Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

I- - - - - - - - - - - - -…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I- -I FESTINIOG. LLWYDDIANT.—Y mae yn dda genym allu hysbysu am lwyddiant y ,cyfatll iuanc Mr John Ellis, Sun Street, ac sydd drwy lawer o an- hawsderau wedi cael mynediad anrhydeddus i Goleg Aberhonddu. Er ys ychydig amser yn 8J bu yn gweithio yn Chwarelau Festiniog. Aeth wedi hyny i byllau Glo yn y Dcheudir, a thrwy ddiwydrwyad ac ychydig addysg hyff- orddiadol, yr oedd yn drydydd ar y rhestr am fynediad i mewn i'r Coleg. Eiddunwn iddo ddyfodol disglaer. TE A CHYNGHERDD.—Y mae genym i gof- nodi dwy wledd gorphorol ameddyliol a baro- towyd gan y frawdoliaeth yn Peniel (M.C.), nos Ian diweddaf. Nid cofus genym i'r eglwys hon o'r blaen fod ar ofyn yr ardal; ond fel y mae caledi yr amseroedd a'i hir barhad wedi effeithio ar gyfraniadau pob eglwys yn y cylch, felly ni ddiangodd Peniel heb oddef oddiwrth yr un peth. Danghosodd yr amgylcbiad aberth mawr ar ran y frawdoliaeth yn eu rhoddion o arlwyon y wledd, fel gwedi i 559 i 600 wledda ar y danteiteion, yr oedd tua deuddeg basged- iad yn weddill. Ymgymerwyd a'r gwaith gan bron yr oil o chwiorydd yr eglwys. Gwasan- aethwyd yn nglyn a'r trefniant gan bwyUgor o'r chwiorydd, gyda Mrs J. R. Jones, Dolgoed, yn Ilywyddes; Mrs D. J. Davies, Bodlondeb, yn Ysgrifenyddes; a Mrs Jones, Dolawel, yn Drysoryddes. Cynhaliwyd y wledd yn Ysgoldy Peniel, yr hon oedd wedi ei haddumo yn chwaethus a llysiau a blodeu natur. Gwasan- aethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau a nodwyd, a'r boneddigesau canlynol ;-Mrs Thomas, Hengapel: Mrs Henry Ellis, Belle Vue; Mrs E. Williams, Penybryn; Miss Jane tones, Cambrian House; Miss Gwen Roberts* Ty'nymaes; Miss Richards, Brondwyrycl Miss Roberts, Brynmelyn; Miss Davies, Tryfal; Miss Edwards, Teilia Bach; Miss Ellen Jones, Pantllwyd; Mrs Davies, Llain- wen; Mis Roberts, Madoc View Mrs Jones, Suanyside; Mrs Jones, Cynfal Farm; Mrs Hughes, Cymera Farm; Mrs Roberts, Bock- seller; yn nghyd a llu mawr eraill yn gynorth- wywyr parod. Canmoliaeth gyffredinol geir i'r wledd. yr hon a barhaodd o dri o'r gloch y prydnawn hyd 10 o'r gloch yr hwyr, Am 7.30, yr oedd Cyngherdd Cysegredig ya y Capel, Mr Owen Jones, Delawel, Blaenaa, yn Hywyddu. Nid oes angen dyweud dim am ei gymhwysderau ef fel Llywydd, y maent yn dca adnabyddus yu rhanbarth Festiniog a'r Blaenau, a dyweud y lleiaf. Aethpwyd drwy y rhaglen ddilynol:-Unawd, "Y Gardotes Fach," gan Miss Annie Williams, Maentwrog. Unawd, Llwybr y Wyfidfa," gan Mr Hugh J. Hughes, Festiniog. Unawd, "Myfyrdod jn Ueig," gan Miss Evans, Cwrt, Trawsfyaydd. Encoriwyd a chanodd I fyny f¥a'r Nod," yn gymeradwv iawn. Adroddiad. Y ddamwain yn Ltanbe. is yn 1985," yn effeithio )an Mr W. Hughes, Ysgoldy. Unawd gan Mr J. T. Owen, Ar lan lorddooen ddoin." Encoriwyd a chanodd "Cartref," yn attebiad.. Deuawd ar y Berdoneg gan Miss Laura Pritchard a Mr J. E Jones. Unawd, Telynau'r Saint," gan Mr Hugh J. Hughes, yn swynol eras ben. Anercfeiad gan y Oywydd, Gwnaeth Mr ?' Jones sylwadau addysgiadol, toddedig a budd- iol. gan sylwi yn mhlith pethau rhagorol eraill ar gysylltiadau ei hynafiaid ag eglwys Peniel er ei sefydliad fel Capel Gwyn," 120 o flyn- yddoedd yn ol, a'i gysylltiad yntau am ran helaeth o'i oes, o ba rai yr oedd ganddo adgof- ion melus. Rhoddodd gynghorion doeth i'r ieuenctyd ar ddarbodaeth, ac annogodd i luaws o'r talentau oedd eisoes wedi an hamlygu yn y Cyngherdd i fynu myned yn mlaen at berffeith- rwydd, gan gyfeirio at y cantorion a'r gyfeil- yddes ieuanc. Adroddiad, Yr Yspeilwyr," gan Miss Dora Roberts, Moelyya View, nes gwefreiddio y gynulleidfa. Deuawd, Plant y Cedyrn," gaa Mri H. J. Hughes a J. T. Owen. Unawd, Merch y Cadben," gan Miss Evans. Unawd gan Mr J. T. Owen, "The dream of Paradise." Unawd, "Children Home," gan Miss Williams. Triawd, Duw bydd drugar- og," gan Mr H. J. Hughes, Miss Williams, a Mr J. T. Owen. Gwnaeth Miss L. Pritchard ei rhan gyda yr offeryn uwchlaw canmoliaeth. Cynygiwyda chefnogwyd y diolchiadau gan y Parch J. R. Jones, B.A., y Gweinidog, a Mr John Thomas, un o'r diaconiaid. Diameu i'r lrawdoliaethddetbyn elw sylweddol oddiwrth y Cyngherdd poblogaidd a'r Te; a llawenydd genym ddeall fod y plant yn ngbyan "I olc wlad wedi anion rhoddion gwerthlawr. Haedda Mr Edward Davies, Islwyn, glod lei Ysgrifenyddy symudiad. Dymuna y pwyllgor ddiolch i'r ardalwyr o bob enwad yn ddi- wahaniaeth am y cynorthwy a'r gefnogaeth sylweddol a roddwyd i wneyd yr wyl yn Mwyddiant.

Advertising

i MAENTWROC.

Advertising

- -- --CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG.…