Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

RHEITHOR PENMACHNO A PHLEID-LAIS…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RHEITHOR PENMACHNO A PHLEID- LAIS Y DDAU WEINIDOG YM- NEILLDUOL. Mr. Gol-Gan i chwi gyhoeddi adroddiad am y Llys Cofrestrol, a llythyr y Parch Ben Jones, Rheithor Fenmachno, efaltai y byddwch yr un mor rydd yn eich wasg i gyhoeddi a ganlyb :-Syr, galwyd fy sylw at adroddiad byr a ymddangosodd am Lys Cofrestrol Pen- machno, ac at lythyrau Mr. Benjamin Jones, a dymnnir^irnaf roddi y ffeithiau yn nglyn a'r mater. Pan agorodd y Llys yr oedd Mr Jones yn eistedd wrth ochrMr Nee, lie y bydd goruch- wylydd lleol y blaid yn gyffredin yn eistedd yn .ymyl y pen, ac o flaen y Bargyfreithiwr. Ar y cychwyn dywedodd Mr Nee fod yna wrthwyn- ebiad i enw y Parch W. Lloyd Davies, y Gweinidog Wesleyaidd, nad oedd yo berchenog na thenant ei dy, oni mai ei breswylio yr oedd fel gwas y Cyfundeb Wesleyaidd ac yn uniongyrchol ar derfyniad ei amser feJ Gweinidog Wesleyaidd yn Mhenmachno byddai raid iddo fyned o'r ty. Ar ran y Rhyddfrydwyr dadleuais fod Mr. Davies yn denant cyson, a bod cryn galedi yn cael ei ddangos eisoes gan y gyfraith at Weinidogion Wesleyaidd trwy nad allent gael pleidlais ond ryw unwaith bob tair blynedd, a bod ymgais yn awr yn cael el wneyd i rwystro hyd yn nod y rhagorfrarat bydhan hwnw. Pe baasai Mr. rh gorfraint byc Davies yn Rheithor yn Eglwys Loegr buasai ganddo hawl i gael ei gofrestru wedi ychydig o wythnosau o breswyliad, ac yr oedd y gwrth- wynebiad ar y goreu yn un truenus. Gwrthdystiodd Mr. Nee yn erbyn y sylw diweddaf, a dywedodd mai nid ar y gyfraith yr oedd y bai ond ar y Gyfundrefa Wesleyaidd. Yna sibrydodd y Parch. B. Jones, rywbeth wrth Mr Nee, ac aeth Mr. Nee yn mlaen, a dywedodd nad oedd y gweinidog yn yr achos hwn yn berchenog dodrefn y ty yr oedd ynbyw ynddo, a bod hyd yn nod y rhai hyny yn perthyn i'r cyfandeb. Mr. Latham, y Bargyfreithiwr Cofrestrol, a, ddywedodd :—"Yr wyf yn gweled, Mr. Nee, fod y boneddwr sydd yn eich cyfarwyddo chwi: yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Yr wyf yn meddwl y dylai gweinidogion pob enwad gael yr un rhagorfreintiau. Yr wyf yn aelod o Eglwys Loegr fy hunan, ac Did wyf yn hoffi gweled clerigwr yn gwrthwynebu pleidlais, brawd o weinidog; dylai fod mwy o gariadj brawdol rhwng gweinidogion crefydd. Can- iatd y bleidlais." If id awd yn mlaen gyda'r gwrthwynebiad i'r Parch, T. J. James, gwginidpg yMethodistiaid, Ni ddarfu i'T Parch, B. Jones, wrth gwra, arwyddo y rhybudd o wrthwyhebiad, gwnaed hyny yn ffurfiol yn mhen cadlys y Ceidwadwyr » yn Nghaernarfon trwy foddion rubier stamp gan foneddwr o'r enw Mr. W. H. Owen, o Tyddyn Hendre, Penisa'rwaen, yr hwn, fe, ddichon, na chlywodd yn ei oes am fodolaeth y Parch. W. Lloyd Davies oa r Parch. T. J.: James. Ymyriad agored Mr. Jones yn y Ltys a feirniadwyd gan Mr. Latham. Yr oedd gan' Mr. Jones bob hawl i wneyd hyny, ond barnaf gyda Mr. Latham nad oedd yn chwaeth dda i I wneyd hyny o dan yr amgylchiadau. Yr eiddoch, &c., J. PENTIR WILLIAMS. 123, High Street, Bangor, Hydref 15, 1909.

PENRHYNDEUDRAETH.

Advertising

GARN DOLBENMAEN.'"'"""'"''"'I

-i ---A -- Y- '-I TREFN OEDFAON…

Genedigaethau.--I

Advertising