Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DiNESiQ FFESTINIOG.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DiNESiQ FFESTINIOG. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaiad y Cyngor uchod ncs Wener, bryd yr csdd yn bresenol Mri, Cadwaladr Roberts (Caddrydd), |Richsrd Jones (Is-Gadeirydd), Lewis Richards, Dav- id Jones, Hugh Jones (Adeiladydd), D. J. Williams, H. E. Jones, D. J. Roberts, David Davies, W. J. Rowlands, John Jones, Cad- waladr Morris, Hugh Jones (Ffefyilydd), R C. Jones, Evan Jones, Robert Jones, W Miam Edwards, John Cadwaladr, David Wi 1 ams, Evan T. Pritchard, T. J. Roberts, R. 0 Davies-(CIerc), Edward Jones (Clerc Cynorth wyol), E. Lewis Evans (Rheolwr gwaith), George Davies (Peirianydd ac Arolygydd Iechydol), a W. Williams Jones (Cyfrifydd) Adeilad Pren. Caniatawyd cais Mr. L. EtiSOf i gael dodi ei gwt pren, i wneyd gwaith crydd, with yr Orsaf Dan, yn Bwlchgwynt. Cydnabod. Mr. J. Lloyd Jones a anfcnodd lythyr yn cydnabod yn ddiolchgar y bleidlais o gyd- ymdeimlad basiodd y Cyngor ag ef yn ei waeledd. Drwg ganddo nad oedd yn gwella nemawr. Cadarnfcnu. Cadarnhawyd gwsithredkdau y tri Cyngcr Arbenig gynhaliwyd yn nglyn a'-r adran 2 o'r Carthffcsydd. Yr oedd y gwclyau hyn ydynt yn Conglywal wedi myned allan o drefn am fod y muriau a'r llawr wedi ymollv/ng.—Yr oedd cynygion wedi dad i gyflenwicerig at wneyd y gwelyau hyn, a phasiwyd i gymeryd rhan gan Mr Griffith Owen, Bethanis, Cwmni Cefn- bychan, a Chwmni yr Arenig. Ysmygu. Pan oedd y drafodaeth hon yn myned vn mlaen yr oedd amryw o'r aelodau yn ysmygu, rhai a'u pibelli ac eraill a't] cigarettes.- Cadeirydd, "y mae y gwaith yn pwyso yn drwm ar rai o honoch. Wnewch chwi beidio smocio.Mr David Davies, "Y mae yn anheilwng hollol. Nid lie i ysmygu ydyw hwn Dylid ei atal arunwaith.-Cadeirydd, "Cofiwcb beidio gwneyd hyn eto. Ni wnaf ei oddef." Addysg Gelfyddydol. I Ar gynygiad Mr. John Cadwaladr, pasiwyd gwaith y Pwyllgor. Dargcsai fod £ 122 11s 6c o arian mewn Haw. Yt oedd 22 o geisiadau am adnewydcu Ýsgõloriaethau, a 18 o geisiadeu am Ysgolor- iaethau newyddion,—Cafwyd adroddiad gan Mr. Dodd ar y gwaith wnaed gan y dysgyblion, a phasiwyd i roddi 21 o adnewyddiadau, a 17 o Ysgoloriaethau newyddion. Y rhai gawsant adnewyddiadau ydynt:—Evan H. Robeits Ffestiniog; Gwennie Morris. 2, Tyddvngwyn Edward Wiiliams, Treeawel; Jennie Janes, 7, Dorfil Street; Jane Alice Jones, Picton Terrace: Win fredDaviss. West End; W. J, Ellis, Llwyn Eithin Btodwen Griffith, Bool-seller Nellie Hughes, Lord Street Kate E, Hughes, 172, Manod Foad Catherine J. Jones. 20, New Square; D, M. Jones, Mona, Benar View; Edward J. Jones, Blaenycie; Lizzie Jones, Bronclcdwr; R. G. Lewis, Cynfal Terrace Jennie P. Roberts, 101, Mancd Road; Jennie Owen, 5, MiHs Row Maggie O. Jones, Bcdegryn Sydney M Jones, 75, Manod Road Hugh Lloyd, 7, Cromwell Street a Morris Roberts, Bryn- ffynon.- Ysgoloriaethau newyddion :-Hughie N Tones, 80, Manod Road Mary Roberts, Gwynfryn Sarah Hughes, Ffestiniog Rowland Edvards, 3, SummerhiH; Tommy Morris, 81, Mimed Road; John Ellis Ed wards, 133, Manod Road; Gwilym E. Owen, 93, High Street; John Rhys Roberts, Plas Canol; W. J. Hughes, 29. New Square; oil o'r Ysgol Sirol; B'olwen,. Salisbury, 36, Lord Street; Morfudd Owen, Blaenafon Gwyneth Thomas, 20, Station Road; Janey Jones, Mostyn House; Owen Ellis, Brynheulog, Ffestiniog Katie Rob:rts, 5, Maenofferen Lizzie K. Jones, Ty'iillwyn oil o'r Ysgol Galonog; ac Antia Vaughan Davies, 3, New Square, o'r Ysgol Uwch Elfenol. iJewiswyd tri o bob Rhanbarth, ac una'r- ddieg o foneddigesau atynt, i drefnu atddar. lithoedd Gilchrist sydd i'w traadodi yn y Neu- add yn ystod y gauaf. Pwyllgor y Dwfr a'r Nwy. I Adroddwyd fed haner gini o danysgrifiad ■wedi el dderbyn cdJhvrth Gwmni Ysuiriol yr Ocean at yr Orsaf Dan.—Fod John Davies, Llechwedd Isaf, wedi derbyn 5s cydnabydd- iaeth am dresmas wnaed gan y Cynor. Dangosai adroddiad Rheolwr y Gwaith Nwy (Mr. W. J. Pritchard) fod y derbyniadau oddiwrth y Stoves Coginlo yn £ 343 10s 5c, yr hyn oedd yn elw o £ 139 2s 7c. Dangosai adroddiad y Rheolwr Gwaith fod chwe' troedfedd a naw modfedd o ddwfr yn y Llyn, ar gyfer saith troedfedd, a thair modfedd a haner ar yr un dydoiad y Hynedd. Yn nglyn a'r Orsaf Dan yr oedd eisiau cael girder haiarn tewach na'r un fwriedid uwch- ben y drv. s ar y dech-fsu ar gyfrif y pwysau fyddai atno.—Gwrthodwyd i'r Contractors gael rhodcii Sills ilechi yn He rhai ithfacn.-Y RhEolwr Gwaith i adrodd i'r Pwyllgor nesaf ar y Drws a r Gloch i'r Orsaf hon. Pwyllgor Iechyd a'r Ffyrdd. J Yr Arolygvdd Iechydol a adroddbdd, yn jffafriol ar GYLL AT iechyd y Dosbarth Pasiwyd y p.an o gyfnewidiad ar ffrynt I Newborongh Buildings (rnasnachdy Mr W. T. Jones, Gemydd) Bydd y cytaewidfa hwn yn harddwch maw* i'r lie, Cafwyd adroddiad maith gan Mr E. Lewis Evans am y gwaith a wnaed a'r y ffyrdd a phethau eraill yn ystod y mis, a chymeradwy- wyd ef. Dr. Jones a adroddodd i 23 genedigaeth gael ei cofrestru yn ystod mis Mehefiu, 6 marwol- aeth.—Mr Hugh Jones (Cadeirydd y Pwyllgor) a sylwodd fod nifer y mafwolaethau yn nodedig o iset ac yn dangos mor iach oedd y llosbarth. Pasiwyd i gael adroddiad gan Mr T. J. Williams ar y Malwr Cerrig.—Fod y Square i'w hagor ar y Sabbothau yr un amser a dyudiau eraill, a bod amcan-gyfrif i'w ga.e! o'r gost i gael cysgod priodol ar y He a m- einciaii, —Penodwyd Is-bw vllgor i ystyried beth eilid ei wneyd i gael He i biant yr srdal chwareu. Ysbytty Aneddol. Ar gynygiad Mr. Evan Jones a chsfnogiad Mr. D. J. Williams pasiwyd i benodi yr Is- j bwyllgor i ystyried beth ellid ei wneyd i gael Ysbytty Ar-eddol. -Dywadvdd Mr. Joi n Jones, fod boneddwr yn barod i roddi tip- am ddim at yr amcaa.—Dewisiwyd un o bob Rhanbarth yn Bwyllgor :-VV. J. Rowlands, T. |. Roberts, Robert Jones, Owen Jones, D. J. Williams, John Jones, David Williams, Evan Jones, a H. E. Jones. Pwyllgor Aricnol. Pasiwyd i dalu galWadau yn gwneyd y swm o f451 lls 4e. Methwyd a gweled y ffordd yn glir i ganiatau cais y cssglyddion cynorthwyol am godiad yn eu cyfiogau. Yr oedd 13 wedi anfon eu ceisiadau am gaol gofalu am Lyn y Morwynion a dewisiwyd Mri. Joseph Ephraira, Cae Canol, a William Roberts, Pant'.lwyd i ddod o fiaen y Cyngor.— Daeth y diau o flaen y Cyngor,-Willi.-m Roberts a ddywedodd ei fod yn gwybod yn iawn am y Llyn a'r gwaith oedd i'w wneyd yno, Nid oedd yn Ilwyr ym.vitbodwr.— Cadeirydd, Hwyrach na fyddai genych wrth- wynebiad i fod os cewch ddigoa o'r Llyn" (Chwerthin).W. Robel ts, "Na fyddai o ran dim wyf yn ei yfed gailaf wneyd hebddo. Bu yn gweithio am 23 mlynedd yn Chwarel Maenofferen, ac ni chymerwyd erioed yn fy erbyn." Joseph Ephraim a ddywedodd na bu erioed wrth y Llyn.—Mr D. J. Williams, "A ydych yn ddirwestwr?—J. Ephraim, "Ydwyf, yn aelod o Gymdeithas Ddirwestol."—Mr Hugh Jones (Fferyllydd), Yr wyf yn protestio yn erbyn gofyn cwestiynau fel hyn.Mr E. T. Pritchard, Ewch yn mlaen i benodi dyn yn lie holi eu cymeriadau fel hyn !Mr David Davies, "Yrydyrn yn gwneyd yn iawn wrth holi. Ni fuasem yn dewis cael dyn digymeriad i'r swydd, fC yr ydym wedi gofyn i'n swydd- ogion eraill fod yn ddirwestwyr. 'I-P! eid leis- iodd 8 dros Ephraim, a 13 dtos Roberts, a Roberts a benodwyd. Wal Mynwent y Llan. I Bu trafodaeth faith ar y mater hwn gan y I gofynai y Cymerwyr am y gweddill oedd yn ddyledus iddynt am y gwaith, ac yn y diwadd rhoddodd y Clerc hanes yr achcs o'i ddechreu, a bod y Cyngcr yn hollol ddiogel wrth dalu yr holl arian, gan fod ymrwymiad gan y ddau Gymerwr a'u Meichiau y gwneir i fyny bob colled all ddigwydd gyda'r wal yn cghorph y ddwy fivnedd nesaf. Ya ol y cyfrif an&nol, bydd yr holl draul yn £ 668 153 Ie, yn cynwys y tir costau cyfre¡thiol, a'rgw:ith¡,r yHe. Yr oedd y Contract ar y wal yn 1405 2s, ar yrhwn yr cedd £ 90 2s heb eu tala. Amcan gyfrifid costau pellarh ar y He, at yr hyn yr oedd £ 121 mewn llaw.—Ar gynygiad Mr David WiIHams a chefnogiad Mr John Jones, pasiwyd i'r Is- twyllgor ystyried y gwaith sydd yn arcs heb ei wneyd gyda'r amcpn o geisio lleihau y gost. Yn ddiljnol derbyniwyd yr awgrymiadau wneid gan y Clerc, a bod y Cymerwyr i gael yr arian sydd yn ddyledus iddynt. Y Peirianydd a'r Arolygydd Iechydol. I Dewisiwyd Mr. George Davies i fod yn Beirianydd Iechydol ac Arolygydd Iechydol athosol i'r Cyngor. Gwneid y penodiad o I flwyddyn i fiwyddyn o dan yr hen drefniad. Cydnabod. I Y Piif Gwnstabl a gydnabyddodd yn ddiolch- gar y bleidlais o gydymdeimlad basiwyd ag ef I yn ei brofedigaeth o golli ei briod. Niweldio eiddo. I Mr W. Wynne Williams a anfonodd i hysbysu iddo ddodi c!o ar ei warehouse yn Tanygrisiau. ond fel y cyfryw wedi ei dori a 1 oi yr hoilleyn agored. Yr oedd niwed mawr yn cael ei achosi fel hyn i'w eiddo yn barhaus, -Siaradadd amryw o'r Cyngorwyr yn nghylch y difrod mawr a wneir trwy yr ardal ar adeiladau a thai gweigion, a phasiwyd i alw sylw yr Heddlu at y psth, a'u bod i erlyn pwy bynag a ddelir gan nad pwy fyddo. Trwydded i'r Neuadd. Yr oeddMrG. R. Davies, Bethania, wedi anfon cais am gael gwasanaeth y Neuadd at ddacgos darluniau, ond gan nad oedd yr Arolygydd Sirol wedi gwneyd ei adroddiad ar yr adeilad, pssiwyd i anfon ato i ofyn iddo wneyd hyny yn ddioed. Y Cyfrifon, I Darllenwyd adroddiad yr Archwiliwr Swydd" ogol. Galwodd sylw fod dros fil a haner o bunau o'r irethi allan heb eu casglu ar ddiwedd y flwyddyn, Ofnai os digwyddai hyny etc y byddai yn rhaid iddo surchargio y casglyddion a'r rhai a arwyddent y cheques pan fyddai diffyg yn yr Ariandy. Yr oedd y cyfrifon yn cae! eu cadw mewn modd boddhaol, a phob ymdrech yn cael ei wneyd i gadw pobpeth mewn cyfl wr priodol, Adroddiad Blynyddol y Swyddog I Meddygol. Dr. Richard Jones, Swyddog Meddygol y Cyngor, a aeth yn famvl trwy ei Adroddiad Blynyddol" am iechyd y Dosbarth (gweler grynhodeb o'r adroddiqfi [mewn colofn aralij. Ffaith i'w chcfio ydoedd nad cedd ond un o bob-mil o'r gweithwyr yn cyfarfod a damwain angeuoi wrth ddilyn eu galwedigaeth, 'Ar gynygiad Mr. Hugh Jones a chefnogiad NIl" R. C. Jones, codwyd y thai canlyno! yn Is Bwyllgor i. ystyried mater Cartliffosiaeth Adran 4 Evan Jones, David Jones, R. C. jores, Hugh Jones, W. J, Rowlands, John Jones a John Cadwaladr. Mr. T. J. Roberts a alwodd sylw at Lyn-y- Msfc-wynion, Yr oedd y dwfr oddiyno yn anmhur ac sfiach, a dylid cael yr offerynau diweddaraf at buro y dwr. Aibedid canoedd o bunau trwy atal y mawn i fyned i'r pilelli.- Mr Hugh Jones a ofynodd a oedd Mr Roberts yn gywir a yjyw y dwfr yn afiach fel y mae ? Y mae yn bwysig cael gwybadasth glir ar hyny gan y Swyddog Meddygol.—Dr Jones a ddywedodd fod dwfr Llyn y Morwynion yr iachaf yn bosibi, Nid yw mawn yn niweidiol i iechyd Yr oil oedd y lJiw, Un o'r dyfroedd goreu yn y byd oedd hwn. Gallai broil hyny heb fyned o'r lie. Cyn cel y cyflenwad o'r dwfr hwn yr oedd o 12 i 13 bob blwyddyn yn marw o'r coluddghvyf, yr hyn a olygi fad 0 gant a haner i ddau gant bob blwyddyn yn cael y clefyd difrifol hwnw. Ond wedi cael y cyflenwad ysgubwyd y clefyd yn llwyr o'r lie, ac ni chafodd neb ef ar ol hyny yn y dref. Dygwyd ef yma unwaith neu ddwy o leoedd eraill, eithr ni thorodd allan yn ein mysg ni yma o gwbl. —Mr. Evan Jones a gynygiodd, a Mr. Robert Jones a gefnogodd i'r hoi! Gyngor gyfarfod yn ymy! y Llyn, a bod puro y dwfr i gael ei ystyried ar y Ile.-hlir. Richard Jones a gefnogai i gael darpariaeth at buro dwfr y Llyn. Bydd gweddill o ganoedd o bunau oddiwrth y cyflenwad dwfr gan fed y gwaith bron wedi cael ei Iwyr glirio. Dylid cael puro y dwfr os gellid rhywfodd fel y byddo ei liw yn ogystal a'i ansawdd yn bobpeth ellid ei ddymuno.—Mr. R. C. Jones o'r un farn, ond costiai filoedd o bunau, a dylai Adran 4 o'r Gyfundr^fn Garihffcsol gael y £amori: eh ar hyn —Mr. Evan Jones a ddywedcdd mai ychydig ganoedd o bunau oedd yr amcan gyfrif am y gost i buro y dwfr. Nid cedd raid egenluso Adran 4 o'r Carthfiosydd am fod y dwir yn cael ei buro.—Pasiwyd ypenderfyniad. Mr John Jones a alwodd sylw at yr arigen am Ladd-dy Cyhceddus. Gailai ddwyn eng- reifftiau o anifeiliaid afiach yn cael eu lladd a'u gwerthu yn y dref. Cynygiai eu bod yn dar- paru Lladd dy Cyhoeddus.—Mr David Jones a gefnogodd. Yr oedd yn llawn bryd symud yn y mater hwn.—Mr John Cadwaladr a ofynodd pabam y dywed Dr Jones yn ei adroddiad fod y Lladd-dai presenol "yn weddol foddhaol," paham nad yu hollol foddhaol ? Oni ellid eu condemnio os nad yn foddhaol ?—Dr Jones, "Y mae y mwyaflif o honynt yn ol yr hen ddull, ac yn foddhaol o'r safle hono, ond yn anfodd- haol o'r safle bresenol gyda'r gwelliantau diweddaraf mewn Lladd-dai."—Mr John Jones a ddaliai y byddai Lladd-dy Cyhoeddus yn fantais i'r cyhoedd ac i'r cigyddion,-Is-gadair- ydd, Beth am y cigoedd dieithr sydd yn dod yma ? "—Dr Jones, Y mae genym allu i ata! gwerthu cigoedd drwg. Y mae y cigoedo tramor ddaw yma o dan arolygiaeth manwl y Llywodraetn."—Mr Hugh Jones (Adeiladydd), "y mae cwynion mawr am y Lladd-dai, a'r modd y gwneir gyda chlirio yr ysgerbydau. Pasiwyd i godi Lladd-dy Cyhoeddus, a bod engreifftiau o gig a llaeth i'w cymeryd yn amlach, a bod gwysio diluedd yn cymeryd lie yn mhob achos, Yna codwyd pwyllgor o naw i ystyried y mater, set William Edwards, W. J. Rowlands, D. J. Roberts, R. C. Jone?, D. J. Wiiliams, E. T. Pritchard, D. Davies, Evan Jones, a Hugh Jones (Adeiladydd). Galwodd Mr Hugh Jones (Adeiladydd) sylw at yLlan fel lie rhagorol rhag y Darfodedigaeth, a dywedodd Dr Jones fod safle ddaearyddol y He yn iachusol iawn.

0 Borthmadog i BwllheH.I

Family Notices

CYMANFA GANU CASTELL HARLECH.

YR AGORIADAU A'R CANLYNIA.DAU,

'VVVVVVV V VVVVVVVVVVV WVVVVYVV…

TANYGRISIAU.

[No title]