Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

O'R PEDWAR OWR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

O'R PEDWAR OWR. Cynhaliwyd Eisteddfod hynod o lwyddianus gan Gymry Deheudir Aftrica yn Johannesburg ar y Dydd Ymerodrol. Enillwyd ar Awdl y Gadair gan W. Rowlands, brodor o Felinheli, Cor Germiston enillodd y wobr o £30 a Thar- ian gwerth [70; a Chor Meibion Johannes- burg oedd y goreu ar ddatganu "Y Pererinion" (Dr. Parry). Dydd Sadwrn, cafodd chwarel Bryneglwys, Abergynolwyn, ei chau oherwydd diffyg gal- wad am lechi, a chymerodd yr holl weithwyr eu harfau allan. Galwyd Rhyddfrydwyr Abergynolwyn yn nghyd i enwi ymgeiswyr am Sedd y Sir. En- wyd pedwar, ond ni chafodd neb ddigon o bleidleisio ag eithrio Mr. H. Haydn Jones. Cafodd yr Arfoniaid fuont yn fnddugdliaeth- us yn Eisteddfod Llundain dderbyniad siriol iawn gan eu cyd-drefwyr yn Nghaernarfon, lle'r aeth £ 260 mewn arian gwobrau. Dydd Llun, cynbaliodd cynrychiolwyr Mwnwyr Gogledd Cymru, Gynhadledd yn Wrecsam i ystyried eu safle yn nglyn a'r Mesur wyth awr." Gwrthodasant hysbysu dim i'r wasg o'r hyn a basiwyd ganddynt. Wrth arwain Cyfarfod Ysgol y Sul diweddaf yn Nghapel y Wesleyaid yn Drefnewydd, gofynodd y Parch. T. Llewelyn Evans, pwy i oedd y Cymro mwyaf," ac atebwyd mai "Lloyd George." Cymerodd Mr. Evans fantais ar yr atebiad i anog yr ieuengctid i wneyd yn fawr o'r Ysgol Sul fel y gwnaeth Mr. George. Hysbysir am farwolaetn Mr. Joseph Will- iam Bowen, Fferyllydd, Criccieth, ddydd Sadwrn. Yr oedd yn un o'r rhai penaf mewn dwyn. CricCieth i sylw fel cyrchfan i ddyeith- riaid, Gedy weddw a chwecho blant mewn galar areiol. 1

I -NODION -OERDDOROL.

[No title]

LLANRWST. I

BLAENAU FFESTINIOG. I

NANTYBENGLOG, -CAPEL CURIG.…

-BETTWSYCOED.--------I

BWRDD GWARCHEIDWAID LLANRWST.

TRAWSFYNYDD.