Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

IAT Eiri GOHEBWYR. I

INODIADAU WYTHNOSOL _--I

GABLU GANGHELL0R Y TRYSORLYS.

BANK CYNIIO Y ILYtHYRDY.

CYTUNDEB DOOETH.

CWERYL RHWNG CYFEILLION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWERYL RHWNG CYFEILLION. Oherwydd i Mr Winston Churchill siarad yn erbyn Mesur pleidlais i Ferch- ed, barnodd Arglwydd Lytton yn briodol wneyd ymosodiad ffyrnig arno, a'i gy- huddo o ymddygiad tra anbeilwng. Haerodd fod Mr Churchill wedi cymer- adwyo'r mesur amryw fisoedd yn ol ac yn cael ei gyfrif yn un o'i bleidwyr sic- raf, a'i fod pan gynygiwyd ail-ddarllen y mesur wedi troi fel cwpan mewn dwr, a'i felldithio yn lie ei fendithio." Pan ddarllenoddd yr Ysgrifenydd Cartrefol yr araeth, ysgrifenodd at Arglwydd Lytton lythyr yn yr hwn y gwnaeth ya egl^r nad oedd erioed wedi cymeradwy- o'r mesur, a bod Arglwydd Lytton yn gwybod hyny, neu, onid oedd—y d^asai fod yn gwybod. Anfonodd Arglwydd Lytton ryw fath o atebiad gwan a. ,hyffredinol ia-wn iddo, ond y gwir syml ydyw nad oedd gaiaddo ddim i'w ddywedyd yn erbyn adroddiad Mawn a. manwl Mr Churchill o'r drafodaeth a gymerasai Ie. Dydd Sadwrn, mewn cyfarfod a anerchwyd ganddo yn Llun- dain, cyfeiriodd Arglwydd Lytton at yr achos. Dywedodd ei fod yn gwneyd hyny gyda gofid, gan fod Mr Churchill ac yntau yn gyfeirlion personol er's llawer o fiynyddoedd, ac mai dan nawdd y boneddwr hwnw dechreuodd ef ei fywyd cyhoeddus. Eb efe, Erbyn hyn, mae'r mater drosodd, ond nid heb aberth mawr nas gallaf ddywedyd dim mwy am dano." Yr unig gasgliad rhes- ymol i'w dynu oddiwrth yr ymadrodd ydyw fod y cyfeillgarwch rhwng y ddau i'w gyfrif yn mhlith y pethau fu, ac y bydd rhywbeth tebyg i elyniaeth ber- sonol rhyngddynt o hyn allan. Drwg genym am hyny. Ni ddylii gwahan- iaeth barn rhwng person au effeithio dim ar eUiteimladau at eu gilydd. Credwn, fodd bynag, fod gan Mr Winston Chur- chill achos i gwyno yn erbyn Arglwydd Lytton oblegid iddo heb resymau digon- ol frysio i'w gyhuddo o anghysondeb cywiiyddus a thwyllodrus. Dylasai Arglwydd Lytton wneyd yn sicr o'i ffeithiau" yn mlaenaf peth. Mae hyny yn beth ag y mae llawer heblaw ef yn. rhy barod i'w esgeuluso.

iARCHMAD LLAFUR. I