Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. Cyfarfu y Cyngor nos Wener pryd yr oedd yn v bresenol Mri. Cadwaladr Foberts(Cadeirydd), Richard Jones (Is gadeirydd), David Wil- liams, Robert Jones, David Davies, Hugh E. Jones, W. J. Rowlands, D. J. Williams, John Jones, Evan T. Pritchard, W. Edwards, R. C. Jones, D. J. Roberts, J. Cadwaladr, Hugh Jones, David Jones. Cadwaladr Morris, R. O. Davies (Clerc), Edward Jones (Clerc Cynorthwyol), Dr. Richard Jones (Swyddog Meddygol); George Davies (Peirianydd ac Arolygydd Iechydol); E. Lewis Evans (Rheolwr gwaith), W. W. Jones (Cyfrifydd). Pwyllgor Addysg Gelfyddydol. Yr oedd y pwyllgor wedi cyfarfod o dan lyw- yddiaeth Mr J. Cadwaladr. Derbyniwyd pedwar cais am Ysgoloriaeth oddiwrth Annie Roberts, Llys Twrog, Tanygrisiau. Nellie Jones, Ffestiniog, Blodwen Roberts, 7, Cwm- bowydd road, a John Roberts, 113. High Street. Pasiwyd iddynt gael Ysgoloriaeth y Cyngor Dinesig yn yr Ysgol Sirol.-Trefnwyd i bwyilgor cyffredinoi Darlithau Gilchrist i gyfarfod er gwneyd y paratoadau.—Caniatawyd cais y St. John's Ambulance Brigade i gael y Market Hall at ymarfer bob nos lau. Y Llyfrgelloedd. Cynhaliwyd dau bwyllgor yn ystod y mis. Cynhaliwyd y cyntaf Medi lSeg. Cadeirydd Parch. R. Silyn Roberts, M.A. Darllenwyd adroddiad y Llyfrgellydd am y mis yn dangos fod 678 wedi eu rboddi allan yn ystod y cbwech wythnos ddiweddaf, ac yn ystod y flwyddyn, 10,229 yn dangos cynydd o 285 ar y flwyddyn flaenorol. Yn adran y Llan, rhoddwyd 46 o lyfrau yn ystod y mis, ar gyfer 45 yr un amser y flwyddyn ddiweddaf. Caed adroddiad y rhai fu trwy y stoc llyfrau, ac yr oeddynt yn cael fod y llyfrau mewn trefn yn y Blaenau, a'r un modd am adran y Llan. Derbyniwyd oddiwrth y dreth lc, £ 153. Y mae mewn liaw wedi taiu y gofynion LC68 Os 10c. Pasiwyd i ofyn i'r Pwyllgor Arianol a fyddai dim modd i roddi cadair y Bardd Cadeiriol yn ol.—Cyn- haliwyd yr ail bwyllgor Medi 27. Cadeirydd, Parch. R. T. Phillips. Penderfynwyd gwario £ 8 i brynu llyfrau newyddion, a tynwyd allan restr o rai Cymraeg a Saesneg, ac i ofyn pris Llyfrwerthwyr yr ardal, a chyhoeddwyr eraill am danynt. Darllenwyd llythyr oddiwrth Llyfr- gellydd y Llan, yn galw sylw at amryw bethau, a phasiwyd rhai cyfnewidiadau, Diolchwyd i Mi. J. Cadwaladr am anrhegu y Llyfrgell a llyfr o'r enw" Gerald, the Welshman." Dar- llenwyd adroddiad Mr. E. Lewis Evans, ar yr hyn sydd eisiau yn y Ty, a'r gest o'i wneyd.— Mr. Cadwaladr a ofynodd a oeddid i ddeall nad oedd mwy nag wyth punt i'w gario ar lyfrau. Yr oedd rhestr faith wedi ei thynu allan, a pris rhai o'r llyfrau oedd arni yn uchel iawn. Dylid bod yn glir cyn pasio y rhestr nad oedd y swm i fyned dros wyth punt. Y Nwy a'r Dwfr. Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor gynhal- iwyd Medi 22ain. Cadeirydd, Mr W. J. Rowlands. Darllenwyd adroddiad yr Arolygydd Nwy am y mis, a phasiwyd ef. Hefyd adrodd- iad y Surveyor ar y goleu, a'r dwfr, a'r Orsaf Dan. Darllenwyd pris y gloch dân, a'r gost o'i gosod, a nodwyd pwyllgor neillduol i edrych i mewn i hyn. Daeth cais o'r Dyffryn am bolion lampau, a phasiwyd eu bod i'w cael am yr un pris a Chynghor Plwyf Dolwyddelen. Pasiwyd fod y pris arferol i'w godi eto yn y dyfodol am ddwfr i gyflenwi y Baths. Galwodd Mr John Jones sylw at fan peryglus wrth Closygraig, a pbasiwyd i alw sylw y tirfeddian- wr at y Ile,-Adroddodd Mr Evans am y dwfr yn y Llyn. Yr oedd yn llai o dros ddwy droedfedd a haner nag ydoedd yr un amser y llynedd. Yr oedd rhywun wedi bod yn ymyraeth a'i Llyn. a phasiwyd i roddi y mater yn Ilaw yr Heddlu.—Y Cadeirydd a sylwodd fod y dwfr yn myned yn lsel iawn yn y llyn, ac y dylid pwyso ar bawb i fod yn gynil iawn o'r dwfr, ac na byddo i ddim fyced yn ofer.—Mr Richard Jones Beth am yr organau sydd yn cael dwfr, ai nid gwell anfon at y capelau am fod yn gynii o'r dwfr. Y mae yn myned yn sobr iawn am ddwfr, ac y mae pethau yn edrych mor gadarn, na chawn ddim gwlaw am amser; a choeliwch chwi fod yn well i ni heb ganu yr organau na bod heb ddim dwfr i'r tai, -Mr Evans a ddywedodd ei fod wedi troi yr afon i mewn i'r llyn heddyw, a bod y dwfr yn lan o'r afon.—Mr J. Cadwaladr Oni ddarfu i ni amser yn ol gondemnio dwfr yr afon hon, pa fodd y mae hi yn dda yn awr, pryd yr oedd yn ddrwg amser yn ol ?—Mr Evans Y mae dwfr yr afon yn lan ar y tywydd yma, ond ni bydd ar wlaw.-Dr Jones a hysbysodd iddo ef a'r Swyddog fod i fyny yn cymeryd peth o'r dwfr, a'u bod wedi ei anfon i'w ddadansoddi, er gweled a ydyw y dwfr yn dda i'w yfed.—Yr oedd Mr Alltwen Williams am ymweled a'r ardal Medi 30 i edrych i mewn i'r cynllun o buro y dwfr. Pwyllgor lechydol a'r Ffyrdd. Cynhaliwyd yr uchod Medi 29. Cadeirydd, Mr Hugh Jones (Chemist). Darllenwyd ad- roddiad yr Arolygydd Iechydol am y mis. Nid oedd ond ungacbos o'r clefydon heintus wedi tori allan yn ystod y mis, ar gyfer 6 y mis blaenorol, a 45 y mis cyferbyniol y llynedd. Cymeradwywyd amryw blaniau mewn trefn i gael sel y Cynghor. Darllenwyd adroddiad y Rheolwr Gwaith, pa un oedd yn dangos yr hyn a wnaed ar y ffyrdd yn ystod y mis, a ehad amcangyfrif ar y gost o wneyd yr Assembly Rooms i fyny cyn y ceir trwydded yr Ynadon. Bydd y gost oddeutu £ 116. Pasiwyd i alw sylw yr Heddgeidwaid at fater neillduol. Fod i welliantau yr Assembly Room i'w gadael ar hyn o bryd. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Thomas Jones, o berthynas i'r ffordd o Dorfil Street i Danygrisiau, yn dywedyd nad oedd ond llwybr ac nid ffordd.-Yr oeddid wedi anfon at Gwmni y Reilffordd Gul i gwyno am y dull anfoddhaol yr adgyweiriwyd pont y Queens ganddynt.—Mr John Jones a ddymunai wybod am ba reswm yr ydym yn myned i ysgrifenu at Gwmni y Llinell Gul o berthynas i'r gwaith a wnaed ar Bont y Queens, A ydyw yr Arol- ygydd wedi gwneyd adroddiad ar y lle.-Mr Robert Jones, Pwy sydd yn cwyno yn erbyn y gwaith.—Mr Hugh Jones, Gadewch i'r Arol- ygydd, a ydyw ef yn cwyno yn erbyn y Ile.- Ar ol i eraill siarad, dywedodd yr Arolygydd fod cwyn yn erbyn un man, ond erbyn heno, y mae y lie wedi ei wneyd i fyny. Pasiwyd i'r achos gael ei ail ystyried gan Bwyllgor y Ffyrdd.—Yr oedd prisiau wedi eu cael oddi wrth Owen a Robert Jones, Llan (5/- y dunell), a'r Ffestiniog Granite Co. (6/- y dunell), am gerrig at Fynwent y Llan,—Mr David Williams a ddymunai wybod paham yr oeddynt yn talu mwy i un person am y cerrig at Fynwent y Llan, tra yr oedd un arall yn cynyg yn is. Eglurodd y Cadeirydd y rheswm. Mr David Williams, A ofynwyd am bris gan Mr Griffith Owen, Bethania ?-Y Swyddog, Naddo. Mr J. Cadwaladr a gynygiai fod i'r achos yma fyned yn ol i'r Pwyllgor, ac i gael ail brisiad, a bod i Griffith Owen i gael rhoddi ei bris i mewn.—Cefncgwyd gan Mr David Williams, a phasiwyd.-Argymellai y Pwyllgor i dalu punt i Mri Soames & Co. yn nglyn ag ystablau y Manjod Hotel, lle'r honid i'r gweithwyr wneyd niwed i'r adeilad wrth wneyd ffos yno. Mr David Williams a alwodd sylw at yr hyn a wneir er ceisio darparu ar gyfer gormodedd o ddwfr ar adegau yn y gwaith carthio, Cwm- bowydd, ac mai dyledswydd y Cyngor ydyw darparu mewn mannau eraill i atal y dwfr, ac nid yn Cwmbowydd. Wedi siarad am amser maith, pasiwyd i'r achos fyned yn ol i'r Pwyll- gor Iechydol i'w ail ystyried. Dr Jones a ddywedodd fod rhif y genedig- aethau am y mis diweddaf yn 14; a'r marwol- aethau 13. Nid oedd neb dan yr un afiechyd heintus yn yr ardal, a sefyllfa y plwyf yn hynod dda oddiwrth afiechyd a'r marwolaethau yn isel o dan y cyfartaledd arferol, I Hysbysebu a Chynygion. Y Clerc a alwai sylw at y priodoldeb o hysbysebu mewn achosion yr oedd eisiau prisiau. Mr. D. J. Roberts a gynygiai hysbysebu. Cefnogwyd gan Mr. E. T. Pritchard, ond fad y Cyngor i basio pa beth i'w hysbysebu; a phasiwyd,—Mr. Hugh Jones a ddym?na: gynyg nad ces yr un cyanyg am waith i'r Cyngor i gael ei agor ond mewn cyfarfod o'r Cyngor, oherwydd y mae yn amlwg fod rhai yn cario o'r pwyllgorau y gwahanol brisiau i'r cynygwyr a'r rhai hynny yn anfon cynygion gwahanol. Cefnogwyd gan Mr. David Jones, a phasiwyd.-Derbyniwyd dau bris am wneyd yr hyn a ofynir yn y Farchnadfa at agor Swyddfa y Ffair Llafur, am y gwaith coed:—Edward Humphreys, £ 6 15s; Griffith Roberts £ 8 5s. Eto am baentio y Ile, William Lewis £ 3 10s: R. B. Davies 4_4 5s; J. O. Thomas £ 5 10s Thomas Edwards £ 3 18s 9c. Pasiwyd i dderbyn cynygion Edward Humphreys a William Lewis, I Pwyllgor Arianol. Cynhaliwyd hwn Hydref 4, Cadeirydd, Mr Owen Jones. Pasiwyd i dalu cyflogau a biliau y mis, £ 426 3s. Casgliad yn ystod y rnis 6335 17s 8c. Pasiwyd i anfon at Mr G. R, Davies, Bethania, i'w hysbysu nas gallent wneyd dim i'r Assembly Room yn baesenol. Caniatawyd cais Mr Evan Ellis, Garreglwyd, i dalu iddo bunt am drespass ar ei dir. Daeth cais oddi- wrth Mr J, D. Jones am trespass yn Rhiw. Nodwyd pwyllgor i edrych y He. Yr oedd tri neu bed war cais am y Pump. Pasiwyd i anfon y bill i berchenogion chwarel y Diphwys am fenthyg y Pump.-David: Jones a godai i sylw achos y Pump gan eu bod wedi methu ei werthu Mr G. H. Ellis ar y telerau cynygiedig yn flaenorol. Mr Robert Jones a gefnogai. Mr D. J. Roberts fel gweliiant a gynygiai ohirio am fis, nes cael y tal dyledus am ei fenthyg i ddechreu. Pleidleisiwyd a chariwyd y gwelliant, sef i ohirio am fis. Rhoddodd Mr Owen Jones ei adroddiad o'i ymweliad gyda'r Clerc, a dywedai iddo fyned yn fanwl trwy y cyfrif gydag ef. Eglurai y Cadeirydd fod yr anhawsder wedi codi o berthynas i waith y Clerc fel Cyfreithiwr. Yr oeddynt wedi bod trwy y bill yn fanwl, ac ymddangosai fod y swm o £ 6 12s 2c yn dal perthynas a gwaith y Clerc fel Cyfreithiwr lleol, ond yr oedd y Clerc yn barod i beidio cymeryd y swm hwn, ac felly yr oedd ef (Mr Owen Jones) yn argymell y pwyllgor i dalu y gweddill, ac hefyd i gael gweU dealltwriaeth gyda'r Clerc yn y dyfodol gyda golwg ar ei dreuliau cyfreithiol, ac yr oedd y Clerc mor awyddus a hwythau am y cyfryw ddealltwriaeth, Yn ddilynol, pasiwyd i fabwysiadu adroddiad y Cadeirydd, ac fod y swm o £ 39 6s 5c i'w dalu i'r Clerc i setlo y cyfrif,—Mr Hugh Jones (Chemist), a ofynodd pa beth oedd dyledswyddau y Clerc, ac am pa beth yr oeddynt yd talu cyflog iddo. Y mae yn amser i ni wybod pa le yr ydym. Dyma ni wedi talu costau cyfreithiol o agos i £ 40 i gael £ 50 (ac yr oedd y swm yn llawer mwy yn y dechreu). Mae yn y bil gostau trafaelio, ysgrifenu llythyrau, a phethau eraill nad oedd ef yn eu Oeall,-y Cadeirydd: Y mae Mr Owen Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Arianol, wedi bod trwy y bill, ac wedi myned trwy y cyfan yn fanw], a rhaid i ni ymdsiried iddo ef, ac y smae diolchgarwch wedi ei roddi iddo am ei waith, ac y mae pwyllgor wedi ei nodi i edrych i mewn pa beth yw ei waith fel Twrne y Cyngor yn y dyfodol. Wedi peth siarad, gadawyd y mater. I Llythyrau. Daeth llythyr o berthynas i'r dwfr oddiwrth Mr John Hughes, The Square. Pasiwyd i edrych y gwyn. Cais am ysgoloriaeth y Cyngor ac adroddiad Mr Dodd am y disgyblion y flwyddyn ddiwedd- af. Caniatawyd cais am drefnu lamp yn y Rhiw, wrth Gapel Salem (A). Anfonodd Mr Thomas Penny, Neuadd Ddu, gais am ddwfr. Pasiwyd i edrych pa faint fydd y gost i fyned a'r dwfr yno, Daeth llythyr oddiwrth Bodwyr y Blaenau eisiau gostyngiad yn y Coke; anfonwyd y llythyr i'w ystyried yn y Pwyllgor Nwy a'r Dwfr. I It I Hysbyswyd mai y :gost i wneyd y gwelliant yn Hall y Llan fydd 4p 17s 6c. Pasiwyd i dderbyn y cynygiad a'r Cyngor i dalu. I Puro y Dwfr. Cynhaliwyd Cyngorau Neillduol Medi 30, a Hydref 1. Cadeirydd Mr Cadwaladr Roberts. Yr oedd Mr Alltwen Williams yn bresenol yn egluro y planiau o berthynas o'r hyn fyddai yn welliant gyda'r dwfr yn Llyn y Morwynion, Pasiwyd fod i'r Cyngor ymweled a Llyn y Morwynion, a dydd Sadwrn Hydref 1 ymwel- asant a'r lie, a phasiwyd i wneyd rhai gwell- iantau oddiamgylch i'r Llyn. Yr oedd cynllun Mr Williams yn un manwl a thrwyadl, a gal- wodd sylw at y ffaith nad oedd y pibellau o'r Llyn i Junction y Llan wedi eu glanhau ac amcangyfrifai y gost yn 50p.

Oyfarfod Chwarterol y Wesleyaid.

i; O BORTHMADOG I BWLLHELS,I

Family Notices

I HEDDLYS BETTWSYCOED.

PENRHYNDEUDRAETH. I

Advertising

I TRAWSFYNYDD.

TALSARNAU.

IPENMACHNO.---