Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

INODIADAU WYTHN05GL

IBEW MR. LLOYD GEORGE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEW MR. LLOYD GEORGE. Fel mae'n wybyddus i lawer o'n dar- llenwyr y mae pob perchen tir a phob perchen ty (rhydd ddaliadol a phryd- lesol) wedi derbyn papyr yn cynwys llawer o ofyniadau ynghylch yr eiddo sydd ganddo -gofyniada,u ag y mae yn rbaid iddo eu hateb neu fod yn agored i ddirwy heb fod dros £ 50. Mae tirfedd- ianwyr Toriaidd yn enwedig wrth eu srwaith yn condemnio Canghellor y Trysorlys am alw arnynt i ateb cwes- tiynau lawer nas gellir eu hateb heb drafferth fawr. Yn wir daliant fod ateb rhai o honynt nid yn drafferthus yn unig ond yn anmhosibl hefyd yn gymaint alu bod yn hollol anealladwy. Nid ydym yn cytuno a hwynt. Mae'n wir fod ambell un o'r cwestiynau dipyn yn an- eglur ar yr olwg gyntaf, a bod ateb rhai o honynt yn golygu cryn dralferth i rai ag y mae ganddynt dai a tiroedd lawer, ond nid hyn sydd o'r tu ol i'w cwyn yn erbyn y Canghellor a'i condemniad o bono ef a'i waith. Y gwir syml ydyw eu bod yn gwestiynau nas gall rhai per- chenogion eiddo eu hateb heb fyn'd i fagl. Nid ydynt wedi arfer dywedyd y gwir wrth lenwi papyrau treth yr incwm, ac y maent yn gweled yn awr nas gall- ant lenwi y papyrau presenol heb ddan- gos eu bod yn y gorphenol'wedi twyllo r Llywodraeth ac atal oddiwrthi yr hyn oedd ddyledus iddi. Buodi yn ym- ddiddan yn ddiweddar a pherchenog tai a thiroedd oedd wedi brysio i lenwi'r holl bapyrau a gafodd ac i'w dychwelyd i'r swyddog a enwid fely gwrpenodedig i'w derbyn. Ceidwadwr ydyw y bon- eddwr hwnw. Dywedai fod eu llenwi wedi peri peth trafferth iddo-ond nid rhyw lawer iawn—a'i fod wedi eu llenwi yn hollol ewyllysgar ac mor gywir ag y gallai. Nid oedd genyf achos i betruso gwneyd felly, meddai, oblegid yr wyf wedi arfep Uenwi papyrau treth yr in- cwm yn gywir a thalu y ffyrling eithaf o honi bob blwyddyn." Nid yw yn I ormod dywedyd fod cwynion rhai yn erbyn Canghellor y Trysorlys yn myn'd yn mhell ia.wn i brofi eu bod yn y blyn- yddoedd fu wedi gwneuthur twyll ac mai yr hyn sydd yn eu blino yn awr ydyw ofn cael eu dala. Dywedwn heb betruso dim na raid i neb sydd wedi arfer bod yn onett -ie yn frith onest- deimlo yr hwyrfrydigrwydd lleiaf i ateb pob cwestiwn sydd yn y ipapyr dan sylw. Ond y mae gan lawer achos i deimlo yn anesmwyth ac yn ofnus.

m. WINSTON GHURCHiLL.

I Y CADFRmOG BOOTH A I WAITH.

MR. EVAfi ROBERTS A'R DYFODQL