Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

8LAENAU FFESTINIOG.j

BAZAAR MAENOFFEREN, BLAENAU…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BAZAAR MAENOFFEREN, BLAENAU FFESTINIOG. Llwyddiant Mawr. CynhaHwyd yr uchod dyddiau Iau, Gwener, Sadwrn, a'r Llun diweddaf. Agorwyd dydd Iau gan Miss Greaves, Tremadog, a llywydd- wyd gan Owen Jones, Ysw., Dolawel. Cyf Iwynwyd blodeu-dorch i Miss Greaves gan Sallie Meiriona, Shop y "Glorian." Dydd Gwener, agorwyd gan Mrs Roberts, Plas Hendre, Aberystwyth, a llywyddwyd gan J Jones-Morris, Ysw Porthmadog. Cyflwyifwyd blodeu-dorch i Mrs Roberts gan Sallie Powell; Dwyryd House. Dydd Sadwrn, agorwyd gan Mrs Jones, Brynofferen, a llywyddwyd gan H. Humphris, Ysw., Brynmarian. Cyflwynwyd blodeu-dorch i Mrs Jones gan Bob Roberts, Barron Road, ac Eluned Lloyd, Isgraig. Dydd Llun, agorwyd gan Mrs Davies, Birmingham. a llywyddwyd gan Mr W. P. Evans, U.H Cyflwynwyd blodeu-dorch i Mrs Davies gan Johnie Lloyd Williams, Leeds Street. Swyddogion y Pwyllgor celdynt :-Cadeir- ydd, Mr Thomas Williams, "Glorian" Office Is-gadeirydd, Mr Robers Roberts, 42, High Street; Trysorydd.'Mr M. E. Phillips, B Sc. Ysgrifenydd, Mr William Williams-Jones; Arolygwyr, Dr Williams, Creigle, Mr D. Davies, Wynne Road, Ariander Hughes a John Williams, Glorian Office. Yr oedd gofalwyr cymwys wedi eu dewis at y Stalls canlynol, a gwnaeth pawb eu rhan yn wir ganmoladwy Moelwyn, Manod, Gwaen- ydd, Dwyryd (Refreshments), Bwlchygwynt, (y Bobl Ieuaingc), ac Offeren (Blodau a Ffrwythau). Dangosodd pawb arwyddion parod o ewyllysgarwch a sel i gynorthwyo i wneyd y mudiad yn llwyddiant. Gwasanaethwyd yn ystod y nosweithiau gan y Gerddorfa o dan arweiniad Mr Morgan E. Phillips, B.Sc. Cafwyd gwasanaeth Proff. Borafori a'r Marionettes, pa rai oedd yn ych- vanegiad pwysig at y dyddordeb yn y Bazaar. Cafwyd cdstadleuaethau dyddorol a phwysig, yn neillduol i'r merched am wneyd teisenau o flawd Brown a Poison, pa rai oedd yn rhoddi gwobrwyon rhagorol, a'r enillwyr oeddynt, 1, Miss C. A. Edwards, Tanygrisiau,. gwobr gwerth 155; 2. Miss Nellie Roberts, High Street, gwobr o 10s; 3, Mrs Roberts, Liver- pool House; 4, Mrs Thomas, L & N Western Cystadleuaeth plicio tatws, goreu Mr John Williams, Newborougn Street. Eto, am y cyntaf roddi edef mewn nodwydd, goreu Mr John P. Roberts, Newborough Street. Cys tadleuaeih y Limeric, gorphen Ilinellau i'r Bazaar, goreu Mr R. G. Thomas, Leed Street. Y beirniad ydoedd Barlwydon. Enillwyd ar y chwibianu i ferched gan Miss Davies, Brcn View, Yr oedd yr ystafell wedi ei gwneyd i fyny ar ddull Japanaidd gan Mri Bassett & Sons, Win- chester, ac yr oedd golwg hardd iawn arci, ar ol ei gwisgo yn gampus gan y boneddigesau. Yr oedd y Neuadd yn orlawn bob nos, a chefnogaeth gyffredinol yn cael ei roddi i'r mudiad. Disgwylir elw o tua £ 300.

Marwolaeth GoruchwyliwrI Chwarel…

I TANYGRISIAU.

PENRHYNDEUDRAETH.I

!Yr Ewythr, y Meddyg, a'r…

- -- - - - ---MANION AMAETHYDDCL.

NODION O'R LLAN. :

.LLANFROTHEN.

Advertising