Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

8LAENAU FFESTINIOG.j

BAZAAR MAENOFFEREN, BLAENAU…

Marwolaeth GoruchwyliwrI Chwarel…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Marwolaeth Goruchwyliwr Chwarel y Penrhyn. Dydd Iau, bu farw Mr. Emilius Alexander Young, prif reolwr Chwarel yn Penrhyn, yn 49 oed. Yr oedd yn cwyno er's amiyw flwyddi, ond byr fu ei gystudd. Daeth i gysylltiad a'r chwarel yn 1885, tua blwyddyn cyn marw taid yr Arglwydd Penrhyn presenol Yr oedd yr hen Arglwydd wedi gadati y chwarel i fyned i anrhef a, yr osdd ar y pryd yn 85 oed, a rhoddond y reolaeth yn nwylaw ei fab hynaf, yr hwn a benderfynodd wneyd cyfnewidiadau mawr. I'r diben hwnw ymgynghorodd gyda Mri. Turquand, Young, a'r Cwmni, ffirm o arianwyr o Lundain, a'r canlyniad oedd i Mr. E. A. Young, 'mab i'r diweddar Mr. Alexander Young, gael ei anfon i'r Peqrhyn i gymeryd y rheolaeth i'w ddwylo, Ar ol hyn yr oedd y chwarel yn llawer mwy trefnus. 0 1874 hyd yr adeg hon.yr oedd rheolaeth y chwarel i raddau helaeth yn nwylo pwyllgor o weithwyr, y rhai a wrandawent gwynion yr unigolion ac a'u cyflwynanr i'r perchenog ei hunan. Wrth ddiddymu y cynllun hwn, dy- wedodd y diweddar Arglwydd Penrhyn nad oedd am i neb ymyryd rhyngddo a'r dynion, ac os oedd gan y dynion ryw achwynion, eu bod i'w cyflwyno eu hunain i'r awdurdodau, Wrth gwrs, atweiniodd hyn i streic fawr am hawl i undeb, a chan fod y diweddar Arglwydd Pen- rhyn wedi gwrthod newid hyn tra y bu fyw, bu yn achos llawer o anghydfod, ac yr oedd a wnelo hyn i raddau a'r helynt fawr a fu yn y Penrhyn tua deng mlynedd yn ol. Cymerodd Mr Young ran amlwg gyda'r streic ddiweddaf yn y Penrhyn, ac ni phlygai oddiwrth yr hyn a deimla yn ddyledswydd tuag at ei feistr. Gedy weddw a chwech o feibion, ac y mae'r ieuengaf o honynt yn rhwymedig yn Swyddfa y Chwarel. Claddwyd ef ddydd Sadwrn yn Llanddcget,

I TANYGRISIAU.

PENRHYNDEUDRAETH.I

!Yr Ewythr, y Meddyg, a'r…

- -- - - - ---MANION AMAETHYDDCL.

NODION O'R LLAN. :

.LLANFROTHEN.

Advertising