Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD GENEDLAETflOLI…

FFESTINIOG.

P'RUN AI UN AI TRI CHOR FYDDI…

MASNACH RYDD—PA BETH YW, I…

CADEIRYDD Y CYNGOR DINESIGI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CADEIRYDD Y CYNGOR DINESIG (A'R DYN AR I EI HOLIDAYS. Mr. Golygydd,-Caniatewch i mi fel gweith- iwr ag sydd yn gwneyd sylw o bob caredig- rwydd ddangosir tuag at if r. ghydweithwyr, ddiolch yn gynes i Mr. John Cadwaladr am siarad mcr gryf yn y cyfarfod diweddaf yn erbyn anwybyddu y llythyrau anfonirgenym o dro i dro i'r Cyngor Dinesig. Sylwais yn eich adroddiad y tro diweddaf a'r tro cynt, fod llawer o siarad yn cghyich llythyr anfonodd rhai o'r gweithwyr i ofyn cymwynas oddiar law y Cyngor, ond ni wnaed un sylw o'r cais, ac felly mae'r llythyr i bob pwrpas wedi ei an- wybyddu. Ond yr hyn a'm tarawodd oedd fod v Cadeirydd yn gwneyd cymaint o hobbi o'r ffaith bod y dyn ysgrifenodd y llythyr ar ei holidays. Methaf a gweled beth sydd a fyoo hyny a chaniatau neu beidio caniatau cot oil i'r gweithwyr,-nid yw yn sychu eu crwyn nac yn atal y gwlaw. Beth os oedd y dyn ar ei holidays ? A yw yn bechod cosbadwy i un o weithwyr y Cyngor gymervd diwrnod neu ddau o seibiant ? Dyblodd Pharoah dasgau ei weithwyr am iddynt ofyn am dridiau o holidays, a fynai Mr. Cadwaladr Roberts wneyd yr un peth a'r gweithiwr hwn ? Mae yn waradwydd ar y Cyngor nad yw cais mor fach a rhesymol yn cael eu sylw. Ond gwell ganddynt ysgwan- dro arian y trethdalwyr yn mhob modd nag wrth amddiffyn iechyd a chysur y thai sydd yu gweithio odditanynt. Yr wyf yn rhyfeddu I llawer na chodai rhai o gynrychiolwyr llafur eu llais ar fater fel hyn, yn lie bod fel mudion. —Ydwyf, GWEITHIWR,

.CYNGOR FFESTINIOG A PLANIAU.…

LLYTHYR DYDDOROL I

ITANYGRISIAU. !

TALSARNAU.

/TRERIW.----

Rheolwyr ddysg .Dosbarth %…