Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL ANNI-I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD CHWARTEROL ANNI-I BYNWYR MElRION. Cynhsliwyd yr ucbod yn Salem, Corris, Medi 27 a 28, 1910.Pwyllgorau am un o'r gloch ddydd Mawrth.—Y gynhadledd am ddau o'r gloch, o dan lywyddiaeth y Parch, Owen Davies, Ganllwyd, cadeirydd am y flwyddyn. Gyflwynodd yr ysgrifenydd gylchres o'r Cyfar- fodydd Chwartercl hyd 1922-Y cyfatfod nesaf i'w gynal yn Bethania, Ffestiniog. Parch. E, Evans, Llanegryn, i agor yr ymdrafodaeth ar y ffordd i feithrin brwdfrydedd crefyddol yn ein pob! ieuainc a'r Parch. H. ltdwards, Dyffryn, ar Ddirwest.-Ar gynygiad Mr Hughes, Jeru- salem, a chefnogiad Mr Davies, Brynbowydd, fod deibyniad cynes a cbroesawgar y cyfarfod yn cael ei roddi i'r Parch J. A. Morgan ar ei ymsefydliad yn Nhanygrisiau, gyda dymuno ei lwyddiact a'i gysur.-Penodwyd y personau caclynol i fed yn arholwyr ar y dosbarthiadau 11., III a IV,, y Parch. J. W. Davies, Hyfrydfa T. G. Joseph, Abergynolwyn, a H. Gwion Jones, Bethel. Fod y mater o gael un daflen gerddorol i'r holl Undebau Ysgolion Sul yn cael ei chirio hyd nes y ceir mwy o addfedrwydd barn ar y mater.—Pwyilgor Dirwest: Wedi darken penderfyniad Pwyilgor Dirwestol yr Undeb Cymreig i gael ymgyrch dirwestol y gauaf, aEogwyd fod mwy o sylw yn cael ei roddi i'r Baad of Hope, a da fyddai i frodyr gwahanol gymydogaethau newid a'u gilydd er rhoddi mwy o arbenigrwydd ar ddirwest. Ein bod yn llongyfarch Dr. Uoyd, Towyn, ar ei waith yn enill medal yr Alliance, a hyny gydsg anrhydedd i ymweled a'r eglwysi sr ran y Genhadaeth Dramor :—Dosbarth Ffestiniog. Mri Hughes (Jerusalem) a Morgan (Tanygrisiau); dosbarth Bala, Mri. Davies (Corwen) a Phillips (Bala); dosbarth Dolgellau, Mri. Parri Huws ac Edwards (Dyffryn) dosbarth Towyn, Mt Evans (Pennal) a Dr Lloyd (Towyn), Anog- wyd i'r brodyr ymweled-a boll eglwysi hyd y gellir. Cafwyd hanes dyddorol o weithrediad- au y gynhadledd fawr gynhaliwyd yn Edin- burgh, gan Dr Lloyd, a chredwn i bob calon gael ei chynesu at y gwaith cenhadol trwy hon. Fod y Parch. Owen Davies, Ganllwyd, i ofalu am gasglu at Drysorfa Gweddwon Gweinidog- ion.—Rhoddwyd anogaeth i yswirio ein medd- ianau yn ngbymdeithas yr enwad, yr hon sydd wedi cyfranu pedair mil o bunau i gynorthwyo gwahanol gymdeithasau yr enwad.—Hysbysodd yr ysgrifenydd iddo dderbyn llythyr oddiwrth y Parch. W. Parry, Aberllefeni gynt, Idaho, America, yn awr, fod ef a'i deulu yn iach a chysurus.—Fod yr ysgrifenydd i anfon llythyr at deulu y diweddar Barch. D. Lloyd Jones,, Patagonia, gynt o Bethania, Ffestiniog, Man- chester, Rhuthin, i ddatgan cydymdeimlad y gynbadledd a hwy ac a'r gwladfawyr yn y golled a gawsant yn ei ymadawiad, yr hwn a'r gyfrif ei alluoedd, ei gymeriad, a'i ysbryd gwladgarol, fu o wasanaeth aumbrisiadwy iddyr-t,-Fod ccfion y gynhadledd i gael ei anfon at Mr Morgan Jones a Mrs Jones, Bryn- bowydd, a chydymdeimlad a theuluoedd Mr Jones, Nant, a Jones, Nant yr Eit a; Mr Pugh a Mrs Edwards, Llanuwchllyn aca Mr T. J. Williams, Jerusalem, Ffestiniog.—Am haner awr wedi wyth bcreu Mercher caed cyfeiilacb, o dan lywyddiaeth y Cadeirydd. Dechreuwyd gan Mr Gregory, Dinas. Wedi ychydig eiriau gan y Cadeirydd, galwodd ar y Parch H. Gwicn Jones, Bethel, i agor yr ymdrafodaeth ar Ddisgyblaeth Eglwysig yn ngoleuni dysg eidiaeth Crist." Yr oedd y ppyr yn un cryf, atbronyddo), duwinyddo! ac yn dangcs meddyl- garwch a meistrolaeth cryf, ac y mae dymuniad cryf am iddo ymddangos yn y wasg. Cafwyd ymdrafodaeth fyw gan Mr Hughes, Jerusalem Mr Edwards, Dyffryn; Mr Pari Huws, Dol- gellau, a'r Ysgrifenydd, a chaed cyfarfod buddiol a byw.—Pregethwyd nos Fawith a thrwy ddydd Mercher. Yr oedd eneiniad am- lwg ar yr holl gyfarfodydd, ac y mae Mr Davies a phcbl ei ofal yn gweithio yn rhagorol er gwaethaf y dirwasgiad. Druid, Carwen. J. PRITCHARD, Ysg, Druid, Corwen.

Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol…

GYftJGOR DINESIG BETTWSYCOED.

I PRENTEG.-----

I CYMDEITHAS RHYDDFRYDOL IMEIRIONYDD.

BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

1-1 - - CAPEL CURIO.

Advertising