Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
h TORONTO, CANADA. I
h TORONTO, CANADA. _lwYdd yr achos Cymraeg,-Sabboth ,f £ 4» cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol yr Stre ? V° Temperance Hall, Bathurst Stre? Da iawn genym feddwl fod golwg arifa ,arno yn y rhan yma o'r wlad. Sylw Pert h ei} yn ein plitb oedd, ei fod yn blentyn bW 4c lch iawn. Nid ydoedd y cynulliad yn B?? '° '?n am dri o'r gloch gan fod gwlaw RU030 9 lawn am dri o'r gloch gan fod gwlaw tQ.  gwlaw Ffestiniog, wedi atal Ilawer i j?yabreseno!, ond er hyny cafwyd cyfarfod Y Ll ywydd ydoedd Mr John Jones, { I&T.CUU st, eet. Canwyd y tonau canlyno! :— Calt. Mama, Dora, Delyn Aur. ac Eheda. ?'y??a?wd gan Mr Griffith Parry, Green- W»ii » Adroddiad effeithiol "Diwedd I Crkt » gan Mr Owen M. Williams, Togan Ave ? ?uenwyd papur ar Perthynas yr YSgOl! Sakk°l a'r Eglwys," gan Ap Gelert.-Yn "RhyfArfod yr hwyr, o dan lywyddiaeth Mr D 4"l- d Williams, Pears Ave, yr oedd y cynull- 5»A yn Huosog dros ben—oddeutu 15Q, Pecb-  'ellwyd y rhan arweiniol gan. Mr John Jones, liareum Street. Caawyd y tonau canlynol:- )4all,eri2 Coronation, Tengham, Spanish ant, LYdia, a Huddersfield. Cafwyd Ped- rrawd "Beautiful Life," gan Mri Parry, !o?"?? Pritchard a Roberts. Anerchiad rhag- ftl .'Gwaith yr Ysgol Sul," gan Mr Rich- lG Jones, Marcun Street. Unawd Lead tentii Light." gan Ap Gelert. Darllenwyd :)ir ar pa fodd i wneyd yr Ysgol Sabbothol Y4 Ilwyddiant gan Mr Griffith Parry. Ad- ?atad Diwedd," gan Mr David Williams, Vnn £ e Street. Unawd Hed fel deryn," gan 'Ar Powel Arweiniwyd y canu gan Mr John £I dhams: Togan Ave. Cyfeiliwyd gan y Mri. p0 T61 a Hughes, Sicr mai cyfarfodydd rhag- Or gafwyd. Arolygwr yr Ysgol ydyw Mr W. ROberts, Younge Street. Ysgrifenydd, Mr i iiarn Thomas, Simcoe Street. BJaenoriaid, ri Jones, Marcun a Williams, Pears Ave. j_ ?e yn dda genym 011 feddwl fod y diweddaf  gwella o'i afiechyd blin a ddioddefodd. "ft foncyff o'r iawn ryw ydyw. Teimlwn mai 06lied fawr i ni fuasÜ colli yr hen Gristion ?yw. Trysorydd ydyw Mr Owen M. Wil- Jatn, Togan. Mae yn dda genyf roddi ar o?ll ;'Q cyfeillion yn Nghymru ein bod fel ? Meibion Cymreig yn parhau i wasanaethu V WQachosion crefvddol i'r gwahanol enwadau ydym\vediaddaw rhoddi ein gwasanaeth i' enbadwr, i ganu yn y Tent nos Sul, Mehefin 2. Fe welir Ilawer o'r Tents yn misoedd yr Ran wahano! Genhadon. Un peth fydd tynu Hawer 0 fy sylw, cynifer o wabanol ?'?odydd ar nos Suliau yn nghonglau yr eoiydd ar ol y gwasanaeth arferol yn yr add- dai, gan y gwahanol Gymdeithasau Ymdrech C?refyddol. Maent yn effeithiol dros ben. ID Y'llon a merched ieuanc a'u holl egni. :Jddin yr Iachawdwriaeth, haf a ganaf, gyda hwyrlt amryw Seindyrf pres yn chwareu ar hyd Yr heolydd ar y Sabbothau yn tynu Hawer ar "holau. Maent yn gwneyd gwaith rhagorol. -l\p GELERT. ft..
EISTEDDFOD PENTREFOELAS.
EISTEDDFOD PENTREFOELAS. o Cynhaliwyd Cyfarfod Llenyddol a Cherdd- °? yn Bethel, Pentrefoelas, dydd lau, ?Bhenn 17, pryd y cafwyd cyfarfodydd ardd- yr 011 o'r cystadleuaethau yn dda iawn. I Llywyddion oeddynt. Prydnawn. W. G. '?eo, Esq,, Llanrwst, a hwyr, Aneuryn 0. :ans, Esq., Cyfreithiwr, Dinbych. Y Beirn- 'ad Cerddorol oedd Mr. John Wi!Hams, Caer-, '?on, Arweinydd y Cor a eaHIodd y wobr 4m Y brif gystadleuaeth YD Llundain. Y ??. tBiaid eraill oeddynt:—Traethodau, Parch. Hmwyd Williams, Llanrwst, a Llewelyn Jer- ?Q. Rhyddlanfair Arholiadau, Parch Ellis! )* Roberts; Barddoniaeth, Mr. Tom Owen, ?ertig y Drudion; Adroddiadau, Mr. Thomas ones, Bryndu, Cerrig, Mr. Thomas Evans, jlas Iron works; y Gelfyddydwaith, Mr. )Obu Jones Penlan, Mr. W. Hughes, Cwrt y YD, Mr. Peter Lloyd, Dalbyfryd, Miss M. ?Roberts, Foelas Hotel, Miss Jones, Post Of?ce Mr. a Mrs. Roberts, Brynhyfryd, Mrs. "P'?s, Pen!an. Mrs. Evans, eThe Smithy. ?Qeirydd y pwyllgor oedd Mr. D. 0. Jones, PO'llan Trysorydd, Mr. H. W. Jones, Gwer itil Cottage. Ysgrifenyddion, Mr. J. Jones, ?Qrhyn, Glasfryn, a Mr. W, Davies, Pentre- Oelas. CYFARFOD Y PRYDNAWN. Hywydd, Mr. W. G. Owen, Metropolitan ??ak, Llanrwst. Dechreuwyd trwy ganu ton UI1eiÓfaoI. Cystadleuaeth adroddiad i rai dan 12 oed, "Y sgoler." 1, Olwen Lloyd, fOlhYfrYd; 2, Elizabeth A. Jones, Penmach- 3, gydradd, John Jones, Cefnbrith, ac IRralyn Ellis, Mount. Ffram pictiwr, 1, D. Moes. Tai Ucha, Hafod Elwy. Deuawd i ?Qt dan 16 oed, Y Lili," 1, Parti o Cerrig y '?Qidion. Night Dress Case, nid oedd neb yn ?WBg o'r wobr. Adroddiad i rai dan 16, ) Myad i bysgoa," 1, Miss Mattie Jones, ?wern Hywe!. Ysbytty; 2, Miss Blodwen ?Qes, Penmachno. Beirniadaeth yr arholiad Pl*tu, 1, Mrs. Watkin Jones, Celyn 2, John ?'es. Smithy Bala a Pentrefoelas. Unawd i  dan 15 oed. unrhyw un allan o'r People's '?7elsh Songs," daeth 14 i'r Prelim, dewiswyd #4ir i'r Llwyfan ac enillodd Miss Kate Owen, '?S y Drudiou. Traethawd, Enwau anif- 'eilid.id yr hen Destament gyda byr nodiadau 4r bob un o honynt. Y wobr gyntaf yn cael ei 118mu rhwng Miss Jones, Ffestiniog a Mr. Jones, Growene, Cerrg: 2, Mr. Thomas i oe. Hendre, Rhydgwernen.. Cystadleuaeth '?ai heb eniH o'r btaen, David Jones, Glas- ?°' Cafwyd anerchiad byr, pwrpasol, am- ^r°^» ac addysgiadal iawn gan y Ilywydd. ?awd tenor, "Modudd fy nghariad." 1. 1, David Jones, Llangwm. Corau Plant, • ?wsg fy noli," daeth tri cor ymlaen i gystad- Q ar Y dernyn tlws yma, sef Cor Bethel, Cor ?oamaCorCefnbnth, a Cerrig y Druidion, ) arnwyd y wobr i gor Siloam. CYFARFOD YR HWYR. ilywydd Mr. A. O. Evans (Cadeirydd y I Qghor Sirol). Yr oedd y He yn orlawn bell cyn amser dechreu a chafodd Mr. a Mrs. Evans dderbyniad croesawgar iawn, Cystadleuaeth unawd Soprano neu Contralto, Telynau y Saint," 1, Kate Morgan Jones, Penmachno. Penillion, Blwydd-dal hen- aint," 1, Robert Daniel Jones (Ap Cledwai), Dinbych. Deuawd o ddewisedd yr ymgeis- wyr, 1, W. O. Jones, Ffestiniog, a J. W. Davies, Cyfieithiad o'r Saesnaeg i'r Cymraeg The human Eye Miss M. E. Roberts, Tyn y Culfach. Pedwarawd. "Mi welaf mewn adgof," 1, John W. Davies a'i Barti. Unawd Baritone, "Craig yr Oesoedd," 1, Ted Jones, Ffestiniog. Hosanau goreu, 1, Miss Jones, Cerrig. Englyc, Pedol Ceffyl," 1, Dafydd Parry, Glasfryn. Y Llywydd yn ei anerchiad a gyfeiriodd ar amryw bethau pwysig ynglyn ag Eisteddfodau. Cyfeiriodd hefyd at y son fod bedd Llewelyn sydd wedi ei ganfod yn Pentrefoelas, ac os try y peth allan i fod yn wir y bydd yn bleser ganddo roddi darlun o'r tywysog Llewelyn yr hwn a ddaeth i'w law yn ddiweddar iawti yn anrheg i'r ardal. Cafodd ddetbyniad gwresog dros ben. Llongyfarchodd Mr. Williams ar ei fuddugoliaeth yn Llundain. Mewn atebiad i sylwadau y llywydd dywedodd Mr. Williams, Beirniad Cerddorol, mai dyma y trydydd tro i gor o dan ei arweiniad ef enill y brif wobr mewn Eisteddfod Genedlaethol yn Wrexham 1888 ac yn gydfuddugol yn Eistedd- fod Ffestiniog 1898 ac yn Llundain 1909, ac yr oedd amrhyw a aelodau y Cor yma gydag ef yn Wrexbam 1888. Dywedodd hefyd nad oedd yr un aelod o'r Cor y tro yma yn byw tuallan i dref Caernarfon, dywedodd ei fod wedi ymgymeryd ar gwaith o ddysgu y Cor yma gyda'r penderfyniad o enill y wobr am unwaith eto er rhoi taw ar y siarad sydd yn y South nad oes un cor yn y Gogledd wedi enill y wobr er ys blynyddoedd, ac nad oeddynt yn gallu canu yn y Gogledd. Yr oedd yn teimlo yn ddiolchgar iawn am y teimladau da, a'r caredigrwydd mawr a ddangoswyd ato yn mhob man ar ol iddo ddod gartref. Cystad- leuaeth triawd Duw bydd drugarog," 1, Mr. Tom Roberts, Penmachno a'i barti. Ffyn. 1, Thomas Jones, Isgaer Wen. Parti 16, Y Nant a'r Blodeuyn," y wobr oedd 32/ a medal canol aur i'r arweinydd yn annibynol a'i barti, daeth 3 parti yn mlaen, sef Parti Cerrig, Parti y Foelas, a Parti Glan y Mug, goreu., Parti Cerrig (Arweinydd Bob Parry). Enillwyd y fecial am arwain gan John W. Davies, Glan y Mug. Prif draethawd, gydradd oreu, Richard Davies, Foelas, a Meredith Davies, Ffestiniog. Prif adroddiad, Pawb at y peth a fo," gyd- radd oreu, J. W, Ellis, Cerrig, a Miss Hughes, Cerrigell Cwm Yspytty. Canu gyda'r tannau, 1, Thomas Jones, Isgaer Wen, Gyffylliog; cydradd ail, Watkin Jones, Celen, Bala, Bob Parry, Cerrig, Arthur Jones, Bryndu, Cerrig. Her Unawd, daeth 11 i'r Prelim, dewiswyd 3 i'r Llwyfan, sef Bob Parry, Cerrig, W. O. Jones, Ffestiniog. a Ted Jones, eto. Yr olaf yn oreu, y wobr oedd 25/ Corau Meibion, gwobr £ 5, daeth 2 Gor ymlaen, sef Cor Dol- gynwal, arweinydd R. H. Jones, a Cor Pentre- foelas, arweinydd W. J. Roberts, yr olaf ddyf- arnwyd yn oreu. Cynygiwyd diolchiadau gan Mr. John Jones, Penlan, a chefnogwyd gan Parch. R. J. Parry, Cerrig, a therfynwyd y cyfarfod trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau a phrofiad pawb yma oedd fod yr Eisteddfod yr oreu a fu yma er ys lawer iawn o amser. (Oherwydd diweddavwch yr adroddiad uchod yn dod i law methasom a'i gael i mewn yr wythnos ddiweddaf.—GOL J
I 'STEDDFOD RHIWDDOLION.
I 'STEDDFOD RHIWDDOLION. Pan y daethym i olwg Coleg Gutyn," a cherllaw iddo y Tabernacl yn yr Anialwch," nawn Sadwrn diweddaf, yr ydoedd yr haul yn araf gilio dros fryniau hael Arfon," adsain peraidd lais cerddoriaeth yr adar bach yn marw ar geulan y fawnog yr awelon caruaidd yn gwthio eu bysedd meinion trwy wallt y rhos, ac o'r gwrychoedd estyn y blodeuyn gusan felus dan goron o wlith, y gornant ddis- tadl yn siriol lithro i lawr trwy'r gwrychoedd cydrhwng bryniau pen-grynion ydynt ar eu gliniau yn talu gwarogaeth iddi: cana yn ei mynwes gyfrinion mil o flynyddoedd, ac yn ei dyfroedd gloewon ymdodda pob gwahaniaeth mewn perffaith gyd-gordiad yn y cysgodion tyneraf mewn perlewyg freuddwydiol. Yn yr olygfa ger ein bron ymdodda y mawr ar tyner, y tlws ar urddasol. Pa ryfedd fod brodorion lleoedd sydd mor llawn o'r rhamantus a Rhiwddolion mor glymedig wrth eu gwlad \pnd at y 'Steddfod ddarllenydd. Dylifai y Hwythan am gynteddoedd y Tabernacl yn gynar brydnhawn yr Uchelwyl. Cafwyd cyfarfod dyddorol a bywiog dan lywyddiaeth J. D. Jones, Ysw., Llanrwst. Y beirniad cerddorol ydoedd Mr. Robert Lewis, Llanddeiniolen, ac arwisgid y buddugwyr gan Mrs. Taurdrem, Liverpool. Y ddwy gystad- leuaeth y teimlid mwyaf o ddyddordeb yn- ddynt fe ymddengys ydoedd yr her-unawd a'r Corau Cymysg ar y don o waith Gutyn. O'r saith ymgeisiodd ar yr unawd, dyfarnwyd Richard Von, Blaenau Ffestiniog, yn oreu. Dau gor ddaeth yn mlaen ar y don, sef y "Bettws Choral Union" a'r "Invincibles," Dolwyddelen. Pan yr arweiniodd R. Hendre Price yr Invincibles i lwyfan y Tabernacl o flaen allor yr arogl-darth-cettyn y cyfaill Gutyn—torodd y brwdfrydedd allan yn fan- llefau byddarol. Er mai yr "Invincibles" oedd ffaffryn y gwyddfodolion, y "Bettws Choral Union ddyfarnwyd yn oreu. Fel yr awgrymodd y beirniad ni bu datganiad mor agos i berffeithrwydd, a dau gor mor gylartal, ar lwyfan Eisteddfod: yn wir gellid canfod blew y meddwl ar gappan y drws ac ar y ddau ystlys-bost! Am drefniad, arddull, a deheu- rwydd, dyfarnwyd y tlws aur i arweinydd yr "Invincibles"—R. H. Price, Dolwyddelen, a chydag urddas teilwng arwisgwyd yr arwr gan Miss Ann Pritchard, o'r Bettws Choral Union." Cawd Seiat ar ol y 'Steddfod yn yr ban y derbynid bendith y mamau mewn dysglaid o De, ac y mae y mamau yma yn ddialbebol am yr hen paned." Nid rhyw wermod lwyd and Te wyddost, ddarllenydd, ac y gall adgof ion ymbesgi arno! Cawsom y cyfaill Gutyn yn llawn yni a gwaith er ei fod wedi troi allan o'r Coleg dair neu bedair cenhedlaeth o ddisgyblion graddoledig i ymladd brwydr bywyd. Mae wedi aberthu mwy na chwarter canrif goreu ei fywyd i ddiwyllio egin man Rhiwddolion anghysbell-dyma arwr Mr. Carnegie Da genym ddeall fod y mudiad hwn yn parhaui dderbyn y gefnogaeth a deilynga. JON JOS.
Coleg y Brif Ysgol Aberystwyth.
Coleg y Brif Ysgol Aberystwyth. Llawen genym gyhoeddi y Rhestr a ganlyn am waith da y myfyrwyr cysylltiedig a'r Brif Ysgol uchod am y tymor 1909-10:- YSGOLORIAETHAU AGORED,-Goronwy O. Edwards, £ 40; Ada Burns, £ 30; T. H. Thompson, a D. George Reynolds, £ ■ 25 yr un; Alfred S. Bunstead, Gwilym Evans, b Henry W. Newcombe, b Edgar R. Atkins, £15 yr un: John Morgan, T. Owen Jones, David Evans (Ffos), A. Victor Porter, Eva F. Kingham, Dorothy Jones (conditional), Edward H. Evans, b Stanley F. Thomas, a E. Stanton Roberts (conditional), a W. A. Burn, a D. Luther Phillips, Maud K. Turner, a J. H. Tamlyn, E. Archibald Lloyd, a T. Ivor Rees (conditional), Richard E). Jones, a Jessie M. Evans, Percy M. Jones, a P. M. Young, £ 10 yr un; a Cyril M. Green (conditional). May Olive Stephens, Florence P. Owen, E. E, Williams, a W. E. D. Jones, a D. A. Lewis, J-5 yr un. CLOSED SCHOLARSHIPS, Hubert E. Jones, a Moses Hoskin, £ 40 yr un; May Wheat, R. O. Hughes (Clarke), £ 30 yr un Idwal Morgan, John Peate, Thomas Williams, Moulsdale Williams, Mary Ann Hughes, J. Ll. Evans, A. Decima Jones, D. Morris Edwards, £20 yr un; A. Whatham, Margaret M. Gittins, a James B. Carpenter, £15 yr un P. Basil Jones, Gwen E. Tay)or, Charles Patterson, Clara Elton, Alice Cruickshank, T. R. Maldwyn Price, Edith E. Everson, Richard R. Jones, Peter A. Lewis, £ 10 yr un Frances M. Haigh, £ 6; Elsie Hoskins, a Cyril M. Green, £5 yr un. NORMAL EXHIBITIONS,-W. King, a R. T. Harry, a L. S. Knight, a A. Pinsent, a L. G. Mather, £ 10 yr un; E. N. Powell, a M. E. Pryde, E. M. Gearing, a E. Knowles, a L. Gilham, £5 yr un, Y mae, yr aItalaidd o o flaen yr enw yn arwyddo fod y wobr yn un newydd a'r b, Italaidd yn arwyddo fod y wobr wedi ei hychwanegu. Yr oedd Aneurin Owen, a May Wheat yn colli y Normal Exhibition am eu bod yn dal ygoloriaeth Golegawl.
I Ysgoloriaethau -Coleg Bangor.I
I Ysgoloriaethau Coleg Bangor. Yn ychwanegol at yr Ysgoloriaethau rodd- wyd yn 1907 a 1908 yn cyrhaedd y swm o £ 535, y mae Llys y Coleg wedi pasio i roddi y rhai a ganlyn am dymor 1909-10 :-Ysgolor- iaeth Isaac Roberts, adnewyddu £ 50 i W. Jacob Jones, B.SC., am yr ail flwyddyn; a swm cyffelyb am un flwyddyn, gyda rhagolwg am ail flwyddyn i Edwin A. Owen, B.SC. Ysgoloriaeth Osborne Morgan, adnewyddu xc,43 10s Oc i William C. Evans, B.SC., am yr ail flwyddvn; a swm cyffelyb i Evan E. Thomas, B.A., am flwyddyn gyda rhagolwg am adnewyddiad am ail flwyddyn. Ysgoloriaeth Deon Edwards, £ 29 12s 0c, i Richard Thomas. Gwobr R. A. Jones, am ragori mewn Mesuroniaeth zfl7 17s Oc i David E. Roberts. Ysgoloriaethau a gwobrwyon Eyton Wil- liams:—I fyfyrwyr y drydedd a'r bedwaredd flwyddyn, £ 15 yr un i Janet M. Dunlop, Muriel G. Edwards, Benjamin Evans, Frank W. Jones, John Robert Jones, David E. Roberts, Nesta Thomas, a £ 10 i A. Blodwen Griffith. I'r rhai yn yr ail flwyddyn,-Zrlo i Kathleen Gilman, a Gwen Price, a £ 5 i Mabel Evans. I'r rhai yn y flwyddyn gyntaf, £15 i Margaret E. Hewitt; £10 yr un'i Walter O. Hughes a John Jones; a £5 i D. Emrys Evans. Ysgoloriaeth John Hughes,— £ 15 i Harold King a £10 i Thomas Woodings. Tate's Exhibitions,— £ 15 i William H. Gray, a Marian Jones. Myfyrwyr y Day Training,— £ 7 10s Oc yr un i T. Vincent Davies, a William Jones (Ffestin- iog); £ 10 i Kate Redman, a £ 5 i Maude M. Jarvis. Gyda Exhibition am ail gwrs i R. Harris Jones, B A. £ 20 i Thomas Thompson, Myfyriwr Amaeth- yddol. Gwobr Goffa Jones-Morris, Bernard F. Armitage. Exhibition mewn Ieithoedd Diweddar, Gwen Price, a Gwladys P. Williams.
'V W WVVVVWWV W IT v ▼ ▼ ir…
'V W WVVVVWWV W IT v ▼ ▼ ir V Wir YMYS, TALSARNAU. Cynhaliodd Ysgol Sul y lie uchod eu gwyl deflynyddol, prydnawn Sadwrn diweddaf. Nid oes hafal i chwiorydd yr Ynys am eu mhedr yn y cyfeiriad yma, fel mewn cyfeiriadau eraill. Yr oedd y darpariaethau yn bobpeth ellid ddymuno mewn helaethrwydd, amrywiaeth, chwaeth, a threfnusrwydd. Yr oedd y byr- ddau yn odidog yr olwg arnynt, wedi eu hilio a tbrugareddau, a blodau amryliw yn gwasgar eu per arogl hyfryd. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y rhai canlynol :-Mrs Williams, Glanmeirion; Miss Maggie Ellis, Tygwyn; Miss Gwen Thomas, Glanllyn; Mrs Davies, Ty Newydd; Mrs Evans, TynUidiard; Mrs Tudor, Bryntirion Mrs Griffith, Cefngwyn; yn cael eu cynorthwyo gan Misses E. A. Ellis, Nesta Thomas, Annie Lloyd, E. Davies, Annie Tudor a Nell Griffith. Wedi i bawb wneyd cyfiawnder a'r danteithion a chael eu digoni, cafwyd cyfarfod adloniadol o dan lywyddiaeth y Parch W. Griffith, M.A. Awd trwy y rhaglen a ganlyn :—Ton gyffredinol, Am yr Ysgol rad Sabbothol." Adroddiad o Etayn Cenhadol gan Annie May Jones. Can, Wyres fach Ned Pugh," gan Eben Richard. Adroddiad, Nant y Mynydd," gan Willie P. Griffith, Cefngwyn. Ton gyffredinol. Ad- roddiad, Y Crythor Dall," gan Morris Lloyd. Can, Mae d'eisiau di bQb awr," gan Bobi Mathers. Adroddiad, Dweyd y gwir," gan t/r • Laurah Jones, Cefngwyn. Ton, "Y Drws Agored." Adroddiad, Bedd y dyn tylawd," gan Teddy Lloyd, Can, "Hiraeth," gan Richard Griffith, Adroddiad o benillion "Ysgol yr Ynys," Annie Tudor. Can, "Llwyn Onn," gan y plant. Hanes dechreuad yr achos yn yr Ynys gan William Jones. Can, gan J. J. Thomas. Ton 0 na bawn i fel Efe." Wedi talu diolchiadau arferol ymwahanodd pawb wedi mwvnhau v ddau evfarfod vn fawr iawn. —UN OEDD YNO. _J.. I -D I
rvvvvvwvwvwvwvWWWWWV Y Ddamwain…
rvvvvvwvwvwvwvWWWWWV Y Ddamwain yn St. Helens. Cynhaliodd Mr Brighouse drengholiad ddydd Gwener ar gyrph Henry Griffith Jones a John Lincoln Jones, y rhai a laddwyd ddydd Mawrth yn Nglofa Sutton Heath, St Helens Yr oedd pedwar dyn ar yr ysgaffald yn clirio ochrau y shafft, pryd y trodd ysgaffald o dan eu traed. Syrthiodd dau i lawr, 180 o droed- feddi, i waelod y shafft, ond llwyddodd y ddau arall i gael gafael.yn yr ochr, Eglurodd y dyn oedd a gofal y gwaith arno, fod yr ysgaffald yn cael ei dal i fyny gyda chwech o fariau heyrn wedi eu curo i ochr y shafft, ac yr oedd dwy raff haiarn wedi eu sicr- hau wrth ddau le ar yr ysgaffald. Taniwyd tair ergyd, un o honynt yn ymyl un o'r bariau, yr hwn a roddodd i ffordd, ac amcangyfrifid fod dros ugain tunell o faw a cherig ar yr ysgaffald ar y pryd. Y prif gwestiwn gan y Rheithwyr i'w benderfynu oedd, pa un a ddylasai pedair rhaff fod yn dal yr ysgaffald yn lie dwy, gan fod Arolygydd y Llywodraeth (Mr Hall) yn dywedyd mai ei farn ef oedd na ddigwyddasai y ddamwain pe buasai pedair rhaff yn dal yr ysgaffald. Dychwelwyd rheith- farn o farwolaeth ddamweiniol, ac ychwaneg- asant y dylasai pedair cadwen gael eu defnyddio, a'u bod i'w defnyddio o hyn allan. Hefyd, barnent fod gormod o faw a cherig ar yr ysgaffald, ac i'r ergydion gael eu gollwng yn rhy agos i'r bariau oeddynt yn dal yr ysgaffal wrth yr ochrau. Fel y cyhoeddasom yr wythnos ddiweddaf, mab i Mr Griffith Jones, 18, Glanygors Terrace Blaenau Ffestiniog, ydoedd Hugh Griffith Jones. Dygwyd ei gorph adref nos Wener, ac aeth torf i'w gyfarfod i'r orsaf. Prydnawn Sadwrn, rhoddwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent Bethesda yn nghanol arwyddion o alar dwys a chyffredinol. Gwasanaethwyd gan y Parch J. Rhydwen Parry. Yr oedd John Lincoln Jones yn fab i Mrs Jones, 4, George Street, Llanrwst. ac yn frawd i Mr Richard Jones, y ciciwr pel adnabyddus. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a'r ddau deulu yn eu profedigaeth lem.
' -- - -- -- - - ------ -IHEDDLYS…
HEDDLYS PENRHYNDEUDRAETH- I Mewn Heddlys Arbenig ddydd Mercher, o flaen Mri R. Jones Morris a William Jones, cyhuddwyd Gwyddel o'r enw Thomas Mac- arthy, o gael boreubryd trwy dwyll yn Water- loo House, Penrhyn.—Anfonwyd ef i garchar am 28 niwrnod. Dydd lau, o flaen F r. R. T. Jones, R. Jones Morris, Robert Richards, Dr. J. R. Jones, William Jones, a D. Tegid Jones, Yswein- iaid. Yr Arolygydd Roberts, a gyhuddodd Thomas Richard Bull, 151, Oxford Street, Llundain, o or-yru ei Gerbyd Modur ar ffordd Harlech, Mai 30.—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies i erlyn ar ran yr HetMlu.—Profwyd yr achos gan yr Heddgeidwad Davies, Penrhyn, a'r Heddgeidwad Roberts, Harlech.—Yr oedd yn gyru yn ol 24 milltir yr awr.—Dirwy £ 5 a tl 9s 6c o gostau. Y Rhingyll D. R. Davies a gyhuddodd Edward Jones, Gatehouse, Minffordd o dan ddeddf newydd y Cwn o adael ysgerbwd Ho yn ymyl y brif-ffordd heb ei gladdu o gyrafedd Cwn.-Y Prif Gwnstabl a eglurodd mai yn y dull hwn yr oedd glefydon yn cael eu lledaenu ar hyd y wlad. Yr oedd rhybuddion wedi eu gwasgaru yn gyffredinol fel nad oedd gan neb esgus am droseddu.—Dirwy 1/- a 7/6 o gostau. Cyhuddwyd labrwr o'r enw Richard Hughes, Penlan. Llanfair, o arfer iaith aflan.—Dirwy 1/- a 7/6 o gostau. Gofynodd Mary Ann Davies Bryniau Hen- dre, Penrhyn, am archeb i orfodi ei gwr Wil- liam Davies, i dalu at ei chadw hi a'r plant. Ymddangosodd Mr. T. Garth Jones dros y wraig, ac hysbyswyd y Llys fod pump o'r plant o dan 16 oed. Yr oedd y Diffynydd yn gweithio mewn Glofa yn Neheudir Cymru, ac arferai anfon chwe' phunt yn y mis i'r wraig i fyny i dair blynedd yn ol. Nid oedd yn awr ond derbyn ychydig iawn oddiwrtho.-Anfon- odd y gwr i hysbysu y Llys ei fod yn cael gwysiau, am ddyledion i'r symiau o £ 15, £ 7, £ 5, a £ 4 10s Oc, ac nid oedd reswm iddo anfon arian i gynal y teulu a chael gwysiau parhaus o'r fath.—Mynai y wraig fod rhai o'r gwysiau hyn am ddyledion yr awd iddynt cyn iddo fyned i weithio i'r Deheudir.-Acheb am bunt yr wythnos a'r costau. Cadben Wiiliam Williams, Oakeley Arms Hotel, Maentwrog, a gyhujdwyd o werthu diod ar oriau gwaharddedig ac o ganiatau meddwdod yn ei dy, ddydd Sul, Ebrill 25.— Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr Heddlu, ac amddiffyrtwyd gan Mr. John Humphreys.—Codai yr achos o eiddo William Davies, Penrhyn, yr hwn a ddirwywyd yn y Llys diweddaf am fod yn feddw ar y dyddiad uchod, ac iddo yn ei feddwdod gyfarfod a damwain. Yr oedd amryw o dystion o bobtu yn yr achos, a deuai y cyfan i'r un fan fod I Davies wedi dod o'r Penrhyn a galw yn y Gwesty a dywedyd ei fod yn myned ar daith, cafodd beint a glasiad o gwrw, ac aeth allan yn ol pob ymddangosiad yn sobr. Codwyd ef i fyned ar ei ffordd adref gan gerbyd oedd yn pasio, ac wrth i hwnw stopio yn sydyn i roddi Davies i lawr yn ymyl y Penrhyn, syrthiodd Davies ac anafodd ei hun fel y bu adref am beth amser mewn canlyniad i'r ddamwain.-— Taflwyd y ddau gyhuddiad allan, gydag awgrymu y dymunoldeb i enw pawb alwai ar y Sabbath yn y Gwesty gael ei roddi i lawr ar eu Llyfr. William Williams, White Horse Ion, Har- lech, a gyhuddwyd o ganiatau meddwdod yn ei dy noson Ffair Harlech, Mai 13.—Ym- ddangosodd Mr, R. O. Davies dros yr Hedd- lu, ac amddiffynwyd gan Mr. John Humph- reys.—Tystiwyd fod dyn yn y gegin ddeg o'r gloch y nos yn feddw iawn. Yr amddiffyniad oedd nad oedd Miss Carroll wedi sylwi wrth roddi diod iddo ei fod yn feddw.—Dirwy o 5/- a £2 lis 6c o gostau. Dirwywyd Ellen Jones, Tynewydd Morfai, 10/- ac 8/6 o gostau am greulondeb at geffyl trwy ei weithio pan o dan ddoluriau Mehefia 9.
CYNGOR DINESIQ BETTWSYCOED.
CYNGOR DINESIQ BETTWSYCOED. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor uchod nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol, Mri Robert Parry (Cadeirydd), John Hughes (Is-gadeirydd), T. W. B. Corns, J. Faichney R. Rowlinson, B. Pullan, Henry Roberts, Henry Williams, R. R. Owen (Clerc), a R. D. Jones (Arolygydd Iechydol). Adroddodd Mr Corns fod £ 17 7s 3c mewn biliau i'w talu, a phasiwyd i wneyd hyny. Ar gynygiad Mr Corns a chefnogiad yr Is- gadeirydd, pasiwyd i'r Dreth fod yn 1/9 y bunt; ac ar gynygiad Mr Pullan a chefnogiad Mr Roberts fod ardeth y Dwfr i fod yn ddwy geiniog y bunt. Adroddodd yr Archwiliwr. iddo archwilia papurau a llyfrau y Cyngor a'u cael oil mewn cyflwr boddhaol. Yr oedd £ 196 4s 6c wrth gefn ar derfyn y flwyddyn arianol, Mr. T. Griffith, y Peirianydd sydd yn gweithredu dros y Cyngor gyda'r mudiad i. gael cyflenwad newydd o ddwfr i'r pentref, a anfonodd i hysbysa nad oedd wedi derbya unrhyw atebiad boddhaol oddiwrth Mr. Rees, Abertawe, yn nghySch ei delerau am gael tynu a chroni dwfr ar ei dir. Darllenwyd llythyr arall oddiwrth Fwrdd y Llywodraeth Leol yn gofyn beth oedd y Cyngor yn ei wneyd gyda sicrhau cyflenwad digonol o ddwfr i'r lie.— Mr. Faichney, Y mae oediad maith Mr. Rees yn foddhaol iawn.Mr. Huiian, yr wyf ya cynyg ein bod yn rhoddi i fyny bob trafodaeth a Mr. Rees ac yn cychwyn o'r newydd. Y mae cryn anfoddlonrwydd yn mhlith y treth- dalwyr yn nglyn a'r mater hwn. Os nad awn yn mlaen gyda'r gwaith bydd i Fwrdd y Llywodraeth Leol ddod yn mlaen a'i gario allan eu hunain, a hyny gyda thraul fawr i'r Ile.Cadeirydd, "Yr wyf yn cydsynio a'r rhan gyntaf o sylwadau Mr. Pullan, and nid a'r llall. Ni wna Bwrdd y Llywodrreth Leol wneyd y gwaith eu hunain.Mr. Pulian, Y maent wedi gwneyd hyny mewn lleoedd eraill, paham nad yma yr un modd ?"- Awgrymodd y Clerc fod copi o lythyr Bwrdd y Llywodraeth Leol yn cael ei anfon i Mr. Rees, ac i alw ei sylw at fod yn anmhosibl i'r Cyngor aros yn mhellach am ei atebiad.—Mr. Corns a gynygiodd eu bod yn rhoddi saith niwrnod o amser i Mri Rees i ateb, a chefnog- odd Mr. A. Williams. Ni chafodd cynygiad Mr. John Hughes i ganiatau 14 niwrnod i ateb gefnogiad, a phasiodd cynygiad Mr. Corns Pasiwyd yn mhellach, oni chair atebiad oddi- wrth Mr. Rees mewn saith niwrnod, fod pab trafodaeth gydag ef i'w derfynu. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mri Lloyd George a George ar ran Mr Jones, Brynaber, yn cwyno am y gwaith a wnaed gan y Cyngor ar y He. Yr oedd y Clerc wedi ateb fod Mr Jones wedi gwrthocl gwrandaw ar y ceisiadau a wnaed ato, a bod y Cyngor wedi gorfod symud Y mae trefniant wedi ei wneyd i Mr T. Griffith gyfarfod Mr Lloyd Jones, Bala ar y lie. Caniatawyd cais Mr Adams, Ffynon, Trefriw i gael dodi y pellder i'r Ffynon ar Fwrdd hys- bysu y Cyngor. Ni chofrestrwyd yr un enedigaeth yn ystocl mis Mai, ond bu farw dau. Adroddodd yr Arolygydd i Aelod o'r Cyngor droseddu Deddfau y Cerbydau trwy gari j gormod yn ei gerbyd.—Eglurwyd mai wythnos y Sulgwyn ydoedd, a pasiwyd i gau llygad ar jn peth. |VVWWN^WWWVVVVWWWW
MAENTWROG.
MAENTWROG. Y DIFFYG TREULIAD.-Mynwch gael Poiel ar unwaith o DR. WOOD'S REMEDY at y Diffyg Treuliad. Nid oes dim gwell i'w gael at yr afiechyd hwn. I'w gael gan Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog. YSGOLDY LLENYRCH .—Cynhaliwyd cyfarfod pregethu yn Llenyrch, Dydd Gwener, Mehefin. 25ain, Sir agoriad y capel ar ol ei adnewyddu, pryd y gwasanaethwyd gan y gweinidogion c:tnlynol :Am 2, dechreuodd y Parch. Griffith (A.), a phregethodd y Parch. W. R. Jones, Llanfrothen. Am 6, dechreuodd y Parch. J. R. Jones, B.A., Ffestiniog, a phreg- ethodd y Parchn. Thomas Hughes, B.A., Rhiw, a John Owen, M.A., Bowydd. Yr oedd y diwrnod yn hafaidd hyfryd, a chynull- fa luosog wedi dod ynghyd i wrando yr Efen- gyl. Cafwyd hwyl neillduol ar y cyfarfodydd -gweinidogaeth y Gair yn felus a grymus, a gwrandawiad astud. Ar ddiwedd odfeuon y nos, hysbyswyd gan y Parch. H. Ellis a Mr. T. J. Roberts, Aelybryn, Blaenau Ffestiniog. fod yr ymdrechion wnaed gan y brodyr a'r chwiorydd yn Llandecwyn, gyda chynorthwy rhanau eraill y dosbarth, wedi profi yn hollof lwyddianus, fod sirioldeb a charedigrwydd mawr wedi ei ddangos gan y gwahanol ardal- oedd a bod y capel yn awr cystal a bod yn ddi- ddyled. Hyderwn y bydd y weinidogaeth a gafwyd yn parhau eto yn ei dylanwad, a'r had da a hauwyd yn cael dyfnder daear nes "dwyn ffrwyth i berffeithrwydd."
[No title]
Y mae Mr. Geraint G. Roberts, mab 13 mlwydd oed Mr. L. J. Roberts, Arolygycd Ysgolion, newydd enill Ysgoloriaeth gwerth deugain punt. Dyma addewid am ysgolot gwych i'n cenedl os caiff rwyddineb ac iechyd. Ffodus iawn am eu belbulon gyda'r swydd- ogion yw Byrddau y Gwarcheidwaid. Gal wodd Bwrdd Carnarfon ar y Weinyddes sydd yn y Ty i ymddiswyddo, ond gwrthododd hi wneyd ■