Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
* PWYLLGOR ADDYSG A DAWNSIO.
PWYLLGOR ADDYSG A DAWNSIO. Mr. Golygydd,—Yn Nghiniawdy Sine Fawr y jUtechwedd pasiwyd y penderfyniad canlynol Ein bod yn llwyr gondemnio gwaith y Pwyll- Mr Addysg yn eu gwaith ya caniatau sefydlu CNb i ddawnsio yn un o'n hysgolion, pan nad oes dim anghen clwb o'r fath, a bod pob stcrwydd mae diriwiad cymdeithasol a moesol fYdd y canlyniad," .11 Dros y Cimawdy, I EVAN WILLIAMS, Llywydd, I WILLIAM JONES, Ysg.
CAN Y MOCHYN. I
CAN Y MOCHYN. I Syr,—Yr wythnos o'r blaen ymddanghosodd penillion i farwolaeth mochyn bach B—M— Ja y Rhedegydd." Pob parch iflr Bardd, NPwy bynnag ydvw ei hawdwr am ei waith, ond gallaf ofyn iddo chwilio am destyn mwy cymmwys i farddoni arno, gyda ei farddoniaeth salw a carpiog. "Pwy" meddai, ie pwy fu ttor ffol a gwneyd rhyw lol wirion fel hyn. Pe boasai yn chwilio am destyn tebyg i'r hanes mochyn yn myn'd ar goll yn Cwmorthin buaswn yn maddeu iddo. Spite I gyd oedd hyn, dweyd fod y mochyn yni cael: dim bwyd, ac yn y blaen. Dywedaf hyn yn garedig wrth y Bardd (Pwy), os yw yn meddwl codi i fyny yn fardd, rhaid iddo chwilio am destyn gwell Oft hanes mochyn wedi marw. BRWYNOG,
IMAINGC HYNOD Y BLAENAU. !
MAINGC HYNOD Y BLAENAU. Syr,- Fel un o drethdalwyr Blaenau Ffestin- log. ac un sydd yn gorfod dwyn fy rhan o feichiau trymion y sir, fe allai y goddefwch i JQi alw sylw at ddyfarniad y Faingc Ynadol y tro diweddaf yr eistejdasant ar fater sydd o bwys mawr i drigolion y BIaenau a Threthdal- wyr y Sir, set yr achos ddygwyd yn mlaen gan y Cyngor Dinesig yn erbyn dwy ddynes am heryglu iechyd y cyhoedd trwy daflu bwyd lIIoch Uygredig i'r afon Bowydd, ya nghanory dref. Profwyd i'r Cynghor dalu pum swllt am tanhaa a diheintio y lie, ac addefodd y ddwy iddynt gyflawni y trosedd ddwywaith, ac er y cwblyroedd y Faingc yn rhy wlanenaidd a diasgwrn cefn i ddirwyo yr an ohonynt, ac hyd yn nod gollwng un heb gymaint a tbalu y costau. Yffugreswm a roddwyd oedd, mai dyma y tro cyntaf iddynt gael eu herlyn. A glywodd neb o'r blaen son am ollwng trosedd- wyr yn rhydd am mai hwnw oedd y tro cyntaf iddynt gael eu dal ? Meddylier fy mod i yn ymosod yn llofruddiog ar un o Ynadon y Blaenau am tod yn cael fy ngwysio i ymddang-- Os o flaen y Faingc, y gosb naturiol a fyddai, dim dirwy, a thalu dim ond haner y costau y wys, am mai dyna y tro cyntaf i mi wneyd gweithred o'r fath. Lie campus yw Ltys y Blaenau i fyned ag ambell achos iddo, a synaf yn ami fod yr Heddlu yn poeni dim i i ddod a troseddwyr yno. Dylai yr ynadon deimlo eu bod wedi tyngu llw o ffyddlondeb i Frenin a Gorsedd Prydain Fawr i weinyddu y gyfraith heb ffafr nac ofn. Gwelaf i Glerc y Faingc alw syiw Pwyllgor Heddlu Arfon at waith Maiogc Caernarfon yn gollwng dos- barth neillduol yn rhydd, a gall edrych adref yn hawdd, gan iddo yn y Llys diweddaf ddy- wedyd fod yn rhaid i drethdalwyr dalu am am- ddifiyn iechyd y trigolion. Y mae y dull y delir at yr achosion yn Llys y Blaenau yn pron yn eglur ei bod yn hen bryd cael Ynad Cyflog- edig i eistedd ar y Faingc, ac ni bydd hwnw yn adwaen neb a ddaw o'i flaen, a bydd gob- aith am ryw radd o degwch oddiar ei law. Y mae dedfryd ein Mhaingc Leol ar yr achos a nodais wedi taraw pawb a syndod.—Ydwyf, TRETHDALWR. I
.RHEITHIOiCPENMACHNO A'R LLYSI…
RHEITHIOiCPENMACHNO A'R LLYS I COFRESTRIADOL. Syr.—Ar ol cychwyn yr ysgyfarnog ynghylch pleidlais y ddau weinidog ymneillduol ynghys- god ffugenwau, gorfodwyd Mr. Pentir Wil- liams, goruchwyliwr y Radicaliaid, i -ddyfod allan o'r diwedd o dan ei enw cristionogol. Dull Gwyddelig yw yr arferiad o anelu at bersonau cyhoeddus o'r tu ol i'r gwrych. A beth a ddywed? "Ni ddarfu i'r Parch. B. Jones, wrth gwrs, arwyddo y rhybudd o wrth- Wynebiad." Dyna sylfaen y cyhuddiad wedi ei dinystrio o enau y cyhuddwr ei hunan. Beth ynte a wnaethum ? (1). Eisteddais yn ymyl Mr. Nee pan agorodd y Llys. (2). Ar y cychwyn dywedodd Mr. Nee fod yna wrth- wynebiad i enw y'Parch. W. Lloyd Davies. Ac ar y sylfeini hyn y mae Mr. Pentir Wil- liams wedi! bod yn ddiwyd yn Uedaenu y cyhuddiad plentynaidd yn fy erbyn trwy'r papurau Seisnig a Chymreig. Meiddiaf ddyweyd Syr, y buasai y prentis twrne glasaf yn cywilyddio i sylfaenu cyhnddiad personol ( ar dystiolaeth mor bwdr. Ond beth yw y ffeithiau ? Pan ddaetham i'r Llys, ysgydwais law a Mr. Nee, a tbra bu y goruchwyliwr lleol ar neges i Mr. Nee, dy- wedodd yr olaf wrthyf am anffawd oedd wedi digwydd iddo y boreu hwnw-Ni soniodd Mr. Nee na minau air am bleidlais pregethwr na neb ar all. Pan agorodd y Llys yn ffurfiol yr oeddwn yn eistedd fy hunan ar fainc arall. ac yr eedd gwagle yn fy ngwahanu rhwng Mr. Nee, a'i orachwyliwr lleol. Dywedaf hyn er mwyn cywiro ffeithiau Mr. Pentir Williams, Be er mwyn lleddfu ei amheuaeth a'i ofnadwyaeth. Yn ystod y dadlu rhwng Mr. Nee a Mr. Pentir Williams ynghylch hawl Mr. Lloyd Davies i fod ar Division I, dywedodd fifcr. Pentir Williams nad eedd yn angenrheidiol i Mr. T-loyd Davies drigo yn y ty neillduol hwnw, y gauai fyw mewn anrhyw dy a ddymunai, ond 4ddo gyflawni ei ddyledswyddaa. Codais inaa, ac, tothum at Mr. Na, a dywedaiB wrtho fed '.W, Petit Williams yn dyweyd yr hyn oedd TMaA ya wylmi oedd yn anghywtr; iodyty yn eiddo i'r Cyfundeb, ac yn cael ei ddodrefnu yn rhariol gan y Cyfundeb er mwyn i't gwein- idog fyw ynddo. Nid gwrthwynebu pleidlais Mr. Lloyd Davies a wnaethum, ond rhwystro i Mr. Pentir Williams gamarwain y Llys gyda'i honiadau disail. Dywed Mr. Pentir Williams nad oedd hyny yn dangos chwaeth dda;" efallai hyny, nid yw sefyll yn eofn dros y gwir yn cael ei ystyr- ied yn chwaeth dda" mewn llawer cylch fceblaw y cylch cyfreithiol. Ond hyn a ddywedaf. Mr. Pentir Williams yw yr olaf un o bawb i son am "chwaeth dda." Onid yw ef yncyflogi Gweinidogion yr Efengyl i ymddangos yn swyddogol yn y Llysoedd Cofrestriadol i wrthwynebu pleidleisiau ? Onid oedd gweinidog yn gweithredu yn swydd- ogol o dan Mr. Pentir Williams yn Nyffryn Conwy ryw ychydig o ddyddiau cyn cynhaliad y Llys yn Penmachno ? Mr. Pentir Williams o bawb yn safon chwaeth dda!" Yn sicr nid oes ganddo ef beth bynag hawl i ddysgu "chwaeth dda i mi na neb arall. Dechreued gartref i ddechreu. gaNrt!l ebf u i mi ychwaith ddarllen yn y newydd- iadur fod y cofrestrydd dysgedig wedi traddodi homili ar frawdgarwch cristionogol pan oedd "pregethwr" yn ymddangos yn swyddogol o'i flaen i wrthwynebu pleidleisiau. A pha syl- wadau bynag a wnaed gan Mr. Latham pan y bu i mi ymyryd mewn cwestiwn o ffaith yn Llys Penmachno (ymddangosai fel pe yn anerch Mr. Pentir Williams a'i frodyr ym- neillduol yn gyfrinachol o leiaf, nis gallwn i ei ddeall yn glir o'r He yr oeddwn yn eistedd), gwell gadael i Mr. Latham a finau settlo hyny rhyngom. Rheithordy, Penmachno, I Rheithordy, Penmachno, B. JONES. Hydref 25, 1909.
ITRAWSFYNYDD.
I TRAWSFYNYDD. ER COF ,-Gyda gofid y cofnodwn am far- wolaeth Mrs. Jones, Ocean View, Abermaw, gynt o'r Beehive, Trawsfynydd, yr hyn gymer- odd le yn hynod sydyn boreu Gwener, yn yr oedrah teg o 78 mlwvrid oed. Yr oedd Mrs. Jones yn gymeriad rhagorol, er na fa yn rhyw gyhoeddus iawn yn ei bywyd gyda materion cymdeithasol, eto i gyd yr oedd yn gymeriad cryf. Bu hi, gyda'i phriod y diweddar Mr. John Jones, a'rbrawd-yn-nghyfraith Mr. David Jones, yn cadw masnach eang a phwysig am lawer o flynyddoedd yn Trawsfynydd. Cofiwn hwynt gyntaf yn yr hen "Siop Isa." fel ei gelwir, yr hon oedd gyferbyn a'r Bee Hive presenol, yn yr hwn le y buont y blynyddoedd diweddarach. Collodd ei phriod oddeutu deng mlynedd a'r hugain yn ol, ond parhaodd yn y fasnach am lfynyddau wedi hyny gyda1 rdiwedd- ar D. Jones, ond er's blynyddoedd bellach symudodd i'r Abermaw, at ei mab, Mr. E. D. Jones, M.A., Ysgol Sirol, lie lynoddei hanadl ddiweddaf, fel y crybwyllwyd eisoes. Bu ei mhab yn hynod p ofalus am dani ar hyd y blynyddoedd, fel y mae yn sicr ei fod yn teimlo chwithdod a cholled ar ei hoi. Er ei bod wedi ymadael o Trawsfynydd. yr oedd yn meddu rhyw ymlyniad neillduol wrth y lie, a phrawf o hynyydoedd iddynt adeiladu ty yn y gymdogaeth o'r enw Bryn Idris, a deuai ar ymweliadau mynych a'r lie, yn neillduol yn yr baf, fel y bydd yn chwith genym na chawn ei gweled mwyach. Dygwyd ei gweddillion i Trawsfynydd ddydd LInn diweddaf, i'w dodi i orphwys gyda'i hanwyl briod yn mynwent Salem. Cafwyd gwasanaeth yn y ty cyn cychwyn o'r Abermaw gan y Parch. David Davies (Dewi Eden), Harlecb. a'r Parch. Gwynoro Davies (M.C.), Abermaw. Wedi cyrhaedd y Gladdfagwasanaethwyd gan y Parchn. J. D. Davies, Blaenau Ffestiniog. David Davies (Dewi Eden), a William Jones, Rhos. Daeth tyrfa bur dda at eu gilydd i dalu y gymwynas olaf i'n hanwyl chwaer, ac yn ychwanegol at yr hyn a enwyd eisoes gwelsom yn bresenol y Parchn D. Hughes (M.C.), J. D. Richards (A.), David Davies (Rheithor), a John Phillips (B.). Trawsfynydd; Stephen Jones, Portmadog; Samuel Pierce Penrhyn; W. Humprheys (Elihu), Blaenau Ffestiniog; D, Jones, Pandy, Corwen; Mr Williams, Arthog Mr H. Evans. U.H., Aber- maw Mr Thomas, B.Sc.. a Mr Lloyd, B.Sc., Ysgol Ganolraddol, Abermaw; Mr Jones, Abermaw; a Mr Williams, Chemist, eto. Anfonwyd y blodeudyrch gan y rhai canlynol, —The Staff, her son, pupils, Armer Williams, Bodwen, Ahepnaw, Xiefalwyd am y gladded- igaeth gan Mr W. J. Williams, Bee Hive, Trawsfynydd. Heddwch i'w llwch. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf a Mr E. D. Jones yn ei brofedigaeth chwerw, ond gwyr yn dda pa Ie i droi er lleddfu ei chwerwder a'i grym. YMWELIADAp HARRI. Ymwelodd y Tafleisyddenwog hwn a Thrawsfynydd nos Fawrth diweddaf. Bu yn dyddori y plant, am 5 o'r gloch, a dechreuwyd yn yr hwyr am 7-30 o dan lywyddiaeth Mr. J. M. Jones, Eden View. Cafwyd detholiad agoriadol gan Mrs. Morris, Bronygan, ar y Berdoneg, yr hon hefyd. fu'n cyfeilio yn ystod y cyfarfod, Yna galwyd ar Ap Harri yn mlaen, a bu yn dyddori y dorf anferth ddaeth ynghyd, a chafodd pawb fwynhad uwchlaw eu disgwyliadau. Er rhoddi ychydig o seibiant eydrhwng y gwahanol ddarnau, fe gafwyd Unawdau gan Mr. Wm. Edwards, Evan W. Davies, a Miss Annie Evans, Cwrt. Cafwyd hefyd ddetholiad ar y Gramophone gan Ap Harri. CYFARFOD CENHADOL.—Cynhaliwyd Cyf- arfod Cenhadol, yii nghapel Bethel tW.), gan y Parch. Peter Jones Roberts, Blaenau Festiniog, a chafwyd anerchiad gwir dda ar y gwahanol fanan yn y Maes Cenhadol, ond yr hon a gafodd fwyaf o'i sylw ydoedd y Genhadaetb yn y South a West Affrica. CYDYMDEIMLAD.—Cydymdeimlwn ar hen gyfaill dyddan Mr. David Davies (Platelayer gynt), Brynglas, ar farwolaeth ei dad. AtFlaeB<?tudEg!wya:?eHircj? Envel-' apes Caqlu at y Awyddyn =Nat ,ø madd TUW ??OMB ya 9?yd??r Rhed?dd.
I BLAENAU FFESTINIOQ. I
I BLAENAU FFESTINIOQ. I You've tried the reqt, Now try the BEST. If you want a piece of the best Smoked or Plain Bacon, Gorgonz,)l a, Cheddar. or American Cheese, and all kinds of Provisions, try- PARRY'S New Shop. DEWIS BLAENORIAID.i-Nos Fercher, yn Nghyfeillach Eglwys Carmel, dewisiwyd y tri canlynol yn Ddiaconiaid, Mri. Richard Jones, Penycefn; George Brymer Hughes, Ortbinfa; a Robert R. Williams, Cwmorthin Road. Dymunwn iddynt h wy ar eglwys lawer o wenau y Meistr Mawr gyda'i achos yn y lie. CYMDEITHAS LENYDDOL JERUSALEM.— Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o'r Gymdeithas uchod nos Fawrth diweddaf, o dan lywydd- iaeth y Parch. John Hughes, pryd y traddod- wyd un o'r Darlithoedd mwyaf byw, dydd orol, ac addysgiadol, draddodwyd erioed ar destyn o'r fath, a hyny ar ol 35ain mlyntedd o astudiaeth fanwl, sef "Teithiau i'r Mynydd- oedd" gan Mr. T. P. Edwards (Caerwyson). Gallwn ddweyd yn ddibetrus i'r Darlithydd agor ein llygaid ar Ryfeddodau y Mynydd na freuddwydiasom erioed am danynt; a chyngh- orwn holl Gymdeithasau y wlad i fynu cael y wledd ddarlithgar hon. Cafwyd gair gan nifer o'r aelodau, a chan y Llywydd, yr hwn a sylw- odd eu bod fel Cymdeithas wedi bod yn ffodus iawn y noswaith hono o gael Darlith newydd spon, a hyny gan un oedd yn expert yn myd yr Adar, a gwahanol greaduriaid gwylltion a geir ar hyd mynyddoedd ein gwlad, yn ogystal a'r Ilysiau a dyfant arnynt, a'r cwbl yn ffrwyth sylwadaeth bersonol. Hoffai yn fawr sylw a wnaeth ar y diwedd, sef, fod pob an ohonynt yn cymeryd ryw gangen yn faes astudiaeth, gan ddarllen bobpeth a allent gael arno yn ystod misoedd y gauaf, ac yn yr haf fyned i weled y pethau drostynt eu hucain, ac felly cael syniad cur a phendant am danynt. Os ydyw yr hyn a glywsom heno yn ernes o'r hyn fwriadwn gael yn nghyfarfodydd ein Cym- deithas, gallwn ddisgwyl am wleddoedd blasus iawn. Teimlad cyffredinol yr aelodau ar y diwedd ydoedd, eu bod wedi cael cychwyniad penigamp i dymor y Gymdeithas.—w. T. R. DIRWESTOL. Gynhaliwyd cyfarfod dir- westol yn Jerusalem, nos Sadwrn, o dan nawdd Teml Barlwyd, Tanygrisiau. Dechreuwyd gan y brawd Thomas Hugbes. Can gan y brawd David W. Thomas. Adroddiad gan Miss Lizzie Kate Jones. Can eto gan barti Lizzie Jones. Dadl gan Miss Hannah Jane Hughes, a'i chyfeillion. Gair gan y LIywydd Mr. D. 0. Jones. Adroddiad gan Miss Esther Jones Can gan Miss Lizzie Jones. Dadl gan Esther Jones a'i chyfeillion. Can gan Mr. Johnny Griffiths. Adroddiad gan Mr. William R. Williams. Can gan Mr W. M. Williams. Terfynwyd gan David O. Jones. Cyfeiliwyd gyda'r Offeryn gan Misses Annie Roberts, Gwennie Williams, a Mr. Lewis Roberts. Caed cyfarfod gwir dda gan y Demi hon. Ceir cyfarfod nos Sadwm nesaf am 6-30.—T R. TEML Y DIPHWYS.—Cynhaliodd y Deml ei chyfarfod nos Wener. Dechreuwyd gan y plant dan arweiniad Miss Jinnie Owen, Bank Place. Adroddiad gan Thomas Davies, a Wm. O. Roberts. Can gan Miss Owen. Dadl gan Miss Katie Evans a'i chyfeillesau. Ton gan y plant. Cystadleuaeth am fwyaf o eiriau yn decbreu gyda'r lythyren B, cyfartal Miss Gladys Evans, a Mr. W. Lewis, Crom- well Street. Beirniaid Mri. G Thomas Wil- liams, a William John Jones. Can gan Miss Ellen Davies. Can ac adroddiad gan y brawd Wm. John Jones. Adroddiad gan David James Roberts. Diweddwyd yn y drefn arferol. Bydd Temly Barlwyd, Tanygiisau, gyda Theml y Diphwys yn Garegddu nos Wener nesaf am 7 o'r gloch.—T R. COR Y MOELWYN.—Nos Iau, yn nghapel Carmel, Tanygtisiau, o dan lywyddiaeth y Parch. R. Silyn Roberts, M A. Cafodd GoDr Meibion y Moelwyn gyngerdd hynod o Iwyddl ianus, ac yr oedd eu datganiadau, fel arferoI; yn derbyn cymeradwyaeth uchel bob tro. Yr oedd Mr. E. Ffestin Jones mewn hwyl anghyffredin gyda chann Penillion, a'r Telynor Dall yn cyfeilio iddo: encoriwyd ef bob tro. Datganodd yr Unawdwyr canlynol yn dda iawn, Mri. Hugh J. Hughes, Lewis F. Davies, J. L. Prodger, Evan Morris, W. O. Jones, a Ted Jones. Cafwyd Deuawd swynol gan Mri. J. E. Prodger, a J. E. Williams. DARLITH.-Noo Lun, yn ngbapel Gorphwys- fa, Tanygrisiau, traddododd Mr, W. O. Jones, Aber, ei Ddarlith boblogaidd ar John Jones." Llywyddwyd gan Mr. Richard Jones, Salem Cottage. Cafwyd noson ddifyr iawn, a chvn- ulliad da. "CRYNWYR CYMITEIG 11-Dyma destyn Darlith y Parch R. Talfor Phillips o Baen Cymdeithas Ddiwylliadol Carmel nos Fawrth. Ni raid i ni ddywedyd fod hon yn Ddarlith gampus gan nad yw Mr. Philips yn arferol a gollwng dim o'i law yn anorphenedig, ac yr oedd y testyn yn un wrth ei fodd. Llywydd- wyd gan Mr. Evan E. Griffith. BAILIFF NEWYDD. — Deallwn fod Mr. Meredith Davies wedi ymddiswyddo fel Bailiff Ltys Manddyledion Ffestiniog, a bod Mr. Owen Thomas, mab y diweddar Henry Thos. Cooke, wedi ei benodi gan Gofrestrydd y Llys i yn ei le. Y mae Mr. Thomas wedi dechren ar ei waith er ddydd Sadwrn diweddaf, a dymun- wn iddo bob rhwyddineb gyda'i ddyled- swyddau. DARLITH.—Yn addoldy Calfaria (B.), nos Fawrth diweddaf, eisteddodd cynulliad lewyrchus am rhyw awr a chwarter, i i wrando un o'r Darl#hoedd mwyaf difyr bosibl My teatyndydd?ol Taith I Jamaica," gan Mr. D. Roberts R?c? Tormej Ile houliwyd gan- ddo m ddwy aynedd ddi(ytd yn hanes ei oes Rhoddodd y Darlithydd hanes pu? fanwl o i daith M for a thir. ? Bnasai ya tmm i hai??n Ffestiniog ei chlywed. Gwyddis fod et Falf, y PMch. D, II. Roberta ,n. Jamaica at's thai bliniddoedd ao nçél ?iwvm a! bwob 'D, Hodedd yc?m of, &d v I dros y Weilgi Werdd, i gael golwg ar un o'r Ynysoedd prydferthaf yn y byd, ac nid ychydig o wroldeb oedd yr anturiaeth, pan ystyriwn fod y Darlithydd yn ddeuddeg-a-thri-ugain oed yn cychwyn fel y sylwodd y Cadeirydd, sef Mr. John D. Davies, o Swyddfa y RHEDEGYDD. Cynygiwyd y diolchgwwch gwresocaf gan y Parch. Cefni Jones, a chefnogwyd gan Mr. John Hughes i'r Cadeirydd am ei bresenoldeb a'i sylwadau amserol ac i'r Darlithydd am ei Ddarlith wir ddyddorol. Rhywbeth fel hyn oedd yn rhedeg drwy ein meddwl wrth wrando ei Ddarlith Ynys West Indys a dwndwr-ini Wnaeth enwog Ddarlithiwr, I'r Wlad, ei Dad dros dwr Hudodd Dewi'r Cenhadwr. Y Tad swynwyd, adsyniodd,—i'r fawr daith, Ar for Duw evehwynodd, Hawl ei ra yn Ei law rodd, Yntau i'w war anturiodd. Y' Montego Bay, man teca byd—'tariodd A Phort Royal enyd, Broydd a'u glenydd yn glyd Hofran o ffrwythau hyfryd. Byw 'n hoenus ar y Banana,—dyfent Wnaeth Dafydd, a dweda Yn ffaith, tatws na ffâ, Nis maccwyd yn Siamaica. Yn nigrif arfer y Negro-tystiaf Caed testyn gwerth gwrando, O'r ddau faes, rhoi'r iddo fo Hawl Athen i Ddarlithio. G. G. THOMAS. BETHANIA.—Yn yr oedfa hwyrol y Sul di- weddaf yn nghapel Bethania, datganodd Mr. Owen Roberts, New Tanymanod, yr unawd "Dagrau'r Iesu" yn effeithiol iawn. Da genym fod yr eglwys hon yn rhoddi cyfle i'w thalentau yn awr ac eilwaith fel hyn i roddi eu gwasanaeth gyda'r Achos mawr. CYFARFOD YMADAWOL.-Heno (nos Iau), cynhelir cyfarfod ymadawol y Parch. D. Hoskins, M A., yn Nghapel Bethesda. <WiAWVW^WWVWVWVVVVVV\
Cyngherdd Cor Meibion y Moelyn…
Cyngherdd Cor Meibion y Moel- yn Abermaw. Nos Wener Hydref 22ain, daeth y Cor enwog uchod yma (i'r Abermaw) a mawr oedd y disgwyliad am danynt. Yr oedd pob peth wedi rhoddi ffordd yn ein taflen er cael cefnogi y Cor campus, ac nid oes neb yn edifarhau syniad pawb fu yn y Pavillion ydyw, na fa gwell gwledd yn y Bermo er's llawer o amser. Yr oedd y Cor a'i arweinydd clodwiw Mr. Cadwaladr Roberts. U.H., yn cael derbyniad brwdfrydig bob tro yr ymddangosent, ac oni bai i'r llywydd caredig a hael Mr. Hugh Evans, Y.H,, Penmount erfyn ar y dorf astud, a pheidio ail alw'r Cor, buasent yno drwy'r nos. Yr oedd y Cor yn codi brwdfrydedd bob gafael, ac ailganasant amryw droion. A gwrthodwyd droion eraill, gan fod yr amser yn rhedeg. Yr oedd yr Unawdwyr campus yn gwneyd gwaith canmoladwyr, ac felly y dat- ganwr penillion clodfawr M. Ffestin Jones, tynodd y ty i lawr gyda'i ganeuon. Miss A. E. Owen-Davies, A R.C.M., yn telynori iddo ac yn cyfeilio i'r Cor ar unawdwyr, mawr deilynga edmygedd pob un a all edmygu talent. Yr oedd disgwyliad pobl y Bermo yn uchel, ond aeth y canu aruchel a'r Cor yn llawer uwch, ac er i'r cyfeillion o'r Cor ddiolch yn gynes am gefnogaeth pobl y Bermo. Y diolch goreu gawsom oedd mwynhau y wledd aruchel. Gresyn na bai y tywydd yn fwy ffafriol, er mwyn cyfleusderau trigolion y cylcboedd cyfagos. Melus moes mwy, meddai pawb yma. a llwydd mawr iddynt yn yr America:- BERMO JONES.
Gwerth Gwrw i Heddgeidwad.
Gwerth Gwrw i Heddgeidwad. Bu i ynaaon Bradford, ddydd Iau, ddirwyo John Kitchingman, Bellett's Arms, Long Street, Bradford, i dair pant a'r costau am iddo roddi cwrw i heddgeidwad oedd a'i wisg swyddogol am dano ar y pryd. Daeth Ringyll i'r dafarn, a daliodd yr heddgeidwad yn y weithred o yfed y gwydriad Cwrw.
FFESTINIOG. I
FFESTINIOG. I CYNGHERDD COR Y MOELWYN.-Fel y gwelir oddiwrth ein colofnau hysbysiadol bydd Cor Meibionenwog y Moelwyn yn cyaal Cyn- gherdd Mawreddog yn y Nenadd Gynnull, nos Iau, Tachwedd 4ydd, ac y maent yn addaw gwledd gerddorol o radd flaenaf. Gan eu bod yn arferol a thynu tyrfaoedd ar eu hot lie bynag yr glont, goreu bo gyntaf i chwi bobl dda y Llan sicrhau, tocynau ar unwaith. Da genym ymhellacb hysbysu fod cais wedi ei wneud at y Cor am eu telerau o Birkenhead a'r Queen's Hall, Llundain. DRAMA.—Nos Fawrth, bu Cwmni Maeo- offeren yn myned trwy Ddrama penigamp leuan Ddu, sef "Joseph a'i Frodyr," o dan Mr. Morgan E. Phillips, B.Sc. Cafwyd perfform- iad rhagorol iawn. a chariodd effaith mawr ar y cynulliad llnosog: gwelid ami ddeigryn yn gwlychu gruddiap y gwrandawyr, Dyma y perfformiad goreu gafwyd o'r cychwyn, ac nis gellir canmol gormod arno.
Family Notices
Gonedigaothau. MORRi5.-Hydrof 21, priod Mr. Edward Morris, Pantyrhyrddod, Bettwsycoed, ar ferch. JONEs.-Hydrof 20, priod Mr. Robert Jones, Assurance Agent, Cae'rdelyn, Trawsfynydd, ar fab. ROBERTS.—Hydref 23, briod Mr. Edward Roberts, Trawsfynydd, ar fab. JONES,—Hydref 2$, priod Mr. Richard Jones, Trem Prysor, ar ferch. JONES.-—H(yck*f 24, priod Mr. RobBt Jones, Baron Road, Bkauu Fbagniog, at tab (cytrtafanedit). I v
PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. ARWERTHIANT .-Cafodd Mr. J, Party Jones, Arwerthiant lwyddianus iawn dydd Sadwrn yn Penybryn, areiddo Mr. J. Lloyd. YN OL I'R AMERICA.—Dydd Llun yr oedd y cyfaill ieuanc Mr. Wm. Edwards, Park Road (gynt o Penybank), yn cychwyn yn ol i'r America wedi bod gartref am rai misoedd yn mwynhau ei wyliau gyda'i deulu. Dymunwn fordaith gysurus iddo. GWASANAETHU.-Nos Sadwrn diweddaf yn Poitmadoc yr oedd Miss A. E. Bavies, Castle Street, yn un o'r rbai oedd yn gwasanaethu yn y Cyngerdd a gynhaliwyd yn y Drill Hall. YNADLYS ARBENIG.-Dydd Iau diweddaf o flaen Dr. J. R. Jones a Wm. Jones, Yswein- iaid, Mr. D. J. Jones, Meistr y Tlodty a gyhuddai 5 o grwydriaid o wrtbod ufyddhau i wneyd ei gorchwyl. Anfonwyd hwy i garchar am fis. BAND OF HOPE.—Cynhaliwyd yr uchod yn Nazareth dan lywyddiaeth Mr. Owen Jones, Cafwyd adroddiadau gan Olwen Williams a R. Ifor Owen a'r rhai canlynol yn canu,—Gwenie Davies, Dora E. Evans, Mary Williams a Jane Glynne. Canodd y plant amryw weithiau dan arweiniad Mr. Owen R. Williams. Y DEML.—Nos Wener, cafwyd papur rhag- orol gan Mr Griffith G. Jones, Bryn Llewelyn, ar "Ail-enedigaeth yn ngoleuni y byd ysbiydol," a chafwyd trafodaeth bellach gan amryw o'r aelodau. YMDRECH GREFYDDOL.—Nos Sabbath, yn Gorphwysfa, cafwyd darlleniad gan Mr J. Benett Jones, Cain," o waith Daniel Owen, Yn Nazareth, yr un adeg, noson i'r chwiorydd, Merched y Beibl." Agorwyd gan Miss Kate Williams, Blaenddol, a chafwyd adnod neu benill gan bron yr oil o'r chwiorydd. CERIDWEN PERIS.-Yo Nazareth, nos Lun, dan lywyddiaeth y Parch E. J. Evans, yr oedd Ceridwen Peris yn anerch Cyfarfod Dirwestol ar ran Cymdeitbas Ddirwestol y Merched ar ddechreu ei thymhor. Dechreuwyd gan y Parch E. Christmas Jones (B.) Cafwyd an- erchiad gan y Llywydd, a chan gan Miss A. E. Davies, Castle Street, ac yna rhoddwyd y cyf- arfod yn llaw Mrs Jones. Cyfeiriodd at y gwaith mawr sydd ya cael ei wneyd gan y Gymdeithas, yr hon sydd wedi ei sefydlu er's 17 mlynedd, ac mae 14,000 o ferched yn perthyn iddi yn Ngogledd Cymru, a rhywbeth yn debyg yn y Deheudir, a gwneir y rhai hyny i fyny o bob dosbarth: merched mwyaf cyf- oethog a mwyaf atbrylithgar Cymru yn aeIodau o honi, nid mewn enw, ond yn gweithio yn selog drosti, ac annogai yn daer ar i holl chwiorydd ymuno a'r Gymdeithas, fel ag i wneyd eu goren i gael aelwydydd Cymru yn lan oddiwrth y ddiod feddwol. Rhoddwyd diolchgarwch gan Mr T. Lloyd Pritchard a Miss Owen, Hyfrydfa. Cafwyd cyfarfod da, a chynulliad lluosog. Terfynwyd gan Mr Wm. Richard Jones. YMADAEL.—Yr wythnos o'r blaen, yr oedd Mr. John Pierce, yn ymadael o Hafodywern, wedi bod yno am gyfnod maith o amser. Chwith genym ei golli er nad yw yn tori ei gysylltiad a'r ardal. Mae wedi symud i Ysgubor Wen, Maentwrog, a'r wythnos hon mae Mr Richard Davies (ieu.), Lasynys, Har- lech, wedi dod i Hafodywern. CYFARFOD CYHOEDDUS—Nos Wener, am 7-30 yn y Neuadd Drefol, cynhelir cyfarfod cyhoeddus gan Undeb y Chwarelwyr, pryd yr anerchir gan y Parchn. Rhys J. Huws, Bethel, E, Christmas Jones (B.), Bryngwyn, ac amryw eraill. Disgwylir cynulliad lluosog. Mae gwahoddiad cynes i feibion a merched i ddod yno. YSGOL Nos.-Mae yr ysgol nos wedi cych- wyn yn llewyrchus dan ofal Mr. Llewelyn Williams a Mr. Richards. Mae 43 wedi ym- uno a hi, a disgwylir amryw eto. Bydd yn cael ei cbynal bob nos Fawrth, a nos Ian. Dechreuir am 7 o'r gloch. ATALFA.—Gyda bod y tren gweithwyr yn cychwyn o Porthmadog boreu Mawrth aeth Engine oddiar y cledrau, ac achosodd hyny gryn oediad ar y tren ac yn ddiweddarach ar y dydd llithrodd darn o graig ger Tanybwlch i'r reilffordd ac achosodd hyny drachefn gryn anhwylusdod. CYMDEITHAS LENYDDOL.-Nos Fawrth agorwyd Cymdeithas Lenyddol Nazareth trwy gyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth Mr Jaret Davies. Cymerwyd rhan mewn adrodd gan Mri Griffith G. Jones, a Hughie Jones ac mewn canu gan Mr Henry J. Richards, a Misses Eluned A. Jones a Katie Lewys. Y goreu am areithio ydoedd G. S. Jones a Henry J. Rich- ards yn gyfartal; ac am ddarllen darn heb ei atalnodi, Mrs Owen, Bryniau Hendre. Dewis- wyd yn swyddogion am y tymbor: Llywydd, Mr R. T. Jones; Is-lywydd, Mr Rees Jones; Ysgrifenyddion MrHnghie Jones a Miss Mary E. Owen; Trysorydd Mr Wm Roberts. ANFFAWD.—Pan yr oedd un o Directors y Dreadnought Insurance yn trafaello o Port- madoc i Penrhyn, torodd ei Fotto gerllaw Minffordd nes peri anhwylusdod mawr. CYFARFOD GWEDDI UNDEBOL.—Mae hwn wedi ei gynal ar hyd yr amser er dechron y Diwygiad. Bydd yn cael ei gynal nos Sadwrn nesaf yn y Workhouse am 6-30. Bydd hyn yo sirioli ysbryd a chalon llawer un sydd yno, a byddant yn falch o weled llawer yn nno. BRYNGWYN.—Bydd cyfarfod cyhoeddus dan nawdd y Band of Hope yn cael ei gynal nos Iau (heno) yn Bryngwyn. Cymer amryw gystadleuaethau le ynddo. ac hefyd bydd y bardd buddagol yn cael ei goroni. FFRWYDRIAD.—Parodd y ffrwydriad yn y Steelite Powder Work, Penrhyn, gryn anhwyl- usdod i'r Cwmni, gan fod ganddynt archebiotr mawr eisiau ei cyflenwi. Maent wrthi yn llawtt brysurdeb yn adgyweirio y He. Bydd pobpeib yn myad fel arferol yn mhen ychydig ddyckf. iau. ^/vvvvvvvv^/v%'VV^/v^AA/v^/vv^/vv^^
Advertising
Hyabysir amfarwolaeth Mrs. Williams. pdtd Mr. D. P. Williams, Cadeirydd pwyllgor Addysg SirGaeraarfon. Ba farw ddydd Sadwfl) yr oedd Mrs* Williams, yn fatab i'r ihredStt Birch, Mqrt Bills (a.cj, YsgsMy.