Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

LLYS METHDALIADOL BLAENAU…

Oymdeithas Llawfer Gymraeg.…

-TALSARNAU.-I

.BURNLEY. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BURNLEY. I Meddyliais y buasai o rbyw ddyddordeb genych gael clywed banes ychydig o Gymry yn y lie hwn, sef Burnley, Lancashire. Yr ydym wedi sefydlu achos bach Cymraeg yma, ac yr oeddym yn flwydd oed y Sul diweddaf, a chawsom gyfarfod pregethu yma i ddathlu pen ein blwydd fel eglwys yn y lie. Da genyf allu dywedyd iddo fod yn hynod o lwyddianus. Y pregethwyr oeddynt y Parch J. B: Parry, Burnley; a Mr H. R. Owen, Didsbury College, Manchester. Cawsom bregeth rymus gan-Mr Owen nos Sadwrn, a chynulleidfa dda wedi dod o bob cyfeiriad '1 glywed pregeth Gymraeg. Pregeihodd Mr Owen prydnawn Sul. a chyd-bregethodd a Mr Parry yn yr hwyr, a'r lie yn orlawn. Ni chaed erioed well gwledd yn Nghymru mewn cyfarfod pregethu. Mae i Mr Owen ddyfodol disglaer o'i flaen. Gwr ieuangc o Corris yw. Mae y Parch J. B. Parry yn dra adnabyddus yn Nghymru. Melus oedd ei glywed yn pregethu mor fendigedig heb yr un brycheuyn ar ei Gymraeg, er ei fod yn gwasanaethu y Saeson yma er's pum* mlynedd a'r hugain. Dyma fath Gymry sydd genym eisiau y dyddiau hyn, i godi'r hen wlad yn ei hol.-R.T.R.

Family Notices

[No title]

IRHYDDFRYDWYR RHANBARTHI FOURCROSSES.

RHYDDFRYDWYR RHANBARTHAUI…

Advertising

OR PEDWAR CWR.

-""""YV-VYVV'VV'V' , BETTWSYCOED.

Marwolaeth Canon Hugh Jones.

Cael dyn wedi ymgrogi yn Llanbedrogf.