Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFLWR MOESOL CYMRU. _____I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFLWR MOESOL CYMRU. I Y mae ffeithiau a ffigyrau fyerthygl o'r blaen yn agos o hyd yn anwrthwynebol. Bum ochel- gar i gyhoeddi cyfran yn unig o'r prawfion di- droi-yn-ol a gasglaswn yn nghyd ond ni fyneg- wyd mo'r haner a haws, bed ewyllysiwn, fu- asai gosod i lawr yma yr haner arall. Hyd yn oed yn yr amser byr oddiar adeg cyhoeddiad yr erthygl dan sylw y 'mae amgylchiadau wedi dygwydd ddylasent godi gwrid i wyneb pob un ag y mae lie cynes i'w wlad yn ei galon. Gadawer i ni gyfyngu ein hunain i un mis, sef Gorphenaf diweddaf. Nos Lun, Gorphenaf 12fed, yr oedd neuadd eisteddfod Mountain Ash wedi ei gorlanw â 10,000 o bobl,-deng mil o bobl, coffer. Tyrfa anferth. Yr oedd y gynulleidfa enfawr yna wedi dyfod ynghyd i edrych ar ddau ddyn ieuangc yn ymladd a'r menyg ysgafnaf a ganiateir-4 owns. Amser penodedig yr ymladdfa oedd haner awr wedi naw o'r gloch; ond mor gynar a haner awr wedi pump yr oedd y clwydi wedi ei gwarchae. Erbyn y pumed tro yr oedd un o'r ymladdwyr a thap o faintioli wy uwchben ei aeliau; ond glynasant wrthi i foddlonrwydd mawr y dyrfa hyd yr unfed tro ar ddeg, pan y dygwyd yr ymladdfa i ben am fod un o honynt wedi taro yn rhy isel. Temtir ni i ofyn a fu- asai yr arddangosfa anifeilaidd yna yn ngwydd deng mil o edrychwyr, oeddent gan mwyaf wedi myned trwy ein hysgolion Sul, yn bosibl heb wrthdystiad cenedlaethol pe buasai'r Dr. Price, Aberdar, a Henry Richard yn fyw heddyw? Etto, ar ddydd Sul, y 18fed o'r un mis, cymerodd digwyddiad newydd le yn Aber- afon. Y prydnawn Sabbath hwnw cynaliodd yr ymgeisydd Llifur ei gyfarfod politicaidd cyntaf, yw hwn oedd yn gychwyniad ei ymgais am gael ddychwelyd fel aelod seneddol dros ranbarth Abertawe. A fuasai hyn yn ddych- mygadwy ddeng mlynedd yn ol ? Darfu i'r Parch, James Evans, gweinidog yr Anibynwyr yn Aberafon, wrthdystio yn erbyn yr halogiad yma ar ddydd yr Arglwydd a dylasid cryfhau ei ddwylaw, neu ynte y mae y Sabbath yn y rhanau gweithfaol o Gymru wedi ei dynghedu am byth! Yn ystod y pythefnes olaf o Orphenaf y mae yna lu o gwestiynau wedi eu gofyn ynglyn a ffyniant anniweirdeb yn Merthyr, a'r meddw- dod arswydol sydd yn gwaradwyddo Cwm y Rhondda. Y mae yna dystiolaeth ddiweddar wedi dyfod i'r golwg am gynydd bastardiaeth yn y rhanbarthau amaethyddol. Mewn cyf- arfod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, gynhaliwyd yn Hwlffordd ar yr 2lain o Orphenaf diweddaf, mynegwyd fod yno yn y Tlotty dair dynes ieu- angc.yn feichiog ac fod merched yn y cyflwr hwnw yn cael eu derbyn i mewn yn gyson i'r sefydliad. Mynegodd un o'r gwarcheidwaid fod y ffeithiau yma yn dadlenu anfoesoldeb dirfawr yn yr ardal. Ar Orphenaf yr 22ain diweddaf, cynaliwyd Brawdlys Morganwg yn Abertawe. Daeth i'r goleu rai o'r gweithredoedd mwyaf ysgeler gyflawnwyd yn hanes y byd; a chofier nad yw y mor yn taflu i fyny ei holl feirw. Mewn un achos dywedodd y cyfreitbiwr fod dyn a dynes wedi bod yn cydfyw am ddwy flynedd. Gaf- aelodd y dyn yn y ddynes, a diosgodd bob darn o'i dillad. Yr oedd olew wedi ei daflu ar ranau gwahanol o'i chorff, a gosodwyd matchen oleuedig wrth y rhanau yna; Mewn achos arall gwelwyd fod Cymro wedi gwerthu ei wraig, o'r hon y cawsai chwech o blant, a'i gwerthu i gymydog am ddeg punt! Mwy na hyn, llawnododd weithred reolaidd i'r perwyJ yna. Yr oedd yna achosion eraill o ymosodiad- au ar ferched ieuaingc ac ar blant o ardaloedd Llanfabon, Maesteg, Penybont ar Ogwy, a Merthyr dau o'r Gelligaer, a dau o Cadoxton ac achosion o anweddeidd-dra o Abertawe a Cockett. Mewn achos o'r Caerau gweiwyd fod dyn o'r enw John Emlyn Jones yn euog o ymddwyn yn anweddus a merch feehan-ei wyres ei hun! a chollfarnwyd ef i bum' mlynedd o benyd wasanaeth. Yr oedd yno achos ysgeler o Benybont, pan y gwysiwyd haulier am wneyd yn gyffelyb ag un o'i ferched a chynyg at hyny gyda'r llall. Condemniwyd yr anifail yna—ac y mae, eraill o'i fath ein gwladi saith mlynedd o garchariad. Yr achosion o Abertawe oeddynt ymosodiadau ar feehgyn-math o bechod sydd yn fwy gyffredin nag a feddylir: ac yn y ddau gyhuddiad condemniwyd y troseddwyr gan y barnwr. Felly yr a pethau yn mlaen, o fis i fis, yn y sir sydd yn prysur enill iddi ei hun yr enw o Gormorah Cymru."—Y Parch. Gwilym Davies, M.A., yn Y Geninen am Hydref.

LLYS MANDDYLEDION BLAENAU…

TANYGRISIAU.

HARLECH.. ---.-..'1

TORONTO, CANADA. I

BWRDD ADDYSG DOSBARTH I FFESTINIOG.

-TRAWSFYNYDD.:

- -BLAENAU FFESTINIOG. j