Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

Oyfarfod Chwarterol y Wesleyaid.

i; O BORTHMADOG I BWLLHELS,I

Family Notices

I HEDDLYS BETTWSYCOED.

PENRHYNDEUDRAETH. I

Advertising

I TRAWSFYNYDD.

TALSARNAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TALSARNAU. ARWERTHIANT .-Cafodd Mr Henry Roberts Porthmadoc, arwerthiant llwyddianus dros ben ddydd Gwener ar eiddo y diweddar Mr. J. R. Pritchard yn y plwyf hwn. Prynwyd Ty Newydd, fferm o saith erw, yn rhentu £ 20, gan Mr. Cane, Goruchwyliwr Arglwydd Harlech, am £ 445 Carreg 'Ro, fferm arall yn ymyl o naw erw am £545, yr hon a "rentid yn £ 15. Ty Gwyn, fferm o £ 19 erw, gan yr un un am £ 570. Prynodd Mr. Jones Lloyd, ei fferm o ddeng erw am £ 570, yr hon a rentid yn £ 17. Prynodd Cadben Roberts, Tygwyn, chwech o dai am £ 600. Prynwyd Hen dy Gwyn y Gamlas gan Mr. Dan Williams, Porthmadoc, am £ 60, Cafwyd Cyfarfod Pregethu rhagorol yn Soar (W.) eleni eto, y weinidogaeth yn rymus neillduol. Nid oes dim tebyg i'r Efengyl am dynu pobl at eu gilydd, a'u cadw heb flino yn gwrandaw arni yn cael ei thraddodi: Gallu Duw yw hi" o hyd. Yn Nghymdeithas Bethel, nos snI, caed Cyfarfod Amrywiaethol mewn canu ac adrodd. Deuawd gan Miss E. Thomas a Miss E. A. Ellis, Darlleniad gan Mr. Ted Pugh Parry, Can gan Miss Thomas, Glanllyn. Yn Moriah, Harlech, cynhaliwyd Cyfarfod Dosbarth perthynbl i'r M.C. Dosbarth y Dyffryn. Darllenwyd Papur gan y Parch. R. Evans ar Eiriolaeth Crist." Yn dilyn yr oedd Cynhadledd Ysgolion y Dosbarth. Yr oedd nifer dda o gynrychiolwyr o'r gwahanol Ysgolion wedi dod yn nghyd. Yn ystod y Cyfarfod darHenwyd Papur gan Mr. J. J. Thomas, Iscoed, ar Y pwysigrwydd i'r Athraw baratoi ar gyfer y Dosbarth, a'r un modd y Dosbarth ar gyfer yr Athraw." Disgwyliwn y ceir y Papur i'w ddarllen eto yn yr Ysgolion. vwvwwwwvwwvwwwww

IPENMACHNO.---