Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
LLYS METHDALIADOL BLAENAU…
LLYS METHDALIADOL BLAENAU I FFESTINIOG. Dydd Llun, yn Adeiladau Sirol Blaenaa Ffes- tiniog, o flaen y Cofrestrydd, Mr Thomas Jones, daeth chwech o achosion Methdaliadol —dau chwarelwr, dau dafarnwr, un mas- nachwr llechi, ac un masnachwr, Holwyd hwy gsn Mr John Tobias, y Dirprwy-dder- bynydd Swyddogol, Achos Robert Hughes. I Daeth Chwarelwr o Dolgaregddu, Blaenau Ffestiniog, i fyny am ei arholiad cyhoeddus Swm ei ddyledion oedd £ 83 18s lc, eiddo £ 2 12s 'Oc yn gadael diffyg o £81 6s lc. Bu yn byw yn Springfield Terrace am amryw flynydd- oedd, ac yr oedd yn 2, Dolgarregddu er's chwe' mis, Cbwarelwr ydoedd gyda thri o blant, un o honynt yn wael. Enillai 4s 3c y dydd, a gwnaed Archeb Weinyddiadol yn ei erbyn flynyddoedd yn ol am yn agos i haner can' punt o ddyled i'w thalu yn ol 12s 6c y bunt, a 9s y mis. Talodd J9 Is oc o dan yr Archeb hono, yr hyn oedd yn gyfartal i Is 8c y bunt o'r dyledion o tani. Yr oedd mewn dyled er's naw mlynedd, a suddodd yn ddyfn- ach trwy nad oedd yn gweithio ond am bedwar diwrnod yr wythnos am dair blynedd.-Cau- wyd yr arholiad. Achos Owen Henry Owen. I Daeth Owen Henry Owen, 1, Uncorn Ter- race, Blaenau, i fyny am ei arholiad. Rhoddai swm ei ddyledion yn £ 200 lls le, o'r rhai yr oedd £ 100 yn ddyledus i un masnachwr. Yr oedd y Taquat Mining Co,, yn ei ddyled o £150, a chyfrifai hyny yn ddyled drwg. Ei ddiffygion oedd £ 198 lis Ic. Bu am dymhor yn gweithio yn Nglofeydd y Deheudir, a gwas- anaethodd o ddeg i bymtheg mlynedd gyda'r Royal Fusiliers, a gwasanaethodd yn rhyfei- oedd Deheudir Affrica a Burmah. Bu yn gweithio yn y West Coast yn Affrica. ac_«n enill punt y dydd, ac anfonai arian adtffrw deulu tra y bu yno. Yr oedd ganddo werth cant a haner o bunau o gyfranau yn y Taquat Mining Co. Gofynodd Mr Tobias pa fodd ar y ddaear yr oedd wedi llwyddo i fyned i ddyled o gant punt gyda'r un masnachwr yn yr ardal, ac atebodd mai ar sail yr eiddo oedd ganddo yn y Cwmni ucbpd o'r hwn y disgwyliai arian. Labrwr yn y chwarel oedd yn awr.—Cauwyd yr arholiad. Achos Alfred Edward Parry. I Daeth Alfred Edward Parry, Black Horse Inn, Llanrwst, yn mlaen am arholiad. Yr oedd cyfanswm y dyledion yn £ 717 5s 9c, ac wedi tynu yr eiddo allan yr dedd y cyfrif yn gadael diffyg o J272 14s 9c. Achos y meth- daliad ydoedd Masnach wael,:a rhoddi coel." Gwnaed ef yn Fethdalwr Awst 22. Yr oedd yn 38 mlwydd oed, ac yn saermaen wrth ei alwedigaeth, ond yn awr yn denant Black Horse Inn er's chwe' blynedd, ac am ddwy flynedd cyn hyny bu yn denant y Crown Inn, Llanrwst. Cyn hyny fa weithiodd fel saermaen am bum' mlynedd, a bu mewn partneriaeth gyda'i frawd fel adeiladwyr am bum' mlynedd hyd 1901. Chwefror 1904 bu i'r partneriaid a fasnachent fel Samuel Parry & Sons," wneyd gweithred yn trosglwyddo yr eiddo er budd y gofynwyr o dan yr hon y mae 5s y bunt, allan o gytundeb am 10s y bunt, wedi eu talu. Daeth i eiddo gweith £350 ar ol ei dad Samuel Parry, adeiladydd, ond yr oedd Mortgage llawn arno. Yr oedd 36 o ofynwyr i'r swm o C343 15s 9c heb eu diogelu, yn cynwys 21 am ddiodydd, 3 am arian benthyg, un meddyg am ddeg punt, ac 11 am nwyddau, &c. i'r ty. Yr cedd 1170 dros werth yr eiddo o ofynion ar Awst 10, collwyd ar y fasnach £ 50 14"s 9c a £ 60 o gost y ty. Bu costau trymion arno yn Black Horse, a'r ddyled oedd ar bobl iddo yn benaf am ddiodydd.—Cauwyd yr arholiad. Achos William Owen Williams. I Daeth William Owen Williams, Wern, LIsn- frothen, i fyny am ei arholiad, Yn ei gyfrif dywedai mai achos o Fethdaliad oedd, cael ei wasgu gan ei ofynwyr. Gwnaed ef yn Feth- dalwr Gorphenaf 27. Yr oedd yn 58 mlwydd oed. Chwarelwr ydoedd hyd 1882, pan aeth i Canton House, Penrhyndeudraeth, i fasnachu gyda chyfalaf o ddau gan' punt oedd wedi eu cynilo. Aeth o Canton House yn Tachwedd, 1907, i'r Wern, Llanfrothen, Ile'r oedd ei fab yn byw. Efe oedd perchenog Canton House a Paris House, Penrhyn. Yr oedd ei ddyled yn y Bank yn £ 400 pan aeth i'r Wern, ond yr oedd gwerth y ddau dy rhydd-ddaliadol yn y Penrhyn yn naw cant o leiaf. Yr oedd ei ddyled i'r Bank yn 1906 yn £ 640. Bu iddo yn ei anoethiceb arwyddo yr holl eiddo drosodd i Mr Henry Roberts, Syflog, fel Ymddiriedolwr, Hid oedd yn gwneyd dim yn awr at ei fywol- iaeth, ond caffai gartref ac ymborth gan ei fab yn y Wern. Daeth Mrs Williams a chyfraith yn ei erbyn, ac enillodd, ac o achos hyny gwnaeth yntau ei hun yn Fethdalwr. Yr oedd ef yn golygu ei ofynion yn £ 73 12s lc, a'r diffyg yn £ 63 lis lc. Gwerth ei eiddo oedd £ 1150, ac at hyny yr oedd dyled o £ 820 i rai wedi cael diogelwch am danynt, a £ 405 i rai hob ddiogelwch. Hysbyswyd y Llys fod yr Ymddiriedolwyr wedi sylweddoli £ 406 15s 5c, ond ni ranwyd dim o honynt am fod y mab yn dod yn mlaen i hawlio. £ 300 gafwyd am Paris House, ac yr oedd gweddill yn y Bank o £19 8s gyda chostau yr arwerthiad.—Cauwyd yr arholiad. Achos Andreas Roberts. I Daeth Andreas Roberts, Boston House, Blaenau, i fyny am ei arholiad. Rhoddodd achos ei Fethdaliad wnaed ar Gorphenaf 21 i lawr i "colledion mewn masnach, gostyngiad yn ngweith eiddo, a cholled ar werthiad ystorfa dillad." Yr oedd yn 68 mlwydd oed ac yn fasnachydd Ilechi a goruchwylydd ffrwydron. Yr oedd yr holl ofynion yn £3.070 16s 4c, 16 o ofynwyr heb sicrwydd yn eu gofal am £ 248 15s 5c, a 4 gyda sicrwydd am £ 2,054 15s, ac amcan-gyfrifid gwerth y sicrwydd yn £2)109 15s 8c, yr hyn adawai weddill o £ 55. Gwerth y dodrefn oedd £ 70, a phethau eraill £ 14 15s 9c yn gwneyd cyfanswm o £ 134 Os 2c, yn gadael diffyg o £ 707 Os 6c. Yr oedd y dyledion llyfrau yn £ 76 9s 4c a golygai hwy yn werth £ 5. Cafodd £ 44 o elw at y Life Policies y flwyddyn ddiweddaf. Erlynwyd ef gan y Bank, a gwnaeth ei hun yn Fethdalwr. Yr oedd yn werth dwy fil o bunau pan ddaeth o fod yn Oruchwyliwr yn Cwmorthin. Ei eiddo oedd 11 ty yn West End, a 10 ty yn Cwmorthin Road, Tanygrisiau, ty yn Ynys Terrace, Boston House, High Street, a chyfranau mewn dwy long yn Porthmadoc, a Life Policies. Rhoddodd £1.350 am dai Cwmorthin, a chafodd fenthyg Z500 arnynt gan Gymdeithas Adeiladu Pwllheli. Yr oedd yn Boston House er's 21 mlynedd, ac wedi talu Z427 am y stock pan aeth i mewn am fasnachu mewn dillad. Y merched a'i wraig a ofalai am y fasnach hono. Ni wnaed dim elw o'r lie, a gwertbodd yr oil am ij25 yn 1906. Fel Roberts & Sons" y masnachai mewn llechi, ond nid oedd gan y meibion ddim rhan o gwbl yn y fasnach hono, a thybiai fod elw y fasnach hono yn C50 i £ 60 y flwyddyn. 0 1907 i 1909 y daeth y wasgfa fasnachol, Yr oedd ei holl eiddo yn awr ar Mortgage. Cymerwyd meddiant o'r eiddo yn Medi, 1909. Yr oedd Mortgage ar Boston House ugaia mlynedd yn ol, ac ar dai Cwmorthin. Yr oedd gweithredoedd y ty yn Ynys Terrace yn y Bank er 13 mlynedd, a cheisiwyd ei werthu, ond J150 a gynygiwvd am dano. Benthycodd gan' punt gan John Jones, a dau gant ar ol hyny fel ail ofyniad (second charge) ar Boston House a'r Policies Yr oedd yn anmhosibl gwneyd i'r eiddo dalu yn awr am fod gwerth y tai yn Tanygrisiau wedi myned i lawr gymaint, a'r trethi wedi codi o 2/8 y bunt i 6/6 y bunt. Yn Hydref, 1909, yr oedd yn nyled Cwmni Chwarel Votty a Bowydd o £299, a chlowyd ei lechi i fyny yno. Talodd Humphrey Jones £ 250 i gael yr eiddo yn rhydd, a dyna oedd rhan H. Jones yn awr fel partner yn firm Roberts & Jones, fel masnach- wyr llechi. Rhoddodd ei oriawr aur a'i gadwen i'w fab y Nadolig diweddaf, yn ol cytundeb rhyngddynt bedair blynedd yn ol ac ar ol hyny, am ei fod yn anfon arian adref yn barhaus. Yr oedd yr oriawr a'i gadwen yn werth £ 25 yr amser basiodd, ond tua deg punt oedd ei gwerth yn awr. Nid oedd dim o'i eiddo yn ei law ef yn awr, ac yr oedd wedi rhoddi pobpetb i fyny i'r Derbynydd Swyddogol. John Jones, un o'r Gofynwyr, a ofynodd lle'r aethy £ 310 a roddasai ef yn fenthyg.— Mr. Tobias (wrth John Jones), "Y mae y Mortgage Deed genych a gwna cyfreithiwr eich cynorthwyo." Yna gofynwyd am ohiriad yr arholiad er mwyn cael cyfrif manwl am arian John Jones —Gohiriwyd yr arholiad. Achos William Davies. Daeth William Davies, 224, Palatine Road. Blackpool, gynt yn cario yn mlaen fasnach fel Tafarnwr yn Ferry Hotel, Talycafn, Dyffryn Conwy, yn mlaen am ei arholiad, yr hwn a barhaodd am dros ddwy awr. Gwnaed ef yn Fethdalwr ar gais gofynwyr Gorphenaf 29, 1910. Rhoddodd y Methdalwr ei ddyledion yn £ 1272 14s 7c, o'r rhai yr oedd £ 1171 10s 9c yn ddyledus i 25 o ofynwyr heb ddiogelwch o gwbl, ac un gofynwr am 2/5 wedi ei ddiogelu gyda gwerth £ 5 2s. Nid oedd yr holl eiddo i gyfarfod y dyledion ond £ 8 7s 10c, yn cynwys £ 14 19s lie, ac i droi £ 3 15s 9c i'r eiddo; diffyg [2194 14s llc. Rhoddai achos ei feth- daliad i lawr i Colledion ar fasnach glo, cyfalaf annigonol, coel hiq." Yr oedd y Derbynydd Swyddogol yn ychwanegu y sylwadau canlynol ar yr schos.-Y mae y Metbdalwr yn 40 oed, a bu o Mehefin 1, 1904, hyd Mawrth 29, 1910, yn dal trwydded y Ferry Hotel, Talycafn. Dywedodd fod ganddo ,Clllo pan aeth yno, ac iddo dalu £ 1150 .am fyned i mewn. Tra yno yr oedd hefyd yn fasnachydd glo. Wedi bod yn y Gwesty am ychydig fe fentbycodd £ 400 gan Ddarllawyr, y rhai ni thalodd yn ol. Gwerthodd y fasnach glo flwyddyn yn ol am ddau gant o bunau a'r fasnach yn y gwesty, yn cynwys pobpeth ar y lie Mawrth 1910, am A1600 (wedi tynu £ 80 commission allan). Hona iddo dalu dyledion o'r swm hwnw yn gwneyd cyfanswn o Z1300, collodd £ 200 ar fetio yn Rhedegfeydd Epsofh yn Ebrill 1910, a chadwodd £ 100 at gynal ei hun a'i deulu. Aeth y teulu, ar ol gadael y Gwesty, i fyw gyda pherthynasau yn 224, Palatine Road, Blackpool, ac yr oedd yntau wedi byw yno ac mewn gwestai yn Llundain lle'r elai, meddai ef, i geisio rhyw waith. Cyn dod i Talycafn cariai fasnach yn mlaen yn Mytbop a Lytham fel Florist. Honai mai masnach ei wraig ydoedd wedi ei gael ar ol ei thad, ond addefai iddo ei hun ei garip yn mlaen yn' ei enw ei hun, a gwerthodd ef am fil o bunau cyn myned i'r gwesty. Honai nad oedd ganddo ddim eiddo ond ychydig ddyledion llyfrau wnai sylwedoii £ 3 13s 9c. Llosgodd yr holl lyfran a'r papurau a dywedai na symudodd ddim ond dillad a teg- anau chwareu y plant. Dywed na chadwai lyfrau cyfrifon yn y gwesty, ac na wyddai ei fod yn analluog i dalu ei ddyledion hyd nes gwertbodd y Gwesty yn Mawrth diweddaf. O'r cyfanswm dyledion heb ddiogelwch yr oedd pedwar am fenthyciadau (dau o honynt yn Fenthycwyr Arian) o £851 Os 10c; wyth am werth £ 228 13s 7c o gwrw a gwirodydd dau am werth [30 4s ] lc o lo ac una'rddeg am nwyddau, &c. i'r ty, gwerth £ 61 11s 6c. Yr oedd deuddeg o'r dyledion yn gwneyd cyfan- swm o £ 1,114 2s 5c a thros ddeg punt yr un. Awd i'r dyledion hyn yn 1910, ond yr oedd dau swm mawr yn myned yn ol i 1903 a 1906 Rhoddai gyfrif o'i ddyledion o Mehefin 30, 1909 yn mlaen fel y canlyn :-diffyg y dyddiad uchod £ 100 colled ar y fasnach, C90 dyled- ion drwg, [11 4s 4!2c costau teulu, ei hunan, y wraig, a daublentyn, £ 112 10s 6ic; gostyng- iad yn ngwerth y gwesty a'r fasnach glo, £ 680; a cholled ar redegfa Epsom, £ 200— £ 1,193 14s 11c. Mewqjrtebiad i Mr. Tobias dywedodd iddo fod yn ngwasanaeth Mr Henry Tate am ugain mlynedd, a gadawodd yn 1901. Cafodd ddau gan' punt o dan ewyllys Mr. Tate, ac yr oedd yntau wedi arbed o gant i ddau ei hunan, Priododd ferch Florist o Lytham, a bu hi yn I J cario y busnes yn mlaen ar ol eithad, o dan ewyllys yr bwn y cafodd hi gan' punt. Prynodd y fasnach hono am wyth cant o bunau, a thalodd yr haner y pryd hwnw, ac arbosai y gweddill yn ddyledus. Gwerthodd y fasnach bono yn 1904 am il,100, y rhai a dalwyd iddo, ond ni thalodd ef y £ 400 oedd yn arcs arno am y lie. Yna aeth yn mlaen i adrodd am bryniant y Ferry Hotel a'r Fasnach Glo, a gwerthiant y nsill a'r Hall, Addefodd nad oedd wedi rhoddi 26 o ofynwyr trymion i mewn yn mysg ei ddyledion, ac mai £ 600 dalodd o'i ddyledion ar ol gwerthu y gwesty am £ 1,600, gan gadw o leiaf £ 700 iddo ei hun. Gwyddai ei fod mewn dyled o £ 1,200 pan werthodd yr eiddo. Benthycodd arian gan Jolleys a Harris, ac wrth wneyd hyny nid oedd wedi dywedyd y gwir with ateb un o'r benthyewyr.—Mr Tobias a ddywedodd y byddai raid cael cyfrif wedi ei gywiro, a mwy o fanylion.—Gohiriwyd yr Arholiad.
Oymdeithas Llawfer Gymraeg.…
Oymdeithas Llawfer Gymraeg. I Cynhaliwyd y bummed gynhadledd flyn- yddol y Gymdeithas yn y Council Chambers, Colwyn Bay, dydd Sadwrn Medi 17eg. Dew- iswyd Mr D. W. Williams, Bl. Ffestiniog, yn Gadeirydd yn absenoldeb Mr Richard Wil- liams, Coedllai. Cyflwynodd yr Ysgrifenydd ei adroddiad blynyddol am sefyllfa y Gym- deitbas yn y Gogledd, er nad ydoedd yr aelod- au wedi bod mor fyw i symudiadau a buddianau y Gymdeithas. Credid mai enill tir y mae yn y Gogledd, amryw o'r ieuengctyd yn cymeryd dyddordeb yn y gelfyddyd. Pasiwyd i erfyn ar i'r aelodau roddi pob cefnogaeth i Mr R. Prys Griffiths, Lerpwl, Golygydd y Cylchgrawn Llawfer Cymraeg, i barhau i ddwyn allan y Cylchgrawn Llawfer. Cafwyd trafodaeth hefyd ar y ffordd oreu i ddwyn y Gymdeithas i sylw yr ieuengctyd. Awgrymwyd amryw ddulliau. Dewiswyd yn swyddogion am y flwyddyn nesaf :-Cadeirydd, Mr D. W. Wil- liams, Blaenau Ffestiniog; Trysorydd, Mr G. Griffiths, Lerpwl; Ysgrifenydd, Mr E. J. Pugh, Penrhyndeudraeth, -Pwyl Igor Gweith- iol-Mri R. J. Ellis, Llanberis; E. R. Wil- liams, Bryncroes; E. T. Banks, Rhos; J. R, Jones, Maentwrog Hugh Jones, Trefriw E. H. Jones, Porthmadog; E. J. Edwards, eto; Parch D; Meirion Mason, Llanfairfechan.— Pasiwyd i gynnal y gynhadledd nesaf yn Corwen, Awst (Gwyl y Banc).
-TALSARNAU.-I
TALSARNAU. I Nos Sadwrn, cynhaliwyd Cynghor Plwyf, yn ysgol y Cynghor, pryd yr oedd yn bresenol Mri. Jonathan Parry (Cadeirydd), Robert Evans, Thomas Griffith, Richard Jones, R. R, Jones, John Owen, Griffith Roberts, Capt. Roberts, a John Jones (Ysgrifenydd). Derbyniwydadroddiad am adgyweirio llwybrau. Ail-ddewisiwyd yr un i o!euo Lampau y Plwyf am y tymor dyfodol. Am 9 o'r gloch yn yr un lie cynhaliwyd Cwrdd Plwyf i'r amcan o ofyn a ganiateid swm.o arian at oleuo ar gyfer y tymor dyfodel, Wedi i'r ysgrifenydd hysbysu y gwnai treth o dair ceiniog yn y bunt y tro i gyfarfod a'r alwad, pasiwyd i godi j dreth i'r amcan. Galwodd Robert Evans sylw at gyfyngiad y cordd ger Y^ol Bach gan y gadewid i goed dyfu dros Rordd nes achosi anhwylusdod gyda llwythi; hefyd fod gwter y ffordd yn cael eu hesgeuluso a phan yn wlaw filed y dwfr ar hyd y ffordd gan ei niweidio yn fawr. Pasiwyd i alw sylw Surveyor y Sir at y mater. Da genym gael llongyfarch Miss Gwennie \Evans, Fucheswen yn enill safle mor anthyd- eddus yn arholiad y Central Welsh Board. Enillodd Senior Certificate. Dysgybl yn Ysgol Sir Abermaw ydyw Miss Evans. Eled yn uwch yw ein dymuniad. Nos Sabboth yn Nghymdeithas Bethel, caed anerchiad tra rhagorol gan y Parch, Nl. T. Ellis, B A.,B D., Portmadog, ar "Berthynas Pobl Ieuanc a Llenyddiaeth." Diolchwyd yn wresog iddo am ei sylwadau gwerthfawr. Nos Sadwrn, .bu farw Mrs, Margaret Wil- liams, Glanywern, wedi bod yn dioddef er's oddeutu deuddeng mlynedd. Cymerodd y g'addedigaeth le dydd Mercher. Gadawodd briod ac wyth o blant i alaru eu colled ar ei hal. Cydymdeimlwn yn fawr a hwy yn y brofedigaeth.
.BURNLEY. I
BURNLEY. I Meddyliais y buasai o rbyw ddyddordeb genych gael clywed banes ychydig o Gymry yn y lie hwn, sef Burnley, Lancashire. Yr ydym wedi sefydlu achos bach Cymraeg yma, ac yr oeddym yn flwydd oed y Sul diweddaf, a chawsom gyfarfod pregethu yma i ddathlu pen ein blwydd fel eglwys yn y lie. Da genyf allu dywedyd iddo fod yn hynod o lwyddianus. Y pregethwyr oeddynt y Parch J. B: Parry, Burnley; a Mr H. R. Owen, Didsbury College, Manchester. Cawsom bregeth rymus gan-Mr Owen nos Sadwrn, a chynulleidfa dda wedi dod o bob cyfeiriad '1 glywed pregeth Gymraeg. Pregeihodd Mr Owen prydnawn Sul. a chyd-bregethodd a Mr Parry yn yr hwyr, a'r lie yn orlawn. Ni chaed erioed well gwledd yn Nghymru mewn cyfarfod pregethu. Mae i Mr Owen ddyfodol disglaer o'i flaen. Gwr ieuangc o Corris yw. Mae y Parch J. B. Parry yn dra adnabyddus yn Nghymru. Melus oedd ei glywed yn pregethu mor fendigedig heb yr un brycheuyn ar ei Gymraeg, er ei fod yn gwasanaethu y Saeson yma er's pum* mlynedd a'r hugain. Dyma fath Gymry sydd genym eisiau y dyddiau hyn, i godi'r hen wlad yn ei hol.-R.T.R.
Family Notices
Priodasau. OWEN-RoBERTs,-Medi 27, yn Porthmadog, unwjd Mr William Owen, Jones Street, a Miss Jane Roberts, Mount View, Bethania. Y gwas ydoedd Mr William Roberts (brawd), a'r forwyn, Miss Elizabeth M. Jones, Tan- yclogwyn, Dymunwn iddynt bob hapus- rwydd.
[No title]
NosFawrth, ynYstafell y ClwbRhyddfrydol, cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y sefydliad o dan lywyddiaeth Mr D. White Phillips, Cyf- reithiwr. Daeth nifer luosog ynghyd, a chaed prawf fod y Clwb yn iach a chryf, ac nad yw sel wleidyddol yr aelodau yn oeri dim er fod y cyfnod presenol yn un tawel a chlir oddiwrth gynhyrfiadau etholiadol. Llawen genym weled Mr William Owen, U. H Plaswaenydd, Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol y Sir, yn bresenol, ac yn cymeryd rhan mor amlwg yn y gweithred- iadau. Y mae Mr Owen yn un o Is-lywyddion Anrhydeddus y Clwb. Dangosai y Fantolen, yr hon a ddarllenwyd gan yr Ysgrifenydd gweithgar a diwyd, Mr J. J. Williams, dderbyrialau y flwyddyn yn Z164 lIs, yn cynwys 6118 8s. lie oddiwrth y Byrddau Peli. Rhif a'r Aelodau 183, a deuddeg o aelodau anrhydeddus, ac y mae y sefyllfa arianol yn foddhaol iawn. Wedi cymeradwyo y fantolen sylwodd yr Ysgrifenydd ar y pwys o fod y Clwb yn cael ei gadw yn sefydliad hyfforddiadol yn egwyddorion Rhyddfrydiaeth, a bod gofal yn cael ei gymeryd nad elai chwareu a'r prif le yn eu mysg. Cafwyd hefyd sylwadau calonogol iawn gan amryw eraill, a theimlid yn nodedig ddiolchgar i'r Swyddogion a'r Pwyllgor Gweithiol am eu ffyddlondeb gyda'r gwaith ar hyd y flwyddyn, a'r gofal a gymerasant o amgylchiadau y sefydliad. Yna awd ymlaen i ddewis Swyddogion a Phwyllgor Gweithiol am y flwyddyn. Yn Llywydd Anrhydeddus dewiswyd Mr H. Haydn Jones, yr Aelod Sir. Cadeirydd, ail etholwyd Mr D. White Phillips Is-gadeirwyr, ail etbolwyd Mr G. G. Davies, a Mr J. Tudor Owen o newydd. Trysorydd, Mr W. J. Wil- liams, The Square; ac ail ddewiswyd Mr J. J. Williams yn Ysgrifenydd. Dewiswyd pymtheg Aelod Gweithiol i ffurfio pwyllgor, amryw o'r rhai hyny wedi gweithredu ar y pwyllgor blaenorol. Cyflwynwyd awgrymiad Mr Morgan E, Phillips, B.Sc i gael Perdoneg at wasanaeth y Clwb i ystyriaeth y Pwyllgor, gyda hawl i bwrcasu un os gwelid hyny yn ymarferol.
IRHYDDFRYDWYR RHANBARTHI FOURCROSSES.
RHYDDFRYDWYR RHANBARTH I FOURCROSSES. Cynaliwyd cyfarfod blynyddol Wardiau Diphwys a Maenofferen, yn Ysgol y Bechgyn, Maenofferen, nos Fawrth. Er mai tendu oedd y cyilulliad yr oedd y gweithrediadau yn frwd- frydig. Etholwyd Mr J. Cadwaladr yn Gad- eirydd, a Mr Richard Williams yn Drysorydd. Yr oedd yr Ysgrifenydd llafurus, Mr William Jones, wedi datgan ei ddymuniad i ymddi- swyddo. Derbyniwyd yr ymddiswyddiad gyda gofid a phasiwyd pleidlais gynes o ddiolcbgar- wch iddo am ei wasanaeth yn y gorphenol. Pasiwyd galw cyfarfod arbenig i ddewis Ysgrif- enydd. Etholwyd y personau a ganlyn i gyn- rychioli y Rhanbarthau ar Gymdetthas Rydd- frydol y Sir Mri Andreas Roberts, John Cad- waladr, Evan Williams (Glyn Myfyr), Evan T. Pritchard, William Jones, R. O. Jones, Robert Thomas, Richard Williams, D. White Phillips, Thomas Owen, D. W. Williams, a'r Parch E. Cefni Jones. Etholwyd Mr R. O. Jones ar Bwyllgor Gweithiol y Sir. Pasiwyd pender- fyniad i'w anfon i Gyfarfod Blynyddol y Sir o blaid talu i Aelodau Seneddol, ac yn ffafr i gostau yr Uchel Sirydd ynglyn ag Etholiadau Sirol gael eu dwyn gan y Wladwriaeth neu y Sir, ac nid gan yr Ymgeiswyr. Cafwyd syl- wadau ar saBe arianol y Rhanbarth, a phen- derfynwyd cyhoeddi Mantolen er i'r etbolwyr gael deall yn glir beth wneir a'r arian danys- grifir. Da genym ddeall fod y safle arianol yn fwy boddhaol nag y mae wedi bod er's amser.
RHYDDFRYDWYR RHANBARTHAUI…
RHYDDFRYDWYR RHANBARTHAU I RHIW A BOWYDD. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol y Rhanbarth uchod nos Lun yn Ysgoldy Glanypwll, dan lywyddiaeth Mr W. Owen, u H Plasweunydd. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y cyf- aifod blynyddol diweddaf, a phasiwyd. Dewis- wyd casglyddion i gasglu yn y gwahanol ddos- barthiadau. Dewiswyd y rhai canlynol fel "Delegates" i gyfarfod blynyddol y Sir a gynhelir yn Penrhyndeudraeth dydd Iau nesaf, y 29ain cyfisol: Mri W. Owen, G. G. Davies, Glanypwll Villa; T. J. Roberts, Aelybryn; W. Lewis, 25, The Square; W. P. Evans, Church Street; T. J. Williams, Llwynygell; R. J. WiMiams, Bronrhiw; R. J. Williams, Dorfil Road; Samuel Williams, Blaenycae; Elias Rowlands, Doifil Street; Lewis Davies, 22, The Square; Hugh Jones, Medical Hall; John J. Williams, 3, Wynne Road a'r Parch George Davies, B A. Dewisiwyd Mr John J. Williams ar bwyllgor arianol y Sir. Dewiswyd y rhai canlynol yn bwyllgor gweithiol ac yn aelodau o'r pwyllgor canolog: Mri. Edmund LI. Powell, E. Ffestin Jones, Thomas Griffith, Bowydd View, Richard Jones, Salem Cottage; Edward Griffiths, Glanypwll School House, Cadwaladr Roberts, Bodlondeb, Griffith Hum- phreys, Caersalem Terrace, Griffith Roberts, Benar View, John Roberts, Brynllys, Edward J. Owen, Brynbowydd, W. J. Rowlands, Edwin Morris, Parry's Terrace, a Lewis Davies, 22, The Square. Dewiswyd yn swydd- ogion am y flwyddyn ddyfodclLlywydd, Mr G. G. Davies. Is-lywydd, Mr. Owsn Owen, Llys Dorfil. Trysofydd, Mr John Owen, Bryndinas. Ysgrifenydd, Mr W. J. Williams, 23, The Square,
Advertising
WN|AAAA^AAA^/V^^AA/WvWS/WvV A WORD TO LADIES Send 2 stamps for our new & original Illustrated Booklet, containing plain & practical advice how li-regularities,Suppressioiis,&c.inay be prevented or removed by simple means in a few hours. Re- commended by eminent Physicians & thousands of Ladies, as being the only Genuine Remedy. This is not a quack medicine. Established 30 yrs LESLIE MARTYNj LTD, CHEMISTS, 34, DALSTON LANE, LONDON
OR PEDWAR CWR.
OR PEDWAR CWR. Anrhegwyd Mr a Mrs William George ag anerchiad hardd ar yr achlysur o'u priodas gan Gyngor Dinesig Abermaw. Mr George yw Clerc y Gyngor er ei gychwyniad. Y mae y Parch. Peter Hughes Griffiths (M C.) Cbaring Cross, Llundain, wedi teimlo y fath les yn awyr y wlad hono lei ag i bender- fynu gwneyd ei gartref yno. Dywedir i Wyl Gerddorol Caerdydd droi allan yn golled o bump i chwe' chant o bunau. a golygir i gasglu tanysgrifiadau i wneyd y swm i fyny. Deg swllt yr un oedd y ddirwy ddodwyd ar ddau hogyn yn Farnwortli am greulondeb at gath y dywedent oedd yn aflonyddu ar gywion yn y lie. Ei tharaw ddwywaith a phriddfaen a wnaethant. Dadleuodd Arolygydd Sir Gaernarfon dros osod pyg ar y ffyrdd mewn trefi fel Bangor, Llandudno, a Chaernarfon. Barnodd y Cyngor Sirol y dylid rhoddi cefnogaeth i'r peth mewn lleoedd dinesig, ond ei fod yn rhy gostus mewn lleoedd gwledig. Derbyniodd y Parch James Jones, Noddli, Senghenydd, alwad eglwys yr Annibynwyr yn Salem, Bethesda, i ddod i'w bugeilio. Ysgrifena Dr E. Pan Jones, MA., Mostjn, un o gymeriadau y pwlpud Cymreig, ei hunan- gofiant, Adrodda y Doctor, yr hwn sy'n hen lane, yn un o'i benodau pam y methodd briodi. Dydd Mercher, hwyliodd Cor Merched Cymreig Madame Hughes-Thomas, Caerdydd, ar y llopg ager Tunisian," am daith yn cyr- haedd o Vancouver i Chicago. Dyma'r tryd- ydd tro i'r cor ymweled a'r Talaethau Unedig, a'r ail dro i ymweled a chanada. Dyma'r tro cyntaf i Gor Frydeinig fyned cyn belied a Van- couver. Rhoir y lIe blaenaf i ddarnau Cymreig ar y rhaglen, ond cenir darnau clasurol eraill ganddynt hefyd. Y mae'r Parch. W. Wynn Davies, gweinidog Twr Gwyn, Bangor, ar ymadael o'r ddinas i gymeryd gofal Capel Mawr, Rhos. Nos Fercher cyflwynwyd anrhegion iddo fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth, yn arbenlg felly yn mhlith y bobl ieuanc. L'ywyddwyd gan Mr. T. J. Williams, a chyflwynwyd yr anrhegion gan y Parch. Daniel. Rowlands. M.A. Rhoed anerchiadau gan amryw o aelodau yr eglwys. Caed caneuon gan Mrs, Wynn Davies, acail alwyd hi. Cydnabyddodd y Parch. Wynn Davies y rhoddion, a sylwodd fod y ddyled wedi ei lleihau yn ystod ei athosiad yno.
-""""YV-VYVV'VV'V' , BETTWSYCOED.
"YV-VYVV'VV'V' BETTWSYCOED. BRYN MAWR. -Parch R. W. Hughes, Bangori TABERNACL.—Cyfarfodydd Gweddio. ST. MARY.—Parch R, M. Jones, M.A. AT DRIGOLION BETTWSYCOED A'R CYLCH- OEDD.-Dymuna William Williams, Pontypair Shop, wneyd yn hysbys ei fod wedi casl bob math o batrymau newydd at y dyfodol mewn Suitiau dynion a becbgyn am brisiau hynod o resymol. Gwneir Suitiau i fesur ar fyr rybudd, gwarentir fit ar style ddiweddaraf. Gellir cael Suitiau i fesur am 22/- ac uchod. Hefyd cedwir Readymades i ddynion a becbgyn, a Mens Cord Trousers, a Boys Cord Knickers, bob math o Grysau dynion, Collars, a Scarfs. Hosanau dynion o 1/- y par i fynu. Ladies Blouses a Skirts a rhai Muslin, Aprons, pob math o Stationery, a Post Cards.—ADVT. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH Y CYNGORYDD R. ROWLINSON.—Drwg genym gofnodi am farwolaeth Mr Robert Rowlinson, Llys Caradog, yr hon a gymerodd le ddydd Iau, yn ei 71 mlwydd o'i oedran, ar ol cystudd trwm am amryw wythnosau, ond daeth y diwedd yn bur anysgwyliadwy. Bu yn fas- nachwr llwyddianus yn y Bettws am oddeutu 36 mlynedd, ac yr oedd yn fawr ei barch gan bawb ar gyftif ei unplygrwyd&a'i garedigrwydd mawr at bawb elai ar ei ofyn. Bu yn aelod am flynyddoedd lawer ar Fwrdd y Gwarcheid- waid, ac o'r cychwyn ar y Cyngor Dinesig. Cymerai ddyddordeb mawr yn amgylchiadau y lIe a'i lwyddiant. Eglwyswr selog, &c yn Warden ffyddlon er's Hawer o flynyddoedd, ac jn un o Reolwyr yr Ysgolion dvddiol. Bydd bvi hh amlvrg ar ei ol fel dinesydd, masnachydd a christion. Prydnawn Llun, awd a'r corph i Eglwys St. Mary, He y cynbaliwyd gwasan- aeth coffa hynod o effeithiol. Chwareuwyd y "Dead March" ar yr Organ, ac awd trwy y gwasanaeth gan y Parchn E. Evans, Ficer Llansadwrn, Mon, ac R. M. Jones, M.A eia Ficer. Gosodwyd ei weddillion i orphwys yn mynwent y plwyf, lie dodwyd nifer fawr o flodeudyrch ar ei fedd. Gedy weddw oedranus ac unig mewn galar ar ei ol, a'r hon y mae cydymdeimlad dwfn.
Marwolaeth Canon Hugh Jones.
Marwolaeth Canon Hugh Jones. Daeth y newydd am farwolaeth Canon Ed- ward Bertram Hugh Jones ar Medi 11, pan ar ei ffordd adref o Ddeheudir Affrica. Trydydd fab ydoedd i'r diweddar Archddiacon Hugh Jones, Llanelwy. Wedi treulio deng mlynedd yn Ysgol Bromsgrove, ac fel Is-brif Athraw Coleg Hyftorddiadol St. John, Battersea, daeth yn Rheithor Ysgol Esgobol Michaelhouse, yn Belgowan, Maritzburg.
Cael dyn wedi ymgrogi yn Llanbedrogf.
Cael dyn wedi ymgrogi yn Llanbedrogf. Boreu LIun, brawychwyd trigolion Llan- bedrog, gan y newydd fod un John Julius George, oedd ya byw yn Summer Hill, ac yn gofalu am y cychod yn nglan y mor, wedi ymgrogi. Cafwyd ef gan Mr. David Evans, Tanymynydd, yn yr adeilad lie y cadwai y cychod, Dywedir ei fod yn ddiweddar wedi cael clwyf y rasal yn drwm, ac fod hyny yn poeni ei feddwl, a thybir fod dylanwad hyny ar ei feddwl. Yr cedd yn ddyn 54 mlwydd; oed, a chanddo wraig,