Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

NODIADAU WYTKNOSOLI

Advertising

ANESMWYTHDRA YM MYO LLAFUR,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ANESMWYTHDRA YM MYO LLAFUR, I Ni.fu er's amryw o flynyddoedd gym- aint o anesmwythdra ym myd Llafur ag sydd heddyw. fIeblaw y cweryl rhwng "gwneuthufwyr berwedyddion a'u cyflogwyr, mae gweithwyr cotwm swydd Gaerhirfryn a glowyr Deheudir Cymru yn bygwth sefyll allan. Cododd ang- hydfod rhwng ychydig wyr yn gweithio mewn glofa neillduol yng Nghwm Rhondda a'r perchenogion, a'r diwedd fu i gynifer a 12,000 o lowyr a weithiant ym mhyllau y Cwmni hwnw mewn gwahanol ardaloedd amlygu eu bwriac1 i sefyll allan. Aeth Mabon ac ardryw o'i gyd-arweinwyr yno i ymgynghori a hwy Cynghorodd hwy 'i beidio sefyll allan' dydd LInn diweddaf yn ol eu bwriad, ac i aros hyd oni roddid y matter i lais boll lowyr Deheudir Cymru Dywedodd yn mhellach y dylent roddi mis o rybudd cyn sefyll allan—fod rheolau yr Undeb yn galw am hyny. Deallwyd eu bod yn cydsynio a geiriau Mabon oblegid pleid- leisiodd mwyafrif o'r Jhai oeddynt yn bresenol dros wneyd yn ol ei gyngor. Boreu dranoeth, fodd bynag, cyfarfu gweithwyr y glofeydd sydd yn eiddo r Cwmni'neillduol a grybwyllwyd, a phen- deffynasant lynu wrth eu bwriad i sefyll allan ddydd LIun. Yr hyn a bair ofid i ni ydyw yr hwyrfrydigrwydd a ddangosir gan aelodau Undebau Llafur i wrando ar gynghorion y rhai a ddewisasant i'w harwain-gwyr sydd wedi profi eu bod yn arweinwyr cymwys. Mae gan- ddynt wybodaeth fanwl ac eang nad oes gan y cyffredin mo honi, ac y maent wedi dangos lawer gwaith fod ganddynt, gratfder a chryfder; ac y maent yn bwyllog, ac yn sylweddoli y cyfrifoldeb mawr sydd arnynt. Ni ddylid diystyru awgrymiadau a chynghorion gwyr fel y rhai hyn. Gall yr hyn a wnaeth y 12000 yng Nhwm Rhondda arwain i ryfel an- dwyol rhwng perchenogion glofeydd Deheudir Cymru a'u gweithwyr, oblegid y mae yn bosibl-ofnwn ei fod yn fwy 'na phosibl—y bydd i'r holl lowyr sefyll allan "mewn cydymdeimlad" a'u brodyr yng Nghwm Rhondda.

YR ETHOLSAD YN AFFRIG DDEHEUOL.

TWRCI A ROUMANiA. j

AAAAAAM/WWVWVWVWWWWSi Y DIWEDDAR…

[No title]