Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
P-tholiadau Agoshaol.I
P-tholiadau Agoshaol. Bydd yn rhaid i Mr. Samuel ofyn i ethol- yr Rhanbarth Cleveland o Swydd Gaer- tfr ,ei ail-ethoL Os gan y Toriaid yn amg y'i gwrthwynebir, nid oes ganddo 4chOs i bryderu. Yn 1902 yr oedd ei fwy- rif yn2036, ac yn 1905 barnodd y Tori- aId mai eu doethineb oedd peidio dwyn allan Ytngeisydd i'w wrthwynebu. Mae yn bostbl fudd bynag—o'r hyn lleiaf mae'r si ar c'—V dygir ymgeisydd Sosialaidd i'r maes 501 awr, ac er fod y Rhyddfrydwyr yn tystio y dychwelir Mr. Samuel yn fuddugoliaeihus er hyny, nid ydym yn teimlo yn sicr y gwneir. Ond y mae yn anhawdd genym gredu y gwna'r Sosialwyr ddim o'r fath, oblegfid trwy ei wneyd gwrthwynebent aelod o Weinyddiaeth sydd wedi trefnu cyllideb ? y mae eu harweinwyr, nid yn foddlon hddo yn unig, ond yn ei chanmol yn fawr efyd. Yn Nghanolbarth Derby hefyd rhaid ethol olynydd i'r diweddar Syr A. Jacoby. Y ílO mae Pwyllgor Gweithio y Gymdeithas Ryddfrydol wedi dartgos ys- pryd a doethineb rhagorol. Cyfarfu ychyd- Ig ddyddiau yn ol, a phenderfynodd argym- ell y Gymdeithas i beidio dwyn ymgeisydd allan, eithr i gefnogi ymgeisiaeth Mr. liancock yr hwn a ddewiswyd yn ymgeis- ydd (er's cryn amser bellach) gan Undeb Glowyr Canolbarth Lloegr. Y mae genym 1 hyder y derbynir yr argymhelliad. Os reily, y mae y sedd yn hollol ddiogel.
RWyaid Claffion.,
RWyaid Claffion. Cof gan ein darllenwyr ddarfod i Arg- glwydd Carrington, fisoedd lawer yn of, alw yn hwyaid cloffion y rhai hyny o Gynghorau Sir y wlad sydd wedi dangos diffyg ewyllys neu ddiffyg gallu i weinyddu Deddf Tydd- ynod fel y dylid ei gweinyddu. Dywedasom ar y pryd ein bod yn ofni fod perygl i Gyngor Sir Meirionydd gael ei hun yn y cwmni hwnw. Mae ein sylw wedi ei alw at ffeithiau ag y gwna'r Cyngor a'i Bwyllgor Tyddynod yn dda i ddal arnynt. Cyn bell- ed yn ol a mis Mehefin y llynedd, yr oedd Cynghorau Cymru a Lloegr wedi trefnu i brynu neu i brydlesu 2000 erw o dir. Erbyn diwedd mis Mawrth yr oedd y tir oedd wedi el sicrhau yn 27,000 erw, ac yn awr y mae yn 36000 erw. Heblaw hyn mae camrau J^edi eu cymeryd gan wahanol Gynghorau I gael 5000 erw trwy orfodaeth, ac wedi cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Amaeth- yddiaeth. Yn Nghvmru a Lloegr, dros 41,000 o erwau yn Sir Feirionydd, dim un j £ °&fedd ysgwar. Drachefn y maeyn Ngog- 'edd Cymru 2,044,027 erw o dir mae 800 erw wedi ei cael dan y ddeddf yr ydym yn Son am dani, ond yn Sir Feirionydd nid oes un fodfedd ysgwar wedi ei chael. Allan o'r 800 erw a grybwyllwyd y mae 560 yn Sir Fon, a 54 yn Maldwyn, a'r gweddill yn Sir Ddinbych. Eisoes mae 17 o dyddynod yn nieddiant y tyddynwyr yn Mon yn Sit Ddinbych mae 16 o dyddynod yn meddiant V tyddynwyr, a chwanegir amryw at eu nifer o hyn i ddiwedd mis Mawrth nesaf. Ond yn Meirion, druan, nid oes (dan y ddeddf hon) gynifer ag un tyddyn neu dyddynwr. V n ngwyneb ffeithiau fel hyn gofynir i ni yd yr hyn sydd anmhosibl pan y gofynir 1 ni gredu fod Pwyllgor Tyddynod Meirion (i'r hwn y Dirprwyodd y Cyngor ei awdur- dod dan y ddeddf) wedi gwneyd ei or. Ni M'yr y Pwyllgor beth yw cywilydd, ac ychyd- tg wythnosau yn ol yr oedd holl aelodau y Cyngor (ag eithrio pedwar) yn foddlon. Or hyn lleiaf ni fynent ddweydeu bod yn an- foddlawn. Nid oedd y Pwyllgor wedi gwneyd dim yn ymarferol, ac yr oedd y Cyngor wedi ei foddloni. Yr ydym yn credu ei fod wedi cyfarfod ag anhawsderau lawer. Addefwn nad oes cymaint o angen am dy- ddynod yn Meirion ag sydd,, yn ol yr her- Iv ydd, mewn siroedd eraill. Ond erys y ffaith hon—fod haner cant neu fwy o geis- ladau wedi eu derbyn, ac nad oes cynifer ag Un wedi cael yr hyn a gais. A'r unig gas- gliad y gallwn ei dynu oddiwrth hyn ydyw fod Pwyllgor y Tyddynod yn cyfrif yr, an- hawsderau yn bethau i ddigaloni yn eu Rwyneb, a bod yr olwg arnynt wedi ei bar- 'ysu. Pell oddiwrthym fyddo dywedyd gair ltn yr un o'r Personau ?wn am yr un o'r personau unigol sydd yn cyf- ansoddi y Pwyllgor. Gwyr ein darllenwyr nad ydym yn arfer dyweyd gair sarhaus, nac amharchus am bersonau. Ond yr ydym yn rhydd i feirniadu cyrph cyhoeddus, ac y mae yn ddyledswydd arnom wneyd hyny. Ac od oes aelod o gorph cyhoeddus yn an- foddlon i ddioddef beirniadaeth deg a bon- eddigaidd, goreu pan gyntaf iddo ymneill- duo o fywyd cyhoeddus. Wedi ysgrifenu cymaint a hyn, gadawn yr mater dros amser gydag anog Pwyllgor Tyddynod Meirionydd i ystyried yn ddwys y ffeithiau a grybwyll- wyd.
Yn Nghorwen.III
Yn Nghorwen. II Mae Heddgeidwaid ac Ynadon Corwen yn cyflawni o'r hyn lleiaf un o'u dyledswyddau gyda sel a phenderfyniad sydd yn gredyd iddynt. Maent yn gwysio ac yn dirwyo yn ol eu haeddjant, y modurwyr hyny sydd yn gor-yru, ac yn ymddangos fel pe baent yn tybied mai er eu mwyn hwy yn unig y gwnaed y ffordd fawr, ac y'i cedwir mewn cywair addas, ac nad oes gan wyr traed hawl i gerdded ar hyd-ddi, na hyd yn cied ei chroesi, onid ydynt yn barod i beryglu eu bywyd. Dydd Gwener, yr wythnos ddi- weddaf, gwysiwyd pedwar-ar-ddeg o'r gor- yrwyr ynfyd yma gerbron Ynadon Corwon y rhai a orchymynasant iddynt dalu dirwyon oeddynt (gyda'r costau) yn gwneyd i fyny I gyfanswm o C90. Haeddai Ynadon a'r Heddgeidwaid glod am eu hyni a'u heofndra ac y mae trigolion Corwen a'r gymydogaeth yn ddyledwyr iddynt am eu hymdrech i'w wneyd yn bosibl iddynt gerdded ar hyd y ffordd heb roddi ei heinioes mewn enbyd- rwydd. Nid ydym yn gwybod am unrhyw dref nac ardal ag ynddi heddgeidwaid yn gwneyd eu gwaith yn ddistawach, ac yn effeithiolach, a chyda doethineb a moesgar- wch mwy nag y'i gwneir gan heddgeidwaid Ffestiniog. Mae'n dda genym gael ach- lysur i ddywedyd hyn. Wedi ei ddywedyd, y mae genym i alw sytw at un ffordd arall y gallent wneyd i'r cyhoedd wasanaeth angen- rheidiol ag y byddent yn sicr o'i werthfawr- ogi-trwy atal rhwysg modurwyr a deurod- wyr ffol. Byddwn yn fynych yn gweled moduriau a deurodau yn rhuthro ar hyd ein ffyrdd gyda chyflymdra afresymol, ac yr ydym yn fwy mynych fyth yn clywed cwyn- ion oherwydd hyny. Gwyddom fod rhai damweiniau (heb fod yn bwys;g iawn) wedi cymeryd He, a bod diangfaau" cyfyng rhag marwolaeth yn weddol gyffredin. Gwaetha'r modd y mae y brif heol, gan mwyaf, yn or-gyfyng, a geilw hyny am i yrwyr moduriau a cherbydau a deurodau symud yn gydmarol araf ar hyd-ddynt. Peth arall y byddai yn fuddiol i'r heddgeid- geid a'r ynadon ei wneyd ydyw dysgu y bobl hyn fod gan wyr traed hawl yn ol y ?/?-a? i haner y ffordd, ac nad oes gan na modur- wr na cherbydwr hawl i ddim mwy na'i haner. Yr ydym yn sylwi fod llawer o honynt yn cadw ar ei chanol heb ddal mod- fedd ar dde nac ar aswy, gan ddisgwyl i wyr traed gerdded ar hyd y gwter ac ymwasgu at y mur. Mae'n hen bryd dysgu amgen- ach pethau iddynt, ac oni ddysgant heb gael eu gwysio gerbron yr Ynadon, gwysier a chosber hwynt hefyd. Dywed rhyw hen air mai goreu dysg, dysg a brynir."
I— - Pryder yn y Deheudir.-I
— Pryder yn y Deheudir. Er ein bod yn ceisio gobeithio'r goreu, ofnwn yn fawr mai y gwaethaf a gymer le yn y deheudir, ac y cloir allan y gweithwyr gan berchenogion y glofeydd. Wrth obeith- io mai fel arall y bydd, teimla pawb o'r bron mai gobeithio yn erbyn gobaith y maent Dywed Undeb y Glowyr nas gallant roddi un cam yn mhellach yn ffordd cyfaddawd, ac y maent wedi apelio at Gyngrair Cyff- redinol Glowyr Prydain Fawr i roddi Rheol 20 mewn gweithrediad os cloir hwy allan. Mae Cyngor y.Cyngrair hwnw wedi cyfar- fod, ac wedi argymell fod y cais i gael ei ganiatau, ac wedi trefnu i roddi y mater i bleidlais yr holl aelodau gynted byth ag y gellir. Darpara Rheol 20 os bydd i'r glowyr mewn unrhyw ran o'r deyrnas gael eu cloi allan, y gellir galw ar holl lowyr y deyrnas i gyd i sefyll allan hyd cheir cytundeb. Os rhoddir y rheol mewn gweithrediad, pair ddyryswch mwy nag y gellir ei amgyttred trwy'r wlad benbwygilydd, acholledanferth- ol i laweroedd.
I .------MAENTWROG.I
MAENTWROG. I YSGOI, NEWYDD Y CYNGHOR.—Edrychir yn mlaen at ddydd Sadwrn nesaf, Gorphenaf y 3ydd, gan y Maentwrogiaid, gan mai ar y dyddiad uchod yr agoriad yr Ysgol newydd ysblenydd yn Gellilydan. Y mae wedi ei chodi ar lecyn bynod o ddymunol, ac yn nghanol y pentref, ac felly yn gyfleus i'r plant o bob rhan o'r plwyf. Am ddau o'r gloch cynhelir Cyfar- fod Cyhoeddus pryd y disgwylir enwogion o bell ag agos i'w anerch, ac yn eu mysg Rheol- wyr Lleol Dosbarth Ffestiniog. Am 6 o'r gloch bydd Cyngherdd Uwchraddol yn yr Ysgol, pryd y cymerir rhan gan rai o brif gantorion ac Adroddwyr y cylch.
PORTHMADOG. ' ' ' w " * *…
PORTHMADOG. w VvwVVV\ I PRIODAS.-Hysbysir y bydd priodasyn cym- eryd He dydd Llun nesaf (Gorph. 7fed) yn v TabernaCl, rhwng Mr. Wm. Thomas (Crom- lechydd), Maenofferen Offices, Portmadoc a Miss Jones merch y diweddar Capt. Jones. Gwasanaethir ar yr achlysnr gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon). Mae trefniadau 'l am neithior brydferth yn cael eu gwneyd, a chymerir dyddordeb mawr yn y digwyddiad.
ISYNIADE JOHN JONES.-I
SYNIADE JOHN JONES. YN gynta i gyd, rhaid i mi introducio fy hun i chwi. Fi ydi partnar John Bull, ac am dan- om ni ein dau y dywed Ceiriog mai John Jones a John Bull ydi'r bobol sy'n gwybod i'r dim be ydi be." Wn i ddim be ydi syniad John Bull am dano ei hun; ond i mi fod yn onest 'rwyn credu fod y bardd yn dweyd tipyn gormod am danom-mwy nag oedd o'n feddwl ei hun o ran hyny, fel bydd y beirdd yma yn rhoi llathen at fodfedd, wyddoch. Ond er hyny, rwyf yn cyfrif fod gan fy mhartnar a fina syniad am rai pethau-syniad go lew,hwyr- ach. Ond cewch chwi farnu prun ar ol clyw- ed. Ac os leiciwch chwi, mi wnaf baragraff yr wythnos nesaf i ddweyd eich bod wedi bod yn feirniaid am unwaith yn eich oes. Y PWNC o ddyddordeb mwyaf yn y cylch hwn yr wythnos yma yw anrhydedd newydd ein haelod seneddol. Yr wyf yn meddwl fod pawb ohonom yn falch o gael ysgrifenu Syr A Osmond Williams, Bart., a chyfeirio at y gwr mwyn fel Syr Osmond. Mae anrhydedd wedi dyfod arno yn ddiweddar fel cawod y wlaw tarane. Arglwydd Raglaw Meirion, Cwnstabl Castell Harlech, a'r Barwnig-i gyd bron gyda'r un post. Wel, mi gafodd ar- os yn ddigon hir-rhy hir mewn gwirionedd. Yr oedd wedi haeddu hyn yn gynt. Cafodd ddigon o ddirmyg gan ddau ddosbarth: ar un Haw gan uchelwyr oedd yn codi ffroen arno, a bron a'i foycotio am ei Ryddfrydiaeth ac ar y llaw arall gan y—(be galwn ni nhw)—oedd heb fedru gweled ei werth fel dyn na gwleid- ydd Rhyddfrydol. Ond o'r diwedd daeth dydd coroniad ffyddlondeb i egwyddor; ac mae'n debyg na fydd neb yn fwy parod i gapio iddo yn awr na'r rhai;oedd yn codi ffroen arno or blaen. Bydd anrhydedd olaf Syr Osmond yn un a gyst rywfaint iddo, ond bydd yn aros yn ei deulu—hen deulu parchus Dafydd Williams fel y'i henwir yn serch gwerin-o genhedlaeth i genhedlaeth. Ar gyfer y gost hon feallai y caiff geiniog goch Castell Harlech. Fy syniad i am hyn, a waeth gen i pwy sy'n barnu'n wahanol, ydyw y dylem oil roi un fanllef o Hwre i Syr Osmond fydde'n cyraedd o ben fSwlchygwynt i Drwyn y Penrhyn. Hir oes iddo i fwynhau y gowled fawr o anrhydedd a ddaeth i'w ran. Y PWNC nesaf, wrth gwrs, yw pwy gaiff ei sedd yn y Senedd-nid am fod yn rhaid iddo ymneillduo, ond am ei fod yn dewis gwneyd hyny. Fy syniad i yw fod y gwynt yn chwythu yn gryf iawn mewn un cyfeiriad, ac fod un gwr fel yn cael ei neillduo ar gyfer y sedd, ac y buasai y mater wedi ei benderfynu pe bai ar ddwylaw rhyw rai neilldnol i wneyd y gwaith —ond nid yw ar eu dwylaw a dylent gerdded yn araf a gofalus. Gwelais lytbyr Mr. Haydn Jones yn eich papur, ac er fod Mr. Jones yn perthyn i'n tealu ni fel y gwelwch oddiwrth ei syrnam, eto fy syniad yw ei fod yn fwy inde- pendent na'r rest ohonom fel teulu. Ar yr un pryd mae ei ddadl fod blynyddoedd o wasan- aeth yn well test o werth dyn nag un araeth mewn cyfarfod cyhoeddus yn un eithaf cywir ac ni bydd y Sir yn ol o gadw ei llygaid ar ei wasanaeth gwerthfawr, ac os bydd pobpeth arall yn gyfartal fe fydd y gwasanaeth hwnw yn sicr o droi y fantol. Ond fy syniad yw y buasai yn well a mwy boddhaol i bawb pe bai Mr. Haydn Jones yn ateb i'r gwahoddiad caredig a roddir iddo o wahanol ranau yr eth- olaeth, ac y buasai trwy hyny yn cymeryd o law ei wrthwynebwyrtarf ellir ei droi i'w erbyn. Bu Mr Artemus Jones-un arall o'n teulu ni, son am deulu Abram Wood-yn anerch yr etholwyr yma, ac os ydyw bob amser cystal ag oedd yn yr Fall ni raid i neb o'i deulu gywil- yddio. Gwnaeth argraff dda. Mae ganddo ben llawn, deall clir, meddwl bywiog, tafod llithrig, a chalon cyfreithiwr edifeiriol'! Yr wyf yn rhoi rhyfeddnod ar ol yr olaf o achos ychydig ohonyn nhw sydd yn gallu edifarhau. Ond yr oedd Artemus,chware teg iddo, yn cyfaddef rhai o'u pechodau, yn enwedig pan ddywedodd ffarwel i dir dyn tlawd unwaith yr a i'w dwy- law. Rhaid bod o'n ddyn gonest i ddweyd ffasiwn beth. Mae Mr Richard Griffith wedi taro'r hoel ar ei phen pan ddywedodd ei fod yn siwr o sedd dros ryw ran o Gymru prun bynag a fydd yn cynrychioli Meirion ai peidio ac yr oedd Mr Griffith yn dweyd fod ynddo gymwys- derau eraill heblaw ei fod o wedi bod yn gwerthu papur newydd (Richard Griffith a pawb at y peth y bo). Mae gan Artemus feddwl delfrydol Celt, a chalon wir Gymroaidd ond trwy brofiad maith yn awyrgylch St Stephan a'i alwedigaeth fel bargyfreitbiwr y mae wedi disgyblu ei hun i gymeryd golwg ymarferol iawn ar bethau ac nid yw yn debyg y bydd iddo byth guro ei ben yn erbyn y pared. MAE'N dda genym gael rhyw arwydd fechan o fywyd yn y mater yma, pe tasai ddim ond i gael rhywbeth i siarad yn ei gylch. Mi rydym wedi glan flino ar siarad am "y bvd gwan yma" ond pwy help sydd genym os na chawn rywbeth arall yn ei le ond dyma ni o'r diwedd wedi cael newid can a newid cywair-hei lwc am dipyn o fiwsig cyn y diwedd. Er mwyn i chwi fod yn siwr mai fi sydd yn ysgrifenu dyma fi yn rhoddi fy enw eto am cyfeiriad. BWLCHYGWYNT. JOHN JONES, .1
■*'TwwwI PENRHYNDEUDRAETH.
■ T www I PENRHYNDEUDRAETH. AT Y CYHOEDD.—-Dymuna Mrs. Pritchard, Tecwyn View, hysbysu y disgwylir i bawb dalu yr arian dyledus i'r plant yn ystod y pythefnos nesaf. ac hefyd y bydd yn gwerthu papurau yn y dyfodol fel arfer end na bydd yn eu hanfon allan. Diolcha am y gefnogaeth mae wedi dderbyn gan ddymuno am barhad o'r cyfryw.
[No title]
Hysbysir am farwolaeth Mrs. Ann Roberts, gynt o Lanymynech. Yr oedd newydd ddathlu I ei can' mlwydd oed.
CYNRYCHIOLAETH MEIRION. I
CYNRYCHIOLAETH MEIRION. I Mr. T. Artemus Jones yn Blaenau Ffestiniog. Nos Fawrth, yn y Neuadd Gynull, o dan lywyddiaeth Mr William Owen, U.H., Flas" waenydd, bu Mr T. Artemus Jones, Bar-gyf- reithiwr, yn anerch torf luosog ar wahoddiad Rhanbarth Etholiadol Maenofferen a Diphwys. Y mae yn wybyddus fod Syr A. Osmond Wil- liams (Bart.), A.S., yn cilio o'r maes fel aelod dros Feirion yn yr etholiad nesaf, ac yn unol a threfniant Cymdeithas Rhyddfrydol y Sir, y mae y gwahanol Ranbarthau yn enwi rhai i ddod i'w hanerch fel ymgeiswyr cyn iddynt wneyd eu dewisiad terfynol. Enwyd Mr Jones fel un i anerch etholwyr Rhanbarth y Diphwys a Maenofferen, ac efe yw y cyntaf i anturio i'r maes i wneyd hyny. Cafodd wrandawiad astud a llawn o groesaw, a dangosodd yntau yn bur eglur fod ganddo syniad clir am waith a rhwymedigaeth aelod Seneddol. Y Cadeirydd a ddywedodd nad oedd y cyfar- fod ond un o gyfies a ddysgwylient gael cyn i'r dewisiad terfynol gael ei wneyd o ymgeisydd Rhyddfrydol i ymladd am sedd y Sir. Mr. T. Artemus Jones a gafodd dderbyniad gwresog pan gododd i anerch y cyfarfod, a dywedodd fod yn bleser ganddo fod yn bresenol fel Rhyddfrydwr, ac fel mab i weithiwr Cymreig. Ei syniad ef am beth ddylai Aelod Seneddol fod oedd yn syml,-Un yn cymeryd dyddordeb dwfn mewn Gwleidyddiaeth, ac un yn ymdaflu yn llwyr a difrifol i gyflawni gwaith yn y Senedd. Yr oedd wedi ffurfio y syniad hwn oddiar brofiad maith yn Galleries dau Dy y Senedd o pan yn 17 mlwydd oed i lawr i'r flwyddyd 1903. Sylwodd fud llawer iawn o aelod.au sal a diwerth yn y Senedd rhai nad edrychent ar y Ty fel Gweithdy deddfwrol y Llywodraeth, odd fel lie i foneddigion a'u mheibion, masnachwyr cyfoethog. ac antur- iaethwyr gyfarfod a'u gilydd i rydd-ymddiddan. Os dewisid ef i gynrychiolaeth "y Sir, byddai iddo gymeryd dyddordeb dwfn mewn gwleid- yddiaeth, a phenderfynu gwneyd gwaith dros yr Etholaeth. Gwyddai angen gwerin Cymru gan mai gweithiwr yn chware I y Graig, Dinbych, oedd ei dad. Gedawodd ef yr ysgol ddyddiol pan oedd yn ddeuddfeg oed, ac aeth i werthu newyddiaduron yn Ngorsaf Dinbych. Wedi dysgu llawfer yn ystod yr oriau hamddenol gafodd yno, aeth t swyddfeydd newyddiadurol Llundain pan yn 17 oed, a chyda'r gwaith hwnw y bu hyd 1903 pan y galwyd ef i'r Bar. Sylwodd fod gagendor ddofn rhwng yr Aelod- au Seneddol a'r werin bobl: yr oedd y mwyafrif o honynt nid o blith y bobl a'r gweithwyr ond o blith dosbeirth na wyddent ddim am y bobl a'u hangenion, Erbyu hyn y mae tuahaner cant o'r aelodau o'r dosbarth gweithiol; ac nid foedd amheuaeth nad y Senedd hon oedd yr oreu a eisteddodd yn y Ty erioed: gwnelent y gwaith yn well ac yn ddifrifolach na'r un Senedd fu o'i blaen. Yr oedd dau o'r werin wrth y Llyw ynddi: Lloyd George a John Burns (cym.) Adwaenai y ddau yn dda. Bu yn siarad a Burns yr wythnos o'r blaen, ac addawodd ddod i lawr i anerch etholwyr Meir- ion o'i blaid os dewisid ef yn ymgeisydd. Yr oedd tuedd yn y Sosialwyr i feio Burns am nad oedd megis cynt; ond ni wyddai y rhai hyny ddim am wleidyddiaeth yn ei anhawsderau. Yr celd Burns wedi newid o'r hyn ydoedd trwy iddo ddod i weithio y peiriant gwleid- yddol yn hytrach na siarad am y pethau yn eu hagwedd wyllt ac amrwd. Tuedd y Sosialwyr oedd ymosod ar Seneddwyr am na wnaent hyn a'r 11al1, ond anghofient y ffaith nad all y Sen- edd wneyd pobpeth. Y mae pethau nas gall ei ^jraich hi eu cyraedd, megis tlodi, anarbodaeth. gwastraff, &c., a'r oil allai y Senedd ei wneyd gyda hwy oedd rhoddi y manteision yn nghyr- aedd y bobl i wneyd defnydd o honynt i godi i dir uwch. Yr oedd ef yn adwaen Robert Blatchford, Baine, a Bernard Shaw, ac wedi bod yn gweitbio ar yr un newyddiaduron a hwy, a'u diffyg mawr hwy oedd damcaniaethu am bethau gyda'r syniad o'u cael ar unwaith. Dywedodd John Burns wrtho fod cynydd yn beth araf iawn, a rhaid wrth amynedd a dyfal- barhad." Am Ddadgysylitiad y gofynai Cymru yn barhaus, ac yr oedd y mater hwnw yn awr yn union yn yr un fan ag oedd bymtheg mlyn- edd yn of. Gofalai y Blaid Gymreig am gwyno yn nghylch pwngc Dadgysylltiad bob tro yr elai Rhyddfrydwr i swydd, ond ni chlywid eu llais ar y mater pan fyddai Ceid- wadwyr mewn awdurdod. Angen Cymru oedd cael Plaid Anibynol Gymreig yn y Senedd, a hono i weithio gyda'r BIaid Ryddfrydig. Yr oeddynt oil yn gwybod fod yn anmhosibl pasio mesur Dadgysylltiad yn awr: gellid ei basio trwy T)y'r Cyffredin, ond nid oes obaith ei gael ar ddeddf-lyfrau'r wlad. Ffaith i'w hystyried a'i chofio oedd, fod pob un o'r Aelodau Cym- reig wedi cael rhywbeth gan y Llywodraeth bresenol:—swyddi, anrhydedd, neu benodiad- au ac felly nis gallent hwy yn bersonol rwg- nach llawer, ond eu hangen mawr oedd cael aelodau dros Gymru a weithient fel y Blaid Wyddelig dros eu gwlad heb olwg ar swyddi. Beiai rhai ar Lloyd George am gymeryd swydd yn lie gweithio dros Gymru fel y bu, ond dylid cofio fod Lloyd George mewn dyled i'r holl deyrnas, yr hon oedd mewn angen am ei was- anaeth fel un o'i deiliaid (cym.) Bu ef yn ysgrifenu megis prophwyd am yr hyn a fydda Lloyd George yn Young Wales ddeng mlyn- edd yn ol, a daeth y brophwydoliaeth i ben, ac edrychai yn mlaen at yr adeg y byddai yn Brif Weinidog (cym.) Yr oeddynt wedi cael add- ewid am gael Mesur Dadgysylltiad trwy Dy'r Cyffredin y Senedd dymor nesaf, ac waeth y pryd hwnw nag yn awr, gan nad oes berygl yr aiff trwy Dy'r Arglwyddi. Y mae Ty'r Ar- glwyddi a'r Tariff Reformers wrth ei gefn, yn erbyn pob diwygiad.-—Yna siaradodd Mr Jones yn hyawdl yn Seisueg. Cyfeiriodd at werin Cymru a'r perygl mawr oedd ynddo yn awr oddiwrth y Diffyndollwyr a hanent eu syniadau yn y wlad; perygl mwy nag oddiwrth yr Eglwys a'i gorthrwm. Ni bu mesur mor lawn o oleuni a gobaith i'r werin a Chyllideb Lloyd George er dyddiau Robert Peel pan dynwyd y dreth oddiar ymborth y dyn tlawd ie, yr oedd yn y Gyllideb bresenol fwy o obaith, i'r werin gan fod y galw yn awr i fod am i'r cyfoethog dalu at dreuliau y llywodraeth. Gwaeddid fel pe nad oedd y gweithiwr yn, bresenol yn talu dim at y Llywodraeth, ond y ffaith oedd fod y gweithiwr yn talu mwy, yn ol ei enillion, nag oedd y cyfoethog, at y treulian ymerodrol, yr oedd Arglwydd Rosebery yn dywedyd fod y Gyllideb yn un "chwildroadol," ond yr oeddynt hwy wedi dysgu trwy lyfr ys- grifenwyd tua haner canrif yn olllyfr Adam- Smith, mai ar ddwy egwyddor y gellid trethn yn gyfiawn: gaUu i dalu, a budd i ddefnyddio. Yna aeth dros dair adran y Gyllideb, a man- ylodd ar drethu y tir. Rhoddodd y brenin William y Tir i'r boneddigion Normanaidd i'w ddal cyhyd ag y gallent gyflenwi o hono ddigon o ddyuion i amddiffyn y Teyrn. Felly y tir oedd i ddwyn traul y Llynges a'r Fyddin. Gwir fod cyfnewidiadau wedi dod, ond paham y cwynai y tir arglwyddi eu bod yn gorfod talu rban o'r treuliau yn He gorfod eu talu i. gyd? Mewn atebiad i gwestiynau roddwyd i Mr Jones, dywedodd am Ryddfreiniaid Prydles- oedd, ei fod yn bwngc eang. Yr oedd yn ffafr tori i fyny etifeddiaethau mawrion, ond dylid gwneyd hyny gyda phwyll a doethineb fel na byddai i'r perchenog tirawl fethu cynal y baich ac i'r mate* fyn'd i ddwylaw Cyireithiwyr, a.* Duw a he!po'r lir wedi'n: ychydig o hono „ ;ydd ar gael" (chwerthin mawr)- Yr oedd Mesur Manddaliadau yn cynwys yr egwyddor o ddwyn y tir o dan reolaeth bwrdd cyhoeddus etholedig gan y bobl eu hunain. Am y Pryd- lesoedd, dylid cofio eu bod yn gytundeb wedi eu gwneyd rhwng dwyblaid, ac felly dylid ei, gadw. Cwestiwn arall a oedd y telerau yn deg. Yr oedd ef yn gryf o blaid cenedlaetholt tir er mwyn ei ddwyn o dan reolaeth gyhoedd- us, ac i gyrhaedd y werin.—Am addysg, credai fod yn rhaid rhoddii mewn i'r oehr arall mewn. llawer o bethau ac ofer dysgwyl cael eu ffordd eu hunain yn mhobpeth. Yr oedd Ty'r Ar- glwyddi yn uchel yn ffafr y Sais, ac nid oedd dim a'i symudai ef ond cyffwrdd a'i Ilogell ac a'i gyllau: yr oedd y Gyllideb yn ei daraw ar y ddau. Mesur Mr Birrell oedd y rhagoraf, yn ei farn ef, o'r rhai a gynygiwyd i gyfarfod a'r anhawsderau. Nid gwiw codi y cri yn y wlad ein bod am daflu y Beibl allan o'r ysgol- ion ddyddiol, ond mewn addysg ansectol y ceid y deongliad ar yr anhawsderau presenol.-Am y Royalties, yr oedd o blaid eu dileu yn gyfan- gwbl am eu bod yn Iladd ysbryd abturiaethyn, y bobl. Oni ddylai dirprwyaeth gael ei phen- odi i ystyried yr holl fater.—Am y Reilffyrdd, deuent o gam i gam i ddwylaw y Llywodraeth. Credai y dylid eu cenedhietholi; cyn y gellid, gwneyd hyny byddai yn rhaid eu prynu o ba le y ceir arian i hyny ? Daw y dydd y byddant- yn Haw y Ltywodraetb.-Am y Fasnach Fedd- wol: Os oedd y bobl yn abl i reoli y Llynges, y Fyddin, a'r Llywodraeth, oni allent reoli y fasnach hon ? Y fasnach yn awr o dan reolaeth anmhriodol, a dylid ei cbael o dan Fwrdd cy- hoeddus dewisedig gan y bobl,3&c i atal y pos- iblrwydd o lygriad a llwgrwobrwyaeth, fod Cyfreithiwr o dan y Llywodraeth yn eistedd i benderfynu gyda'r Bwrdd dewisedig (cym.) Wedi talu diolch cynes i Mr Jones am ei Anerchiad, ac iddo yntau gydnabod, pasiwyd ar gynygiad y Cadeirydd, a chefnogiad Mr Richard Griffith, i anfon llongyfarchiad y cyf- arfod i Syr A. Osmond Williams, A.S., a'r teulu, ar ei anrhydeddiad a Barwniaeth.
Priodas Mr. Idwal 0. Griffith,…
Priodas Mr. Idwal 0. Griffith, M.A. Dydd Sadwrn, yn Eglwys St. Helen's. unwyd mewn glan briodas Mr Idwal Owairt Griffith, Cymrawd o Goleg St. loan, Rhyd- ychain, a mab Mr Edward Griffith, GlanypwIIoj Blaenau Ffestiniog, a Miss Alice Godfrey; Isaac, ail ferch Mr a Mrs T. W. Player Isaac;! Barton Court, Abington. Yr oedd yr eglwys wedi ei haddurno yn chwaethus a white car- nations, lilies, a rhosynau, ac yr oedd nifer fawr o wahoddedigion yn bresenol. Yr oedd y gwasanaeth yn un corawl o dan arweiniad y Parch J. H. Bidder, Bursar o Goleg St. loan., Rhydychain. Rhoddwyd y triodasferch, ymaith gan ei thad, a gweithredai Mr R. Walker Davies, B.A., fel gwas priodas. Yr oedd y briodasferch wedi gwisgo mewn beautiful gown of white satin trimmed with old Bussels lace, rhodd y fsm. Yr oedd y veil hefyd o old Bussels lace fastened with sprays, of orange blossoms. Yr unig addurn a wisgai ydoedd Diamond & Ruby Pendant rhodd y priodfab, a chariai shower bouquet of orchids, lilies, & carnations. Cyfarfyddwyd hi ar :ei mycediad i mewn gan bump o forwynion, sef Miss May Isaac a Miss Florence Isaac (chwiorydd). Miss Anne Griffith (chwaer y priodfab), Miss Blanche Love a Miss Rita Irvine. Yr oedd en gwisgoedd hwy o pale primrose satin made en Ptincesse with hats of primrose coloured straw trimmed with black lace & mauve ribbon. Gwisgent pearl pendants, rhodd y priodfab a charient bonquets of Marechalnice roses tied with mauve ribbons. Chwareuwyd Wedding March Mendelssohm pan ymadawsant a'r Eglwys, yn cael eu cjn- orthwyo gan bump o weision, yn swn y clych- au soniarus. Ar ol hyny cafwyd y wledd briodasol ym: Barton Court gan Mr a Mrs. Isaac, pryd yr- eisteddodd llu wrth y bwrdd yn cynwys amryw aelodau o Goleg St. loan. Yn y prydnawn, ymadawodd y par dedwydd am Lundain ar ea ffordd i'r Eidal He y bwriadant drealio en gwyl briodasol. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerth- fawr yn cynwys Massive Silver-rose Bowl with ioscription from the members of the Senior Common Room of St. John's College. Eiddunwn o galon ddedwyddwch a llwydd y par ienangc.
Family Notices
Birth. Neale.—June 26, at Plas Coch, Camp Road. Trawsfynydd, the wife of Mr Frank O'Neate, of a son, v
I Cyfnewidiadau yn y Welny*'^…
Mfc&u.Ty'r Cyffredin ei gyfrif yn wr ag iddo ddyfodol disglaer. Mr Herbert L. Samuel, A.S., sydd wedi ei benodi yn Gang- IYdd Duciaeth Swydd Gaerhirfryn, gyda fod d yn y Cyfringylch, a chytuna pawb ei fod ynmwY na haeddu y dyrchafiad hwn. Nheeisoes wedi gwneyd gwaith rhagorol yn Mu.y >r Cyffredin, a gwasanaeth gwerthfawr "r Weinyddiaeth, fel yr Is-ysgrifenydd Car- I ol Bu ganddo ran flaenllaw yn y gwaith ID lywio Cyfraith Amddiffyniad Plant trwy yr Cyffredin, a gwnaeth y gwaith hwnw Ine modd a enillodd iddo edmygedd pob PL-kid, ac a wnaeth ei ddyrchafiad yn sicr ac anocheladwy. Gan nad oes llawer iawn y swydd sydd wedi ei rhoddi iddo a I)od yn segurswydd, bydd yn rhydd i wneyd R"ith cyff redinol bwysig ac y mae yn rhaid cael rhywun medrus i'w wneyd. Gellir bwrw y bydd o hyn allan yn benaf cynorth- r Mr Lloyd George i fyn'd a Mesur y GYUideb ymlaen trwy y rhwystrau lawer Sjdd ar ei ffordd. Cymerir ei le fel Is-ysgrif- enydd Cartrefol gan Feistr Elibank, un o'r vvipiau Rhyddfrydol. riyd yn hyn nid oes wybodaeth pwy fydd olynydd Mr. latichanan, ond y mae Mr Herbert Lewis, y "yt ymhlith y rhai a enwir gan y bobl Wyn gwybod."