Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

YMREOLAETH GYFUNOL.

/WN^VVVVVVVVVVVVVVVVVVVVVV…

I PEMRHYMDEUMAETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I PEMRHYMDEUMAETH. Prydnawn Sadwrn, yr oedd Ysgolion Sui Carmel (A.), a Nazareth (M.C ), yn cael Te Party. Yr oedd y byrddau wedi eu hulio a danteithion, a chwiorydd caredig yn gwasan- aethu. Yn Nazareth, yr oedd trefniant wedi ei wneyd i'r plant f/ned i gae oedd yn ages i chwareu, ond oherwydd y tywydd, bu raid gohirio hyd adeg eto. Mewn Ynadlys Arbenig gynhaliwyd ddydd Gwener, gerbron G. H. Eilis, Ysw. (Caoeir- ydd), a Mri R. Jones Morris a Robert Richards, y Rhingyll D. R. Davies a gyhuddai Caroline Wilson o fod yn feddw ac afreolus. Bu raid ei chloi i fyny yn y gell nos Iau, ac ymosododd yn ffyrnig ar yr heddlu wrth ei chludo yno Anfonwyd hi i garchar am bytbefnos am fod yn feddw, a mis am ymosod ar yr heddlu, chwech wythnos i gyd. Mae adeg i drefnu gogyfer ag Ysgolion Nos wedi dod. Manteisiodd nifer fawr y tymbor o'r blaen ar y cyfla hwn, a bydd yn angen- rheidiol i bawb sydd am ymuno goirestru eu henwau ncs Lun nesaf, yn Ysgoly Cyogor am 7-30 p m. Disgwylir llavver i ymuno eto, gan fod yn angecrheidiol wrth nifer neiHduol cyn y geliir ffurfio dosbarth. Cyfarfod Amrywiaetbol gafwyd yn y Demi, nos Wener, a dewis Swyddogion at y tymhor dyfodol. Yn Nghymdeithas Ymdrech Grefyddol Nazareth, nos Sabbath, yr oedd Mr T. Lloyd Pritchard yo holi oddiar yr Emynau :— O! am dreiddio i'r adnabydddiaeth O'r unig wir a'r bywiol Dduw, &c. Cafwyd holi ac ateb bywiog iawn. Boreu Gwener, bu farw Mrs Jones, priod Mr Robert Jones (Butcher), Church Street, yn 55 mlwydd oed, Cwynai er's amser maith, a chafodd ychydig wythnosau o gystudd caled. Meddai gymeriad rhagorol, ac yn ;ieloi sslog 'a gweithgar yn eglwys T&bernacl (W.) i'r hon y bydd coiled fawr ar ei hoL Daeth tyrfa fawr i'r angladd dydd Llun, a rboddwyd ei gweddillion i orphwys yn mynwent yr Eglwys. Gwasanaethwyd. gan y Parchedigion canlynol, R. Moston Roberts, Mon Hughes, E. Lloyd, Tremadoc, a John Hughes (Vicer). Derbynied ei phriod a'r teulu all ein cyavmdeimlad llwyraf. Mae Mr Tom Lloyd, Manchester House, wedi dod yn enwog fel Englynwr. Llawen genym ei. longyfarch ar ei waith yn eniil y wobr gyntaf am Englyn i'r Telynor dydd Sadwrn yn Ffestiniog..

nnArctdangosfa. Ardudwy.I

[No title]

DOLWYDDELE.W.

'W'/WV\WVWsAAAA/WVWWVVV\ I…

....- ......... - ................…

...............................................…

[No title]

LLEF O'R ALMAEN AC AWSTRIA.I…