Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

INODIABAU WYTHNOSOL.

POBL Y -"TY NESAF."

BETH A DOYWEQGDQ ?'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BETH A DOYWEQGDQ ? Yr wythnos ddiweddaf, wrth gyfeirio at araeth oedd i gael ei thraddodi dranoeth gan Mr Balfour, gofynasom Beth a ddywed? Disgwyliai, o'r hyn f." lleiaf dymunai, aelodau ei blaid iddo roddi arweiniad" iddynt. Daeth y tranoeth a thraddodwyd yr araeth, a'r cwestiwn a ofynir yn awr ydyw Beth a ddywedodd ? Llefarodd eiriau lawer, a chan nad yw ef un amser yn traethu ffolineb nac yn llefaru geiriau heb ystyr, rhaid ei fod wedi dywedyd rhywbeth. Ond y mae y gofyniad Beth a ddy- wedodd ? yn ofyniad mor anhawdd i'w ateb ag ydoedd y gofyniad "Beth a ddywed ? Cyfeiriodd at Achos Osborne," a thystiodd ei fod yn awyddus iawn i weithwyr y wlad gael y dynion a farnant y rhai cymhwysaf i'w cynrych- ioli yn Nhy'r Cyffredin. Yr oeddym yn tybied ei fod yr un pryd wedi dywedyd yn erbyn talu cyflog i aelodau seneddol, hyd oni ddarllenasom araeth a draddod- wyd gan Mr F. E. Smith, A.S., ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Cofir fod y boneddwr hwnw wedi cyhoeddi ei fod ef yn pleidio talu cyflogau i seneddwyr, ond na fyddai iddo ei bleidio hyd at niweidio ei blaid na hyd at beri blinder i'w harweinwyr. Ehoddodd awgrym eglur iawn i Mr Balfour mai buddiol fyddai iddo roddi arweiniad i aelodau'r Blaid Doriaidd yn y mater yma. Fel y dywedwyd uchod, parodd darllen araeth Arweinydd yr Wrthblaid i ni ddeall ei fod yn erbyn talu cyflog i seneddwyr. Ond ni fyn Mr F. E. Smith fod ei arweinydd wedi dywedyd dim o'r fath. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Abing- don (wedi araeth Mr Balfonr) dvwedodd Mr Smith fel hyn :—"Dywedais yn ddi- weddar fod yn well genyf fi dalu cyflog i aelodau seneddol na dadwneyd y dyfarniad yn achos Osborne, ac y mae golygyddion ysgolheigaidd rhai newydd- iaduron wedi fy meirniadu yn llym. Felly yr wyf yn addef mai gyda bodd- lonrwydd mawr y darllenais boreu hedddyw fod Arweinydd y blaid yn cymeryd yr un olwg ag a gymeraf fi ar y mater." Gadawn i'r Toriaid bender- fynu, os gallant, beth a ddywedodd eu blaenor. Yr ydym wedi arfer cydnabod rhinweddau a ihagoriaethau Mr Balfour fel arweinydd. Ymhlith y pethau y rhagora ynddynt rhaid cyfrif gallu i areithio yn hyawdl a thrafod gwahanol gwestiynau mewn modd dyddorol heb egluro ei olygiadau arnynt, a gallu i wrthsefyll (ac, yn wir, i anwybyddu) pob cymhelliad ac anogaeth ac apel i draethu ei farn ar unrhyw fater hyd oni wel y bydd gwneyd hyny yn fanteisiol i'w blaid. Nid yw beirniadaeth lym newyddiaduron Toriaidd na chwynion ei ganlynwyr yn tycio dim. Nid yw yn cymeryd arno ei fod yn gwybod dim am danynt: A o'r tu arall heibio iddynt, a gwen ar ei wyneb, heb gymaint a gwneyd sylw o honynt. Gall fforddio gwneyd hyny heb ofni cael ei fwrw allan o'i le. Gwyr nad oes ymhlith ei ganlyn- wyr gynifer ag un yn gym'wys i gymeryd ei le.

GANGHELLOR Y TRYSORLYS A LLANYSTUfVSDWY.

CYNHADLEDD YR WYTH.,