Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.
CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. Cyfarfu y Cyngor nos Wener pryd yr oedd yn v bresenol Mri. Cadwaladr Foberts(Cadeirydd), Richard Jones (Is gadeirydd), David Wil- liams, Robert Jones, David Davies, Hugh E. Jones, W. J. Rowlands, D. J. Williams, John Jones, Evan T. Pritchard, W. Edwards, R. C. Jones, D. J. Roberts, J. Cadwaladr, Hugh Jones, David Jones. Cadwaladr Morris, R. O. Davies (Clerc), Edward Jones (Clerc Cynorthwyol), Dr. Richard Jones (Swyddog Meddygol); George Davies (Peirianydd ac Arolygydd Iechydol); E. Lewis Evans (Rheolwr gwaith), W. W. Jones (Cyfrifydd). Pwyllgor Addysg Gelfyddydol. Yr oedd y pwyllgor wedi cyfarfod o dan lyw- yddiaeth Mr J. Cadwaladr. Derbyniwyd pedwar cais am Ysgoloriaeth oddiwrth Annie Roberts, Llys Twrog, Tanygrisiau. Nellie Jones, Ffestiniog, Blodwen Roberts, 7, Cwm- bowydd road, a John Roberts, 113. High Street. Pasiwyd iddynt gael Ysgoloriaeth y Cyngor Dinesig yn yr Ysgol Sirol.-Trefnwyd i bwyilgor cyffredinoi Darlithau Gilchrist i gyfarfod er gwneyd y paratoadau.—Caniatawyd cais y St. John's Ambulance Brigade i gael y Market Hall at ymarfer bob nos lau. Y Llyfrgelloedd. Cynhaliwyd dau bwyllgor yn ystod y mis. Cynhaliwyd y cyntaf Medi lSeg. Cadeirydd Parch. R. Silyn Roberts, M.A. Darllenwyd adroddiad y Llyfrgellydd am y mis yn dangos fod 678 wedi eu rboddi allan yn ystod y cbwech wythnos ddiweddaf, ac yn ystod y flwyddyn, 10,229 yn dangos cynydd o 285 ar y flwyddyn flaenorol. Yn adran y Llan, rhoddwyd 46 o lyfrau yn ystod y mis, ar gyfer 45 yr un amser y flwyddyn ddiweddaf. Caed adroddiad y rhai fu trwy y stoc llyfrau, ac yr oeddynt yn cael fod y llyfrau mewn trefn yn y Blaenau, a'r un modd am adran y Llan. Derbyniwyd oddiwrth y dreth lc, £ 153. Y mae mewn liaw wedi taiu y gofynion LC68 Os 10c. Pasiwyd i ofyn i'r Pwyllgor Arianol a fyddai dim modd i roddi cadair y Bardd Cadeiriol yn ol.—Cyn- haliwyd yr ail bwyllgor Medi 27. Cadeirydd, Parch. R. T. Phillips. Penderfynwyd gwario £ 8 i brynu llyfrau newyddion, a tynwyd allan restr o rai Cymraeg a Saesneg, ac i ofyn pris Llyfrwerthwyr yr ardal, a chyhoeddwyr eraill am danynt. Darllenwyd llythyr oddiwrth Llyfr- gellydd y Llan, yn galw sylw at amryw bethau, a phasiwyd rhai cyfnewidiadau, Diolchwyd i Mi. J. Cadwaladr am anrhegu y Llyfrgell a llyfr o'r enw" Gerald, the Welshman." Dar- llenwyd adroddiad Mr. E. Lewis Evans, ar yr hyn sydd eisiau yn y Ty, a'r gest o'i wneyd.— Mr. Cadwaladr a ofynodd a oeddid i ddeall nad oedd mwy nag wyth punt i'w gario ar lyfrau. Yr oedd rhestr faith wedi ei thynu allan, a pris rhai o'r llyfrau oedd arni yn uchel iawn. Dylid bod yn glir cyn pasio y rhestr nad oedd y swm i fyned dros wyth punt. Y Nwy a'r Dwfr. Cyflwynwyd adroddiad y pwyllgor gynhal- iwyd Medi 22ain. Cadeirydd, Mr W. J. Rowlands. Darllenwyd adroddiad yr Arolygydd Nwy am y mis, a phasiwyd ef. Hefyd adrodd- iad y Surveyor ar y goleu, a'r dwfr, a'r Orsaf Dan. Darllenwyd pris y gloch dân, a'r gost o'i gosod, a nodwyd pwyllgor neillduol i edrych i mewn i hyn. Daeth cais o'r Dyffryn am bolion lampau, a phasiwyd eu bod i'w cael am yr un pris a Chynghor Plwyf Dolwyddelen. Pasiwyd fod y pris arferol i'w godi eto yn y dyfodol am ddwfr i gyflenwi y Baths. Galwodd Mr John Jones sylw at fan peryglus wrth Closygraig, a pbasiwyd i alw sylw y tirfeddian- wr at y Ile,-Adroddodd Mr Evans am y dwfr yn y Llyn. Yr oedd yn llai o dros ddwy droedfedd a haner nag ydoedd yr un amser y llynedd. Yr oedd rhywun wedi bod yn ymyraeth a'i Llyn. a phasiwyd i roddi y mater yn Ilaw yr Heddlu.—Y Cadeirydd a sylwodd fod y dwfr yn myned yn lsel iawn yn y llyn, ac y dylid pwyso ar bawb i fod yn gynil iawn o'r dwfr, ac na byddo i ddim fyced yn ofer.—Mr Richard Jones Beth am yr organau sydd yn cael dwfr, ai nid gwell anfon at y capelau am fod yn gynii o'r dwfr. Y mae yn myned yn sobr iawn am ddwfr, ac y mae pethau yn edrych mor gadarn, na chawn ddim gwlaw am amser; a choeliwch chwi fod yn well i ni heb ganu yr organau na bod heb ddim dwfr i'r tai, -Mr Evans a ddywedodd ei fod wedi troi yr afon i mewn i'r llyn heddyw, a bod y dwfr yn lan o'r afon.—Mr J. Cadwaladr Oni ddarfu i ni amser yn ol gondemnio dwfr yr afon hon, pa fodd y mae hi yn dda yn awr, pryd yr oedd yn ddrwg amser yn ol ?—Mr Evans Y mae dwfr yr afon yn lan ar y tywydd yma, ond ni bydd ar wlaw.-Dr Jones a hysbysodd iddo ef a'r Swyddog fod i fyny yn cymeryd peth o'r dwfr, a'u bod wedi ei anfon i'w ddadansoddi, er gweled a ydyw y dwfr yn dda i'w yfed.—Yr oedd Mr Alltwen Williams am ymweled a'r ardal Medi 30 i edrych i mewn i'r cynllun o buro y dwfr. Pwyllgor lechydol a'r Ffyrdd. Cynhaliwyd yr uchod Medi 29. Cadeirydd, Mr Hugh Jones (Chemist). Darllenwyd ad- roddiad yr Arolygydd Iechydol am y mis. Nid oedd ond ungacbos o'r clefydon heintus wedi tori allan yn ystod y mis, ar gyfer 6 y mis blaenorol, a 45 y mis cyferbyniol y llynedd. Cymeradwywyd amryw blaniau mewn trefn i gael sel y Cynghor. Darllenwyd adroddiad y Rheolwr Gwaith, pa un oedd yn dangos yr hyn a wnaed ar y ffyrdd yn ystod y mis, a ehad amcangyfrif ar y gost o wneyd yr Assembly Rooms i fyny cyn y ceir trwydded yr Ynadon. Bydd y gost oddeutu £ 116. Pasiwyd i alw sylw yr Heddgeidwaid at fater neillduol. Fod i welliantau yr Assembly Room i'w gadael ar hyn o bryd. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Thomas Jones, o berthynas i'r ffordd o Dorfil Street i Danygrisiau, yn dywedyd nad oedd ond llwybr ac nid ffordd.-Yr oeddid wedi anfon at Gwmni y Reilffordd Gul i gwyno am y dull anfoddhaol yr adgyweiriwyd pont y Queens ganddynt.—Mr John Jones a ddymunai wybod am ba reswm yr ydym yn myned i ysgrifenu at Gwmni y Llinell Gul o berthynas i'r gwaith a wnaed ar Bont y Queens, A ydyw yr Arol- ygydd wedi gwneyd adroddiad ar y lle.-Mr Robert Jones, Pwy sydd yn cwyno yn erbyn y gwaith.—Mr Hugh Jones, Gadewch i'r Arol- ygydd, a ydyw ef yn cwyno yn erbyn y Ile.- Ar ol i eraill siarad, dywedodd yr Arolygydd fod cwyn yn erbyn un man, ond erbyn heno, y mae y lie wedi ei wneyd i fyny. Pasiwyd i'r achos gael ei ail ystyried gan Bwyllgor y Ffyrdd.—Yr oedd prisiau wedi eu cael oddi wrth Owen a Robert Jones, Llan (5/- y dunell), a'r Ffestiniog Granite Co. (6/- y dunell), am gerrig at Fynwent y Llan,—Mr David Williams a ddymunai wybod paham yr oeddynt yn talu mwy i un person am y cerrig at Fynwent y Llan, tra yr oedd un arall yn cynyg yn is. Eglurodd y Cadeirydd y rheswm. Mr David Williams, A ofynwyd am bris gan Mr Griffith Owen, Bethania ?-Y Swyddog, Naddo. Mr J. Cadwaladr a gynygiai fod i'r achos yma fyned yn ol i'r Pwyllgor, ac i gael ail brisiad, a bod i Griffith Owen i gael rhoddi ei bris i mewn.—Cefncgwyd gan Mr David Williams, a phasiwyd.-Argymellai y Pwyllgor i dalu punt i Mri Soames & Co. yn nglyn ag ystablau y Manjod Hotel, lle'r honid i'r gweithwyr wneyd niwed i'r adeilad wrth wneyd ffos yno. Mr David Williams a alwodd sylw at yr hyn a wneir er ceisio darparu ar gyfer gormodedd o ddwfr ar adegau yn y gwaith carthio, Cwm- bowydd, ac mai dyledswydd y Cyngor ydyw darparu mewn mannau eraill i atal y dwfr, ac nid yn Cwmbowydd. Wedi siarad am amser maith, pasiwyd i'r achos fyned yn ol i'r Pwyll- gor Iechydol i'w ail ystyried. Dr Jones a ddywedodd fod rhif y genedig- aethau am y mis diweddaf yn 14; a'r marwol- aethau 13. Nid oedd neb dan yr un afiechyd heintus yn yr ardal, a sefyllfa y plwyf yn hynod dda oddiwrth afiechyd a'r marwolaethau yn isel o dan y cyfartaledd arferol, I Hysbysebu a Chynygion. Y Clerc a alwai sylw at y priodoldeb o hysbysebu mewn achosion yr oedd eisiau prisiau. Mr. D. J. Roberts a gynygiai hysbysebu. Cefnogwyd gan Mr. E. T. Pritchard, ond fad y Cyngor i basio pa beth i'w hysbysebu; a phasiwyd,—Mr. Hugh Jones a ddym?na: gynyg nad ces yr un cyanyg am waith i'r Cyngor i gael ei agor ond mewn cyfarfod o'r Cyngor, oherwydd y mae yn amlwg fod rhai yn cario o'r pwyllgorau y gwahanol brisiau i'r cynygwyr a'r rhai hynny yn anfon cynygion gwahanol. Cefnogwyd gan Mr. David Jones, a phasiwyd.-Derbyniwyd dau bris am wneyd yr hyn a ofynir yn y Farchnadfa at agor Swyddfa y Ffair Llafur, am y gwaith coed:—Edward Humphreys, £ 6 15s; Griffith Roberts £ 8 5s. Eto am baentio y Ile, William Lewis £ 3 10s: R. B. Davies 4_4 5s; J. O. Thomas £ 5 10s Thomas Edwards £ 3 18s 9c. Pasiwyd i dderbyn cynygion Edward Humphreys a William Lewis, I Pwyllgor Arianol. Cynhaliwyd hwn Hydref 4, Cadeirydd, Mr Owen Jones. Pasiwyd i dalu cyflogau a biliau y mis, £ 426 3s. Casgliad yn ystod y rnis 6335 17s 8c. Pasiwyd i anfon at Mr G. R, Davies, Bethania, i'w hysbysu nas gallent wneyd dim i'r Assembly Room yn baesenol. Caniatawyd cais Mr Evan Ellis, Garreglwyd, i dalu iddo bunt am drespass ar ei dir. Daeth cais oddi- wrth Mr J, D. Jones am trespass yn Rhiw. Nodwyd pwyllgor i edrych y He. Yr oedd tri neu bed war cais am y Pump. Pasiwyd i anfon y bill i berchenogion chwarel y Diphwys am fenthyg y Pump.-David: Jones a godai i sylw achos y Pump gan eu bod wedi methu ei werthu Mr G. H. Ellis ar y telerau cynygiedig yn flaenorol. Mr Robert Jones a gefnogai. Mr D. J. Roberts fel gweliiant a gynygiai ohirio am fis, nes cael y tal dyledus am ei fenthyg i ddechreu. Pleidleisiwyd a chariwyd y gwelliant, sef i ohirio am fis. Rhoddodd Mr Owen Jones ei adroddiad o'i ymweliad gyda'r Clerc, a dywedai iddo fyned yn fanwl trwy y cyfrif gydag ef. Eglurai y Cadeirydd fod yr anhawsder wedi codi o berthynas i waith y Clerc fel Cyfreithiwr. Yr oeddynt wedi bod trwy y bill yn fanwl, ac ymddangosai fod y swm o £ 6 12s 2c yn dal perthynas a gwaith y Clerc fel Cyfreithiwr lleol, ond yr oedd y Clerc yn barod i beidio cymeryd y swm hwn, ac felly yr oedd ef (Mr Owen Jones) yn argymell y pwyllgor i dalu y gweddill, ac hefyd i gael gweU dealltwriaeth gyda'r Clerc yn y dyfodol gyda golwg ar ei dreuliau cyfreithiol, ac yr oedd y Clerc mor awyddus a hwythau am y cyfryw ddealltwriaeth, Yn ddilynol, pasiwyd i fabwysiadu adroddiad y Cadeirydd, ac fod y swm o £ 39 6s 5c i'w dalu i'r Clerc i setlo y cyfrif,—Mr Hugh Jones (Chemist), a ofynodd pa beth oedd dyledswyddau y Clerc, ac am pa beth yr oeddynt yd talu cyflog iddo. Y mae yn amser i ni wybod pa le yr ydym. Dyma ni wedi talu costau cyfreithiol o agos i £ 40 i gael £ 50 (ac yr oedd y swm yn llawer mwy yn y dechreu). Mae yn y bil gostau trafaelio, ysgrifenu llythyrau, a phethau eraill nad oedd ef yn eu Oeall,-y Cadeirydd: Y mae Mr Owen Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Arianol, wedi bod trwy y bill, ac wedi myned trwy y cyfan yn fanw], a rhaid i ni ymdsiried iddo ef, ac y smae diolchgarwch wedi ei roddi iddo am ei waith, ac y mae pwyllgor wedi ei nodi i edrych i mewn pa beth yw ei waith fel Twrne y Cyngor yn y dyfodol. Wedi peth siarad, gadawyd y mater. I Llythyrau. Daeth llythyr o berthynas i'r dwfr oddiwrth Mr John Hughes, The Square. Pasiwyd i edrych y gwyn. Cais am ysgoloriaeth y Cyngor ac adroddiad Mr Dodd am y disgyblion y flwyddyn ddiwedd- af. Caniatawyd cais am drefnu lamp yn y Rhiw, wrth Gapel Salem (A). Anfonodd Mr Thomas Penny, Neuadd Ddu, gais am ddwfr. Pasiwyd i edrych pa faint fydd y gost i fyned a'r dwfr yno, Daeth llythyr oddiwrth Bodwyr y Blaenau eisiau gostyngiad yn y Coke; anfonwyd y llythyr i'w ystyried yn y Pwyllgor Nwy a'r Dwfr. I It I Hysbyswyd mai y :gost i wneyd y gwelliant yn Hall y Llan fydd 4p 17s 6c. Pasiwyd i dderbyn y cynygiad a'r Cyngor i dalu. I Puro y Dwfr. Cynhaliwyd Cyngorau Neillduol Medi 30, a Hydref 1. Cadeirydd Mr Cadwaladr Roberts. Yr oedd Mr Alltwen Williams yn bresenol yn egluro y planiau o berthynas o'r hyn fyddai yn welliant gyda'r dwfr yn Llyn y Morwynion, Pasiwyd fod i'r Cyngor ymweled a Llyn y Morwynion, a dydd Sadwrn Hydref 1 ymwel- asant a'r lie, a phasiwyd i wneyd rhai gwell- iantau oddiamgylch i'r Llyn. Yr oedd cynllun Mr Williams yn un manwl a thrwyadl, a gal- wodd sylw at y ffaith nad oedd y pibellau o'r Llyn i Junction y Llan wedi eu glanhau ac amcangyfrifai y gost yn 50p.
Oyfarfod Chwarterol y Wesleyaid.
Oyfarfod Chwarterol y Wesleyaid. Cynhaliwyd yr uchod yn Soar, Rhiwbryfdir, Blaenau Ffestiniog, Hydref 8. Yr oedd yn bresenol y Parchn P. J. Roberts, Rhys Jones a J. Pugh Jones, ynghyd a chynrychiolaeth rag- orol o'r eglwysi. Datganodd y Cadeirydd ei lawenydd o weled Mr Griffith Jones yn bresenol gan ddymuno iddo lawer o flwyddi i wasan- aethu eglwys Iesu Grist. Yn gymaint ag'mai dyma y cyfarfod cyntaf. i'r Parchn Rhys Jones a J. Pugh Jones rhodd- wyd croesaw cynhes i'r ddau, gan ddymuno iddynt bob hapusrwydd, yn ogystal a gobeithio y gwelant ffrwyth lawer i'w llafur tra yn y cylch. Pasiwyd anfon llythyrau cydymdeimlad a theuluoedd mewn trallodion trwy farwolaethau ac afiechydon. Pasiwyd yn hytrach na. chynal Cyfarfodydd Cenhadol fel arfer, ac eithrio Maentwrog, fod pregethau cenhadol i gael eu traddodi ar nos Sul, ac i'r Adroddiad gael ei ddarllen yr un pryd. Bu sylw ar "Hanes Wesleyaid Cymreig," pa un sy'n cael ei baratoi gan Dr Hugh Jones, a gwesgid ar holl 'eglwysi y cylch roddi cefnog- aetb deilwng i'r cyfryw. Darllenwyd cylchlythyr oddiwrth Mr W. O. Jones, Bangor yn galw sylw y cyfarfod at ben- derfyniad y cyfarfod Cyllidol yn yr Abermaw, gyda golwg ar y priodoldeb o godi Cofgolofn ar fedd y diweddar Mr William Roberts, Maentwrog, a phasiwyd cydymffurfio a'r pen- derfyniad ac i fod yn bob cynorthwy i Mr W. O. Jonas yn yr eglwysi i ddwyn y mudiad trwodd yn llwyddianus Diolchwyd i Mr L, P. Williams am wasan- aethu fel ysgrifenydd dirwestol, ac oblegid ei ymadawiad nodwyd Mr Edward Jones, cyf- reithiwr i wasanaethu yn ei Ie. Diolchwyd i'r Mri G. G, Roberts a W. 0, Jones, Ysgrifenydd a Thrysorydd y Genhadaeth Dramor, a phasiwyd iddynt barhau. Pasiwyd fod Cynhadledd o holl Swyddogion, Athrawon, Ymddiriadolwyr, &c y cylch i'w chynal yn nglyn a'r Cyfarfod Chwarterol cesaf. Hysbyswyd i'r cyfarfod barodrwydd y Parch R. Jones Williams, Bangor, ddyfodynolynydd i'r Parch Edward Davies. Rhoddwyd rhybudd gan Mr Rd. Roberts, Disgwylfa, y bydd yn cynyg yn y cyfarfod nesaf am i'r cyfarfod gael pleidleisio trwy'r! Tugel (Ballot) pan yn derbyn ymgeisydd yn gyfiawn bregethwr. Arholwyd gan y Parch P. J. Roberts, Mr J. Hugh Roberts, a bydd yn myned trwy yr un cwrs yn fuan eto.—GOH. A/WVWSAAA^VWWVW^AVW^A
i; O BORTHMADOG I BWLLHELS,I
i; O BORTHMADOG I BWLLHELS, Deallwn fod y gwr ieuangc talentog y Parch Morris Thomas, B.A., Aber, wedi dechreu ar ei waith bugeiliol yn eglwysi Penmorfa, Rhoddir croesaw cynes i'r syniad o wabodd yr Arddangosfa Genedlaethol i Borthmadcg y flwyddyn nesaf. Mae eisoes addewidion am gyfraniadau o [120 ar ei chyfer. Mae y cymerwr yn sgoshau at orphen gosod y pibeHau gwaith nwv yn Mhorthmadog, A gwyneba'r Cyngor yn awr ar y gorchwyl o weithio allan y Carthffosi yn Mhorthmadog a Thremadog, Bu Pwyllgor Ymrysonfa Cwn Defaid Dyffryn Madog yn cyfarfod yr wythnos ddiweddaf. Mynegodd Mr O. J. Roberts, New Street, yr Ysgrifenydd, fod swm sylweddol yn weddill ar ol talu y treuliau. Pasiwyd i roddi pum' punt o rodd i Mr Roberts am ei lafur fel Ysgrifenydd. Mae Canghellydd y Trysorlys wedi pender- fynu anrhegu pent ref Llanystumdwy-pentref ei faboed—a Llyfrgell a Darllenfa Rydd. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd nos Lun, datgan- wyd ofnau nas gellir cael hen gartref Mr Lloyd George i'r pwrpas o'i hadeiladu. Gresyn hyny, ond sicrheir lie pwrpasol yn ddiau. Sicrhawyd £211 oddiwrth Bazaar capel Seion, Criccieth. yr wythnos o'r blaen. Cafwyd cyfarfodydd dyddorol yn Nghym- deithas Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd yr wythnos ddiweddaf. Y Parch J. R. Williams oedd y ilywydd eleni, a Dr Rowlands, Llanael- haiarn, a etholwyd yn Ilywydd at y flwyddyn nesaf. Caed anerchiadau rhagorol yn nghyn- hadledd y prydnawn gan Mrs Owen Prichard, Nefyn, a Mr William George; ac yn nghyf- arfod yr hwyr rhoddwyd anrhegion priodasol i Mr George, ar achlysur ei briodas, gan y Gymdeithas. Caed anerchiadau campus yn yr hwyr gan y Parchn Glyn Davies a Gwynfryn Jones, Cymer brwydr etholiadol le yn mhlwyf Abererch am sedd ar Fwrdd Undeb Pwllheli i olynu Mr J. F. Roberts, Gromlech, Mr John Elias, Ty Cam, a Mr Samuel Roberts, Aber- erch, ydyw yr ymgeiswyr, a'r dydd Sadwrn nesaf y mae "dydd y cyfrif." Mae Mr Lloyd George a Mr Edward T. John, Middlesborough, wedi addaw dod i agor Bazaar Ciwb Rhyddfrydol Pwllheli yn Ionawr,
Family Notices
Genedigaethau, THOMAS.—Hydref 8fed, priod Mr William Thomas, 88,.High Street, Blaenau, ar fab. I
I HEDDLYS BETTWSYCOED.
I HEDDLYS BETTWSYCOED. I ACHOSION 0 DOLWYDDELEN. Dydd Sadwrn, o flaen y Milwriad Johnstone (cadeirydd); L, W. Jelf Petit, a William Hughes, Ysweiniaid. Penodwyd yr ynadpn a ganlyn i weithredu o dan Ddeddf Gwallgofiaid (1890), Col. John- stone, L. W. Jelf Petit, Robert Parry, E. C. Buxton, George Bovill a T. P. Osborne Yale. Yr Heddgeidwad R. Evans a gyhuddodd Hugh Hughes, Ty'nycoed, Dolwyddelen, o fod yn feddw ac afreolus Medi 19. Dywedodd y Swyddog iddo gael y Diffynydd wrth gae Arddangosfa Llanrwst tua haner awr wedi wyth y nos, yn codi cynwrf, a phan ofynwyd iddo fyned i ffwrdd yr oedd eisiau ymladd a'r tyst.-Hysbysodd Rhingyll Breeze i'r Diffyn- ydd gael ei anfon i garchar am ddau fis bum' mlynedd yn ol am ymosod ar un o'r Heddlu yn Llanrwst.-Dirwy 5s. a'r costau, a dywed- odd y 'Cadeirydd y buasid yn delio yn drwm ag ef pe buasai wedi ymosod ar y swyddog. Gwysiwyd Thomas Lunt, Bronderw, Dol- wyddelen, am fod yn feddw ar yr un achlysur a'r diffynydd diweddaf.—Yr Heddgeidwad Evans a dystiodd fod Lunt gyda Hughes wrtb Cae yr Arddangosfa, a phan ofynodd iddo fyned adref. aeth yn dawel.—Y Rhingyll Breeze a ddywedodd iddo weled y diflynydd Medi 29, ac iddo addef ei fod wedi cael gormod o ddiod Medi 19 ond na chlywsid dim am y peth oni bai i'r diffynydd yn yr achos arall .ddod i ffraeo ag ef yn nghylch rhywbeth ddi- gwyddodd yn gynarach ar y dydd. Y Diffynydd (ar lw), a dystiodd iddo fod yn Nolwyddelen er's chwe' blynedd ac na roddodd y drafferth leiaf i'r Heddlu. Cyfarfyddodd Hugh Hughes mewn tafarndy yo gynarach ar y dydd, a bu ymeiriach rhyngddynt, ac yn y diwedd aeth ef allan a dilynodd Hughes ar ei ol. Daliodd ef wrth Gae'r Arddangosfa, ac ail ddechreuodd gweryla, Yna daeth y Swyddog atynt a gofynodd iddo ef fyned ymaith, ac ufyddhaodd yntau ar unwaith. Ni ddywedodd erioed wrth Rhingyll Breese ei fod wedi cael gormod o ddiod. Yr hyn a ddywedodd oedd, iddo gymeryd ychvdig. ac yr oedd gwahaniaeth dirfawr rhwng cael rhyfychan a chael gormod. —Mr. R. O. Davies (yr hwn a ymddangosodd dros Lunt), a ddywedodd fod y Diffynydd yn 52 mlwydd oed, ac iddo fod yn y Trefedigaethau am flynyddoedd, a fod yn ddyn o foddion ac o gymeriad da. Pwysai ar y Faingc i beidio gosod dirwy yn ei erbyn ar lyfrau y Llys. Hen langc ydoedd.—Cadeirydd, "Nid yw hyny yn amddiffyniad o gwbl."—Mr. Davies, Nag ydyw, ond y mae yn dystiolaeth o du y Diffynydd ei fod yn ddyn gofalus ac yn medru I llywodraethu ei hun (chwerthin).—Taflwyd yr achos allan.
PENRHYNDEUDRAETH. I
PENRHYNDEUDRAETH. I YSGOL NOS.— Yn ol adroddiad Arolygwr y Llywodraeth, gwelir fod gwaith rhagorol wedi ei wneyd y tymhor diweddaf. Gtesyn na fyddai i'r bobl ieuanc fanteisio ar y cyfle gwerthfawr hwn, fel y gwyddus na ellir cynal dosbarth os na cheir 25 i ymuno, ac os na ddaw ychwaneg o enwau, ni chynhelir dosbarthiadau y tymhor hwn, Mae tua 20 wedi ymuno, a disgwylir i'r nifer gofynol gynyddu eto. Wele'r adroddiad:- These classes-conducted in the newly erected and well-equipped Council School- have gone through a most satisfactory session's work. The students displayed during the earlier part of the session in particular, much enthusiasm and keeness, and the attendance was excellent. Whatever falling off there subsequently was in th" is respect was doubtless largely attributable to exceptional outside in- fluences. In Arithmetic-after a thorough and systematic grounding in fundamentals—the work became more and more of a practical and applied" character suited to the different needs of the pupils. Tne English was well graded and the Reading well selected, while the matter read at different times effectively illustrated by means of the School lantern. The teaching througout was skilful and expert, and the progress made very marked. This district offers exceptionally rich opportunities for well organised courses in evening continu- ation work, and the splendid new school buildings should prove to be a great help and stimulus to the educational activities of the place. CYFARFODYDD Y GAUAF,—Erbyn hyn mae tymhor Cyfarfodydd y Gauaf yn dechreu, mae trefniadau helaeth yn cael eu gwneyd gan y gwahanol eglwysi, ac yn fuan ceir clywed swn gweithio o ddifrif. Dydd Llun nesaf, bydd holl eglwysi y cylch yn cynal Dydd Diolchgarwch am y Cynhauaf. Mae adeg brysur o flaen chwiorydd Bryn- gwyn. Gwelir hwy yn ymgynull yn selog bob nos i'r Dosbarth Gwnio er gwneyd paratoadau at y Nodachfa y flwyddyn nesaf. Cyfarfod Amrywaethol gafwyd yn Nghym- deithas Ymdrech Grefyddol, Nazareth, nos Sabbpth. Cymerwyd rhan ynddo gan Misses Mary Williams, Isfryn, Maggie Jones Bryn- saethon, Mrs. Evans, Ty'n ffrwd, Mr Johnie P. Jones, Henry Jones Richards, Jarrett Davies. Diwedd yr wythnos, cychwynodd Mr Wil- liam Evans a'r Cyngorydd David Lloyd Griffith, ar eu gwyliau i St. Helens a Lerpwl. Dymunir iddynt wyliau llawen. Wedi cyfnod o lawer iawn o flynyddoedd mae Mr John Pierce, Home Farm, Maentwrog, wedi rhoddi i fyny i werthu llefrith. Cymer Mr W. Pierce, Abergarfan, Minffordd, ei le,
Advertising
WS^AAAAVVA/VWSAAAAA/VSAAAAA/V A WORD TO LADIES Send 2 stamps for our new & original Illustrated Booklet, containing plain & practical advice how Irregularities, Suppressions, &c.may be prevented or removed by simple means in a few hours. Re- commended by eminent Physicians & thousands of Ladies, as being the only Genuine Remedy. This is not a quack medicine. Established 30 yrs LESLIE MARTYN, LTD, CHEMISTS. 34,DALSTON LANE, LONDON
I TRAWSFYNYDD.
I TRAWSFYNYDD. Gyda gofid dwys y cofnodwn am farwolaeth yr hen dad David Tudor, Tyntwll yr hyn gymerodd le boreu Gwener, Hydref 7fed, yn yr oedran teg o 73 mlwydd oed. Bu yn gwaelu am amser maith, ac yn orweddiog bellach er's amryw fisoedd, fe deimlir colled fawr ar ei ol, yn neillduol yn y Capel bach Caeadda, yn yr hwn y bu yn flaenor am flynyddau lawer, fel y teimlir chwithdod mawr ar ei ol. Yr oedd yn ffarmwr profiadol ond oherwydd llesgedd yr ydoedd wedi rhoddi y gwaith i'r mab. Y mae yn deilwng o sylw er fod ef y drydedd neu y bedwaredd genhedlaeth i fod yn trigianu yn Tyntwll ac i gael eu claddu oddiyno o'r teulu. Yr oedd y syniad o ymadael oddiyno o yn ormod iddo yn ddiameu i allu ei ddal. Yr hen aelwyd oedd yn ei olwg yn fangre gysegredig, yr oedd ef yn olrhain yn ol i'w nain, oad myn eraill ei fod yn llawer hynach na hyny gan eu bod yn olrhain i'r un teulu fod yn byw yno er's tri chant o flynyddau, ond haeth y symudiad olaf yn hanes yr hen dad David Tudor a bnlladh y mae ef wedi cyrhaedd y wlad dda odiaeth "Lie na raid ymadael mwy." Ddydd Mawrth daeth tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf iddo, gwasan- aethwyd ar yr achlysur pruddaidd gah y Parch David Hughes (m c), a J. D. Richards (A.). Yn ol ei ddymuniad ef pan yn pasio Capel Cae Adda, bu i'r cynhebrwng sefyll yno a chanu emyn, a da genym i'w ddymuniad gael ei gario allan, a chanwyd yr hen emyn Derfydd i mi deithio'r ddaear," Gadawodd weddw a phedwar o blant, sef, tri mab ac un ferch, i alaru eu called ac i hiraethu ar ei ol, gyda pha rai y mae ein cydymdeimlad lIwyraf. Heddwch i'w lwch. Nos Sadwrn diweddaf, cafwyd Cyngherdd Uwchraddol yn Ysgol y Cynghor, er budd y Neuadd. Gwasanaethwyd gan Mr Powell Edwards, Llundain; Miss Hannah Davies, Bl. Ffestiniog Dewi Mai o Fairion; Telynor Dall; ac Evan W. Davies, Glandwyryd, Arweiniwyd yn hynod fedrus a doniol fel arfer gan Dewi Mai. Siomedigaeth fawr yn ddiau y cyfarfod ydoedd absenoldeb anorfod y Llywydd, Dr Jones, u H,, Dolgellau. Ond yn ol ei arfer fe gofiodd y Dr haelionus am y mudiad trwy anfon cheque. Elfen arall fu dipyn yn fyr yno ydoedd y diolchiadaa gwerth bychan a rhad fuasai hwn i'r rhai oedd yn cario y gweithrediadau; ond er hyny gallasai gyrhaedd yn mheil. Hyderwn y cymer y Pwyllgor hyn i ystyriaeth at y dyfodol, fel i nodi personau at y gwaith. Chwareuwyd ar y piano gan Miss Morris, Bron-y-gan, yr hon hefyd a wasanaethodd gyda'i Chor Plant. Llongyfarchwn yn galonog am lwyddiant un arall o blant yr ardal, sef Mr Evan Jones, Coleg Lampeter, cyn-ysgolfeistr Maentwrog, ar ei waith yn enill Ysgoloriaeth o £ 20 yr wythnos ddiweddaf. Mab ydyw Mr Jones i Mr a Mrs Morris Jones, Llysarenig. Yn-mlaen yr elo eto, yw ein dymuniad. ^AWVWWVAAA/W'A'vVVWWA
TALSARNAU.
TALSARNAU. ARWERTHIANT .-Cafodd Mr Henry Roberts Porthmadoc, arwerthiant llwyddianus dros ben ddydd Gwener ar eiddo y diweddar Mr. J. R. Pritchard yn y plwyf hwn. Prynwyd Ty Newydd, fferm o saith erw, yn rhentu £ 20, gan Mr. Cane, Goruchwyliwr Arglwydd Harlech, am £ 445 Carreg 'Ro, fferm arall yn ymyl o naw erw am £545, yr hon a "rentid yn £ 15. Ty Gwyn, fferm o £ 19 erw, gan yr un un am £ 570. Prynodd Mr. Jones Lloyd, ei fferm o ddeng erw am £ 570, yr hon a rentid yn £ 17. Prynodd Cadben Roberts, Tygwyn, chwech o dai am £ 600. Prynwyd Hen dy Gwyn y Gamlas gan Mr. Dan Williams, Porthmadoc, am £ 60, Cafwyd Cyfarfod Pregethu rhagorol yn Soar (W.) eleni eto, y weinidogaeth yn rymus neillduol. Nid oes dim tebyg i'r Efengyl am dynu pobl at eu gilydd, a'u cadw heb flino yn gwrandaw arni yn cael ei thraddodi: Gallu Duw yw hi" o hyd. Yn Nghymdeithas Bethel, nos snI, caed Cyfarfod Amrywiaethol mewn canu ac adrodd. Deuawd gan Miss E. Thomas a Miss E. A. Ellis, Darlleniad gan Mr. Ted Pugh Parry, Can gan Miss Thomas, Glanllyn. Yn Moriah, Harlech, cynhaliwyd Cyfarfod Dosbarth perthynbl i'r M.C. Dosbarth y Dyffryn. Darllenwyd Papur gan y Parch. R. Evans ar Eiriolaeth Crist." Yn dilyn yr oedd Cynhadledd Ysgolion y Dosbarth. Yr oedd nifer dda o gynrychiolwyr o'r gwahanol Ysgolion wedi dod yn nghyd. Yn ystod y Cyfarfod darHenwyd Papur gan Mr. J. J. Thomas, Iscoed, ar Y pwysigrwydd i'r Athraw baratoi ar gyfer y Dosbarth, a'r un modd y Dosbarth ar gyfer yr Athraw." Disgwyliwn y ceir y Papur i'w ddarllen eto yn yr Ysgolion. vwvwwwwvwwvwwwww
IPENMACHNO.---
PENMACHNO. Y mae ein cyfeillion yn Salem wedi ymgym- eryd a chael Organ i'r capel. Ymgymerodd y bobl ieuangc a'r peth gyda sel neillduol, a hyny nid ar air yn unig, ond mewn rhoddion calonog a hael. Bydd y gwaith wedi ei gwbl- hau yn fuan, ac y mae Mr J. E. Roberts wrthi yn prysur barotoi cor at yr amgylchiad o i hagor. Bydd yn gaffaeliad mawr i Ganiadaeth y lie. I Nos Fercher, o dan lywyddiaeth Dr W. M. Williams, cyfarfu y Cyngor tlwyf. Ar gynyg- iad y Cadeirydd, a chefnogiad Mr E. Davies- Jones, pasiwyd i anfon llongyfarchiad calonog i Syr John Eldon Bankes, K.C., ar ei ddyrch- afiad i'r Faingc Farnol, Y mae y boneddwr anrhydeddus yn meddu eiddo mawr yn y plwyf ac yn cymeryd dyddordeb dwfn yn ein mud- iadau cyhoeddus.-Rhoddodd Pwyllgor y Gol- euni eu hadroddiad am y lamp Petrol newydd oedd wedi goleuo am 35 awr, ar gyfartaledd i dair lamp o dan yr hen ddull. Cymeradwywyd yr adroddiad, a phasiwyd i brynu yr offerynau angenrheidioi i'w dodi ar yr hen lampau, er gwella y cyflenwad fydd o fudd neillduol i'r ardal.