Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
IPANDY TUDUR. Ij
I PANDY TUDUR. Cynhaliwyd cyfarfod Llenyddol y lie hwn prydnawn a nos Iau. Llanwyd y Gadair gan Mr, R. E. Hughes. Eglwysbach; cyfeiliwyd gan Mr. W. E. Davies, Llanrwst; a chiorian- wyd v cantorion gan Mr. Owen Williams, Eglwysbacb. Enillwyd y gwobrwyon fel y canlyn:—Adroddiad i blant, 1, Ellen Jones, Cefn Castell; 3, Eluned Jones, Tyhir. Ar- holiad Safon iv, M. J. Evans, a Nellie Evans. Unawd (dan 12 oed), 1, E. Jones, Cefn Castell; 2, Mona Roberts, Bodrach. Pillow Case :— I, Maggie Jones, Penbank; 2, M. J,. Evans, Nant Erw. Adroddiad (dan 16) 1, Ivor Jones, Pandy; 2, Gwydaf Morris, Gwytherin. Una" d (dan 14) 1, Hildo Thomas, Felin Coed; 2, Nellie Hughes, Llanrwst; 3, Robert Davies, Wenlli. Deuawd (dan 14), 1, Hilda Thomas a Maggie Evans, Fi!in Coed; 2, Anne Wil- liams, Hafod Cwsg a Jannet Jones, Garnedd Bach. Scarf, 1, E. Jones, Cefn Cestyll; 2, G. Morris, Bryn Celyn. Unawd (rbai heb enill yn flaenorol), 1. Maggie Williams, Llyn du Uchaf. Gweddi'r Arglwydd, 1, Samuel Williams; 2, Mona Roberts; 3, Ivor Jones. Llawysgrif, 1, E. Parry; 2, n. Owen; 3, Maggie Jones. Unawd Contralto, Annie Jones, Llanrwst. Pencil Sketch, Ceffyl a Throl, 1, J. W Owen; 2, Ivor Jones; 3,0. Williams. Pedwarawd, Maggie Williams, Llyn du Ucha a M. J Evans, Nant Erw. Unawd (dan 18) 1, Maggie Williams, Llyn du Ucha; 2, Nellie Hughes, Llanrwst. Pregeth Ysgrifsnedig, Jennie Roberts, Dol Hyfryd, ac O. Pritchard, Pencefn yn gydradd-. Englyn, Azetalin," Robert Evans, Watling Street, Llanrwst. Unawd Soprano neu Den or, 1, Henry Parry, Eglwysbach. Cyfieithu o Saes- neg i Gymraeg, Trevor Jones, Tynyflynon. Faro D'oyles, Miss Parry, Penrhiw wrdwr, a Miss Jones, Tynyddol yn gydradd. Deuawd (dan 18) Maggie a Gwladys Wiiliams. Traeth- awd, Miss Williams, Shop. Dadl, Lizzie Hughes a Katie Jones. Unawd Baritone. Ted Jones, Blaenau Festiniog. Prif Adroddiad, 3, R. Morris, Gwvthelin. Deuawd tenor a Bass, W. Hughes, London House, julanrwst a L. M. Hughes, Watiing Street. Llanrwst. PeniBion Coffa, W. Morgan Jones, Gwytherin. Prif Gystadleuaeth Gorawl, Cor y Pandy dan arweiniad Mr. D. Williams, Cor Meibion, Pandy dan arweiniad Mr. D. Williams, yr hwn a ddychwe!odd y ddwy wobr. Prif Unawd, Ted Jones, Blaenau Ffestiniog.
[No title]
Am werthu llefrith wedi ei lygru a dwfr dirwywyd Richard Williams, amaethwr o Rhostryfan dair punt a phum swlit gan ynadon Caernarfon. t
BWRDD Y GWARCHEIDWAIDI PENRHYNDEUDRAETH.
BWRDD Y GWARCHEIDWAID I PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd yr uchod dydd Mawrth diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. William Jones (Is- gadeirydd), ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri. E. M. Owen, Richard Williams, D. Tegid Jones, William Williams a John Rob- erts (Trawsfynydd), John Roberts (Talsarn- au), John Pierce, David Pugh, Robert Rich- ards, D. Fowden Jones, W. W. Morris, Cadben Morgan Jones, John Williams, Owen Evans, Edward Llewelyn, Owen Lewis, John Pritchard, R. W. Vaughan, Robert Evans, W, Thomas, Richard Parry a J. B. Jones (Swyddogion Elusdnol), Thomas Roberts I (Clerc), David Jones (Clerc Cynorthwyol), a D. J. Jones (Meistr y Ty). Y Ty. I Mehefin 8, daeth Mary Ann Miller, Hawker, 67 oed, i'r Ty trwy arcbeb Dr. J. B. Jones, Penrhyn, ac aeth allan boreu ddydd Llun. Mehefin 11, aeth Samuel Roberts, o Dol- benmaen, allan o'r Ty ar ei gais ei hun. Mehefin 8, rhoddwyd gwledd i dlodion y Ty gan Deiniol Fychan. Cymerwyd y gadair gan Mr. Ellis, Pwllheli. Cymerodd Treborfab, Mr. R. D. Roberts, Penrhyn, Nurse Morris, a Mrs. W. O. Jones ran yn y canu a'r adrodd. Yn y Ty 71 ar gyfer 81 yr un adeg y llyn- edd, a galwodd 51 o grwydriaid yn ystod y ddwy wythnos ddiweddaf, ac yr oedd 6 o blant yn mynychu yr ysgol ddyddiol. Atal Blwydd-dal Hen Wr. I Mr. J. R. Jones a hysbysodd fod Pensiwn William Stephen wedi ei atal oherwydd i'w wraig ddod i'r Ty. Gofidiai amryw o'r Bwrdd fod hyn wedi digwydd, ond hysbysodd Mr. Richard Williams mai y Bwrdd oedd wedi gorchymyn i'r wraig ddod i'r Ty, ac mai hwy oedd yn gyfrifol felly. Pasiwyd i roddi elusen ac fod cais i'w wneyd at y Llywodraeth i geisio cael y Pension yn ol i W. Stephen. Arianol. Talwyd yn ystod y ddwy wythnos ddiweddaf fel y canlyn Dosbarth Tremadoc £81 5s 6c; Dosbarth Ffestiniog £ 112 6s Ic Dosbarth Deudraeth £ 68 11s Oc; Cyfanswm Z262 2s 7c, sef, cynydd yn nosbarth Tremadoc o xc4 I is 9c, a lleihad yn nosbarth Ffestiniog o £7 lis 5c a Deubraeth o 15/8, y mae hyny yn gwneyd lleihad trwy y plwyfi o £3 15s 4c yn y tri plwyf; ac yr oedd eisiau at y ddwy wythnos nesaf fel y canlyn Dosbarth Tremadoc £ 79; Dosbarth Ffestiniog £ 115; Dosbarth Deu- draeth £ 69 Cyfanswm £263. Yr oedd yn y Bane y swm o zf46 12s llc. Merch Ieuanc a Thri o Blant. I Ymddangosai hen wraig o flaen y Bwrdd i ofyn am elusen i'w mherch gan ei bod yn wael Yr oedd wedi bod yn aros yn y Ty, ac yr oedd wedi cael lie i fyn'd i Llandudno, ond yr oedd yn analluog i fyned yn awr, ac yr oedd y Meddyg yn dyweyd hyny hefyd. Nis gallai y fam ei chadw hi a'i thri phlentyn.—Mr John Roberts (Talsarnau), Gwraig weddw ydyw-Y Fam, 0 nage, merch ieuanc.—Mr J. Roberts, A thri o blant,Y Fam, Ie,-I ba beth yroedd genych chwi eisiau myned a merch fel hyn allan o'r Ty. Gwyddoch o'r goreu mai yma oedd y lie goreu iddi—Y Fam, Meddwl am fyned i wasanaethu i Llandudno yr osdd.—Mr John Roberts, Yr wyf yn cynnyg iddi ddod i'r Ty, a phasiwyd hyny yn unfrydol. Fr Convalescent Home, RhyL Pasiwyd i roddi yr elusen ac i dalu costau un o Tanygrisiau i'r Sefydliad uchod os y gallai gael tocyn i fyned i'r Sefydliad o'r Capel. Hysbyswyd fod hyny yn bosibl, ac yr oedd yr holl Fwrdd yn foddlawn i'w gynorthwyo vno i gael adferiad i'w iechyd. Ymladd yn Ddewr. I Yr oedd gwr a gwraig a pbump o blant yn nosbarth Ffestiniog yn derbyn 10/- yr wythnos o elusen. a gofynodd Mr. Richard Williams i'r Swyddog a oedd 10/- yn ddigon,—Y Swyddog, Nag ydyw, nid oes dim afiechyd ar y dyn ond ei fod yn wan, ac heb gael digon at ei gynal. Yr oedd y Meddyg yn dweyd mai myned i'r Rhyl a fyddai oreu iddo,—Mr. E. M. Owen a gynygiai godio 10/- i 15/- yr wythnos,—Mr. J. Roberts (Talsarnau), Nid yw y dyn yn gofyn am ychwaneg, a pha un sydd iawn, y dyn i ofyn am ychwaneg yate ni gynyg codi iddo.- Mr. E, M. Owen, Yr ydym ni wedi cymeryd gofal y plant, a dylem edrych ar eu hoi, ac y mae y Swyddog wedi dyweyd yn glir heddyw fod y teulu yn cael rhy fychan, ac yr wyf yn sefyll yn gadarn wrth fy nghynygiad o godi 5/- yr wythnos.—Mr. Richard Williams, yr wyf finau yn cefnogi. Y mae y Swyddog yn ddig- on caled, ond fe ddywedodd bythefnos yn ol, chware teg iddo, ei fod yn cael rhy fychan,- Mr. E. Fowden Jones a gynygiai 10/- a'i fod i gae! myned i RhyL-Mr. E, M. Owen, yr wyf yn foddlawn i hyny, ond gadewch i ni roddi 15/- nes y bydd wedi cael lie yn Rhyl.-Pas- iwvd hvnv. Mewn Cyflwr Difrlfol. I Tra yr oedd y Bwrdd yn eistedd daeth dyn o Trawsfynydd i'r Ty trwy archeb Dr,. J, Humphreys mewn ceibyd. Yr oedd amryw friwiau ar ei gorph. Cafwyd ef nos Lun mewn adeilad yn ymyl fferm Rhiwgoch. Cwyno. Mr. Richard Williams a gwynai nad oedd y Meddyg yn myned yn ddigon am! i weled y tlodion oedd yn dioddef oddiwrth afiacbyd .-Y Swyddog a ddywedodd fod dosbarth Fiestiniog dipyn yn wahanol i'r rhai eraill. Yr oedd Meddygon yn myned i weled y c'eifion, ond nid oedd Meddyg yr Undeb yn myned yno nes y byddai rhywbeth neillduol yn galw, gan fod y tlodion yn cael gwasanaetb y Meddygon oeddynt yn arfer a thalu iddynt cyn dod ar y plwyf. Achos Teilwng. Galwodd y Swyddog sylw y Bwrdd at achos o Ffestiniog. Er's ychydig amser yn ol yr oedd y teulu yn cael 18/- yr wythnos trwy ffund y Gwaith o'r elusea, ond erbyn byn yr oedd y Bwrdd yn talu 15/- yr wythnos i'r teulu, sef gwr a gwraig (y ddau yn wael), a thri o blant, ac yr oedd y ferch wedi dod adref i weini arnynt. Eu cais yn awr oedd codi yr elusen o 15/- i 18/- yr wythnos.-Mr, R. Wil- liams a gynygiai eu bod yn codi i 18/- yr oedd yn un o'r achosion mwyaf teilwng yn yr ardal. —Mr. E. M. Owen a gefnogai, ac yr oedd yn disgwyl y gwnai y Bwrdd eu ddyledswydd trwy roddi pob chwareuteg i bob teulu yma yn deilwng iawn o bob cynorthwy. Yr oedd y ferch wedi dod adref i weini arnynt, ac yr oedd hono yn gwneyd am ddim.—Pasiwyd i roddi 18/- yr wythnos, VWyAWvWMWMAWWWVWV
LLANRWST,I
LLANRWST, I TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. ST, CRWST-IO- 30 a 6, Gwasanaeth Cymreig. ST, MARY.—11 a 6, Gwasanaeth Seisnig. Y Methodistiaid. SEION.-Parch. J. E. Hughes, Caernarfon HEOL SCOTLAND. Parch. T, Williams, Gwalchmai Yr Atmibynwyr. TABERNACL.—Parch. W. Cynwyd Williams. EBENEZER.— Y Wesleyaid. HOREB.-Parch. J. T. James, (M.C.) Pen- machno ST. JAMES (English Chapel).—Rev. Silas Jones Bedyddwyr. PENUEL.—Parch. Evan Evans, Bangor Aeth pobl ieuaingc Capel Seion'am wibdaith at Lyn Crafnant prydnawn ddydd Iau, a mwynhasant eu hunain yn fawr iawn. Caf- odd rhai hwyl dda ar bysgota, ac eraill gyda chwareu diniwed ar Ian y Llyn.—Deallwn fod Mr. S. W. Frenthan, yr hwn sydd yn gofalu am yr adran Beirianyddol o'r Gwaith Trydan- ol er's ugain mis, yn ymadael am Birmingham i uno a'i frawd i gario allan waith Trydanol mawr yno. Teimlircolledareiol.gydarclyb- iau chwareu o'r rhai yr oedd yn aelod selog. Taenodd rhyw berson direidus chwedl yn y dref ddydd Iau fod damwain arswydus wedi digwydd trwy ddymchweliad cerbyd Ilawn o cieithwyr yn Bettwsycoed, a bod naw wedi colli eu bywydau. Prysurodd 11n mawr yno, ond cawsant allan mai twyll oedd y cwbl. Buasai lluniwr y chwedl yn cael cwrfa dda pe llwyddesid i'w ddal. Ymadawodd amryw oddiyma am Eisteddfod Llundaiu ddydd LInn, a bwriadant aros dros yr wyl. Am y tro cyntaf, meddir, er's 60 mlynedd' nid oedd yr un achos i fyned o flaen y Barnwr yn Llys y Manddyledion ddydd Gwener. Penderfynodd y Rheolwyr Addysg i wyliau yr Ysgolion ddechreu Gorpbenaf 16. CYMANFA YSGOLION (M c.)-Cyhaliwyd Cymanfa Ysgolion y r osbarth yn Nghapel Seion ddydd Sadwrn. Cynullodd y Plant wrth yr Ofeaf, a gorymdeithiasant drwy y dref, yr oedd golwg brydferth dros ben arnynt. Y Parch. R. Rowlands a lywyddai yn nghyfar- fod y prydnawn a Mr. W. H. Williams, Gorsaf-feistr, yn vr hwyr. Mr. J. J. Morgan, Ysgolfeistr, Deinio!en, oedd yr arweinydd, a chyfeiliwyd gan Mrs. Williams, Gwynfa. Arholwyd y Plant yn nghyfarfod y prydnawn yn "Hanes Iesu Grist" gan Mr. 0, R. Hughes, M A., a'r nos gan y Parch O. Gaianydd Williams, yn Hanes Dafydd." Rhanodd y Parch. W. Thomas y gwobrwyon a enillwyd yn Arboliad Sirol ac yn Arholiad y cyfarfod misol. Profodd y Gymanfa y fwyaf lwydd- ianus a gynhaliwyd o'r decbreu, ac adlewyrcha glod mawr ar yr ysgrifenydd ymroddol, Mr. W. Davies, am y modd rhagorol y cariodd ei waith yn mlaen..
SEINDORF Y PENRHYN. I
SEINDORF Y PENRHYN. I Mr Gol.—Hyderaf y caniatewch ran o'ch gofod, i alw sylw trethdalwyr yr ardal uchod at fater pwysig y Seindorf, mae'n wybyddus bell- ach fed y Seindorf uchod yn bwriadu ail godi. Diolch am swn rhywbeth i godi, fel arall y digwydd yn ami yn ardal y Penrhyn. Gwylio am gyfle i guro pobpeth i lawr, a cheisio dallu y cyfryw bethau a. mympwyon cellweirus, pe byddai yr uchod yn fater i chwerthin, tebyg y buasai wedi cael sylw ein prif ddynion er's amser maith; ond gan ei fod yn galw am weithgarwch, ni roddir sylw iddo. Mentraf lefaru, mai nid oherwydd dyled y bu y seindorf farw, ond yn hytrach oherwydd ymadael y bechgyn o'r ardal, a gresyn na fuasai Ysgrifen- ydd y Pwyllgorwedi rhoddi cyfrif o sefyllfa y seindorf pan y distawodd. At hyn hefyd, pwy sydd yn gofalu fod yr offerynau wedi, ac yn cael cadwraeth priodol ? Ai tybeb fod yn rhaid i'r offerynau hyn fynsd i wasanaeth seindorf arall, neu i ddwylaw rhai sydd heddyw o Gymru, Credwn na ddyIid goddaf peth o'r fath, heb roi sylw dyhdwy iddo, a syrthio ar gynllun i wneyd gwell defnydd ohcnynt, yn enwedig pan mae trethi mor uchel a'r gweifeh- wyr mor dIawd. Deffrown rhag ofn i bethau fel y cyfryw lethu ardal fel y Penrhyn. Hawdd yw lletnu mewn tylodi; ond credwn mai anhawdd yw goddef i ymdrechion yr ardal fyned yn ofer trwy ddwylaw y Pwyllgor a benodwyd i edrych fod pawb a phobpeth a berthynai i'r Seindorf i gael gofalu am danynt. Nid teg yw fod pethau yn cael eu cuddio dan leni a dymunol felly fyddai i'r Ysgrifenydd roddi cyfrif manwl o sefyllfa y Seindorf. CARWR CYFIAWNDER, [
I MAENTWROG.
MAENTWROG. Y DIFFYG TREULIAD.—Mynwch gael Potel ar unwaith o DR. WOOD'S REMEDY at y Diffyg Treuliad. Nid oes dim gwell i'w gael at yr afiechyd hwn. I'w gael gan Hugh Jones, Medical Hall, Blaenatt Ffestiniog. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MRS. JANE WILLIAMS, PENLAN.—Y mae genynt heddyw y gorchwyl pruddaidd o gofnodi mar- wolaeth un o hen gymeriadau mwyaf parchus ein plwyf, sef, Mrs. Williams, anwyl briod y diweddar Mr. Evan Williams, Penlan, yr hwlI a'i rhagflaenodd rhyw ddwy flynedd yn ol, gall adael Maentwrog yn dlotach o un o'i dyniofl mwyaf galluog. Yr oedd yr ymadawedig yB hanu o un o deuluoedd mwyaf adnabyddus Maentwrog, sef y diweddar Mr. William Jones, Cigydd, Glasfryn, a threuliodd ei hoes faith yn ei phlwyf genedigol Cafodd gystudd maith, yr hwn a ddyoddefodd yn hynod 0 dawel a dirwgnach. Bu ei merch, Mrs. Hughes, Capel Currig, yn ofalus a thynef iawn o honi yn ei chystudd. a hunodd yn yt Iesu, boreu Llun, Mehefin 7fed. Ar y 12fed cyfisol, claddwyd ei gweddillion marwol i feddrod y teulu yn Mynwent Eglwys Maen- twrog. Yn y Ty, cyn cychwyn, gwasanaeth* wyd yn dyner a phriodol gan y Parch. Evaff Roberts (w.), Penisa'rwaen, a J. R. Jones (Gerallt), ac yn yr Eglwys ac wrth y Ipedd gall y Parch. Mr. Jones, Tyddyngwyn, Bl. Ffestin- iog. Canwyd yr hen emyn Bydd myrdd 0 ryfeddodau yn ddwys ac effeithiol ar lan y bedd. Cafodd gladdedigaeth nodedig o J barchus a daeth llawer o bell ac agos i dalu y y gymwynas olaf iddi. Yr oedd yn un 0 aelodau hynaf Eglwys Gilgal (A.), a phafl oedd y frawdoliaeth yn myned i addoli i'w teml newydd, anrhegodd yr Eglwys a Beibl hardd at wasanaeth y Cysegr. Cydymdeimlir yn fawr a'r plant a'r perthynas- au yn eu profedigaeth chwerw, sef, Mrs Pritch- Whally Bridge Miss Williams, Llundain; a Mrs Hughes, Capel Currig (merched) Mri E. E. Williams ac Eleazar Williams, Conwy ■ (meibion); Margaret Roberts, Glandwr Cot- tage (chwaer), a Mr J. Jones, Lerpwl (brawd), a'r perthynasau yn gyffredinol. LLWYDDIANT EIN GWYR IEUAINC.—Ni bydd dim yn rhoddi mwy o hyfrydwch i ni, na chael y fraint o gofnodi ilwyddiant ein pobl ieuainc. Credwn y gallwn fel plwyf ym- ffrostio yn nifer y dynion ieuainc hyny sydd yn anrhydedd i fro eu genedigaeth. Yn y cylch pregethwrol cawn y Parchn. G. Morfin Roberts, Caer; Thomas Gwilym Roberts, Eglwysbach Evan Roberts, Penisn'rwaen a Richard V. Owens, Didsbury College, gyda'r Wesleyaid; Ben. Ellis Jones, Prif Ysgol, Bangor, gyda'r M.C.; ac Emlyn M. Williams Lancashire College, gyda'r Annibynwyr. Yn y cylch athrawol, gallwn fel plwyf ymfalchio yn llwyddiant y rhai canlynol:—Mri. D. P. Roberts, Ysgolfeistr Llangadfan; John Ed. Jones, Assistant Master, Caernarfon a Gor- west V. Humphreys, Training College, Caer- fyrddin, Ond heddyw yr ydym yn fwyaf arbenig yn cyfeirio at lwyddiant dau o'r rhai uchod, sef y Parchn. Evan Roberts, ac Emlyn M. Williams, Mae y cyntaf fel y mae yn hysbys i lawer yn y cylchoedd hyn yn fab i'r pregethwr poblogaidd Mr. William Roberts, a'r ail yn fab i'r Parch. William Williams, diweddar weinidog Gilgal ac Utica, am y cyfnod maith o dros 30 mlynedd, ond sydd erbyn hyn wedi ymddeol o'r weinidogaetb, ond yn parhau i bregethu bob Sul gyda nerth. Llongyfarchwn y Parch Evan Roberts ar ei waith yn cael ei ordeinio i holl waith y weinid," ogaeth yn Nghymanfa Llanidloes yr wythnos ddiweddaf. Y mae wedi pasio ei arholiadatt bob blwyddyn yn eitbriadol o anrhydeddns" a disgwylia y Cyfundeb Wesleyaidd lawer oddi- wrtho. Llongyfarchwn yr un mor wresog, y Parch Emlyn M. Williams, yr hwn sydd wedi myn'd yn llwyddianus drwy .ei yrfa athrofaol, ac wedi derbyn galwad oddiwrth Eglwvs Seis- nig gref yn agos i Bolton. Hyderwn yn fawr y caiff y ddau oes faith i wasanaethu eu Duw, ac i fod yn anrhydedd i'w henwad. CYFARFOD PREGETHu.-Edrycbir yn mlaen at Gyfarfod Pregethu Maentwrog Isaf, yr hwn a gynhelir nos Sadwrn a'r Sabbotb nesaf, pryd y gwasanaethir gan y Parchn D. Hoskins, M.A., a Joseph Jenkins, Biaenau Ffestiniog.
BETTWSYCOED,
BETTWSYCOED, At drigolion yr ardal a'r aniglilcTicedd.-Dy- muna William Williams, Pontypair Shop, gyf- lwyno ei ddiolchgarwch diffuant am y gefnog- aeth a dderbyniodd yn y gorphenol gyda dy- muniadau am barhau o'r unrhyw yn y dvfodol. Y mae ganddo bob math o b itrymau wedi dod i mewn at dymhor yr haf. Gwell dev. is nag erioed Gwneir Siwtiau i fesur i ddynion am 21/- ac uchod, gwarentir fit a'r style ddiwedd- araf. Gellir ei gael ar fyr rybudd. Hefyd cedwir Siwtiau i ddynion a becbgyn a pbob math o Cord Koicker i fechgya am brisiaii hynod o isej. Trowsusau i ddynion *4/6 ac uchod. Y mae y Fieer poblogaiddwedi myned ar ei wyliau i Norway. Gwasanaethir yn ystod ei absenoldeb gan y Parch. J. Williams, Rhymni, Daeth Ysgol Sul Wesleyaidd Llandudno yma am wib-daith ddoe, a mwynhasant eu hunain yn fawr. Disgwylir excursion fawr dydd Mercher o Birkenhead, Rock Ferry, Bebbington, a Chaer. Llwyddodd ATH. R. 0. Edwards, R. Hughes ac Ellis B. Roberts, y rhai a ymfudasant oddi- yma yu ddiweddar i'r America i gael penodiad- auda yno. Dydd Sadwrn, aeth Mr. Robert WiBiams, Rbiwddolion, a'r teulu am y wlad eang hon. Y mae yr Ysgolion Sabbothol wedi ymuno i fyned am eu gwibdaith flynyddol i Landudno yn ystod y mis nesaf. Y moe ymwelwyr yn lluosog iawn, a'r gwes- tai yn cael cefnogaeth dda ganddynt.
UNDEB YSGOLION SABBOTHOLI…
UNDEB YSGOLION SABBOTHOL I YR ANNIBYNWYR CYMREIQ. ARHOLIAD MAWRTH 30, 1909. 1 ADRAN CYLCH MEIRION, DOSBARTH IV. I Arholwr yr Undeb Cymreig. Parch Ellis Jones' I Ebenezer, Bangor. Arholwr y Sir, Parch. T. Talwyn Phillips, B.D., Bala. Dosbarth Anrhydeddus.—Neb. Dosbarth laf, rhwng 84 a 70 o farciau yn ol teilyn gdod, -Robert Vaughan Lewis, Bethel, Ffestiniog; Maggie Pugh, Llanfacbreth; W. D. Jones, Glyndyfrdwy. I Dosbarth ail, rhwng 69 a 50 o farciau yn 01 teilyngdod.-Jennie Owen, Saaron, Bryncrug. Thomas Pugb, Dolgellau. Griffith Price, Llanfachreth. John Gwilym Richards, Soar. Annie J. Owen, Aberdyfi. Cadwaladr W. Roberts, Salem, Corris. Dosbarth Trydydd dan 50, heb eu rhestru yn ol teilyngdod.-Thomas M. Salmon, Corwen Mary E. Edwards, Corwen; Susannah Edwards, Soar; Ellis Jones, Brynbowydd David J. Owen, Corris; William J. Williams, Brynbowydd; John J. Williams, Bethel, Ffestiniog. Dosbarth Pedwerydd, rhai na enillasant ddigon o farciau i gael eu hanfon i Arholwr yr Undeb Cymreig.—Richard Owen, Corwen, 65; Marian Jones, Corwen, 65; Thomas E. Thomas, Tabor, 65; Lizzie Roberts, Towyn, 60; Maggie Ellis, Tabor, 60; David Owen, Faerdref, 55; David Morris, Dinas, 55; M. W. Humphreys, Tabor, 55; Isaac Mason, Llanegryn, 40; Evan Ellis, Tabor, 35; Annie E. Roberts, Brithdir, 30. DOSBARTH III. I Arholwr yr Undeb Cymreig, Parch. J. T. Parry, Cilcenin. Arholwr y Sir, Parch. J. R. Evans. Pennal. Dosbarth Anrhydeddcs. Neb. Dosbarth Blaenaf, yn ol teilyngdod. Rhwng 84 a 70. David Ellis, Bala; Florence E. Evans, Trawsfynydd; David Morris, Llan- uwchlyn Anarawd Rhydwen, Bethania, B1. Ffestiniog. Dosbarth Ail. Rhwng 69 a 54. Maggie Williams, Rhydymain. Dosbarth Pedwerydd. Rhai na enillasant nifer digonol o farciau i gael eu hanfon yn mlaen i Arholwr yr Undeb Cymreig. Hugh Evans, Bethesda, Corwen, 68; Jennie D. Salmon, Corwen, 67; E. M. Morris, Pandy Llywelyn Jones, Bethania, 65; G. Ch. Owen, Dolgellau, 62 Edward Jones, Bethel, 58. Dosbarth Trydydd. Maggie C. Ellis, Soar, 55; Wm. H. Jones, Cynllwyd, 54; Maggie Jones, Llandderfel, 54; Mary Jones, Rhydy- main, 52; Eliza G. Richards, Soar, 49; John Davies, Llanegryn, 48; Maggie Evans, Bryn crug. 47; Laura A. Jones, Brithdir, 42; Priscilla Thomas, Jerusalem, 41; Gwen H. Edwards, Soar, 40; Gwen Jones, Bethel, 34 Lizzie Jones, Rhydymain, 33 Arthur Jones, Llanegryn, 31. Y mae 3 o'r Ymgeiswyr heb enili 30 o farciau gan Arholwr y Sir. DOSBARTH II. Arholwr yr Undeb Cymreig Mr Abel J. Jones, B.Sc., PH.D. Anholwr y Sir, Parch D. Ll. Harris, Brithdir.—;Dosbarth Annrhydeddus,-Neb. Dosbarth laf, rhwng 84 a 70 o farciau yn ol teilyngdod.—Hugh Edward Evans, Rhyd-y- main. Richard Jones, Penystryd. Myfanwy Griffiths, Brynbowvdd. Mary Evans, Bryn- bowydd. Dosbarth ail, rhwng 69 a 50 o farciau yn ol teilyngdod.—David W. Evans, Salem, Blaenau Ffestiniog. Lizzie Ellen Jones, Islaw'rdref. Blodwen Owen, Towyn. Dosbaith trydydd, dan 50 o farciau, Edward R. Williams, Abergynolwyn. Dosbarth Pedwerydd, rhai na enillasant nifer digonol o farciau 1 gael eu hanfon i Ar- holwr yr Undeb Cymreig. Margaret J, Humphreys, Llandderfel, 70; Jane Elizabeth Griffiths, Rhydywernen, 70 John Humphreys Tabernacl, 70 Goronwy Davies, Horeb, 62; Elizabeth Ann Owen, Horeb, 60; Jennie Jones, Brynbowydd, Blaenau Ffestiniog, 58; Gwladys Jones, eto, 57; Richard J. Parry, 57; Edward Morris, Horeb, 57; Maggie Olwen Evans, 56; Ceridwen Bowen, Penllyn, 56; Minnie Davies, Horeb, 56; Thomas Jones, Rhydywernen, 56; Robert E. Jones, Soar, 56; Robert Griffiths, Abergynolwyn, 56; Catherine Jane. Jones, Brynbowydd, 55; Ed. J. Jones, Salem, Blaenau Ffestiniog, 54; Sophia Morgan, Towyn, 52; James Emrys Bowen, Penllyn, 50; Nellie A. Jones, Horeb, 50; Thomas Iorwerth Jones, Towyn, 50; Gwilym Namor Parry, Brynbowydd, 49; Humphrey Owens, Llanegryn, 48; Gwen E. Jones, Rhydywernen, 47; John Edward Jones, Penllyn, 47 Robert D. Jones. Rhydywernen, 46; John R. Ellis, Tabor, 46; David Hugh Thomas, Drwsycant, 46; Robert J. Jones, Penllyn, 46; Emrys Roberts, Penllyn, 45; Susan Grace Edwards,, Soar, 41 Ceridwen Ellis, Horeb,, 41; Deborah Williams, Soar, 38; Mair Gwenllian Evans, Corwen, 38; Lizzie Roberts, Brithdir, 37 Morfudd Salmon Corwen, 36 David Jones, Llanfacbreth, 36 Hannah M. Berry, Aberdjn, 36; Susannah Thomas, Soar, 34; John Jones-Ellis, Soar, 34; Evan M. lories, Towyn, 32 Amelia Thomas, Jerusalem, 32; Mary Lizzie Davies, Jeru- salem, 31; Ellis Griffiths, Tabernacl, 30; Hannah J, Davies, Towyn, 30; Willie Row- lands, 30; John Edward Williams, Bettws, 30. Y mae 23 o ymgeiswyr heb enill 30 o farciau gan Arholwr y Sir. Y mae y tri uwchaf yn mhob dosparth yn cael gwobrwyon mewn llyfrau, Y blaenaf gwarih 10/- mewn llyfrau, yr ail gwerth 6/ a'r trydydd gwerth 4/ Dosparth II, rhai dn 16 oed.Hugb Edward Evans, Rhydymain, y wobr flaenaf. Richard Jones, Penstryd, ail wcbr. Myfanwy Griffiths, Brynbowydd, trydydd wobr. L'osparth III, rhai dan 21 oed.—David Ellis, Bala, y wobr flaenaf. FJorence E. Evans, Trawsfynydd, ail wobr. David Mori is, Llan- uwcbliyn, v drydedd wobr. L'ospanh IV, rhai dros 21 oed. Robert Vaughan Lewis, Ffestiniog, y wobr flaenaf. Maggie Pugh, Llanfachreth, ail wobr. W. D, Jones, Glyndyfrdwy, y drydedd wobr. Y mae Mr. Robert Vaughan Lewis, Ffestin- iog wedi enill y burned wobr o wobrwyon yr un Maes Llafur yn ogystal. Felly derbynia werth 7/6 arall mewn llyfrau. GEORGE DAVIES. I Brynbowydd, Bl. Ffestiniog.
TANYGRISIAU. I
TANYGRISIAU. I YMADAWIAD.-Dydd Mawrth ymadawodd Mr, W. Samuel Roberts, Fronoleu, a'r tewlu o'n plith î'r America. Prydnawn Sul am r haner awr wedi pedwar cynhaliwyd cyfarfod ymadawol iddynt gan Obeithlu Carmel. Daeth cynulliad da ynghyd a mwynhawyd cyfarfod rhagorol iawn. Awd yn mlaen gyda'r raglen a ganlyn :-Dechreuwyd gan Mr. David 0.: Jones, Glanrafon Terrace. Cafwyd ton gyff- redinol. Anerchiad gan y Llywydd (Mr. George B. Hughes). Adroddiad gan Olwen Lloyd (y geiriau o waith Bryfdir ar yr amgylch- iad). Can gan Johnie Griffiths. Adroddiad gan Annie Jones. Unawd gan Mr. Richard Vaughan, Glandwr. Yn ystod y cyfarfod cyflwynwyd anrheg o Feiblau hardd iddynt ar ran y Gobeithlu gan Mr. George B, Hughes. Cafwyd ton gan y Gobeithlu. Gair gan Mr. Hugh Parry, Wrysgan Fawr. Unawd gan Mr. William J. Williams, Pencraig. Gair gan Mr. Robert Lewis, Gwyndy. Adroddiad gan John Jones, London Terrace. Gair eto gan W. S. Roberts. Can gan Jennie Roberts, a'r gynulleidfa yn uno yn y cydgan. Y Llywydd ydoedd Mr. George B. Hughes, Orthinfa, a'r Arweinydd ydoedd Mr. John R. Jones, Glan- rafon Terrace.—Anrhegwyd hwynt gan Ysgol Sul Pantcelyn, am 2 prydnawn Sul. Cafwyd cyfarfod rhagorol. Cafwyd adroddiad gan Mary W. Jones. Can' gan William J. Will- iams. Cyflwynwyd iddynt Lyfrau Hymns gwerthfawr gan Mrs. Parry, Wrysgan Fawr, a Mrs. Roberts, Trellwyn dros yr Ysgol. Siar- adwyd i ddiweddu gan aelodau o'r Ysgol.- Nos Lun cynhaliodd Parti Meibion y Moel- wyn gyfarfod ymadawol iddo. Cyflwynwyd iddo Dressing Case hardd gan Mr. Richard Roberts, dros y Parti. Datganodd y Parti amryw ddarnau yn rhagorol. Siaradwyd gan Mr. Cadwaladr Roberts, Penygroes, a Mr. W. S, Roberts. Cafwyd can gan Mr. Richard Vaughan, ac adroddiad gan Mr. William O. Roberts, TEML BARLWYD.—Cynhaliwyd yr uchod nos Wener diweddaf yn Vestry Bethel. Dech- reuwyd fel arferol. Yna cafwyd adroddiad gan Robert D. Roberts. Cystadleuaeth arwain dyn dyeithr i Dolrhedyn i blant, nid oedd neb yn deilwng. Adroddiad gan Katie Jones. Caf- wyd yr un gystadleuaeth i rai mewn oed. 1, William M. Williams Gair gan Thomas Roberts, o deml Duffws, a chan amryw eraill. Deuawd gan Mri. W. M. Williams a Lewis Jones, Diweddwyd yn y dull arferol.-Bydd Cyfarfod Dirwestol yn cael ei gynal wrth Penygroes os bydd y tywydd yn ffafriol, neu os na fydd cynhelir ef yn Vestry Bethel, dan nawdd y Demi uchod. Anerchir y cyfarfod gan y Parch. Thomas Griffiths, Rhiw, a Mr Hugh Samuel Jones, Seion, a chymerir rhan mewn canu ac adrodd gan aelodau o'r Deml.