Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Y GOLWG.-Mae yn fantais i bawb sydd arnynt angen Gwydrau cywir i'r golwg, ddeall mae yr unig Optician yn Sir Feir- lonydd sydd wedi paslo Arholiadau mewn PROFI Y GOLWG ydyw Mr. Hugh Jones, F.S.M.C., Medical Hall, Blaenau Festiniog.
IPWNGC YR YSGOLION UWCH= '.…
PWNGC YR YSGOLION UWCH= RADDOL BEIRNIADAETH FRYSIOG. I Syr.—Gorfodir ni i gredu nad yw y cyf- newidiadau wnaed yn ddiweddar yn yr ysgolion a elwid o'r blaen yn Ysgolion Uwchraddol Blaenau Ffestiniog" wedi cael ystyriaeth bwyllog a theg a airagfarn rhai sydd wedi dangos tipyn o frys i'w beimiadu ac i'w condemnio hefyd. Yn gyntaf oil, haerodd rhai fod y cyfnewidiadau wedi eu gwneyd yn haner dirgelaidd, os nad yn nollol felly. Gwyr pawb sydd wedi cymeryd digon o ddyddordeb yn yr ysgolion hyn i beri iddynt ddarllen. hanes gweithrediadau y rhai a'u rheolant, fod y mater wedi cael ei drafod yn gyhoeddus ganddynt, drosodd a throsodd drachefn, yn ystod y ddwy flynedd diweddaf. Amlygwyd cryn wahaniaeth barn gan y rhai gymerent ran yn y drafod- aeth, ond y diwedd fu i'r cynllun sydd yn awr wedi ei fabwysiadu ac yn cael ei weithio allan gael ei gymeradwyo gan y Rheolwyr, os nad yn unfrydol a brwdfrydig, o'r hyn lleiaf heb fod neb yn ei wrthwynebu. Ar y dybiaeth y byddai tua'r un nifer o blant yn myn'd i'r Ysgol Uwchelfenol ar y naill law ac i'r Ysgol Ganolog ar y Itaw arall, parot- odd yr Archadeiladydd gynlluniau o'r cyf- newidiadau y byddai yn angenrheidiol eu gwneyd yn yr adeiladau, ond cyn i'r cyn- lluniau gael eu mabwysiadu, gwelwyd nad atebent y dyben,am fod nifer yr ysgolheigion yn yr Ysgol Uwchelfenol yn llawer mwy na nifer yr ysgolheigion yn yr Ysgol Ganolog. Felly trosglwyddwyd y cynlluniau yn ol i r Archadeiladydd eu hail-ystyried a'u newid, ac nid yw y cynlluniau diwygiedig, ni gredwn, wedi eu cwblhau eto. Yr ydym yn t'" \|iyderus y cyfiawnheir hyd yr eithaf yn fuan iawn y trefniant newydd, oblegid yn yr Ysgol tlwchelfenol darperir yn rhad addysg well ) 1 fwyafnf plant yr ardal nag a allent el chael yn rhad hyd yn hyn— addysg ag y mae yn wir anghenrheidiol iddynt ei chael. O'r braidd y mae angen am ddywedyd mai yr amcan wrth sefydlu Ysgolion Ganolraddol yng Nghymru oedd cael dolen gydiol rhwng yr Y sgolion Elfenol a Cholegau y Brifysgol, a'u bod felly wedi eu sefydlu gyda'r amcan o ddarparu ar gyfer y bechgyn a'r genethod a fwriadent fynd i un o'r Colegau hyny yn y man. Erys yr ysgolion hyn i wneyd y fjwaith hwnw. Ond beth am y plant hyny -y mwyafrif mawr nad oes ganddynt fwr- iad i fynd i'r Brifysgol ? Cydnebydd pawb nad yw cwrs yr Ysgolion Canolraddoly cwrs goreu i'r rhai hyny. Heblaw hyny,rhaid i'r t, rhai na !wyddant enill ysgoloriaethau dalu tair punt (a mwv) y flwyddyn am dano. Yr amcan mewn gol",wrtb gael Vsgol Uwch- elfenol, oedd darparu ar gyfer y mwyafrif tnawr a II orphenant euhadaysg" yma, a gwelir yn y man fod yr amcan hwnw wedi ei gyraedd mewri modd a ddyry foddlon- rwydd cyffredinol. Yn yr Ysgol hono, ceir cwrs addysg yn ymestyn dros dair blynedd ac yn gyflawn ynddo ei hun," a chredir ei fod y cwrs inwyafaddas a man- teisiol i'r rhai fyddant ar derfyn y tair blyn- edd yn troi allan i ddechreu bywoliaeth-pa un bynag ai fel crefftwyr ai fel clereod mewn swyddfe/dd masnachol, a swyddfeydd yswir- iriol, ai mewn ariandai. Cant y parotoad angenrheidiol yma gartref, ac yn rhad; a phwy sydd nad eddyf fod hyny yn gaffaeliad gwerthfawr ? Teimlwn yn hollol sicr y'i Rwerthfawrogir gan gyffredin rhieni Ffestin- iog, oblegid, wedi'r cyfan i gyd, nid yw yn iawn darparu yr addysg oreu i leiafrif o blant yr ardal ar draul gadael y mwyafrif heb yr addysg oreu a ellir ddarparu yn rhad iddynt hwy. Wedi dywedyd hyn yr ydym yn chwanegu ein bod yn tybied y bydd angen am ystyried ymhellach lie a gwaith yr Ysgol Ganolog, wedi cael ychydig fisoedd o brofiad; ac os gwneir hyny mewn modd pwyllog a deallus, fel y mae'n ddiameu genym y gwneir, cawn weled fod yr hyn sydd wedi ei wneyd y peth goreu y gellidei wneyd, ac mai mantais yn unig a ddaw o hono.—PRYDERI. [Rhoddwn le amlwg i'r llythyr uchod ar gyf- rif pwysigrwydd y mater a gynwysa. Y mae cyfnewidiadau pwysig ar ac yn cael eu gwneyd yn nrefniant addysg yr ardal-rhai y dylai Ylardalwyrfod yn effro iawn iddynt. Dylid symud gyda chamrau gochelgar rhag fod dim yn cael ei wneyd ond a fyddo yn dwyn y manteision goreu i'r plant ar y draul leiaf yn bosibl i'r trethdalwyr.—GOL.]
' HARLECH. I
HARLECH. I P Cynbalwyd cyfarfodydd Diolcbgarwch dydd Linn yn y Capelau, a chasglwyd dros wyth punt yn nghapel y Methodistiaid at drysorfa capel newydd Llechwedd pu. Bo farw Mr Owen Williams, Talartina, nos I Sul. Cleddir heddyw yn Mynwent Capel Ucha. ■ Yn nghyfarfod Ymdrech Grefyddol Tryfer, nos Sul. darllenodd Miss Griffith, Penybryn, bapur dydddorol ar y "Diweddar Barch E. Morgan, Dyffryn." Wedi i amryw siaradI,I dlolchwyd i Miss Griffith amei phapur. Cadwyd y tren llythyrau yn yr Orsaf am lawn awr hecfdyw boreu oherwydd cwymp yn Ngallt y Mor rhwng yma alPensarn. Penodwyd Mri Samuel Williams, Gwalia, a John Morris, Gwyddfor, gan y Cor i weithredu ar Bwyllgor Gwyl Gerddorol y Castell. Yr oedd Mr Foster Edwards wedi ei benodi yn flaenorol gan y Pwyllgor Cyffredinol gyrfhal- Iwyd yn Abermaw. Cyferfydd y Pwyllgoreto ddydd Sadwrn, i wneyd trefniadau pellach at yr Wyl.
SYNIADE JOHN JONES.]
SYNIADE JOHN JONES. ] BWLCHYGWYNT. Syr.-Wrth weled yr hysbysiad yn nghylch y Pierce's Grants yn eich rhifyn diweddaf, ftdgofiwyd fi am y drafodaeth fu. yn mhlith Rheolwyr yr Ysgol Sir, pan oedd y mater o ddewis bechgyn, geibron y llynedd. Fe god- wyd cwestiwn y pryd hwnw a ddylai fod o ddyddordeb mawr yn yr ardal hon, ac y mae yn ddigon pwysig i gael ychydig sylw yn mhen un-dydd-a-blwyddyn (chwedl y beirdd), yn enwedig gan ei fod yn debyg o godi ei ben o flwyddyn i flwyddyn wrth geisio rhanu y Pierce's Grant's, y rhai sydd yn darparu again punt i fachgen neu eneth yn gadael yr Ysgol, ac yn cychwyn eu gyrfa mewn unrhyw grefft neu alwedigaeth. Rhoddasid ar ddeall i un oedd ya cychwyn gweithio fel chwarelwr y llynedd na buasai ei gais yn debyg o gael cefnogaeth, am na ystyrid chwarelyddiaeth yn grefft; a chaniatawyd y Grants i fachgen a geneth arall, y naill yn myned yn argraffydd a'r Ilall yn wniadreg. Mae'n gof genym y safai Mr Rhydwen Parry dros grefft y chwarelwyr, ond aeth pleidlais y Rheolwyr yn fflat yn ei erbyn. A chwestiwn nat- uriol yw yn mha beth y mae y galwedigaethau a ddewisiwyd y llynedd yn g wahaniaethu oddi- wrth chwarelyddiaeth fel ag i fod yn perthyn i ddosbarth arall ? Pam y cyfrifir un yn labrwr a'r llall yn grefftwr ? Ymddengys oddiwrth y drafodaeth fu mai un amod bod yn grefftwr yw gweithio am ddigon bach o gyflog yn y dechreu. Dadleuid fod rhai o fechgyn y chwarelau yn enill cyflogau da o'r amser y dechreuant weithio. Atebwyd i hyn trwy apelio at y Cadeirydd ar y pryd, Mr. J. Lloyd Jones, gwr sydd yn hysbys yo holl gyfrinion chwarelyddiaeth, yr hwn a hysbysodd mai ychydig iawn o gyflog a enillai bechgyn yq y chwarel am y ddwy neu dair blynedd cyntaf. Ar y pen yna, feUy, ni raid i neb betruso nad yw chwarelwr yn grefftwr o'r iawn ryw. Yr oeddwn i wedi arfer syniad mai creiftwr yw gwr sydd trwy hir a dyfal arfer yn llwyddo i wneyd yn rhwydd waith nas gall yr anghyfar- wydd a'r anghynefin ei wneyd er ymboeni llawet. Ac ar y tir hwn hefyd yr wyf yn cyfrif fod chwarelwr yn grefftwr cywrain iawn. Os ydyw gwnio yn grefft mae hollti llechi yn siwr o fod. Sicr yw y buasai yn haws i Sion roi clwt ar ddilledyn neu bluen ym monet y wraig, nag i Sian sydd heb ddysgu dim ond crefft y nodwydd fyn'd i hollti lleehi. Cyfrifir saer coed yn grefftwr o'r iawn ryw. Ond mae llawer chwarelwr a weithiai goed yn well gan- waith nag y gweithiai yr un saer coed mewn cerryg. Hollti cerrig ddim yn grefft! Rhowch chwi'r bwnglerwrthi i drio, ynte, ac ni bydd- wch yn bir heb weled yn wahanol. Mae'n rhaid cael deall cyfarwydd, llygad craff, llaw ddifeth, a bysedd cyfrwys at y gwaith; ac mae'r hwn sydd wedi ei ddwyn i fyny ynddo yn agor y garreg yn ddalenau bron mor ddi- drafferth a phed agorai blyg llyfr, a gwna yr un peth nid yn unig gyda'r clwt wrth y fainc, ond gyda'r graig fawr ei hun hefyd. Ond gellir dadleu fod y Glowr hefyd yn gwneyd gwaith nad all ond y cyfarwydd ei wneyd yn rhwydd, ond nad yw ef ar y cyfrif hwnw yn cael ei ystyried yn grefftwr. Ond mae'r gwahaniaeth pwysig yma rhwng y ddau. Mae'r glowr yn danfon ei gynyrch allan yn raw material, a'r chwarelwr yn danfon ei eiddo yntau yn manufactured goods. Nwydd gwneuthuredig ydyw llechen, a gwaith crefft- j wyr yw cynyrchu nwyddau gwneuthuredig. Ac yn fy syniad i un o effeitbiau mwyafpoenus y ditwasgiad presenol yw ei fod trwy yru cyn- ifer o chwarelwyr i chwilio am eu bara beun- yddiol yn y glofeydd a manau eraill yn troi crefftwyr yn labrwyr. Ymddengys hyn fel goleu dydd i mi, ond mae'n amlwg fod dwy farn ar y mater. Mae y pwnc hwn yn haeddu sylw mewn ardal fel Ffestiniog yn anad unlle, er cynal i fyny anrhydedd a gwerth masnachol yr alwed- igaeth, oblegid, yn ot pob tebyg ar hyn o bryd, ac os na ddaw y New Welsh Industries yma a rhywbeth newydd yn ein ffordd, dyma fydd unig ffon ein cynhaliaeth am lawer cenbedlaetb eto i ddod. Nid ydwyf trwy y sylwadau hyn yn bwxiadu dweyd dim i ragfarnu gwaith y Rbeôlwyryn yr achosion neillduol ddaw o dan eu sylw—eu gwaith hwy yw penderfynu goreu gallant beth yw ystyr llythyren ac yspryd ewyllys y cymun- roddwr, ac y maent yn gorph deallus, ac yn sicr o fod yn gweithredu yn deg a di-duedd. Ond nis gallaf o gwbl weled pa fodd y mae chwarelwr yn cael ei gau allan o'r cyfleustra i gynyg, a thros ei hawl yn y cyfeiriad hwn y dadleuaf. Nid yw o gwbl yn dilyn mai chwar- elwr a ddewisid pe bai yn cynyg. Byddai raid i bob achos gael ei farnu ar ei. deilyngdod ei bun. Edrychais ar y cwestiwn yn hollol wrtho ei hun, a charwn wybod beth yw barn fy nghydweithwyr goleuedig am Alwedigaeth y chwarelwr, JOHN JONES.
"W  - - - - - _LS_. -1
"W  _LS_. -1 Cadwyddydd Llun i ddiolcM am y Cynhauaf gan yr Ymneillduwyr ar Eglwyswyr. Cyfar- fodydd gweddiau gadwyd gan yr Ymneillduwyr ac yr oeddynt yn lluosog o ran rhif, a'r enein- iad i'ii:deimlo ar y gwasanaeth. Trwybreg- ethu y cadwodd yr Eglwyswyr ydydd, y Parchedigion fu yn gwasanaethu eleni oeddynt Mr Owen, Bottwnog, a Mr Abban Caerdeon, Abermaw. Dymdbwn longyfarch Cynghor Plwyfy lIe uchod ar eu gwaith yn dewis un i ofalu am y lampau a'u goleuo am y tymor. Credaf na bu cystal llewyrch gan y lampau er pan y maent wedi eu gosod i fyny ag sydd eleni i'w gael eleni oddiwrthynt. Bydd yn welliant mawr os cerir fef allan i symud dwy o'r lampau o'r lie y maent yn bresenol gan fod pyst y Telephone yn cysgodi eu goleuni. Dydd Mercher yr oedd Mr John Davies, yr Arwerthwr. yn gwerthu ar Auction yn nghae y Ship and Ground Hotel. Yr bedd lluaws 0 anifeiliaid wedi dod yno a thyrfa o bobl. t ?
ACHOSION YM?MRAWDLYS RHUTHYN.…
ACHOSION YM?MRAWDLYS RHUTHYN. ILI, I- I YR AOHOS YNGLYIM A MARWOLAETH MR. R. R. CWEN. Gollwng y Cyhuddedig yn Rhydd. Yr uchod sydd ddarlun o Hugh Lloyd Rob. erts, 36 mlwydd oed, Scotland Street, Llanrwst yr hwn oeddyn Ngharchar Rhuthyn, yn aros ei brawf ar y cyhuddiad o "Ddynladdiad" yn nglyn ag achosi marwotaeth y diweddar R. R Owen, Llanrwst, Gorphenaf 21. Cymerwyd y darlan 0 hono gan Mr. A. Hughes, Photo- grapher, Compton House, Llanrwst, pan oedd yn dod 0 Orsaf Llanrwst yn ngofal Warders y carchar i ymddangos o flaen ynadon y dref wrandawasant y cyhuddiad yn ei erbyn. Y mae Adroddiad llawn wedi ei gyboeddi genym o'r oil amgylchiadau fel y daethant i'r golwg ary prawf hwnw. Wrth agor Brawdlys Rhuthyn, yrunig achos I cyfeirioddy Barnwr Channel ato, yn ei an- erchiad i'r Uchdl-reinhwyr, oedd yr uchod Dywedodd fod y dystiolaeth feddygol yn dangos i Mr Owen farw o barlys mud, wedi ei ddwyn oddiamgylch trwy gyffroad. Nid oedd amheuaeth yn nghylch i iaith sarhaus gael ei arfer gan y carcharor, a bu curo o bobtu. Yr oedd dadl pwy darawodd gyntaf. Os achos- wyd y cynhyrfiad a brofodd yn angeuol i Mr Owen gan iaith sarhaus y carcharor nis geUid ei ddal yn euog o'r trosedd y cyhuddid ef o hono, ond, o'r ochr arall, as achoswyd y cyn- hyrfiad gan y dyrnodiau, dylent 'ddychwelyd true bill yn ei erbyn. Yr oedd yn dymuno galw sylw at y ffaith i'r Carcharor fod yn y carchar er canal Gorphenaf. Ni wyddai a allai gaellrneichiafn. ond yr oedd yn ymddangos yn gated iddp gael ei gadw yn y carchar am yr holl amser i aros ei brawf. Dylai yr vnadon gan- iatau meichiafaeth pan fyddai hyny yn bosibl. Yn ddiweddarach ar y dydd dywedodd y Barnwr wrth Mr Ellis Jones Griffith, y Bar- gyfreithiwr erlynol, os byddai i'r Rheithwyr gael y carcharor yn euog o drosedd llythrenol. byddai iddo ef ystyried iddo gael ei gosbi ddigon eisoes trwy gael ei gadw yn y carchar am yn agos i dri mis. Dydd Mawrth, diolchodd Mr Griffith i'r Barnwr am ei sylwadau ar yr achos uchod. Yr oedd yr erlyniaeth Yn meddwl eu Kod i'w cyfiawnhau i ddwyn yr achos o flaen Llys i dderbyn y gosb a farnai ei Arglwyddiaeth yn briodol ei gweinyddu arno, a chan iddo am- lygu ei feddwl i'r carcharor gael ei gosbi ddigon eisoes, ni byddai iddo ef (Mr Griffith) osod tystiolaethau o flaen y Llys. Mr T. Artemus Jones a gydsyniodd a'i gyfaill yn y sylwadau a wnaed ganddo. Dvwedodd y Barnwr fod yr elyniaeth i'w chyfiawnhau,'a phe na buasai y carcharor wedi bod yn ngbarcbar am yr amser y bu, anfonesid ei achos i'r Rheithwyr. ac os ceid ef yn euog o drosedd llythrenol, mai pedwar mis fuasai cyf- nod y carchariad a pawsai. Hyderai na ddi- fyc id yr achos fel un 0 ddyn dieuog wedi ei gadw am bedwar mis yn ngharchar i aros ei brawf, canys buasai mewn perygl o gael rhyw fath o garchariad oni bai am y pedwar mis a gafodd. Cyfarwyddwyd y rheithwyr i ddwyn dedfryd o Ddieuog." gan na ddygwyd tyst- iolaeth yn mlaen yn erbyn y carcharor. a gollyngwyd ef yn rhydd ar unwaith. ACHOSION ERAILL. Dychwelwyd reiihfarn o "Ddieuog" yn achos Edward Alfred Crabbe, cyfreithiwr, Abergele, yn erbyn yr hwn y dygwyd amryw gyhuddiadau o ddefnyddio arian pobl y gweith- tedai drostynt at ei wasanaeth ei hun, Addefodd George Lyons, 32 oed, swip, a Robert Howarth, 30 oed, labrwr, eu bod yn eupg o ladrata dau ohvynfarch o Harlech, Hydref 12fed, Hysbyswyd i'r ddau garcharor gael caniatad gan Thomas Owen i gysgu mewn shed yn Harlech, lle'r oedd dau olwynfarchi Boreu drauoeth yr oedd y dynion a'r olwyn feirch wedi diflanu. Ar ol hyny caed yr olwyn- feirch beth pellder o'r lie wedi eu malurio. Dymunodd y ddau gael eu traddodi i'r Frawd- lys -Anfonwyd Lyons. yn erbyn yr hwoyr oedd cofrestr droseddau, i naw mis o garchar, a Howarth i chwe mis o garchar gyda llafur caled. Anfonwyd Frederick William Roberts, 37 oed, canvasser, Wrexham, i garchar am ddwy flynedd gyda llafur caled am geisio ymosod ar bump o ddynion. "Dieuog" oedd y ddedfryd ddychwelwyd yn acbos John Price Jones, 37 oed, goruchwyl- ydd yswiriol o Ffynongroyw. Cyhuddid ef o gadw man svmiau perthynol i Mri Kays, Mar- siandwyr, Worcester, dros y rhai y gweithred- ai yn ei oriau hamddenol. Cyhuddwyd Richard Jones, 36 oed, labrwr, o Carno, o ymosod yn anweddus arei eneth 13 Oed, ac anfonwyd ef i benydd wasanaeth am saith mlynedd. Dychwelwyd rheithfarn 0 Ddieuog" yn achos Robert Richard Jones, 37 oed, grocer o Gorwen (gynt o Regent House, Blaenau Ffest- iniog), yr hwn a gyhuddwyd o ymosodiad an- weddus ar ei forwyn Mary Ellis.
NODION 0 .LLEYN.
NODION 0 LLEYN. Yr wythnos yma cynhaliwyd cyfarfodydd diolcbgarwch am y cynhauaf ddydd Llun gan bron yr oil o Ymneillduwyr Lleyn os nad yr Eglwyswyr hefyd. Nodwedd y cynulliadau ydoedd y presenoldeb mawr yn yr oil o'r cyf- arfodydd. Yr oedd amryw o egjwysi yn Mhwllheli yn cymeryd mantais o'r amgylchiad i gasglb tuag at glirio eu dyledion. Casglwyd yn nghapel Salem (M C.) y swm o £ 116, Pen- mount £63, ac yn nghapel Methodistiaid Abererch £46, Nos Wener bu yr aelod seneddol dros Eifion Mr. Ellis W. Davies yn anerch cyfarfod brwdfrydig iawn yn Trefor, lie y derbyniodd wrandawiad astud. Cytnerwyd y gadair gan Mr. D. H. Davies, 'Rorsedd, Pafeiwyd pleidlais o ymddiriedaeth 'yn Mr. Davies ac o gefnogaeth i gyllideb Mr. Lloyd George. Da genym ddeall fod mab hynaf yr Henadur Ahal Williams yn parhau i wella. Daeth y Parch. Rheidiol Roberts, Gweinidog yr Anibynwyr yn Abersoch adref, yr wythnos ddiweddaf wedi bod yn Lerpwl dan driniaeth lawfeddygiaeth. Drwg genym hysbysu am farwolaeth Mrs Gabriel Jones, gweddw Mr Gabriel Jones, Watchmaker, High Street, Pwllheli, yr hyn a gymerodd le yn lied sydyn boreu dydd Llun. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profed- igaeth lem. Ymadawodd Mr, Alfred Ifor Parry, cyfreith- iwr, a'i briod: am Llundain ddydd Llun, lie y bwriada. Mr. Parry baratoi i fod yn Far I Gyfreithiwr. i
IMarwolaetil Mrs. Jones, Bryn…
Marwolaetil Mrs. Jones, Bryn Idris, Trawsfynydd. Pan ar fyned i'r wasg derbyniascm y newydd prudd am farwolaeth y foneddiges hawddgar a charedig uchod, yr hyn a ddigwyddodd boreu heddyw (Iau), yn ei chartref ei hun a'i iphab Mr. E. D. Jones, M.A County School, Aber- maw. Cydymdeimlwn yn fawr a Mr. Jones yn ei brofedigaetb, Rboddwn fanyllon yr wythnos nesaf.
i Cor Meibion y Moelwyn.I
Cor Meibion y Moelwyn. I Mae y Cor enwog uchod wrthi a'u holl egni gyd^ chynal Cyngherddau cyn myned drosodd i'r Unol Dalaethau lie y maent i gynal eu cyngherdd cyntaf ar Ionawr 8. Heno (nos Iau) bycldant yn cynal cynherdd yn Tany- grisiau, nos yfory yn Abermaw, Rhyl nos Iau nesaf, yn Llan Ffestiniog nos Iau wedi'n (Tach 4). ac yn Llandudno Tachwedd 11. Mawr hwyl fa iddynt yn mJaob. man yw ein gwir ddymuniad.
r UNDEB BEDYDDWYR CYMRU.
r UNDEB BEDYDDWYR CYMRU. Araeth gan Mr. Lloyd George, A.S. Cvnhelir cyrddau blynyddol Undeb Bedydd- wyr Cymru yr wythnos hon yn Noddfa, Treorci Llywydd yr Undeb am eleni yw yr Anrhydedd- us D. Lloyd George, a thraddododd araeth ardderchog nos Lun i dyrfa frwdfrydig ac ni chlywyd ef erioed mor hyawdl. Gweinidog eglwys y Noddfa yw yr enwog Dr W. Morris. Rhosynog. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1869. Rhif yr eglwys yr adeg hyny oedd 191. Yng Nghwm Rhondda y pryd hyny yr oedd 950 a Fedyddwyr, erbyn hyn y mae 11.624 mewn 52 o eglwysi. Rhif yr Eglwysi Cymreig yn 33 gyda 8,737, a'r Eglwysi Seisnig yn 19 gyda 2886 o aelodau. Wedi i Dr Morris ddod i'r Noddfa talwyd dyled yr hen gapel 0 [600. ac adeiladwyd yr ail gapel am £5,708. Cafwyd jiwbili yn ail gapel yn 1900. Yna rhoddwyd Organ yn y capel a chostiodd gydag adgyweir- iadau eraill [1700. Yn 1907 caed jiwbili arall. Ardeiladwyd Neuadd Noddfa ac adeiladau'r Ysgol Sul am y gost o dros [6,000, ac agorwyd y rhai hyn gan Syr Alfred Thomas, A.s., ddydd Sadwrn diweddaf, a phroffwydoliaeth Dr. Morris yw y gwelir jiwbili arall yn v Noddfa cyn bo hir. Eistedda'r capel tua 1800. ond yr oedd yn bresenol nos Lun dros 2,000. Mae eiddo'r Bedyddwyr yng nglyn ag eglwys y Noddfa dros 20,000 o bnnau. Swm yr holl dderbyniadau arianol drwy gyfraniadau yr eglwysi o 1866 hyd 1908 yw [34,000. Nifer aelodau eglwys Noddfa a'i changhenau sydd fel y canlyn :-Noddfa 713. Salem 533, Bethel 175, Horeb 160, Moriah 354, Ainon 254, cyfan- swm 2,189. Nifer y cenbadon o'r oil o Gymru sydd yn y cyrddan yr wythnos hon yw 780. Testyn araeth Mr. Lloyd George fel Llywydd yr Undeb oedd— J GWERTH YMNEILLDUAETH I GYMRU. Dywedodd mor bwysig yw i bob un fod yn ffyddlon i'w enwad. Tyf pob pren yn ei ardd ei hun yn well nag wedi ei drawsblanu. Mae ambell ardd wedi ei dyfrhau yn well na'u gilydd er hyny. Edrychodd ar gapelau Cymru fel mannau diwylliant uchaf y genedl. Dyw- edodd mai trwy ei chrefydd y mae Cymru wedi dysgu ei gwleidyddiaeth am hyny i Gymru yr edrych efe am arweiniad. Rhoes drem ar hanes brwydrau rbyddid Cymru, ac am ym- ddiddanion y rhai a orthrymid, yn ngweithdy ei ewythr yn Llanystumdwy, ac fel y gwran- dawai efe yn fachgen ar yr ymddiddan. Proff- wydodd fod dydd coroni ymdrechion a ffydd- londeb Cymru yn ymyl. Araeth orchestol ydoedd, ac yn cael ei der- byn gyda brwdfrydedd mawr gan y dorf anferth. Diolchwyd am yr araeth gan yr Is- lywydd, y Parch T. E. Williams, Newtown, Prifathraw Roberts, LJ. D., Aberystwyth, Syr Alfred Thomas, A.S., a Mr Edgar Jones, M.A. Yn ystod yr wythnos, cynhelir cyrddau fel y canlyn yn eglwys y Morfa. Cynhadleddau am 11 dydd Mawrth, pryd y dewisir y Llywydd am y flwyddyn ddyfodol, ac y gwneir gwaith arfer- I ol yr Undeb. Am 2 o'r gloch, bydd cwrdd yn trafod Materion Cyhoeddus, pryd y siaredir gan Syr Alfred Thomas, A.S.. W. Brace. A.S., ac eraill. Am 7, bydd cwrdd cyhoeddus. pryd yr areithir gan y Parchn H. V. Thomas, Man- chester, Peter Jones, Col'wyn Bay, D. W. Morris, Abertawe. Dydd Mercher, pregethir am 7 y boreu gan y Parch J. J. Richards, Amlwch, ac am 11 bydd cyfarfod cyhoeddus, pryd y traddodir anerchiadau gan y Parchn W. Jones, Ystal- yfera, Hugh Jones, Llanelli, ac E. Cefni Jones, Blaenau Ffestiniog. Am 7 nos Fercher, bydd Cwrdd Cenhadol. Pregethir trwy y dydd ddydd Iau. Rhoddir i'r Undeb dderbyniad anrhydeddus gan drigolion Rhondda.-m,W.R.
I -- BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. FOOTBALL.—Next Saturday, at the New- borough Park, Festiniog Town v, Conway will meet in a cup tie match. The local team sel- ected to play is as followsGoal, J. Hughes;^ backs, T. Hughes and Dei Evans; halves, A. Williams (Bala), M. E. Morris, and W. B. Jones; forwards, J. Jones, J. Hughes, W. M. Jones, W. J. Collins, and W. R. Owen. Reserves: B. Smith, J. C. Jones, W. H. Williams, and W. Jones Penny. Team to play in White. Kick off, 2-30 p.m. prompt. AdJ mission 4d each. All to pay. DIOLCH AM Y CYNHAUAF.—Cafwyd cyn- ulliadau lluosog eleni yn yr holl addoldai, a chasglodd cynulleidfa Carmel, £38 8s 6c at ddyled y capel; Bowydd, £43 Is 4c; Bryn: bowydd, £ 40; Maenofferen, £ 47; Rhiw, £32. YN IACH —Da genym ddeall fod Mr H. E. Hughes yn boll-iach ar waethaf yr hyn a gy- hoeddwyd i'r gwrthwyneb yr wythnos ddi- weddaf. CYWIRIAD.- Anfona Mr J. Vaughan Wil- liams atom yr hysbysrwydd dyddorol a gan- Iyn :—" Ganwyd efeilliaid yn Tanymanod yn y flwyddyn 1802, a dyma'r cofnodiad diweddaf am ddigwyddiad o'r fath. Felly mae eich hysbysiad yn y rhifyn diweddaf: dros. ganrif ar ol ei amser." Drwg genym nad yw y fendith gymaint ga a ewyllysiemi'r boseddwr rhadlon. Un ferch anwyd, a hyny ar Hydref 12fed. BRYNBOWYDD (A) I-Cynhaliwyd Cymdeithas Ddiwylliadol yr uchod nos Fercher, ar 01 y Gyfeillach dan lywyddiaeth Mr. W. J. Will! iams, New Market Square. Dechreuwyd trwy ganu emyn roddwyd allan gan Miss Gwladys May Jones, Hyfrydle. Yna cafwyd papurau gan y rhai canlynol:-jw Pa fodd i wella Ffestiniog," yn Grefyddol, gan Ednyfed Griffith; Fasnachol, Willie Jones, 7, Dorfil Street; Weithfaol, David H. Jones, Hyfrydle; Addysgol, R. H. Owen-Davies, Tpwyn Road. Yn dilyn cafwyd gair gan Mri D. J. Williams, W. C. Williams, Evan Williams, Griffith Goodman, a John C. Owen. Yr oedd olllafur mawr ar y papurau a diolchwyd yn gynes i'r brodyr ieuanc am eu cynyrchion rhagorol. Diweddwyd trwy weddi gan y Llywydd.-T.R. Bacon's new Tourist Cycling "Maps, on sale at Rhedegydd Office.