Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD CHWARTEROL ANNI-I…

Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol Trawsfynydd. Cynhalwyd yr uchod prydcawn a cos Sadwrn, Medi 24sin, Dechreuwyd cyfarfod y prydcawn am 2 o'r gloch o dan lywyddiaeth Mr Evan Jones, C.M., LSanrwst, Arweiniwyd y ddau gyfarfod yn ddeheuig dros ben gan DewiMai c Feiriôn, I ddechreu y cyfarfod, cafwyd detholiad ar y delyn gan y Telynor DaB, yr hwn oedd wedi dyfod yma i wasan- aethu yn y cyfatfodydd, a chafwyd anerchiad rhagorol gan y Llywydd. Enillwyd y gwobrau gan y rlrai canlynol :-Cystadleua-eth unawd, Yr Ecs," i rai dan 12 oed, cyfartal oreu Laura WiiHams, Trawsfynydd, ac Annie Alice Edwards, Manod Road, Bl. Ffestiniog; unavvd "Merch Megan," i rai dan 16 oed, goreu gydag uebel gymsradwyasth Teddy Rowlands, Fron- heulog, 2 Nellie Jones, Llys Arenig, 3 Sally Roberts, Chapel Street; englyn, "Robin Goch," Ednant, Dolgellau; adroddiad, "Y Bywydfad," 1 Alice Edwards, Manod Road, 2 W. C, Williams, Meirionfa; cosy cover, Miss Roberts, Llanfrothen; canu gyda'r tannau, II Llwyn Onn," W. J, Edwards, Highgate Temperance; unawd soprano neu contralto, Can y Preseb," Mrs M. E. Stoddart (Llinos Ceiriog), Bl. Ffestiniog; datganu gyda'r tannau gan Dewi Mai; sideboard cover, Miss Rob- erts, Llanfrothen action song i blant, goreu gydag uchel gymeradwyaeth, cor Mrs Morris, Bronygan, CYFARFOD YR HWYR. Dechreuwyd am 6 o'r gloch, dan lywydd- laeth Owen Owen, Ysw., C.C., Bl. Ffestiniog, [ yr hwn a draddododd anerchiad rhagorol. I [ ddecbreu y cyfarfod, cafwyd can Yr eneth ? ? ?Ios"ganLHnosDwyryd. EciMwydy gwob- rau yn y cyfarfod hwn gan y rhai canlynol Pedwarawd, "Myfanwy," J. Ll. Prodger a'i Syfeiilion, Festiniog; anerchiadau gan y beirdd, ni ddaeth ond un bardd yn mlaen, sef Hedd Wyn unawd baritone, "Profiad plentyn ? taeddwyn," Hugh O. Williams, Manod Rd.; datganu gyda'r delyn gan Dewi Mai, geiriau o'i waith ei hun prif adroddiad, Y ffoadur," William Parry, Namor, Beddgelert; unawd, "Cartref," Miss L. C. Thomas, Hafodfawr isaf, Festiniog; cyfansoddi darn i'w adrodd i blant, cyfartal Glan Machno, Penmachno, Ednant, Dolgellau, ac Eidan Jones, Llithfaen, Pwllheli; parti cymysg o ddeg-unrhyw don, cyfartal parti R. R. Jones, Festiniog, ac Edwin Lloyd, Trawsfynydd; antimacassar, Miss Roberts, Llanfrothen canu gyda'r delyn gan Dewi Mai; par o hosanau, neb yn deilwng; unawd tenor, "Y ferch o'r Seer," J. LI. Prodger; patti meibion, "Toriad y aydd," parti Graigddu, dan arweiniad Mr Edwin Lloyd, Trawsfynydd cor merched, Canig y cIychau," Trawsfynydd, dan arweiniad Mr Ellis Jones, Bodlondeb. Beirniad Cerddorol ydoedd J. J. Thomas, Ysw., Taisarnau Ad- roddiadau, Dewi Maio Feirion; Farddoniaeth, Parch R, R. Morris, Tabernacl, Bl. Ffestiniog. Gwasanaethwyd wrth yr Offeryn yn fedrus fel arfer gan Mrs Morris, Bronygan. Da iawn genym oedd clywed Dewi Mai yn hysbysu y cyfarfod fod y foneddiges ragorol Miss Pugh, Bryngwyn, wedi cyfranu at y drysorfa. Chwith iawn gan bawb weled ei lie yn wag ynddynt. Dymunwn ei hadferiad buan, ac hefyd da oedd genym glywed Dewi Mai yn cyfeirio at y ddau Lywydd am eu rhodclion teilwng. Diolchwto o galon iddynt,

GYftJGOR DINESIG BETTWSYCOED.

I PRENTEG.-----

I CYMDEITHAS RHYDDFRYDOL IMEIRIONYDD.

BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

1-1 - - CAPEL CURIO.

Advertising