Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
IQORSEDD AC ARWEST LLYJU YI…
I QORSEDD AC ARWEST LLYJU Y MORWYNION. Edrychid yn mlaen gyda dyddordeb mawr am yr Orsedd a'r Arwest bon ddydd Sadv/rn diweddaf. Meddylid am ei chynal heb fod yn nepel oddiwrth Lyn y Morwynion, ond troes y tywydd mor aaffafiiol fel y penderfynwyd cynal yr Orsedd a'r Arwest yn Ffestiniog, y naill ar Fryn-y-maes a'r Hall yn y Neuadd Drefo!. Trodd yr wyll all an yn llwyddianus, a hyny ar waetha'r bwganod £ eTsid godi yn y Cyngor Dinesig yn y ihavdybiae-h y buasid yn cynal y eyfartodydd ar y "catchment area," chwedl hwythau, ac felly yn llygru dwfr y Llyn. Rhag ofn i hyny ddigwydd yr oedd y Cyngor wedi trefnu i gyfarfod wrth y Liyn. Nis gwn a weilsant hwy wartheg a gwyddau yn llygru y Liyn ddydd Sadwrn, fel y gwelais i ar lawer achlysur; ond hyn sydd sicr, ni phoen- wyd hwy a chynulliadau y Beirdd y tro hwn. Fodd bynag, waeth i mi ei ddywedyd yn awr nag etc. yr oedd ymwared parod i'r Arwesiwyr gyda golwg ar dir i gynal eu Huchehvyl er pob cwmwl gyfodasai. Buasid yn disgwyl i Gyn- gor Dinesig, a gwyr cyhoeddus y Blaenau a'r Llan (yn arbenig) estyn croesawiad cynes i bob ymgais wnair i godi chwaeth ein pobl ieuainc a thynn dyeithriaid i'n plith, Cawsom eithr iadsu teiiwng, a charaswn eu henwi oni has fy mod yn gwybod nad er mwyn crcnicliad felly y cefnogent ni yn ein bymdrech i sefydlu Gwyl Farddonol yn yr ardal. Bu eu cefnogaeth yn galondid mawr i'r pwyllgor, a bell-Ach y mae Gorsedd ac Arwest Llyn y Morwynion wedi ei sefydlu ar sail dda, gydag argoel o hirhoedledd a deinyddioldeb. Daw y cyfeillion eraill j'n cefnogi fel y deuant i ddeail amcan y mudiad yn fwy clir. Y Swyddogion eleni oeddyntLlywydd, Mr. Owen Jones (Pantyrhedydd), Dolawel (yr hwn a gyflwynodd rodd anrhydeddus i'r drysorfa) Is Iywydd, Mr. R. 0 Jones (Trebor Eifion), Brynofferen Trysorydd Mr. H. Ariander Hughes, Ariandy'r Metropolitan Cadeirydd y Pwyllgor Gweithiol, Mr Humphrey Jones (Bryfdir); Is-gadeirydd, Mr. Morgan E. Phillips, B.se.; a'r Ysgrifenydd diwyd ydoedd Mr. D. J. Roberts (Dewi Mai o Feirion). Da genyf allu dywedyd i'r Wyl brofi yn llwyddiant tirwyadl, er y tywydd anffafriol gafwyd i'n Uuddias i'r mynydd. YR ORSEDD. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar Bryn-y Maes gerllaw yr Eglwys St. Michael a'r Gladdfa Gyhoeddus. Bryfdir a weithredai fel bardd yr Orsedd, a chynorthwywyd ef gan amryw. Efe ddarllenodd y Rhaglef (Proclamation), ac a offrymodd Weddi'r Orsedd. Dilynwyd hyny Ryda chainrc ar y Delyn Deir-res gan Delyncres Tegid ac loan Dwyryd yn canu penillion yn swynol iawn i chanlyn. Caiwyd anerchiadau barddonol gan Isallt, Dewi Mai o Feirion, loan Dwyryd, Morlwyd, Bryfdir, Perthog, Benarydd, Cynfalon. Yna siaradodd Caerwyson ar Orsedd y Beirdd gan gyfeirio at ei henMiaeth diamheuol, ei hawdurdod cyfreithio!, a'i dylanwad ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Diweddodd y sylwadau gyda cbyfres o englynion ar yr Orsedd. Cy fiwynwvd y rhai canlynol am Urddau Anrhydeddus gan Caerwyscn a Meirion Wyn, a rhwymwyd y riban am eu braich gan Fardd yr Orsedd, Mrs Bryfdir Jones, a Miss Alice Jones, Dolawel, yn gofalu am y rubanau -C,adwal.Adr Roberts, U. H., Arweinydd enwcg Cor y Moelwyn, i w adnabod fel PeD cerdd Moelwyn"; Miss A. E. Owea-T avies A. R. C. M., y gyfeilyddes fedrus, fel "Peraones Moelwyn"; Morgan E. Phillips, B.Sc., fel Morgan Athro Mrs Roberts, Llangynidr, Deheudir Cymru, fel Megan Arfon David Davies, Wynne Road, Dewi Elen Miss A. E. Lloyd, Bala, Telynores Tegid"; John E. Jones, Maentwrog, "Iorwerth Twrog"; W. Wynne Williams, Wyn Meirion" O. R Hughes, M A., Ysgol y Sir, Llanrwst, Owain Teigl" Morris Evans, Ffestiniog, Meirig Mai" Ellis H. Evans, Ysgwrn, Trawsfynydd, Heddwyn"; Dr W. Vaughan Roberts, Blaenau, "Vôn Feddyg"; Mrs M. E. Jones, Preswylfa, Blaenau, Mair Gwynedd Miss Alice Jones, Dolawel, merch y Ll/wydd, Alis o'r Ddol." Wedi cyhoeddi Gorsedd. yn mhen un dydd a blwyddyn, terfynwyd y gweithrediadau. YR ARWEST. Yn ddiIynol i'r Orsedd awd i'r Neuadd i tSynal yr Arwest, a chafwyd cyfarfod bywiog a llwyddianus. Cadeiriwyd gan Pantyrhedydd, ac arweiniwyd gan Bryfdir. Y Cadeirydd a ddywedodd iddynt yn anfodus gael tywydd rhy wlyb i fyned i'r fan y bwriedid i gynal y cyfar- fodydd, y rhai er yr holl anlanteision oeddynt wedi troi allan yn llwyddiant mawr. Yr oedd yn falch pan glywpdd am y syniad o gael Ar- west yn yr ardal, a chynsyniodd yn rhwydd i toddi ei gefnogaeth iddi. Eu tuedd yn yr ardal oedd gadael eu hunain ar ol, a myned i gyn- orthwyo pobl eraill. Pan fyddai Ffestiniog yn cytneryd rhywbsth mewn Haw fe oleJid am ei wneyd yn deilwng. Felly y bu gyda'r Eis- teddfod Gsnedlaethol ddeuddeg mlynedd yn ol, a cbyda'r Eisteddfod Dalaethol cyn hyny. Troes y naill a'r Hall allan yn llwyddiant per- ffaith, Bu son am wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol j'ma y flwyddyn nesaf, oad nid oedd ef yn teimlo eu bod i'w cyfiawnhau gyda hyny gyn fod amgylchiadau yr ardal y fath ag ydynt yn bresenol. Gellid symud vn mlaen i gael Eisteddfod Dalaethol, a byddai yn sicr o brofi yn llwvddiant. C&fwyd Eisteddfod Gen- edlaethol o'r fath ragoraf pin yma: Eisteddfod wir Gymreig. Yr oedd hanes i'r cylch y gol- ygid cynal eu Gorsedd a'u Harwest eleci, toegis Liyn y Morwynion, Beddau Gwyr Ar- dudwy, &c. Am ben Maes y Llan lie cynhal- iwyd yr Orsedd, yr oedd golygfeydd rhamantus i'w cael o'r lie. Pwy o honynt oedd yn myned allaa am dro i weled y lleoedd hanesyddol oedd o'u hamgylch, ac yn chwilio i'r hyn ddy- wedid yn eu cylch ? Hyderai y byddai eu liuchel-wyl yn symbyliad i'r bobl ieuaingc i droi allan i'r cyfeiriad a awgrymai (cymerad- wyaetb). I Adrodd i rai dan 16 oed, "Y Gwladwr a'r Teym" (Bryfdir), I, Nesta Jones, geneth yr Arweinydd; 2, William Roberts, Lord Street, Blaenau. Canu Perillion o waith Bryfdir gyda'r Tanau gan loan Dwyryd, a gorfu iddo ail ganu. Y Delyneg, "Traddodiad." Canmolid tri o'r cystadleuwyr yn fawr, a àyfamodd Silyn a Bryfdir y wobr gyda chanmo!ia.elh nchel i Mr. W. Wyn Williams (Wyn Meirion), Blaenau. Wele'r defyneg fuddugol TRADDODIAD. Prif riain yr oesoedd yw hi, Cyfrinach pob oes yn ei bron. A phabeli breuddwydion canrifosad pell Ywei!!ygadhAwddgar,noa.. Ymdonni am dani wna'r pali llwyd, 1!aes, Pan ddawnsia ar fynydd, a dyffryn a maes. Prif dduivies mynyddoedcl yw hi, 0 gwmwd i gwmwd yr a, Ac Eco y Creigiau yw'r alaw a gan Yn nhawclwch noson o ha'. Mae'r niwl yn llywethau dros ysgwydd hon, A'r nentydd a adwaen ei goslsf lion. Arglwyddes y Llyn ydyw hi, Ac yno mae'r neuadd ddi-siwr, Ac un o gwpanau y gwleddoedd drud Yw y geinwych lili'r dwr, 'Rol glad.dest, rhedianna o amgy!ch y fan, Hyhi a'r Morynicn yn ngoleu'r lloer gann. Brenhines y blodau yw hi, Cyfrinach pob blodyn a wyr, A pher yw ei hanadl ym rnringau'r coed 0 dan hud a iledrith hwyr, Blodeuv.e id ac 01 wen—-cariadau'r beirdd— Hwynthwy *if u'n ei gerddi.rif.medd heirdd. Anwylf.s y Castell yw hi A'i threm dros y tonnau ymhell. Cyfarwydd a chyfranc a chawgiau aur Marchogion y dyddiau gweil. Hoff adar Rhiannon a gan iddi hi, Clyw ad sain telynau o gartref y ili. Prif cam yr ossoedd yw hi, A dieD yw arlliw ei grudd. 0 Ynys A vail on ieuenctid byd Hi a welodd Doriad Dydd. A mini u yng nghwrwgl fy mreuddwyd af Dros donnau'r canrifoedd i'r Ynys braf. Prif Unawd, "Tra bo dau," Miss jannett Morgan, Blaenau, CâQ, Bryniau Meirion," Morlwyd. Prif Draethawd, "LJoedd o nod yo cghylch yr Arwest." Canmolodd Caerwyson y ddau gyfansoddiad dderbyniodd, a dyfarnodd Mr. John Lloyd Jones, Llyfrgeilydd, Blaenau, yn oreu. Cafwyd cystadleuaeth ragorol iawn ar y Ddeuawd Wladgarol, 1, W. O. Jones a H. J. Hughes o Ffestiniog 2. Miss Catherine Thomas a Griffith Jones, Ffestiniog, Anerchiad gan Eifyn. Adrqddodd yPrii- fardd Gywyddyr Arwest a dau Englyn godidog. Liawen oedd genym ei weled gyda ni mor selog. Cystadleuaeth Canu Penillion, Mr J. E. Jones (Iorwerth Twrog), Maentwrog. Prif Adroddiad, "Llyn y Morwynion" (Glasynys). Adroddiadau campus, a dyfarn- wyd Miss Maggie Williams, Ty Nant y Beddau, yn oreu. Datganodd loan Dwyryd benillion o waith Dewi Mai o Feirion gyda'r Tanau. Yna cafwyd beirniadaeth E!fyn ar y Cyw- yddau, Croeso i'r Arwest," a'r Englynion, "Telynor." Ferthog. Penmachno, enillodd ar y Cywydd a Tom Lloyd, Manchester House, Penrhyndeudraeth, gyda'r Englyn. Diolchwyd yn gynes iawn i'r rhai a roddasant gefnogaeth arbenig i'r Wyl, ar gynygiad Caer- wyson a chefnogiad Dewi Elen. Cystadleuaeth Gorawl, datganu tair Alaw Gymreig o Ceinion y Canovion (Dr J. Lloyd Williams), Cor Pantllwyd o dan arweiniad Mr William Ephraim, Pantllwyd. Terfynwyd trwy garJU "Hen wI ad iy nhadau" o dan ar- weiniad Pencerdd Moelwyn. Gwasanaethwyd fel Bcirniaid gan Mr J. J. Thomas, Talsarnau; Eifyn, Bryfdir, Caer- wvson. Silvn, ac Ion Dwyrvd —T.P E
- -I .MAENAN.I
MAENAN. Erbyn hyn y mae yr belynt fu rhwcg Mr Edwin Jones a'r Cyngor Dpsbarth yn nghylch ei waith yn tros cwrs naturiol y dwfr yn ei gae i ffordd y Cyngor wedi nehid cryn lawer. Bu Swyddog y Cyngor yn cau y He a dorodd Mr Jones fel ag i atal y dwfr i dood i'r ffordd, ac o'r ffordd i niweidio cae y Cyngorydd D. G. Jones. Bu Dirprwyaeth o'r Cyngo- yn ngolwg y lie amryw weitbiau, a phasiwyd penderfyn- iadau lawer ar y mater ol a blaen. Mewn Cyngor ddiwedd Gorphenaf pasiwyd i osod pibell i gario y dwfr ar draws cae Rhiwdafna. Erbyn y Cyngor gynhaliwyd Awst 9, yr oedd yr Arolygydd wedi gwneyd amcangyfrif o'r draul o gymeryd y dwfr ar draws cae Rhiw- dafna, a'i wneyd yn ?9 12s 9c. Yn yr un Cyngor yr oedd llythyr o Gyngor Plwyf Maen-I an yn gwrthdystio yn erbyn i arian y tretbdal- wyr gael eu gwario i wneyd ffos trwy dir anghycedd a Hythyroddiwrth Mr Moses Wil- liams, Felin, Maecau, yn galw sylw at fod ewrs naturiol y dwfr wedi ei newid, yr hyn oedd yn golled fawr iddo ef, a byddai yn rhaid iddo hawlio iawn. Wedi clywed y Jlythyrau, fe basiwyd yn unfrydol i'r Cyngor beidio ymyraeth yn yr achos a gwbl. Pa gam- rau pellach gymerir nis gwyddorc, ond edrych braidd yn ddu y mae psthau yn awr. \AAAAAAAAAAAAAAAAAA
Advertising
I PEN CYFRIFON NESAF OAKELEY—(Tal), Awst 27. LLECHWEDD—(Sub), Awst 27. MAENOF?EREN— (Tal), Awst 27. VOTTY & BOWYDD-Medi 3ydd. GPAIGDDu-Medi 10. RHIWBAcH-Medi 3. BWLCH SLATERS—Awst 27. I RHOSYDD—Awst 27. NEW WELSH SLATE—Medi 10. DIPHWYS—Awst 27. WRYSGAN-Awst 27.
I CYNGOR DOSBARTH GIRIONVDD.
I CYNGOR DOSBARTH GIRIONVDD. Cynhaliwyd cyfarfod iheolaidd y Cyngor ddydd Mawrth, yn Swyddfa'r Undeb, Llan- rwst, pryd yr oedd yn bresenol Mri Hugh Hughes (Cadeirydd) Parch Henry Jones (Is-gadeirydd) D. G. Jones, Parch J, Ll. Richards, Matthew Roberts, E. Llewelyn Jones, Thomas Hughes (Clerc) ac H. P. Evans (Arolygydd). Cais o DolwyddeIen. Darllenwyd Hythyr o Gyngor Plwyf Dol- wyddelen i hysbysu fod y ffordd newydd o Aberbeinw i Tanybenar wedi cael ei gosod mewn cyflwr priodol, sc yn gofyn am i'r Cyngor Dosbarth snfon yr Arolygydd i'w har- chwilio i'r dyben i'w chymeryd drosodd o dan ei gofal fel awdurdod.—Mr Richards a ddy- wedodd i'r ffordd fad o dan sylw amryw weith- iau yn flaenorol, a dywedir cad ellid gwneyd dim a hi hyd oni osodid hi mewn cyflwr cyf- addas i'w chymeryd drosodd. Yr oedd y tfordd wedi ei gwneyd yn briodol yn awr, a'r oil ofynid oedd i'r Arolygydd ddod i'w gohvg a rhoddi ei farn arm, Yr oedd ef yn cynyg caniatau y cats.—Yr Arolygydd a ddywedodd mai tua dau gant o Satheni oedd hyd y ffordd hon arwsiniai at dai Tanybenar. Yr oedd hen ffordd yn arwain i'r un lie! ond ei bod yn cwm- pasu mwy.-Y Cadeirydd a ofynodd a cedd y ffordd hon yn rhywbsth heblaw fel ffordd yn arwain o ffordd arall at amaethdy ac atebodd yr Arolygydd mai ffordd folly ydoedd.—Mr E. Ll. Jones a gefnogodd i'r Arolygydd fyned i'w golwg, ac adrodd arni.—Pasiwyd hyny. Ffordd Ty'nybertli. Hysbjsodd y Clerc fod y Mri Green wedi snfon yr £ 20 ofynid ganddynt am y diaul ychwanegolia ar y ffordd uchod trwy iddynt gario liwythi mawrion o goed ar hyd ddi Pont Waterloo. CycMbyddodd y Clerc Siroi dderbyniad penderfyniad y Cycgor yn nghylch cryfbau y boat uchod, fel ag yw gwneyd yn ddigon cref i ddal llwytlii trymion, y rhai y gwaherddir iddynt ei chroesi ya bresenol. Cais am Ddwfr yn Trefriw. Mr. raomes Price, Lerpwl, a wnaeth gais am gael cyflenwi dau dy oedd am adeilada yn Tretriw gyda dwfr i'w hadeiladu, at eu gwasaaaeth ar ol hyny.-Yr Arolygydd a ddywadodd ei fod yn amcangyfrif y gost o osod y brif bibsll at y He hwn yn haner can' purt ond galiai Mr. Price gael cyflenwad o bibeil oedd eisoes o fewn y pellder gofynol at ei dai, ond pibali dri chwarter modfedd oedd hono, a phrin y byddai yn ddigon i roddi cyflenwad boddhaol i'r holl dai ar y lle.-Mr. Richards a alwodd sylw at y ffaith nad oedd y tai wedi eu hadeiladu eto, ac y byddai yn ddigon buan son am estyn y pibelli dwfr yno pan fyddai y tai wedi eu codi, Eisiau dwfr at adeiladu sydd yn awr, ac nid y ni sydd i ofslu. am beth at bwrpas felly.—Vmddangosodd Mr. price o flaen y Cyngor a dadleuai nad oedd yn iawn ei feichio ef gyda chostau gosod y pibelli dwfr fyddent at wssanaeth pobl eraill ddeuent ac ei ol. Nid oedd ef yn foddlawn i dalu dim o'r draul hon, Anturio yr oedd ef wrth godi y ddau dy, ac addefai y byddai y tir adeilrdu oedd ganddo yn fwy o werth wedi cael y brif bibeil ddwfr i'r Ile.-Arol .I,gydd a sylwodd y byddai eisiau estyn y brif bibell am 268 lIath, and y gallai ttlr. Price gael dwfr o'r bibeil sydd o fewn cyraedd yn awr trwy y gost o £ 4 16s Oc y ty.- Clerc, Fe dalodd Mr. Price £ 30 o'r draul i gael dwfr at dai eraill godwyd ganddo, a thalodd pobl Coed Gwydyr haner y draul am gyflenwad yno "—Wedi cryn drafodaeth yn mhellach pasiwyd i gydsynio a'r cais.—Y Cadeirydd, Y mae y Clerc yn dywedyd nad ces dim arian wedi eu darparu at y gwaith hwn. Nis gellir ein gorfodi i roddi dwfr hyd nes bydd y tai wedi eu codi ac wedi eu trethu." lechydol. I Anxonoadd Dr Iravis adroddiad maith am y Cyd-bwyllgor Iechydol gynhaliwyd, a pbasiwyd i cedi ei ystyried hyd y cyfarfod nesaf.— Cofrestrwyd 7 genedigaeth yn y Dosbarth yn ystod mis Gorphenaf, a 3 marwolaeth. Galwodd Bwrdd y Llywodraeth Leol sylw at yr Anti-tocine gyflenwid at y Gwddfglwf, a rhoddid cyfarwyddiadau sut i wneyd dsfnydd o hono. Deddf Gwelliantau Cyhoeddus. Yr Arolygydd a roddodd adroddiad manwl o'r hyn a wnaed yn nglyn a'r Gweliiantau Cyboeddus yn y Pwyllgor Siroi a'r CyDgor Sirol. Yr oedd y gwahanol Gyngorau Dinesig a Chyngorau Dosbarth trwy y Sir wedi anfon rbestr o'r gweliiantau dymunol eu gwneyd o dan ddarpariaethau y Ddeddf uchod er mwyn manteisio ar yr-rhoddion sydd i'w cael o dani at bet'aau fellv. Deuai y cyfanswm o'r treuliau yn £ 25,000, ac wrth gwrs fe dynwyd llu o'r pethau a ofynid allan, oDd yr oedd yn dda ganddo eu hysbysu i'r cais am gael lledu Ffordd Cwm, Penmachno, basic trwy'r Pwyllgor a'r Cyngor. Yr oedd eisiau plan o'r lie ac amcangyfrif o'r gost o wneyd y gwaith. —Cyfarwyddwyd yr Arolygydd i wnejd yr hyn oedd yn ofynol yn y matey hwn. Bill y Cyfreithiwr. Darllcnwyd llythyr dyddiedig Awst 8 oddi- wrth Mr W. Twigge Ellis, yn nglvn a chael bil o gostau, &c., Mr A. Lloyd Griffith, Cyfreith- iwr y Cyngor yn y cyngaws ddygwyd yn erbyn Mri Green, Masnachwyr Coed, yn nghylcb Ffordd Dylasau, Penmacbno. Yr oedd yr Uchel-Lys wedi gorchymyn i'r bil gael ei roddi, ond oherwydd na ufyddhawyd bu i'r Llys gymeryd mesur cryf i orfodi Mr Griffith i'w roddi, ac fe wnaeth yntau hyny. Yr oedd y swm yn £200 2s 6jc, ac wedi tycu allan vr arian dderbyniodd at y costau, yr oedd £ 71 2s 2c yn aros yn ddyledus ar y Cyngor iddo ef. Darllenwyd llythyr arall oddiwrth Mr Twigge Ellis, dyddiedig Awst 23, yn hysbysu fod y Taxing Master yn ystyried y mater mor bwysig fel yr oedd am dretbu y bil y diwrnod bwnw, yn hytrach nag aros fel y buasai mewn achos cyffredin hyd Hydref 13. Hysbysid y Cyngor o'r canlyniad mor fuan ag y ceid y bil yn ol wedi ei drethu, I Y Clefyd yn Dolwyddeleir. Yr Arolygydd a lawenhai ailu hysbysu fod y Coluddglwyf wedi ei lwyr wella o dy y ddiweddar Mrs Humphreys, Tanybenar, Dolwyddelen. Anfonodd y pum' gwely i Llandudno i'w diheintio, a chostiodd hyny £ 2 8s, yr byn oedd yn arbediad mawr rhagor pa llosgasid y gwelyan, Bussai y draul o'r liosgi yn ddeg i bymtheg punt.—Y Clerc a ddywedodd fod am wasanaeth y ddwy Weinyddes yn /II 15s, at y symiau dalwyd yn flaenorol.
IBWRDD QWARCHEIDWAID. PENRIFIYNDEUDRAETki.
I BWRDD QWARCHEIDWAID PENRIFIYNDEUDRAETki. Cynhaliwyd yr uchod ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Owen Jones (Cadeirydd), Mrs. Casson, Parchn. Collwyn Morgan, Thomas Griffith, John Hughes, Mri. Richard Roberts, G. Parry Jones, John Roberts (Talsarnau), Edward Llewelyn, J. Davies Jones, David Hughes, E' R. Owen, R. R. Jones, E. J. Hughes, D. Fowden Jones, Owen Evans, William Williams (Trawsfynydd), Morgan Roberts, John Williams, Richard Williams, Robert Richards, Cadbea Morgan Jones, John Pritchard, Thomas Roberts (Clerc;, David Jones (Clerc cynorthwyol), D. J. Jones (Meistr), a'r tri Swyddog Elusenol. Gofynai y Cadeirydd am i'r Bwrddgadarchau ei waith yn rhoddi caniatad i'r Clerc fyned ar ei wyliau arferc-1. Cadarnhawyd hyny. Hysbys-ti y Meistr fod YsgolSul Gorphwysfa wedi myned a phlant y tloty gyda hwy am bleserdaith i Aberystwyth Hysbysai fod y plant yn mynychu yr Ysgol Sul yn Gorphwysfa yn sefyll yn anrbydeddus yn Ayholiadau y Safonau. Ar gynygiad y Parch, Thomas Griffith a chefnogiad Mr. Richard Williams, pasiwyd i ddio!ch i Ysgol Sul Gorphwysfa am eu caredigrwydd i'r plant, Yr oedd 76 o ddeiliaid yn y Ty o'u cydmaru a 81 yr amser cyferbyniol y llynedd. I Trwy ba awdurdod. Hysbysai y Meistr fod un John Hughes, 72 mlwydd oed wedi ei dderbyn i'r Ty trwy bapur o'r ciddo Dr R. Jones. Ffestiniog. Dywedai y Cadeirydd y dylai Dr R. Jones ddeall nad cedd ganddo awdtrdod i anfon rhai i'r Ty, Yr oedd hwn wedi bed yn y tloty yn Merthyr am dair wythnos yn flaenorol ac heb gartvsf sefydlog Eglurodd Mr William Thomas mai rhoddi pipur i'r dyn i ddod iddo ef a wnaeth Dr Jones yn dweyd y dylai gael mynedÜd i'r Ty. Dywedai Dr J. R. Jones fod y dyn yn bur wael ond yn gwelia yn awr. Y Bwrdd a Phlant Angftyfreithlon. Ymddangosai gwraig o Ddosbarth Daudraeth yn gwneyd cais am gymodh. Yr oedd yn weddw er's t?ir wytbnos, ac yn 70 m'wydd oad, ac heb ddim at ei chynal. Yn ateb i r Cadeirydd, dywedodd ei bod yn magu tri o blant anghyfreithlon i'r rnerched. Felly ychwanegai y Cadeirydd, yr ydych yn disgwyl i'r trethdalwyr eich cynorthwyo i fagu plant anghyfreithlon, Dywedai ei bod wedi rhoddi pob hyffcrddiant addas ar yr aelwyd i'r merched. Yr oeddynt yn talu ei rhent ond ms gallent dalu rhagor. Cynygiai Mr G. Psrry Jones eu bod yo rhoddi 3/6 yr wythnos iddi; yr cedd wedi bad yn ddynes ymdrechgar ac wedi gweithio yn galed ar hyd ei boes. Cynygiai Mrs Casson eu bod yn eu gwrthod. Yr oedd yn edrych yn ddigon cryf i gadw ei hunan, ac nid oedd yn iawn i'r Bwrdd roddi arian iddi. Yr oeddynt trwy hyny yn cefnogi y syniad o dalu at fagu plant anghyfreithlon, Cytunai y Cadeirydd a syniad Mrs Casson. Caed tri o blaid cynygiad Mrs Casson, ac 11 dros roddi cymorth i'r hen wraig. Helaethu'r Ardd. I Adroddai Mri R. O. Williams a Robert I Richards eu bod wedi ymweled a'r Ty, a chael pob peth yn foddhaol a threfnus fel arferol. I Yr oedd yr ardd yn cynyrchu digon o bytatws ar gyfer angen y Ty yr boll flwyddyn. Ac anogent i ychwanegu at yr ardal gan y deuai yn ehv mawr i'r Undeb. Ci mswn Gwely. Gwnai teulu o Ffestiniog gais am gymorth o'r Undeb. Dywedai y Swyddog fod ci yn rhwyrn wtth bost y gwely yn y ty, ac yn cysgu vn y gwely yn ymyl. Y Cadeirydd: Gwell iddynt werthu y ci a dod yma wedi hyny. Pasiwyd felly. Pasiwyd fed y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd i fyned i gynhadledd flynyddol y tlcdion yn Trallwn. Galwodd y Parch Thomas Griffith sylw at gyfarwyddiadau newyddion Swyddfa y Llywodraeth Leol yn nglyn a'r cymortb allanol. Dywedodd y Cadeirydd fod copiau Cymraeg i'w cael o'r cyfryw. Pasiwyd i'w pwrcasu i'r ho'l aelodau. I Arianol. Yr oedd treuliau y cymorth allanol am y pythefnos yn £ ZVd o'i gydmaru a £ 254 y tvmor cyferbyniol y llynedd. Ac yr oedd J246 yn eisiau ar gyfer y pythefnos nesaf. Yr Oidd _f 1,587 yn ff ifr yr Undeb yn yr Ariasdy, a £ 1,800 yn ddyledus o'r Plwyfi. Pasiwyd i dam rban o'r gofynion i Gyngor Sir Arfon, ac i godi cyflog Dr J. R. Jones, Penrhyndeudraeth, 0 £ 25 i £ 45 yn y flwyddyn. Ao.A.
Family Notices
Genedigaethau, JONES.—Awst 21ain, priod Mr John O. Jones (Saer maen), Tygwyn, Trawsfynydd, ar ferch. ROBERTS.—Awst 22. priod Mr Evan Roberts, Prysor View, Trawsfynydd, ar ferch. ROBERTS -Av.st 22, priod Mr Evan J. Rob- erts, 4, Summerhill Terrace, Blaenau Ffestiniog, ar ferch (cyntafanedig).
I -HAELFRYDEDD !-
I HAELFRYDEDD Cododd geneth fach o Borthygest oriawr arian gyda chadwen aur a phwrs yn cynwys degpunt, a chafodd y swm aruthrol o swllt am ei dychwelyd i'w pherchenog
I TRAWSFYNYDD.-
I TRAWSFYNYDD. LLAW FEDDYGIAETH—Dydd Llun diweddaf, bu Miss Madge Roberts, merch Mr John Roberts, Tyliwyd Terrace, o dan law-feddyg- iaeth. Gweinyddwyd yr oruchwyliaeth gsn Dr. R. D. Evans, Blaenau Ffestiniog, a da genym ddeail iddi ddod drwyddi cysta!. Eidduawn iddi adferiad buan a llwyr. NEWYDD TRIST.Dydd Llun, derbyniodd Mr Edward Jones, 9, Tvllwyd Terrace, Iythyr yn mypegi y newydd pruddaidd fod ei gefnder, Mr William Thomas Joses (yr hwn heiyd oedd frawd-yn-rghyfraitli iddo) wedi huno yn yr nngeu yn hwyr nos Sadwrn diweddaf, ac efe do end 57ain mlwydd oed. Trist i ni feddwl am ei ymadawiad buan, gan nad oes ond tua chwech wythnos er pan oedd ar ymwe'iad a'a hardal. Y mae ein cydymdeimlad dyfnaf &'r teulu tvallodus, y tri brawd a chwaer yma. ac un yn Nghaernarfoa, a r plant. 5 mewn cifer, sydd wedi eu gdael yn Sunderland beb dad na mam. Yr oedd yr ymadawedig yn wr ucbe! ei Sb!trch gan bawb &'i hadwaecai, ac yn ddiacon ffycldlawn a llafarus yn eglwys Gymreig y Metbonistiaid Ca'Snaidd yn Sunderland, lie y teimlir chwithdod mawr o'i golli. Brodor o D-alsarnati. ydoedd, a xnagwyd ef fwyaf yn yr hen Dynewydd Lienyrch, Nerth a gaflo y plant i rodio yr un llwybr a'u tad, a Tnad yr amddifaid fyddo yn nodded iddynt ar ddyrys daith yr anial. Heddwch i'w lwch. Coffad- wriaeth y cyfiawn sydd fendi,P,edig. "-CYFA ILL MARWOLAETH.—Dyna y newydd trist a geir yr wythnos hon, sef marwolaeth Mrs Ellen Jones, anwyl briod Mr William Jones, Panty- celyu, yr hyn a gymerodd le boreu Sadwrn diweddaf, Dioddefodd gystudd mawr, o dro i dro, er's amryw flynyddau, ond fe ddaeth y cystudd olaf, ac ehedodd ei hysbryd ymaith mewn adeg cynar ar ei bywyd, pan nad oedd etc ond 39?in mlwydd oed. Gedyiwich mawr ac am!wg ar ei hcl yn yr aelwyd gartref. Gadawodd briod a saith o blast, yr ieuengaf o honynt ond prin cyraedd ei flwydd oed. Bu ei mhara oedranus yn gwylio yn dyner o honi, ac y mae y cydymdeimlad dyfnaf a hwynt yn eu p-ofedigaeth chwerw, yn ogystal d'i chwiorydd. Claddwyd ddydd Mercher, yn mynwent Peny- cefn. YMRYSONFA TORI GWAIR.—Erbyn hyn y mae yr ail ymrysonfa wedi ei chynal yn Gwyn- fynydd Farm, a chlywsom fod Mr Evan Jones, y tenant, wedi cael ei foddhau yn fawr ynddi, ac yr oedd trigolion y Cwm tawel hwn wedi cael cymaint o flas arni fel y daeth cymaint a 14 ymlaen y tro hwn, a phenderfynwyd gwneyd dau ddosbarth o honynt. Yn y dosbaith cyntaf enillwyd y wobr gan y rhai canlynol:- 1. Evan Jones (hynaf), Dolgain cyfartai ail, Griffith Owen a Thomas Ellis, Gwynfynydd; 3 Morris Roberts, Twrmasn. Dosbarth ail, 1, Ellis L!oyd, Penmaen 2, Evan Jones (ieu ), Dolgain; cyfarta! 3ydd, John Jones, Bedd- coedwr, a Daniel Jones, Bwlchyffordd. Y Beirniaid oeddynt Mri Edward jones, Gilfach- wen; H. Jones, Votty Bach; ac Edward J ones, Baddcoed wr. Gwasanaethwyd yn h ynod fedrus gan Mr Evan Jones, Gwynfynydd, yn Ysgrifenydd, a Mr Cadwaladr Hughes. Aber- geirw, yn Drysorydd. TERRITORIALS.—Dydd Sul diweddaf daeth rhai canoedd o Territorials o Lerpwl a Preston am ymarferiad ac i wtersyllu yma, a thra yn dod i lawr yr allt o'r Station, digwyddodd anffawd a allasai fod yn ddifrifol iawn, trwy i un o'r gynau mawr redeg y ceffylau. Niweid- iwyd rhai o'r milwyr a'r ceffylau yn ysgafn, trwy i'r meirch syrthio a sathru y naill y Hall, ac i'r milwyr gael eu taflu. Da genym i bethau ddod cystal. Dydd Gwener diweddaf cyfarfyddodd Mr Owen David, mab Mr a Mrs Owen Davies, Ty'nypistvll, a damwain gyda cheffyl, tra yn gwasanaethu yn Hencrefawr, He y mae yn was. Drwg iawn genym ddeall mai parhau yn wael y mae yr hen gyfaill diddan Mr John M. Jones, Eden View, Mawr hyderwn y caiff adferiad buan. Erbyn hyn y mae ysgolion dyddiol y pentref wedi cael eu hagor ar ol gwyliau yr haf. Cyflwynir y penillion canlynol i Mr. Edward P2rry, Werngron, a Miss Laura Ann Thomas, Pehlan, ar eu huniad priodasol Pan oedd goleu Awst ar fynydd ac aig, Aeth Parry yn wr a Laura yn wraig. "Priodi ddwg loes," clywais lu yn dweyd, Ond cbredai i ddim am i Parry wneyd. Haws cario i'r Camp a thori yr yd, Gwedi cael gwraig i loewi ei fyd. Os mordaith yw bywyd boed dawel y dwr, I Laura y wraig a Parry y gwr. Difianu mae Awst tros fynydd a cbraig,- Tra Parry a Laura yn wr ac yn wraig." Trawsfynydd. ELLIS.
Family Notices
IVlarwoIaethau, JONES —Ar yr 22ain cyfisol, wedi dioddef ohono gystudd caled, bu farw Mr. John Jcnes, Mcmod Road, yn 65 mlwydd oed. Cleddir ef dydd Iau nesaf, yn mynwent St. Michael, Ffestiniog, yncychwyn am 2 o'r glocb. Adnabyddid yr ymadawedig yn yr ardal fel John Jones (" Coch Gwan ") ac yr oedd yn fawr ei barch yn mysg ei gyfeillian lluosog. Yn ei ddydd bu yn weithiwr caled, a chymerai ddyddcrdeb mawr yn yr Arddanghosfa a gynhelir yn yr ardal bon y Llungwyn. Bu iddo weithredu er ei chychwyniad fel aelod ymroddgar ar bwyllgor y cyfryw. Yn ei gystudd, daeth i gyffyrddiad amlwg a'i Brvnwr, fel y taflodd ei hunan i'w drugaredd Ef, i'w ddwyn i ben ei daitb. Gadawodd lu o biant i alaru eu colled ar ol tad ffyddlon a cbaredig. [Dy- munir ar i'r papurau Americanaidd gofnodi yr uchod.-j H.]