Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

r CYNGHOR CINESia FFESTINIOG,…

,-IFFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I FFESTINIOG. CVMDEITHAS DDIRWESTOL MERCHED Y MANOD.— Dydd Iau diweddaf, o dan wenau hrulivenawst, ymwelcdd chwiorydd y Gym- deithas uchod a Hen gspei, i gynal gwledd a chyfarfod chwaethus. Tebygoi eu bod wedi dewis y fan hon am fwy nag ua rheswm. Yma y disgwylient awelon balrnaidd oddiar y dyilryn islaw heb eu niweidio gari greigiau oerion blinion y Biaenau, Y mae i'r fan hon hanes- iaeth ddyddorol boreuddydd Ffestiniog, yn enwedig yn yr ystyr grefyddol. Dyma brif os n'td unig gyrchfan yr ardal y pryd hyny, ardal erbyn hyn sydd yn meddu o leiaf 22ain o gapelau Ymneillduol. Y mae Hen-gapel byth er hyny yn gartref gwehelyth athrylitb, ac nid y lleiaf o honynt yw y trigianydd presenol, yr athrylithgar Mrs Anne Thomas, yr hon sydd yn mynych swyno cvmdeithzsau dirwestol yn rghyda chymdeitbasau eraill ag areithiau galluog, ac yn meddu cydymdeimlad a'r gym-' deithas hon o'i chwiorydd. Yr oedd gwladd ragorol wedi ei phatotoi gan Mr Robert Evans, Brynmeiricn, a charedigrwydd Mrs Thomas, pryd y credwn i tua 130 or chwiorydd ei mwynhau. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan foneddigesau o'r Gymdeithas. Wedi hyny cynhaliwyd cyfarfod In yr awyr agored, dan lywyddiaeth Mrs Rhydwen Parry, Bethania. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan y chwiorydd a ganlyn :—Can gsn Miss Maggie Jones, Cad- fan; adroddiad gsn Miss J. Ellen Roberts; can gan Miss Kate A. Jones, Isfryn adroddiad gan Miss Alice Evans. Cynygiwyd diolch- garwch y Gymdeithas i Mr Evans am y wledd, a Mrs Thomas am y caredigrwydd a'r derbyn- iad croesawus a gawsant, gan Mrs Parry, y llywyddes, ,ac eiliwyd gan Mrs Hughes, Wedi i ddau o'r arlunwyr wneyd eu gwaith, ymwa- hanwyd,

"Anerch Taldir i'r Cymry yn…

IVIarwolaeth EVItss Florence…

I ----- NODION - O'R- LLAN…

j Cyfarfod Csnhadol yn y Penrhyn