Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
BWRDD GWARCHEIDWAiD1 LLANRWST.
BWRDD GWARCHEIDWAiD 1 LLANRWST. Cyfarfu y Gwarcheidwaid canlynol ddydd Mawrth,-Mri. D. G. Jones (Is-gadeirydd) yn y gadair; Parch. John Gower, Patch. H. Rawson Williams, Parch. J. Llewelyn Richards, J. Lloyd Morris. Hugh Roberts, Evan Williams, E. W. Roberts, W. G. Jones, John Hughes, T. T. Roberts, Edward Roberts, John Berry, John Williams, John Hughes, O. Lloyd Jones, R. T. Ellis, David Owen, David Lewis, Isaac Hughes, John Davies (Gwytherin), Edward Edwards, Owen Evans, David Jones, Robert Williams, David Jones (Llangernyw), R. R. Owen (clerc), Thomas Hughes (clerc cynorthwyol), Edward Hughes (Meistr y Ty). ) Yr I!iissn a'r Tlcd'on, Adroddodd y Clerc fod 26 0 dlsuiofi yn- r; Ty, ar gyfer 29 yr un adeg y llyftfedd; 3o; leihad. Yr oedd 295 o dlodion oddiallan i'r Ty i'r rhai y talwyd £ 184 9s 7c yn ystod mis; ar gyfer 313 yr un amser y Ilynedd i'r rhai y talwyd f 191 14s 3c Ileihad o 18 yn y tlodion, a £ 7 4s 8c yn yr elusenau. Adroddiad y Meistr. Y Meistr a adroddodd i 89 o grwydriaid yn vstod y mis, ar gyfer 105 yr un mis y llynedd Ileihad o 17. Adroddodd Mr. Hughes i 1005 o grwydriaid alw yn y Ty yn ystod 1908; a 1097 yn ystod 1909; cynyddo94. Yn 1908 yr oedd yr elw oddiwrth bobpeih wnaed yn nglyn a'r Ty yn £ ll 16s 7}., ac yn 1909 yn (54 16s 3c. Eleni yr oedd yr holl elw o bob ffynonell yn f 70 8s 9j. Yr oedd holl gostau v Ty yn 1908. yn £ 692 7s 7f ac yn 1909 yn £ 547 4s 7t; lleihad o J45 33 ai. Deddf y Plant. Y Clerc a eglurodd y ddeddf newydd oedd yn dod i mewn ar Ebrill laf. Penodwyd y Swyddogion Elusenol yn Arolygwyr o dan y Ddeddf newydd. I Arianol. Y Clerc a hysbyscdd fod pob plwyf wedi talu eu galwadau. Yr amcan-gyfrif am yr haner blwyddyn ydoedd [3.200, o'r rhai yr oedd £ 1984 i'w tynu allan fel symiau ddeuent i mewn o wahanol ffynonellau, gan adael £ 1216 i'w codi trwy dreth, yr hyn oedd yn gyfartal i bum' ceiniog a ffyrling yn y bunt ni bu treth yr Undeb mor isel er s llawer ivwn oflynyddoedd. Er nad oedd eisiau ond £ 1393, yr oadd costau y Cyngorau Sirol yn yr Undeb yn £ 3,215. Yr oedd treth Cyngor Sir Caernarfon yn dod i l/9jc y bunt, a Sir Ddinbych i 1/lfc y bunt. Adroddodd y Clerc am y ddau achos y bn Mr. A. Griffith yn ymddangos ynddynt ar ran y Bwrdd, a sylwod amryw o'r aelodau fod ai fee yn nodedig o resymol. Cyflenwi y Ty. I Y Parch J. Llewellyn Richards a gyflwynodd adroddiad y Pwyllgor fu yn ystyried y cynyg ion am gyflenwi y Ty a nwyddau am yr haner am yr haner blwyddyn nesaf. Argymellent dderbyn y rhai canlynol-Glo. E Salisbury & Sons," Colwyn Bay. Cig, Wiliam Jones, Hand, Llanrwst. Ymenyn a llefrith, William Jones, Berthddu. Groceries a Bara. E. B. Jones & Co., Llanrwst. Esgidiau, William Griffith, Llanrwst. Eircb, Jeremiah Jones, Llanrwst. Eiilio, William Morris. Wedi cryn gwestiyno, "a'r oil yn diweddu mewn dim ond treulio amser," pasiwyd argymeilion y pwyllgor ar gynygiad Mr Gower a chefnogiad mdr,i. Berry. Mcistres Gynorthwyol. I Yr oedd tair yn ymgeisio am le fel Meistres Gynorthwvol yn y Ty, sef. Dinah E. Wiliiams, Stentir, Penrhyndeudraetl) Martha Ellen Jones, 42, Denbigh Street, Llanrwst; a Lizzie Thomas, Manaros, Trawsfynydd. Yr oedd gan y tair lythyrau cymeradwyaeth hynod o ganmoliaethus. Dewisiwyd Miss Jones gyda mwyafrif.—Cani&tawyd cais yr Is-feistres bres- enol i gael ymadael mor fuan ag y byddo yn gyfleus i Miss Jones ddod i'w lie. Cyflog y Trethgasglydd. I Yr oedd Mr. R. E. Thomas wedi anfon cais am godiad yn ei gyflog fel Trethgasglydd yr Undeb, a bu y Bwrdd yn eistedd mewn Pwyllgor yr wythnos o'r blaen i ystyried y mater. Y Clerc. a adroddodd fod 25 yn bresenol yn y Pwyllgor allan o'r 31 Gwarch- eidwaid allasent fod yno. Ystyriwyd i ddech- reu y pricdoldeb o drafod y mater, a chododd 13 eu dwylaw o blaid, a 12 yn erbyn Yna cynygiwyd codi £30 yn y cyflog, a chododd 12 eu dwylaw dros hyny. Gwaith y Bwrdd yn awr oedd mabwysiadu neu wrthod yr argymelliad.—Mr. J. Lloyd Morris a gynygiodd fabwysiadu neu urthod argymelliaC1 y Pwyllgor, a chefnogodd Mr. Evan Williams—Mr. W. G. Jones a gynyg- iodd welliant na byddont yn codi y cyflog o herwydd fod y beichiau presenol yn llethol fel yr oeddynt; a chefnogodd Mr. William Evans. Yr oedd yn anhawdd talu petbau fel yr oeddynt heb. son am gcdi rhagor. Grwgnechid codi ychydig elusen y tlawd ond nid oeddid yn pstruso cadi qflogau. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gymdeithas Masnachwyr Uaarwst yn protestio.yn erbyn codi y cyflog oherwydd y beichiau trvmion oedd arnynt eisoes, Mr. E, W. Roberts a ddywsdodd fod Cwrdd Plwyf Penmachno yn argymell codi £15 yn y cyBog; a Mr. Richards a ddywedodd fod Cwrdd Dolwyddelen wedi pasio yn erbyn codi am amryw resymau.—Ccdodd 8 eu dwylaw dros godi £ 30 yn y cyflog, a 17 yn erbyn codi dim ar y cyflog. Mr. J. Lloyd Morris a alwodd sy!w at yr anghyfartalwch yn y swm a dalai y gwahanol blwyii am gasglu y trethi, a rhoddodd rybudd o gynygiad ar y mater at y cyfarfod nesaf.
[No title]
Anfonwyd dyn o'r emv Ogle Waite i sefyll ei brawf yn Berwick, ddydd Mercber, ar gy- huddiad o geisio lladd ei hun tra alias < waith. <
ADOLYGIAD Y WASG.
ADOLYGIAD Y WASG. O'R SIABOD r GAERSALEM. —Dyna deitl llyfr Mr. E. C. Roberts, Dolwyddelen, yr hwn ddaeth allan o'r wasg ddiwedd yr wythnos. Hanes taith o Dolwyddelen i Jerusalem ydyw, ac y mae ol Haw athrylith ar bob dalen o hono. Yr oeddym wedi darllen llythyrau ein cyfaill ffraeth ac amryddawn yn Y Drych" yn ystod y iflwyddyn ddiweddaf, a gresynem y pryd hwnw am nad allem eu cael mewn ffurf o lyfryn hylaw i droi i mewn iddo i ymgyngoii ag ef pan fyddai galw am hyny; ond erbyn hyn nid oes le i gwyno, gan fod yr oil wedi eu diogelu mewn modd trefnus ac yn nghyraedd pawb. Rhaid oedd darllen y Hyfr drachefn o elawr i glawr, a phleser digymysg fu hyny i ni ar gyfrif y dull tarawiadol a digwmpas y 1 gesyd yr awdwr yr hanes o'n blaen, QNyy mHQegq c d^rll?nwyr y RHEGSGYDD am Mr. iRebtsits fel teithhvf sylwgar a chraff, ac fel un nad yw prysurdeb masnach a galwadau bydol yn myned a'i fryd pan el ar ymweliad a gwled- ydd eraill. Darllena lawer gartref, ac y mae ei gydnabyddiaeth drylwyr a'r Ysgrythyrau yn gymwysder mawr ynddo i weled y wlad y cymerodd yr amgylchiadau mawiion a gofnodir ynddynt le. Heblaw hyny, y mae wedi ym- gy-ngori a dilyn gwaith ysgrifenwyr di)weddar&f ar yr Aifft a Chanaan. Yr oedd ein dysgwl- iadau yn uchel am rywbeth gwerth ei ddarllen ganddo, a chawsom ein llwyr foddloni. Siomir ni yn ddirfawr os na bydd galw mawr am ei lyfr. Cychwyna o Dolwyddelen trwy Lvin- dain, yna i Paris ac ar draws Ffraingc trwy Lyons, Marseilles, a Mor y Canoldir, i Alex- andria yn yr Aifft. Cyrhaedda Cairo a'r Pyr- amidiau, ac a oddiyno am Joppa. Dyffryn Saron, ajerusalem. Ymdroai wneyd sylwadau ar y manau yr el trwyddynt ae ar ol cyraedd Caersalem, erys i fanylu ar Wlad Canaan, ei tbrefi a'i hynodion, a hvny yn y dull dymun- olaf yn bosibl. Ni ddarllenasom ddim mor ddyddorol er's llawer dydd, ac y mae ein dyled yn fawr i'r awdwr am roddi i ni ffrwyth ei syl- wadaeth ar faes sydd yn rhwym o aros yn bwngc ymchwil dros holl ossau y ddaear. Gellir cael y llyfr am swllt gin, yr Awdwr.-C.
SEDOGELERT. I
SEDOGELERT. I Yn Ysgoldy y Cyngor nos Sadwrn 27ain, cafwyd cymorth i chwerthin gan Ap Hari, Bangor, y dynwaredwr a'r tafl-.eisydd enwog yn rhoddi dwy awr o adloniant. Llywyddwyd gan Mr. W. R. Williams, y Llythyrdy. Yr oedd yr Ysgoldy yn llawn yn mhell cyn amser dechreu. Canwyd Duw Mawr y rhyfeddod- au maith," gan y dorf i ddechreu y cyfarfod yn effeithiol. Yna galwyd ar Ap Hari a gallwn sicrhau ei fod yn ei hwyliau goreu pan yn dyn- wared cymeriadau tebyg i'r Suffragettes, &c., pan gyda yr hen wr a'r hen wraig yr oedd oreu yn sicr pawb i'w gweled wrth eu bodd. Adioniant yn ngwir ystyr y gair ydoedd. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan Hilda Pierce, Iorwerth E. Parry, D. J. Williams, John Williams, Lliwedd View, a Mrs. Rees Williams, o'r Deheudir, Mrs. Jones, Saracen's Hotel yn cyfeilio. Nos Sabbath, cafwyd un o'r anerchiadau goreu ar ddirwest gan Ap I-lati, yn ddi-dder- bynwyneb ar y drwg o ymyfed a mynychu tafarnau gan aelodau eglwysig. Anuwiol iawn ydyw y rhai sydd yn eistedd i lawr yn y tafarn- au i yfed yr hyn sydd yn niweidiol i ddyn ag anifail. Mawr obeithiwn y bydd ei sylwadau miniog yn effeithio er daioni, ceisio gan y bobl ieuanc i roddi heibio yr hyn sydd ynei damnio Mae llawer o'n ieuengctyd yn mhell yn y cyfeiriad yma. Caffed Ap bir oes a iechyd corph i wasanaethu yr hwn a garai mor fawr, a'r hwn a'i gwaredodd rhag yr un drwg.— GWRAÑDA WR.
ITRAWSFYNYDD. ----J
TRAWSFYNYDD. J MARWOLABTH.—Drwg iawn genym gofnodi am farwolaeth Mr. Evan Williams, Ty'r Capel, Jerusalem, yr hyn a gymerodd le boreu ddydd Gwener diweddaf yn yr oedran deg o 76 mlwydd. Yr oedd yn aelod ffyddlon o'r Eglwys Anibynol yn Jerusalem. Claddwyd ddydd Mawrth yn mynwent Pencefn. Cafwyd gv/asacaeth byr yn y Capel cyn cychwyn. Gwasanaethwyd yn y Capel gan y Parch. J D. Richards, Gweinidog, EC wrth y bedd gan y Parchn. David Hughes (M.C.), Phillips (B.), a Richards (A.) CONFIRMASIWN.—Aeth nifer lied dda o aelodau Eglwys Sant Madryn oddi yma i Maentwrog ddydd Sadwrn diweddaf i fod yn llygad dyst o weled nifer o biant yr eglwys yn cael eu Confirmio, Yr cedd amryw gyfarfod- ydd Parotoawl wedi cael ei cycal gyda'r Plant gan Mr. Davies y Rheithior, acyroedd Ilawen- ydd nid bychan wrth weled y plant yn cymer- yd dyddordeb mor fawr yn y gweithrediadau, fel ac i aberthu i fynd i lawr i'r Maen gyda hwynt. CYNGHERDD.—Cafwyd cyngberdd llwydd- ianus yn yr ysgol Genediaethol nos Sadwrn di- weddaf, o dan iywyddiaeth v Parch. D. P. Davies, Rheitbor. Cafwyd can agoriadol Hen Wlad fy Nhadau gan John M. Jones, Eden View, ac ar ei ol cafwyd detholiad ar yr offeryn gan Mrs, Morris, Bronygan, ac yna fe gafwyd Unawdau gan Mri Peter Williams, Bryneglwys, Evan W, Davies, Glandwyryd, a Hugh Evans, Cwrt, ac yna fe ddaethpwyd at brif waith y cyfarfod, sef cael perfformiad o'r Gantawd Cantata'r Biodeu," gan gor o 40 o leisiau, dan arweiniad Mr. W. J, Edwards Cymerwyd y gwahanol gymeriadau i fyny gan y personau canlynol. Bloèeu. (Friallen) ar (Violet), Miss Annie Jones; (Lily), Miss E. A. Davies; (Migadhette), Mrs. Mary Owens, Tygwyn (Pink) ar (Daisy), Miss Kate Ann Owen; (Rhosyn), Mr. David Morris; (For- getmenot), E. W. Davies; (Bottwm Gwr Ieuainc), Peter Williams; (Sweet William), W. J. Edwards. Cafwyd anerchiad tanllyd gan y llywydd ar y gwahanol Flodau, a cban- odd Miss Annie Evans, Cwit, a chafodd eacere a chanodd eilwaith. a dygodd hyn cylarfed i derfyniad. Chwareuwyd gan Mrs. Marvis. EXENEZER.-YN nghyfariod gwyr ieaaisgc MS Wener, cafwyd cyfarfod- a dan lywyddiaeth Mr Edwin Lloyd. Cafwyd can agoriadol Y Bacbgen Drwg," gan Her- bert John Jones, Tvgwvn. Cystadleuaetb, "Araethddifyfyr," Mr Evan Williams, Meir- ionfa. Cystadleuaeth canu y don 'Alexandria' i rai dros 50 oed, Mr John Jones, Pencafnau, gwobr tlws arian. Pedwarawd Bydd canu yn nefoedd," Mr. E. W. Davies, Glandwyryd, a'i gyfeillion. Canu'r don "Tanymarian" i rai dros 40 oed, Mrs Jane Jones, Tanlan, gwobr tlws arian. Am y ddau benill goreu i'r Llyw- ydd enillodd Mr Jacob Jones, Frongaled. Beirniad y gerddoriaeth ydoedd Mr Robert Roberts, Castle House, Trawsfynydd.
-CYNGOR -DINESIG -BETTWSYCOED.
CYNGOR DINESIG BETTWSY- COED. Cyfarfu y Cyngor tios Wener, pryd yr oedd yn bresedol. Mri. John Hughes (Is-gadeirydd) yn y Gadair, Robert Parry (Bryndyffryn), R. Rowlinson, T. W. B. Corns, Henry Williams, J. P. Faichney, J.T. Rees, Henry Roberts, R. R. Owen (Clerc), R. D. Jones (Arclygydd Iechydol), a R. E. Thomas (Trethgasglydd). Sedd Wag. I I Galwodd y Clerc sylw at y sedd wag oedd ar y Cyngor trwy farwolaeth Mr. David Roberts. Wedi peth trafodaeth cynygiodd Mr. Henry Roberts a chefnogodd Mr. Corns na byddont yn datgan y sedd yn wag.—Mr. Faichney a gynygiodd welliant eu bod yn dat- gan y sedd yn wag, a chefnogodd Mr. Rees. Cafwyd un o fwyafrif dros y gwelliant. I Arianol. Mr. Corns a roddodd adroddiad o waith y Pwyllgor Arianol. Biliau i'w talu £ 21 13s 6c, yn gadael gweddill o £ 150 17s 9c. Hysbysodd y Trethgasglydd ei fod wedi casglu £ 3 6s 3c yn ystod y mis, a bod gweddill o £169 11s 10 In aros allan. Gofynodd am gyfarwyddyd a oedd i erbyn yn yr achosion hyny. Cyfarwyddwyd ef i wneyd, ond iddo ymgyngori a'r Cadeirydd yn mhob achos. Goruchwylwyr y Tlodion. Ail benodwyd Mri Robert Parry, Bodiddon, ac Abel Davies yn Overseers am y flwyddyn. Akonia. wedl cryn dralodaetn pasiwyd i beidio pwr- casu dim Akonia i'w ddodi ar y ffyrdd i gadw y llwch i lawr. Dadleuai yr aelodau yn ei er- byn, a bod ysgubo yn llawer gwell cynllun at y pwrpas. Meinciau. I Yr oedd cynygion am gyflenwi y Cyngor a meinciau i'w ddodi ar ochr y llwybrau. Daliai Mr Henry Roberts mai magwrfa i segurwyr tragwyddol ydoedd yr eisteddleoedd hyn, ac na ddylid eu cefnogi.—Pasiwyd i ofyn am gyn- ygion pellach. Trwyddedi Pysdota. I Daeth gair o Gyngor Plwyf Dolwyddelen yn gofyn am i'r Cyngor uno yn eu gwrthwynebiad i godi trwyddedau pysgota gyda genweiri fel yr oeddid wedi pasio yn Mwrdd Pysgodfeydd Dyffryn Conwy.—Pasiwyd i gydsynio yn y mater. Llythyrdy. I Hysbyswyd fod Llythyrdy wedi ei sefydlu yn Pentredu lIe gellid cael Orders a'u nhewid. In- Hysbys-Fwrdd. eo. .1 1 Yr oedd twmm y Kneiirtordd wedi tretnu i gael Hysbys-fwrdd i enwi lleoedd o ddyddordeb yn yr ardal, &c. Methai y Cyngor a gweled y gallai Mr. Adams, Ffynon Cae Coch, enwi y lie hwnw ar y bwrdd. Ynys Pontypair. I Galwodd Mr. Faichney sylw at gyflwr amryw o'r Ynysoedd yn yr afon wrth Ponty- pair, a'u bod yn prysur ddiflanu.—Mr. Corns, Nid oes ond y pridd yn cael ei gario i ffwrdd, mae'r creigiau yn aros.Mr. John Hughes, Mae'r Brain yn eu cario i ffwrdd i wneyd nythod."—Awgrymodd y Cadeirydd y dylai Mr. Hughes gael gwn i saethu y lladron.— Pasiwyd i alw sylw Goruchwyliwr yr Etifedd- iaeth at y mater.
LLANFAiR, HARLECH.I
LLANFAiR, HARLECH. I Dydd Sadwrn, y 27aia cyfisol, cynhaliwyd ymrysonfa aredig yn y He uchod mewn maes perthynol i Mr L. Lewis, Argced. Ofnem yn y boreu mai diwrnod gwlyb geid, ond erbyn amser dechreu cliriodd, a chaed diwrnod rhag- orol. Yr oedd 11 wedi anfon eu henwau i'r Gystadleuaeth, ond naw ddaeth ymlaen, sef 6 yn y Dosbarth cyntaf a 3 yn yr ail ddosbarth, yr amser i ddechreu 10 o'r gloch y bore ac i orphen erbyn 4 prydnawn. Maint y Gwys 5 wrth 7 modfedd. Caniateid cynorthwyr iagor. Yr oedd pob un wedi gorphen erbyn yr amser gosodedig. Y dull gymerodd y beirniaid i benderfynu pwy oedd yr Enillwyr ydoedd cymeryd gwahanol bwintiau a rhoddi nifer o farciau ar bob Pwint. Marcia llawn ydoedd 150, ac fel hun y safent yn y dosbarth cyntaf. 1, Sam Williams, Rhosigor, Talsarnau 149. 2, E. Williams, Nant y March, Maenlwrog 134, 3, Owen Jones, Caernarfon, 123. Dosbarth 2, Marciau lJawD, 130. 1, John Parry, Cil-y- bronydd, Harlech, 126. 2, Robert Griffith, Rhosigor, Talsarnau, 112. 3, E. Ll. Roberts, Caesaeson, Trawsfynydd, 106. Yr cedd Mr. Lewis Lewis wedi paratoi ymboith ar gyfer yr Aradwyr a'i cynorthwyr yn Argoed Farm. Tystiolaeth yr edrychwyr ac yn ei plith luaws o enillwyr mewn ymrysonfeudd aredig na wel- sant ddim gwell troi yn unman erioed.-UN OEDD YNO.
I-- - - - - - - - - - - -…
I- PENRHYNDEUDRAETH. LLAWFER GYMRAEG.—Dymunwn longyf- arch pedwar o ddisgyblion Mr. E. J. Pugh, Caegwyn, ar eu gwaith yn myned yn llwydd- ianus trwy arholiad Llawfer Gymraeg. Dos- jbarth Elfenol, Miss Maggie Rees, Cae'rgraig, wedi enill 94 e farciau. Dosbarth cyflawn, Miss Kata Pritchard, Eryri Terr., 96; Mri. Rickard Hughes, Glaslyn Villa, 89. a J. D. J«nes, Pant y Ffynoa, 75, Safonrif y ddwy 10^
Y Diweddar Griffith WilliamsI…
Y Diweddar Griffith Williams I (Gutyn Meirion). Anhawdd sylweddoli ystyr y gair marw yn ei berthynas a'r brawd hoff, y cyfaill pur, a'r cymeriad rhagorol Griffith Williams. Yr oedd cymaint o elfenau bywyd ynddo, fel mai anhawdd, yn enwedig i'w gydnabyddion, ydyw meddwl am dano ond yn nghylch bywyd. Yr oedd yn gymeria I byw, dyddorol, a brwdfrydig ei natur yn llawn rhamant a nwyf chwareus, yr hyn a'i gwna mewn cymdeithas yn gwmniwr difyr ac adloniadol, ond ar yr un pryd yn fon- eddwr o ran ei ysbryd a'i chwaeth. Gwyddai pa fodd i fod yn chwareus heb dramgwyddo lledneisrwydd, ac i fod yn llawen heb fod yn ffol. Yr oedd o feddwl ymchwilgar, byddai rhyw gwestiwnneu bwcc yn wastad yn cael He yn ei fyfyrdod. Dadleuai yn wastad er mwyn cael goleuni, ac nid er mwyn dadleu ynddo'i hun. Yr oedd yn onest ac unplyg ei gymeriad, ac yn dcidderbyn wyneb yn ei holl gylchoedd. Diau mae ei gysylltiad a Chwmorthin swyn- hudorgynt, y mae mwyaf o banes iddo yn ei berthynas a'i gydweithwyr, tymor arhosai yn felus yn ei gof, ydoedd "cyfnod Cwmorthin." Ymddengys fod rhyw ymlyniadcyfeillgar iawn, a chydgord hapus iawn rhwng hen weithwyr y chwarel hono a'u gilydd sc mae'n debyg fod yn eu plith "gymeriadau" dyddorol, a "gwreiddiol" lawer, sc fel yn yr oil o'r chwa-elau, y "Ty Cinio" fyddai maes y brwydrau, a dadleuon a'r hwyl, ac ymddengys mai nid anenwog yn y cysylltiadau hyn fyddai I y doniol Gutyn druan. Byddai wrth ei fodd gyda rhyw hwyl dd'niwaid ynglyn a materion a rheolaeth y "Ty" hwnw. Fel y gwyddis fod yn perthyn i'r rhai hyn eu swyddogion — Llywydd etc., ac ar adegau etholiad y cyfryw, byddai y brwdfrydedd yn codi i bwynt uchel- a rhywrai yn sychedig a gorawyddus am yr anrhydedd o fod yn Llywyddion. Adegddifyr a hapus yn ei hanes ydoedd y cyfnod dyddorol hwnw, a gloewai ei lygad wrth son am dano. Fel gweithiwr ystyrid ef yn ddyn deallus, diwyd, gonest, ac ymdrechgar, ac yr oedd y nodweddion hyn yn bur amlwg ynddo yn ei boll gysylltiadau. Iddo ef, nid moddion i enill arian yn upig ydoedd gweitbio, ond edrychai ar y mater yn ei ystyr uchaf, yngoleuni ei grefydd, ac ystyriai anonestrwydd a thwyll yn y cysylltrad hwn yr un mor ddrwg-os nad gwaeth a mwy gwrthun nag yn unrbyw gys) Ilt- iad. Bu ei ofal a'i garedigrwydd tuag at ei rieni yn eu hen ddyddiau yn eithriadol. Hawdd deall arno fod yn ei galon le cynes iawn i'w rieni-yn enwedig ei fam. Bu mewn cysyllt iad agos a chrefydd ar hyd ei oes yn ffyddlon a gweithgar yn y cylch neillduol y troai efe ynddo,—yr ysgol Sabbothol yn fwyaf arbenig ond o bosibl fod ei grefydd wedi cael mwy o le a sylw yn ei fywyd ymarferol gerbron y byd, yn hytrach nag mewn geiriau ac ymddangos- iad gerbron y gynulleidfa yn y capel. Yn y practical yr ymhyfrydai. Yn ystod ei fywyd priodasol gwelodd lawer o gystudd yn ei deulu, ac oddeutu dwy flynedd yn ol, gafaelodd rhyw afiechyd rhyfedd yn ei gyfansoddiad yntau, ac er hyny bu yn dihoeni-yn rhyw farw yn araf o fis i fis, hyd ei ymadawiad prydnawn Sul Mawrth 21ain. Gwnaeth ymdrech ddewr, ddiflino, i geisio gwella, arwyddai yn angerddol am fyw, hyd o fewi ychydig wythnosau i'w farwolaeth. Er's rhai misoedd yn ol bu yn yr Ysbytty yn Lerpwl, dan archwiliad a gofal rhai or Meddygon blaenaf, a thra yno bu dan oruchwyliaeth yr-X Ray, ond bu raid dych- welyd heb fod wedi manteisio ond ychydig. Credwn y buasai llawer un pe yn ei sefyllfa, wedi aros yn ei wely i farw er's talm: ond yr oedd rhyw wydnwch ac ymroddiad eithriadol i geisio gorcbfygu ei afiechyd ynddo ef: gwelid ef ar yr heol pan bron yn rhy wan i ymsymud ond er pob ymdrech ar ei ran ef ei hun, ar ran ei feddyg, ei gyfeillion, a'i deulu-gildio fu raid. Yr oedd bias aeddfedrwydd melus ar ei brofiad yn y diwedd, a'r boddlonrwydd tawelaf i ewyllys ei Arglwydd. Cysgod y Goruwchaf fyddo amddiffyn ei deulu—yn enwedig ei briod, yr bon sydd mewn gwendid a llesgedd er's blynyddau-a rhodied y plant Iwybrau eu tad, a pharchent ei goffawdwriaeth byth trwy fyw ei addysg, a'i gynhorion cyson iddynt. Nid marw-ond huno y mae efe.
Cyfarfod Blynyddol RechabiaidI…
Cyfarfod Blynyddol Rechabiaid I Dosbarth Gwynedd. Cynhaliwyd yr ucbod yn y Greffin, Blaenau Ffestiniog, Mawrth 25ain, dan lywyddiaeth y Prif Reolwr, Mr. J. C. Owen, Penrhyndeu- draetb. Cafwyd adroddiad cynrychiolwjr gwahanol bebyll y Dosbarth, sef Bethesda, ger Bangor, Penmachao, Dolwyddelen. Blaenau Ffestioirg, Maentwrog, Trawsfynycd.Peni-hyn- rhyndeuaraeth a Llanfrothen. yr oil yn dangos gwaith mawr yn ystoi y ilwj d.iyn. Cwyn fawr y dosbarth oedd fed nifer yn colli eu hawl oherwydd cyflogau isel, a phasiwyd fod pob pabell i gymeryd i ystyriaetb y ffordd fwyaf priodol i geisio cynorthwyo aelodau rhag idd- ynt golli eu hawl oherwydd yr amgylchiadau a nodwyd. Rhifaelodau y dosbarth ydyw 1085, yn cynwys y plant; a'r Trysorfeydd yn £ 2573 12s. 8c. Yr oedd gweddill y Drysorfa Ang- laddol yn gyfryw ar ol y Valuation diweddaf fel y bu i Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn Mancein- ion roddi hawl i'r Dosbarth drosglwyddo c300 i'r Drysorfa Ghf. Peth arall y cafwyd sylw arno ydoedd y swm sydd yn cael ei dalu ar ddamweiniau, a bod yn debyg y bydd yr Uwch Gynhad!edd yn deddfu ar gyfer hyn. Talwyd i gleifion £ 706 16s. 5c.; o hyn mae £ 172 19s. 5c. wedi eu talu ar ddamweiniau. Bu ferw 8 aelod a 3 gwraig. Mae Pebyll plant y Dosbarth yn gwneyd gwaith rhagorol, trwy roddi 2/6 yn yr wythnos ar afiechyd, ac o 15/- i £ 10 ar farwolaeth plentyn, am y swm o 4c. y mis, heblaw eu dysgu yn egwyddorioh dirwest a darfcodaeth yn y cyfarfodydd gynbelir bob mis gyda hwynt. Enwyd y personau canlynol yn Swyddogion am y flwyddyn :—Cyn Brif Reolwr, J. C. Owen, Penrhyn Prif Reolwr, j. P. Thomas, Duffws; Is Reolwr, R. Thos. Parry, Prysor; Trysorydd, D. J. Williams, DQJSws; Lefiad. Edward Edwards, eto; t Gwyliedydd, John Jones, eto Ymddirledol- wyr, Griffith Edwards, Bethesda Arfon John Morris, Deudraeth; John E. Jones, Twrog; Archwilwyr y cyfrifon, John Jones, Manod, ac Owen T. Jones, Duffws; Arolygydd Pebyll y Plant, Robt. Williams, Deudraeth Ysgrifen- ydd Pebyll y Plant, Thos. Ellis Duffws; Ysg- rifenydd y Dosbarth, J. R. Evans, Duff ws Cynrychiolydd y Dosbarth i'r Uwch Gynhad" ledd Symudol, gyiihelir yn Birmingham, J, R. Evans, 13 Cromwell Street. Cafwyd cyfarfod' da, a phawb yn ymadael wedi eu symbylu i fwy o egni at waith y flwyddyn ddyfodol.
I -- _-_- -_- - - MAENTWROG.v…
I MAENTWROG. v v Y GOLWG.—Mae yn fantais i bawb sydd arnynt angen Gwydrau cywir i'r golwg, ddeall mae yr unig Optician yn Sir Feir- ionydd sydd wedi pasio Arholiadau mewn PROFI Y GOLWG ydyw Mr. Hugh Jones, F.S.M.C., Medical Hall, B!aenau Festiniog. Nos Sadwrn, yr 20fed cyfisol, cynhaliwyd cyngherdd hynod Iwyddianus gan blant Ysgol ddyddiol y lie uchod. Gresyn i'r hin droi mor anffafriol, and er hyny cafwyd cynulliad hynod dda. Llywyddwyd yn ei ddull medrus arferol gan y Parch C. P. Price, M A., Rheithor. Awd trwy y rhaglen chwaethus a ganlyn-Song, "Welcome Sower," Standards. Opening speach by Mr William Roberts. "Merry Little Gipsies," Infants. "Tea party," Standard 1 & 2, Girls. Song Dolls," L. S. Evans and K. Jones. Trio Urchins We," J. M. Richards, J. E. Roberts. Noel Humphreys. Dial "Tha Sick Dolly, J. Jones and T. Roberts. Song, Little Gipsies," Standards 1 and 2. Girls. Kinder. Game, "Keeping Shop," Infants. Song, "Topsy Turvy," Standards 1 and 2r Boys. Kind. Game, "Imitation." LowerClasses. Song, "The Tardy Scholar," Meggie Hum- I phreys. Recit, Going on an errand," Wil- liam J. Harris. Trio, "The Three Beggars," William Owen, J. Wiilliams and W. R. Jones. Song Bells," upper class Scholars. The Auctioneer," Morris Jones. "The Tinker," Robert Ellis. Shetch "Ethel's Reward," J. Thomas, J. Rees, S. Jones, William Owen, H. Maria G. Jones. Duett The Childs Dream,"Merry Wiliiams a C. A. Richards. Song Merry Sandwich Boys." 6 Upper Class Boys. Recit "The Photographer," M. Jones a Robert Jones. Duett You Must'nt," C. A Richards a W. R. Jones. Sketch" The Doter's Visit," Edith J. Anwyl, C. A. Richards, and Trevor Roberts. Song "Good ole Aunt Eliza," J. Williams. Sketch Jumbie Sale," 6 upper class Girls and 6 upper class Boys. Terfynwyd y goreu o gycgherddau gafwyd yn y Maen er's amser trwy ganu God Save the King." Mae clod mawr yn ddyledus i'r Prifathraw (Mr. S. Jones) a'i staff (Miss Leeke a Miss Roberts, am y Ilafur mawr yr aethant iddo i barattoi y plant, ac i Mrs. Jones, School House, am y cynortbwy roddodd hithau iddynt, a'r Misses M. & N. Price, Rectory, am y dyddordeb gymerasant yn Ilwyddiant y cyngherdd. Cyfeiliwyd yn ei ddull medrus arferol gan Mr. J. E. Jones, gwasanaeth yr hwn wertbfawrogir genym bob amser. Elaiyr elw er talu am y wledd rod|wyd i'r plant dydd Gwyl Dewi, a'r gweddill tilag at gael Llyfrgell i'r Ysgol. Teimlad pawb eadd mae "Melus- moes mwy." EIN CANTORES.—Y mae yn dda genym gael llongyfarch Miss Annie Williams, Ty'nardd, ar ei gwaith yn cipio y wobr ar yr Herunawd mewn Cyngherdd gynhaliwyd yn y Blaenau nos Fawrth diweddaf, Canodd Hear Ye 0 Israhel." Mae y gair uwchaf iddi gan bawb. VVSA^A^yA/vNAAAAAAAAAAAAA/VVVVV
LLANRWST.
LLANRWST. TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Bglwys Sefydledig. St. Crwst.—10 30 a 6, Gwasanaeth Cymreig. St. Mary.—11 a 6, Gwasanaeth Seisnig. Y Methodistiaid, Seion—Parch W. Thomas. J Heol Scotland.-Parch. J. Hugbes, Edeyra Yr Annibynwyr. Tabernacl.-Parch. W. Cynwyd Williams. Ebenezer.-Cyfarfodydd Gweddio Y Wesleyaid. Horeb.—10. Mr D. Davies, Penmachno. 6* Mr G. Jones, Capel Garmon. St, James (English Chape!).— Bedyddwyr. Pe nuel.-Parcli. T. Shankland, Bangor Dydd Mawrth, yn yr Eagies Hotel, cynhal" iodd Mr T. Rogers Jones srwerthiant ar Church Hill, Bettwsyceed, a tharawyd y lie i lawr i Mr David Hughes, Coedyfron, Bettws- ycoed. Dydd Mercher nesaf, yn yr Eagles Hotel, bydd Mri Blackwall, Hayes & Co yn gwertha dwy o flermydd Llanddewi, sef Hafod Fawr a Rhos Lan. Gellir cael pob gwydodaeth am yr eiddo gan yr Arwerthwyr neu Mri R, O. Jones & Davies, Llanrwst a Blaenau Ffestiniog. Y mae y Parch W. Thomas i bregethu i'r- Bobl Ieuaingc y Sul nesaf yn Seion. Terfynir tymorau y Cymdeithasau Diwyll- iadol gyda gwledd. Parbau yn y cylch y mae v Twymyn Coch, ac y mae llawer o blant yn dyoddef o fano ya y dref a'r wlad. Addawa'r Cor Cymysg yn dda o dan arwein- iad Mr. T. R. Williams, ahydelÏr y gwna enw iddo ei hun a'r dref yn yr Eisteddfod Genedi- aethol ddyfodol, Da genym ddeall fod newyddion cysarus wedi dod oddiwrth Mr. J, E. Humphreys, o'r Canary Islands, lie y mae yn aros am seibiant ac adnewyddiad i'w ijchyd. Hyderwn y dych- wela wedi cael adhriad llawn. Y mae Miss Serfiah Hughes, athrawes gyn- orthwyol yn Llanrwst. wedi ei phenodi yn Ysg: olfeistres yn Nant-bwlch-yr heyrn. Yn y King's Head Temperance yr oedd y Mutual yo cael eu swper, a chawsant oøsoø" ddifyrus iawn,