Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

LLYS MANDDYLEDION LLANRWST.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYS MANDDYLEDION LLANRWST. I Dydd Gwener, o flaen ei Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss. Achos Chwarel Dolwyddelen. I Crybwyllodd Mr. Twigge Ellis am achos gweithwyr Chwarel Prince Llewelyn, Dol- wyddelen, yn erbyn Mr. Edward Richards, y perchenog. Y mater y dymunai am sylw ato oedd costau y chwarelwyr hyny, y rhai a arch- wiliwyd (taxed)an y Cofrestrydd yndod i £ 33 7s 9c. Caniatawyd eu costau gan ei Anrhyd- edd i fyny hyd y rhan-daliad o'r swm a hawlid fel ei arwyddwyd ar y wys. Yr oedd Mr. R. O. Davies wedi rhoddi rhybudd yn nglyn a chanlyniad yr Archwiliad, ond nid ymddang- osodd yn y Llys. Gofynodd Mr. Twigge Ellis am i'r Cofrestrydd gan ei orchymyn i arwyddo y trefniad am y costau fel eu harchwyliwyd am nad oedd Mr. Davies yn bresenol i wneyd ei wrthwynebiad.-Gwnaed Archeb yn unol a'r cats. Dadl yn nghylch Llwybr. I Crybwyllwyd acbos dyddorol gan Mr. Twigge Ellis ar ran Mr. Robert Williams, Ffridd Lon, Eglwysbach, aelod o'r Cyngor Dosbarth ac yr oedd Mr. R. O. Davies i ym- ddangos dros y Diffynydd Mr. E. Wynn, Ty'nybryn, Maenan, ond pan gyrhaeddwycL yr achos caed nad oedd Mr. Davies wedi cyraedd, a ba raid gohirio, y diffynydd yn cytuno i dalu costau y dydd, a thystion yr Hawlydd.-Achos yn nghylch llwybr a chamfa, a niweidiau hon- edig i glawdd yr Hawlydd oedd hwn. Tal am Geflyl. I David Pierce, Dyffryn Aur, Llanrwst, a hawliodd ,.S gan Robert Joues, Dofwr Ceffylau, Uangernyw, gweddill dyledus am geffyl. Ym- ddangosodd Mr. Twigge Ellis dros yr Hawlydd yn ffafr yr hwn y gwnaed archeb. Fel Meichiau. I D. LI. Davies, Amaethwr, Groesffordd Las, Maenan, a hawliodd y swm o (9 gan John Jones, Foxhall, Eglwysbach, y rhai a dalodd fel meichiau drosto.—Ymddangosodd Mr. Twigge Ellis dros yr Hawlydd, a gwnaed archeb am y swm gyda chostau. Methdaliad. I Gwysiodd Fletcher a Chisholm, Llanrwst, Erank Cooper, Market Drayton am £2 dyledus am nwyddau gafodd ganddynt. Eglurodd Mr. T. Latimer Jones ar ran yr Hawlwyr i'r Cwmni fyned yn fethdalwyr yn ddiweddar, a chan fod y Diffynydd yn cydnabod y ddyled byddai i fadd yr etifeddiaeth i wneyd archeb. —Gwnaed archeb am y swm a'r costau, a gwnaed y Derbynydd Swyddogol yn Hawlydd ar daliad costau y Llys Hawlio Cymunrodd. I T. A. Roberts Erw Wen, Colwyn Bay, Labrwr, a hawliodd ei ran o ddau gant o bunau a adawyd rhyngddo ef ei ddwy chwaer a'i frodyr o dan ewyllys y diweddar D. Roberts, Roe Wen. Mr. T. Latimer Jones a ofynodd am i'r arian gael eu rhanu, a'r Hawlydd gael ei ran o honynt.—Gohiriwyd yr achos er mwyn i'r Hawlydd ddwyn tystion yn mlaen i tirofi ei ddadl. Sicrwydd am Ddefaid. I Owen Owen, Bryngwian, Eglwysbach, a hawliodd £ 5 gan John Williams, gynt o Cum- berland House, Eglwysbach.—Mr J. D. Jones, ar ran yr Hawlydd, a ddywedodd i ddefaid gael eu cyflenwi yn 1908, i Thomas Williams, Cigydd, Eglwysbach, mab y Diffynydd, yr hwn oedd yn anallnog i dalu, ac arwyddodd John Williams babur i fod yn gyfrifol drosto yn ystod yr amser y byddai yn talu cyfranau wythnosol. Wedi hyny cytunwyd i aros am dri mis.—Mr E. Davies Jones a ofynodd am estyniad pellach yn yr amser i Thomas Wil- liams i dalu, a bod ei dad yn cael ei ryddhau o'r cyfrifoldeb yn yr achos.—Ei Anrhydedd a ddywedodd :fod y cytundeb a arwyddwyd yn safadwy, a bod amser i dalu wedi ei ganiatau o tano. Dedfryd am y swm a'r costau.

TRAWSFYNYDD.I

FFESTINIOG. -I

ELUNED MORGAN YM MLAENAU FFESTINIOG*

VVVN^AO/WVWVVVVVWWWWVVV BEDDGELERT.I

BWRDD QWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

fVXVVVVVVVVVVVVVVVVVVVVWVW\…

IOYMANFA POBL IEUAINO LLAN--RWST.

!MINFFORDD.

Marwolaethau.