gwa- hanol ddarnau ar y Cornet, Tenor Horn, a'r Euphonium yn artistic. Mewn un o'r darnau, yr oedd yr unawd ar y Double B Bass yn gyw- rain iawn. Yr oedd y Soprano a'r Cornets ar bob amgylchiad yn artistic yn eu gwaith, a chlir mewn tonyddiaeth. Yr oedd manylder y chwareu, gyda light and shade a mynegiant, a'r cydbwysedd dymunol yn hynod o daraw- iadol. Yr oedd y rhaglen yn un nad anghofir yn fuan." DARLITH.-Mawr ganmolir y Ddrctiith dra- ddodwyd gan Mr. J. Lloyd JonesjLlyfrgellydd, vn Nghapel Trefeini, nos Iau diweddaf, pryd y llywyddodd Mr. Robert IDavies. Y testyn ydoedd Hen ddywediadau Brodorion Ffestin- iog." Dylai pob Eglwys fynu clywed y y Ddarlith odidog hoa, gan mor ardderchcg ydyw. FOOTBALL.—Next Saturday, the Festiniog Town will journey to play Carnarvon at the latter place, while the Reserves will meet Machno Rangers at the Newborough Park. The followirg h¡ve been selected to represent the Reserves:—Bob Smith; Wm. Ellis and Bob Ellis; Hugh Willirms, W. H. Williams, and Richard Jones; Owen Roberts, O. Cled- wyn Owen, Johnny Hughes, C. R. Owen, and John Pritchard. Referee, Mr. O. D. Owen. Admission 2d and Id. Kicjt 00 3 p.m.
.yyyyTAPJYGRISIAU.YYYYYYvI
y y y y TAPJYGRISIAU. Y Y Y Y Y Y v I HEDDGEIDWAID.—Y dyddiau diweddaf hyn symudwyd Mr Jones yr heddgeidwad i'r Bala, a Mr LloycJjo'r Bala yma. Y mae pob croesaw a dymuniadau da iddo. DARLITH —Nos Wener yn Festri Bethel, o dan lywvddiaeth y Parch Silyn Roberts, caf- wyd darlith gan Dr Phillips, Bala, ar "Myths Gwrandawyd yn astud arno gan y gynulleidfa yn traddodi yn hwylus ar y testyn, a diolchwyd iddo ar ran y Gymdeithas gan y Mri R. Wil- liams, Broneirian, ac H. H. Roberts. Cafwyd sylwadau hefyd gan y Llywydd. CVDYMDEIMLAD-Yr wythnos defiweddaf bu farw plentyn bach ieuengaf Mr a Mrs David J. Williams, Tynewydd, a pha rai y mae pawb yn cydymdeimlo yn ddwys. YN Gwz. LLA,-DA genym ddeall fod ein cleiSon yn graddol wella, a bod amryw deulu- oedd yn ciel gollyngdod wedi bod mewn caeth- iwed. Y CHWARELAU,—Y mae chwarelwyr y rhan- barth hwn alian o waith yr wythnos hon eto o achos y tywydd a pbrinder dwfr. AUCTION.—Yn Shop Mr Roderick J. Davies c'iriwyd yr oil o'r nwyddau brydnawn Sadwrn diweddaf trwy arwerthiant cyhoeddus. gan Mr George B. Hughes. Y mae Mr Davies yn dir- wyn ei fasnach i fyny gan ei fod yn bwriadu symud o'r gymydogaeth. HEN BREGETHWYR CYMRU oedd testyn y Gymdeithas Lenyddol yn Bethel nos Fawrth diweddaf. Agorwyd y mater yn rbagorol gan Mr Richard Owen, Barlwyd Avenue. Cafwyd sylwadau pellach gan amryw o'r aelodau, ac ymwahanwyd wedi terfynu tymor y Gymdeith- as am eleni, a pbawb wedi eu boddhau.
LLAMRWST.
LLAMRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Blurys Sefydledig. St. Crwst.—10 30 a 6, Gwasanaeth Cymreig. St. Mary.—11 a 6, Gwasanaeth Seisnig. Y Methodistiaid. Seion-Parch RobertThomas, Llanerchymsdd. Heol Scotland.-Parch. D. Charles Evans, F.G S. Yr Annihynxvyr. Tabernacl.-Parcb. T. Jones, Caergybi. Ebenezer.—Myfyriwr. Y Wesleyaid. Horeb.—'Parch. T. C. Roberts. St. James (English Chapel).-Rev. A. F. Hubbard. Bed yddwyr. I Penuel.—Parch. Spinther Jsmss. SALE T ALYCAFN .-Cafodd Mri. R. & Roges Joues sale lwyddianus yn Talycafn ddyddLlun. Myllt 32/ Manogiaid 23/6. Crosbred (cyp- lar.) i fyny i ddwy gini 86 o Fustych tewion 117 175 6c. Heffrod C19 15s Oc. Buchod £ 17. Teirw-fl8. Bustych, a Heffrod cadw £9 10s Oc, Bucbod Cyflo a Blithion £17. Eto Heflrod £ 13 15s 0c. Moch Tewion £ 7 2s 6c. Lloi t2, Cynhaliwyd cyfarfod o Bwyllgor yr Eistedd- fod nos Lun yn y Neuadd Gynull, pryd y caf- wyd trafodaeth ar amryw faterion yn ngiyn a'r NVyl agoshaol. Hebryngwyd gweddillion v diweddar E. Evans, Union Inn, ddydd Gwener, i fynwent Eglwys St. Mary. Y mae y Parchn. J. Lewis Williams, M.A., B.SC., ac E Jones. M A,. B.D., Dowlais, wedi addaw gwasanaethu yn Nghyfarfod Blynyddol Ebenezer y Groglith. Yn nghyfarfod Cymdeithas y Tabernacl nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr. W. G. Owen, cafwyd dadl dda ar Pa un a'i ofn cosb neu enill gwobr sydd yn meddu y dylanwad mwy- af ?" Agorwyd o blaid y blaenaf gan Mrs. Morris Thomas, a'r diweddaf gan Mrs. G. Jones, George Street. Yr olaf gafodd fwyafrif o bleidleisiau. Cynha'iwyd cyfarfod arbenig o Fwrdd y Gwarcheidwaid ddydd Mawrtb. i ystyried cais Mr. R. E. Thomas am ychwaneg yn ei gyflog fel Tretbgasglydd. Adroddir i'r Bwrdd reol- aidd beth a basiwyd, ac yno y bydd y mater o dan ystyriaetb derfynol. Llywyddodd Mr. R. Thomas yn y Mutual nos Fercher, pryd yr agorodd Mr. W. H. Wil- iams drafodau ar "Dynu Gwifrau" (Wire' pulling), Cymerwyd rhan gan yr holl aelodau. "Hen Gymeriadau Llanrwst" oedd testyn erchiad dyddorol Mr. Robert Williams, Gwydr House, o flaen cymdeithas Seion nos Wener. Cafwyd noson dyddorol iawn, a chy- merodd amryw ran yn y drafodaeth. "Y Beibl eedd testyn papur dyddorol Mr. 1 John Jones, o flaen Cymdeithas Horeb nos Lun. Llywyddwyd gan y Parch. T. C. Roberts,. Siaralodd amryw ar gymwys y papur. Y mae Mr. Cynrig Elias yn debyg o'n gadael am yr Unol Dalaethau gan ei fod wedi derbyn penodiad pwysig yno. Bydd yr etholiad agoshaol yn un dyddorol iawn, gan yr enwir llu fel ymgeiswyr tebygol am y pedair sedd yn myned yn wag aryCyngor Dinesig. Bydd y pedwar cyn-aelodau yn sefyll, heblaw fod son am saith o rai newydd- ion. Nos Fercher, bu Mr. Sam Thompson, yr Ymgeisydd Toriaidd yn Anerch yr etholwyr. Diffyndollaeth yw ei hoff bwngc.
I-ADOLYGIAD.
ADOLYGIAD. "O'R SIABOD I GAERSALEM."—Adolygiad ar y Llyfr newydd dyddorol hwn yn ein nesaf I
vvvvvv BETTWSYCOED.
vvvvvv BETTWSYCOED. St. Mary.—Parch. R. M. Jones, M.A., Ficer. Brynmawr.—Parch. T. Mordaf Price, Llanid- loes. T abernacl.—Myfyriwr. Nos Lun trsddododd y Parch. Luther Thomas, bregeth yn nghapel y Tabernacl ar ran y Genhadaeth Gartrefol. Y mae Post-feistr Llandudno yn ymofyn am rywun fydd yn barod a chymwys i dderbyn Llythyrdy yn Pentredu, gan fod cais wedi ei wneyd gaa drigoiion y lie am gyfleusdra o'r fath.
- - - - - - - - - - - - -…
-I MAEMTWROG. Mae un dos o EASINE yn fwy effeithiol na dim arall at Gur yn y Pen, Niwralgia, a'r Ddsnodd. I'w gael gan Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog. SALE.—Sylwer fod Williams & Co., yn par- hau i werthu nwyddau yn eithriadol o rad yn New London. House am yr wythnos bon eto. Bargeinion mawrion yu ffenestr haner coron, a'r fienestr swllt, a bu canoedd ynoyn pwrcasu o'r nwyddau gynygir. Gwnewch frys i ym- weled a'r lie cyn i'r Sale fyned drosodd.
VWWNAA\^NAAVVWvVWvWvVW I I…
VWWNAA\^NAAVVWvVWvWvVW I TREFRIW. Y mae son y bydd Gwaith Dolgarrog yn ail gychwyn yn Gorphenaf, a mawr obeithiwn fod hyny yn wir. Mae llwyr angen am i rywbeth ddod i roddi bywyd yn y He. CARREG GOFFA IEUAN GLAN GEIRION- YDD.-Y rnae yn mwriad carwyr Hen, awen a chan, yn Nhrefriw er's amser bellach osod maen coffa i'r cerddor gwych, y lIenor coeth, a phlentyn gwir yr awen fagwyd yn Nhrefriw. Deallwn fod y garreg hardd erbyn hyn yn barod gan Mr. Wm. Hughes, Llanrwst, ac y bydd yn cael ei gosod rai o'r dyddiau nesaf yma wrth hen dy enwog Tanycelyn, sef man genedigol yr awenydd per. Y mae'r Pwyllgor yn awr wrth y gwaith o drefnu cyfarfod i ddadorchuddio y golofn. Diameu y daw 11a o'n Ilenorion a'n beirdd i'r ardal y diwrnod hwnw i dalu gwarogaeth o barch i enw'r emynydd gyfansoddodd "Ar lan Iorddonen ddofn," 0 Dduw rho im dy hedd," ac eraill. Ltawer ymwelydd fu yn canu ei emynau anfar- wol yn Nhrefriw, heb erioed wybod mae yn Tanycelyn y cafodd ei eni. MARWOLAETH MR. PRICE JONES, Ty CAPEL,—Torwyd ar dawelwch y Sabboth di- weddaf gan y newydd galarus uchod. Ar ol dioddef o hono fisoedd o gystudd caled yn dawel a dirwgnach. Hunodd yn yr Iesu yn ,?in nad* oedd ond 53 nghanol ei ddyddiau, pan nad oedd ond 53 mlwydd oed. Dyn tawel a eharedig oedd efe. Yr oedd gwen ei wynebryd bob amser mor siriol a heulwen Hefin. Yr oedd yr elfenau hyn yn ei wneyd yn un oedd wedi enill lie dwfn yn nghalon pawb o'i gydnabod. Nid oedd neb mwy parchus yn mhlith ei gydweith- wyr na P. Jones. Yn ei ymadawiad collodd eglwys Peniel un o'i swyddogion ffyddlonaf. Pwy bynag fyddai yn ol o'r moddion byddai ef bob amser yn cadw y orws yn agorad, ac yn barod i gynorthwyo yr achos da yn ei flaen. Yr oedd yn meddu hoffder at gerddoriaeth, bu yn gymorth mawr gyda Chaniadaeth^y Cysegr, bu hefyd yn ddosbarthwr "Cylchgronau" yr enwad am flynyddoedd. Yn ei symudiad collodd Trefriw un o'r dymuniadau gorau a phrydferthaf ob!egid yr oedd yn ol tystlolaeth y rhai a'i hadwaenai oreu yn Gristion gloyw. Claddwyd ddydd Iau am 2-30 p.m. yn nghladdfa gyhoeddus Trefriw. Fy mrawd trwy fisoedd cystudd maith, Y daeth y daith i'r diwedd. Mae persain can y seintiau cu I ni mwy fry'n prfoledd; Ar nawn ddydd Sabbath bur y llawr, I'r Sabbath mawr tragwyddol, Esgynodd ef i'r Nef i fyw, Y Ganaan wiw ysbrydol. DEWI DEULYN. I
[No title]
vvvv Y map y Parch. Thomas Rees, M.A., Is-brif Athraw Coleg Anibynol Aberhonddu, wedi ei benodi yn Brif-Athraw Coleg Bala-Bangor yn He y diweddar Brif-athraw Dr. Probert.
Advertising
PRUDENTIAL ASSURANCE COMPANY, LIMITED. j CMeiOmce:—HOLBORN BARS, LONDON. 1 Summary of the Report presented at the Sixtieth Annual Meetings held on 4th March, 1909. ORDINARY BRANCH.—The number of policies issued during tba vear was 80,379, ] assuring the sum of 97,614,898, and pro- ducing a new annual premium income ofj 9440,376. The premiums received during the vear were S4,616,337, being an increase of 9, 135,960 over the year 1907. The claims of the year amounted to 92,8 12,962. The number of deaths was 8,389, and 15,322 endowment assurances matured. The number of policies in force at the end of the year was 866,797. INDUSTRIAL BRANCH.—The premiums received during the year wele £ 6,925,755, being an increase of 9, 264,124. The claims of the year amounted to £2,610,345, in- cluding £72,696. the proportion of bonus paid since the date of the last Annual Meeting. The number of claims and surrenders, includ- ing 4,355 endowment assurances matured, was 310,722. The number of free policies granted during the year to those policyholders of five years' standing and upwards who desired to discontinue their payments, was j 145,261, the number in force being 1,395, 929. The number of free policies which became claims during the year was 40,094. The total number of policies in force at the end of the year was 17,963,127 their aver- age duration exceeds eleven and a quartet years. The assets of the company, in both branch' .■ es. as shewn in the balance shept. are 51 958,859, being an increase of £ 3,952,57^ over those of 1907. In the Ordinary Branch a reversionat1 bonus at the rate of £1 12s. per cent. on tllo original sums assured has again be added to all classes of participating policies issued sincc the year 1876. The Directors are pleased to announce aJ1 increase in the Industrial Branch bonus. A" policies of over five years' duration whiC become claims either by death or maturity of endowment from the 5th of March, 1909. to the 3rd of March, 1910, both dates inclusive, will participate. This bonus will be paid by way of addition to the sums assured of :— S5 per cent. on all policies becoming clats upon which at least five but less than ten yeglfs premiums have been paid. £ 10 per cent. on" all policies becoming claims upon which at least ten but less tbaD twenty years' premiums have been paid, and £ 12 10s. per cent, oa all policies becoming claims upon which at least twenty years I premiums have been paid. I x General Balance Sheet of the PIUDCR.tia! Assurance CompanYf Limited, being the Summary of both Branches, c'n the 81st December, 1303. LIABILITIES. £ s. d. ASSETS. £.; d. LIABILITIES. £ s. d, Eritish Government secUri¡¡3 3,4]6.799 17 6 Shareholders' capital 1,000.000 0 Indian and Colonial govern- Reserve funds 2,850,000 0 ment securities 6,232,786 12 ■ Life assurance funds 67,894,765 0 Railway and other debentures ) 7 S 6 12 11 Claims under life policies and debentures stocks, admitted 146,790 18 10 and gold & sterling bonds 10,119,247 2 1 Bonus under life policies re- Loans on County Council, served for distribution. 67,303 4 11 Municipal, & other rates 15,036.040 5 Freehold ground rents, and Scotch feu duties, 4,880,1C7 8 n' t » Freehold and leasehold pro- 1 '< party 3,739,237 18 11 Mortgages on property with- in the United Kingdom 8,997,567 2 Railway, Gas, and Water stocks 7,60.3,002 16 ? Suez Canal shares 161,192 13 Telegraph and other shares 96,984 18 0 Leasehold ground rents 8,207 13 0 Metropolitan and London r County Consolidated stocks, & City of London i bonds 248,406 8 9 Metropolitan Water Board 7 stocks 435,263 10 7 Bank of England stock 202,754 7 10 Indian, Colonial and Foreign corporation stocks 2,268,696 4 2 • Foreign government securities 2,438,547 8 4 Reversions and Life Interests 1,339,794 19 6 Loans on the company's policies 2,806,987 16 2 Rentcharges. 249,736 11 Outstanding premiums and agents' balances, 563,622 3 0 Outstanding interest and rents 587,149 17 1 Cash-In hands of superin- tendents 34,951 2 0 Do. On deposit, on current accounts, and in hand 451,774 6 0 C71,958,859 4 1 £ 71,958,859 4 1 H. A. HARBEN, Chairman. D. W. STABLE,),Jr oi.nt Sccret, an-es. FREDK. ScHO"OLING, lJ 0 t MD. VV. STABLE, iT S A. C. THOMPSON. J om anagers. J. SMART, J Otn ccretancs. THOMASC.DEWE ^} ni. teu,ors. ? W.J.LANCASTER, J I rectors. We report that with the assistance of the Chartered Accountants as stated below we have examined the foregoing accounts and have obtained aU the information and explanations that we have required and in our opinion such accounts are correct and the foregoing Balance Sheet is properly drawn up so as to exhibit a true and correct view of the state of tbe Company's affairs according to the best of our information and the explanations given to uS and as shewn by the books of the,Company. PHILIP SECRETAN,) 0 W. H. NICHOLLS, We have examined the Cash transactions (receipts and payments) affecting the accounts of the Assets and Investments for the year ended December 31st, 1908, and we find the same Í11 good order and properly vouched.. We have also examined the Deeds and Securities, Certificates, &c., representing the Assets and Investments set out in the above account, and we certify that they were in possession and safe custody as on December 31st, 1908. DELOITTE, PLENDER, GRIFFITHS & Co,, Chartered Accountants. 15th February, 1909. Pob manylion i'w cael trwy ymofyn a'r Prif Arolygydd, Mr. W. H. Mallet, New Street, Portmadoc; neu ar Is-arolygwyr, Mri. L. Davies, Pwllheli; H. Davies, Barmouth; E. Roberts, 42, High Street, Blaenau Ffestiniog; ynghyda'r Gorachwylwyr Lleol, Meistri T. J. Williams, Blaenau Ffestiniog E. Rowlands, School House, Tanygrisiau; J. R. Hughes. Rhiwgri, Blaenau Ffestiniog; D. Lloyd, 129, High Street, Blaenau Ffestiniog; D. M. Roberts, Holborn House, Ffestiniog T-. Owen, Bronallt, Trawsfynydd; T. lvlcrgan, Charcb Street, Penrhyn; a E. P. Roberts, P. O,, Llanfrothen. j < t N O M !——— t! Argrafiwyd a chyhoeddwyd gan Davies & Co., Swyddfa'r J RHEDEGYOD." Blaenau Ffestinioill
[No title]
Arcadian Pottery, with Local Coat of Arms. Prices from 6d to 1/4 per piece. Suitable for I Presents.—Rhedegydd Office, Bl. Festiniog.