Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

LLVS 1MA-SDDVLEMON LLANRWST.…

• DOLWYDDELEPtf. I

I LLAFFAIR, ger HARLECH.I

GWYL DEW5 SANT TU -HWfCT S'H…

FFESTBNIOQ. I

IEISTEDDFOD EGLWYSWYR PEN-MACHfttO.

TRAW3FYNYCD.

BEDDOELERT...-1

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEDDOELERT. -1 Dydd Gwener diweddaf, cymerodd digwydd- iad pruddaidd le trwy i eneth fach pedair a haner blwydd oed syrthio i'r afon a boddi beb yn wybod i neb casiwyd hi i lawr yr afon tna can' llath o'r lIe y tybid iddi syrtbio pryd yr ataliwyd hi gan faen mawr yn yr afon. Gwel- wyd hi ac aed trwy y dwfr gyda brys gan John Roberts, Sygun Terrace. Yr oedd ei mbam wedi anesmwytho ac wedi codi ei chymydog- ion i edrych am dani, a dyna yr achos i John Roberts edrych i'r afon a chanfod yr eneth. Mae cydymdeimlad yr ardal a David a Charl- otte Griffith, tad a mam vr eneth bach, yn eu profedigaetb chwerw. Dydd Sadwrn dilytiol, am 12 o'r gloch, cynhaliodd Mr. J. Pentir Wil- liams (Crwner) drenghoriad ar y corph. B'aenor y Rheithwyr ydoedd Mr. David Jones, Emrys House, Caed trafodaeth ar yr olwg gafwyd ar gefnau y tai, syndod fod cyn lleied yn boddi mewn lie a dim math o ddim atalfa rhag myned i'r afon dylai perchenogion tai gadw eu tai mewn treln. Mae y lie y credid i'r eneth fach syrthio a boddi yn beryglus i unrhyw un. Mae y Stryt ar ei hyd yn destyrs siarad y trethdalwyr. Myner gan rywrai i godi gwaliau, &c,ynylleoedd sydd yn beryglus, dyma leoedd ag a fyddai vn fendith ddwbl er diogelu bywydau ac er rhoddi gwaith i'r di- waith. Bwriwyd Rheithfarn o farwolaeth trwy foddiad yn ddamweiniol. Pasiwyd pleidiais o gydymdeimlad a'r teulu gan y rheithwyr. MARWOLAETH GLASLYN.—Claddwyd ef ddydd Gwener, yn Beddgelert. Gwasanaeth- wyd gan y Parcbn. Robert Roberts, Penrhyn. a R. Pryse Ellis, Beddgelert. Daeth cynulliad parcbus yn nghyd i dalu y gytnwynas olaf i'r hen fardd. Gadawodd ddau fab, sef John Owen (Ap Glaslyn) a Richard Glaslyn Owen, a gellir dyweyd fod y ddau fab yd da!entog fel eu tad, a gobeithiwn y byddant yn gwneyd defnydd o'u talehtau yn yr iawn gyfeiriad, Deallwn fod Ap Glaslyn yn efengylu, bendith fyddo ar ei ymdrechion. Mae y boneddwr caredig Mr T. E. Roberts, Plasybryn, wedi cymeryd rhan helaeth os nad yr oil o'r draul o gladdu Glaslyn, am eu bod yn ben ffryndiau. Da fyddai i lawer ffrynd cefnog fel Mr Roberts gofio am y tlawd yr adeg galed breseool. Prydnawn Sadwrn, daeth Mr Davies, Porth- madog, a Mr Jones, Parciau, Criccieth, dau o aelodau y Cynghor Sir, i gyfarfod a Mr Hum- phreys, aelod arall o'r Cynghor Sir a Managers yr Ysgol i edrych safle y bwriadir adeiladu Ysgol Newydd. Dyma symud i'r iawn gyfeir- iad. Gobeithiwn y bydd y dewisiad yn rhoddi boddlonrwydd cyffredinol fel ile iach a chyfleus i'r plant. Nos Wener, crnhaliwyd Cwrdd Plwyf, Dau ddwsin o'r aelodau ddaeth ynghyd i wrando ar yr Ysgrifenydd yn darllen Cofnodiob Blwyddyn o waith y Cynghor, ac yn wir rhy ddrwg oedd gweled cyn Ileied o sel wedi iddynt fod yn ymdrafferthu gyda'r gwaith y Plwyf am flwyddyn. Diolch rby wael ydyw diolcli fel hyn oddiar law trethdalwyr. Pa ryfedd eu bod heb gael gwelliantau ag yr ydym mewo gwir angen am danynt. Mae yn bryd ein deffro at ain gwaith a'n dyledswyddau. Deallwn fod Ysgrifenydd a Thrysorydd Newydd wedi eu dewis am y flwyddyn nes-if i Odyddion Cyfrinfa Glaslyn, sef Mri. J. W Jones, Frondeg, a W. R. Evans, Preswylfa. Yr oedd golwg pur addawol ar y Gyfrinfa nos Sadwrn. Yr oeddis yn derbyn dau aelod newydd a chynygiwyd chwech o'r newydd i gael eu derbyn yn mhea y mis. Diolchwyd i'r ddau hen swyddog trwy i'r oil o'r aelodau godi ar eu traed.—YMWELYDD.