Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
CLWB RHYDDFRYDOL.
CLWB RHYDDFRYDOL. Mr Gol.—Hwyrach mai nid amhriodol fyddai galw sylw at y Clwb uchod. Er fod y Clwb i raddau wedi llwyddo yn ystod y blynyddoedd diweddaf, eto i gyd fe ddylai gael cefnogaeth mwy sylweddol mewn ardal mor Ryddfrydol a Ffestiniog. Mae y Pwyllgor gweithiol wedi dechreu parotoi rhaglen at y gauaf, a diau y ceir cyfarfodydd y bydd yn werth i bob Rhydd- frydwr—ac ambell Dori fod yn bresenol- oblegid pechaduriaid, nid rhai cyfiawn" elwir yn y cysylitiad hwn hefyd. Nifer yr aelodau y flwyddyn ddiweddaf ydoedd 196, pryd y dylai y rhif mewn cymdogaeth fel hon fod o leiaf yn 400, a rhag y gall fod diffyg mewn gwneyd yn hysbys yn mha le y ceir tocynau aelodaeth, gellir eu cael unrhyw adeg yn ystafelloedd y Clwb neu trwy rai o'r aelodau. Amcan penaf y pwyllgor gweithiol ydyw cadw yn fyw a dal i fynu yr egwyddorion mawr sydd o dan ac wrth wraidd y Mesurau sydd gan'y Blaid Ryddfrydol mewn golwg ar hyn o bryd. Rhyfedd y gwrth- wynebiad roddir i gyliideb resymol Mr Lloyd George ac eto nid yw y gyllideb hon ond un cam megis yn nghyfeiriad pethau mwy, a chyn y gellir sylweddoli y pethau mwy, rhaid i'r wlad ddacgos i'r senedd a'r llywodraeth eu bod yn benderfynol o'u meddianu. Yn ddiau dyma'r ffordd y rhaid cerdded ar hyd-ddi, ac amcana y Clwb Rhyddfrydol wneyd hyny, a phe yn cael cefnogaeth fwy byddai ei waith yn fwy sylweddol.-AFLOD.
MASNACH RYDD, PA BETH YW,…
MASNACH RYDD, PA BETH YW, A PHA LE Y MAE. Syr,—Gyda gradd o syndod y darllenais lythyr Crispin yn eich rhifyn diweddaf, ar ol iddo gymeryd pythefnos o amser yn ei barctoi, ac yr wyf yn sicr nad yw fy syndod a'm siomedigaeth i i'w cydmaru ag eiddo ei gyfeill- ion ef, yn ol siarad llawer o honynt yr oedd yna ddisgwyliad mawr oddiwrtho fel dadleuydd cadarn ac effeithiol dros Tariff Reform. Pan y daeth Crispin allan i'r wasg i ymosod ar Fasmch Rydd ac i amddiffyn Diffyndollaeth, fe ddylai fod yn barod i wrthsefyll unrhyw ymosodiad ar ei ddaliadsu. Yr oedd fy nghwestiynau yn gwrthbrofi honiad y Tariff Reform. Os yw Tariff Reform yn egwyddor deilwng o'i dilyn fe ddylai fod yn deilwng o gael ei harnddiffyn. Anhawdd genyf gredu na fuasai Crispin yn ateb bob un o'r cwestiynau pe y gallasai, pe buasai ddim end er mwyn anrhydedd ac urddas ei blaid. Ond hwyrach y cymer rhai o'i gyfeillion ei Ie. Byddaf yn ddiolcbgar iddynt os y gwrant, ac atebaf finnau unrhyw gwestiwn mewn amddiffyniad i Fasnach Rydd fel ac y mae yn bod yn bresenol. Dywed Crispin mai y rheswm dros gymeryd Germany ac America mwy na Spaen a Portugal oedd "fod ganddo ryddid ac awdurdod i wneud fel y darfu," Apeliaf yn ddiduedd at eich darllenwyr i farnu drostynt eu hunain, a yw yr atebiad yna yn deilwng o un yn d'od allan i'r wasg i amddiffyn Tariff Reform. Nid wyf yn amheu dim ar ei hawl a'i awdurdod ond yn sicr mae yna ryw reswm dros enwi Germany ac America mwy na rhyw ddwy wlad arail sydd yn mwynhau Tariff Refrcm. Os mai i Tariff Reform y priodotir llwyddiant masnachol Germany ac America, paham na lwyddai Spaen a Portugal odditano ? Nid yw Crispin yn gwella ei achos trwy ofyn am nifer o longau a gwerth masnachol Prydain, America, a'r Almaen er's pedvvar ugain mlynedd yn ol. Os yw cydmaru Prydain ac America a Germany er's cymaint o flynyddau yn arddangosiad o lwyddiant Tariff Reform yr adegau hyny, ei ddyledswydd ef yw gosod y ffeithiau yn ysgrifenedig i brofi hyny, ond y mae yn apslio ataf fi i brofi ei honiadau. Mae yn rhaid i Crispin brofi ei honiadau ei hun, a'm lie innau fydd eu gwrthbrofi. Dywed nad yw Masnach Rydd ddim yn bod, profed hyny. Yr cedd allforion Prydain yn 1801 yn £42. 000,0000 dan Protection yn 1846158,000,000, cynydd o [16,000,000 mewn 45 mlynedd. Pa beth ddywedasai y Tariff Reformers pe buasai ein masnach yn cynyddu yn 01 y mesur yna. Yr ydym yn gwneyd mwy o fasnach mewn mis o dan Fasnach Rydd nag mewn blwyddyn o dan Protection. Yr oedd ein hallforion yn 1907 cymaint a [518,000,000. Mae llawer o'r Tariff Reformers yn honi bod ein masnach yn llwyddo yn well pan yr oeddem o dan Tariff Reform, ond ffeithiau ddywed yn wahanol. Dyma ddesgrifiad o'r sefyllfa yn 1826 yn ol Walpole's History of. England :—" The dis- tress which was prevalent in the manufacturing districts had already led to universal discon- tend. Every description of trade was dull. The imports and exports were largely reduced, Thousands of working men were thrown out of employment, and thousands of others were compelled to accept lower wages. In Barns- ley the wages of the working classes averaged only 20 pence per week. In Sussex the labour- ers were employed on the roads at fourpence and threepence a day." Dyma fel y dywedodd Lord Beaconsfield, yr arweinydd goreu a fu gan y Blaid Doriaidd erioed Protection is not only dead but damned." Sut mae Crispin yn hofii y frawddeg yna ? A ydyw yn ddigon parod i ddweud nad oedd Lord Beaconsfield (yr hwn mae ei blaid ef, yn cadw coffa am dano trwy wisgo y briallen bob blwyddyn), yn siarad oddi ar dir rheswm a goleuni. Ac i goroni'r cwbl dyma eiriau brenin y Tollwyr I think it necessary that we should once more rub up our history of those bad times before Mr Bright and Mr Cobden succeeded in persuading Parliament that the Corn Laws were an iniquitous tax. People walked the streets like gaunt shadows and not like human beings. There were bread riots in every town. There was famine I throughout the length and breadth of Ireland. There was only one class that profited, and 11 that was the Landlords, who continued to exact there rents. The Duke of Norfolk, who recomended to the people that they should take a pinch of curvy powder in water to keep off the pangs of hunger. The depression of trade and the lack of employment is as nothing beside the misery and destitution which pre- vailed when the Corn Laws were in full force. It is well to remember these things," (Dont forget, Crispin). Mr Chamberlain Nov. 7th, 1885, at Birmingham. Dyna'r canlyniad o fyned i diriogaeth ffeithiau, onide. Dywed y Tariff Reformers na buasai 2/- o dreth ar yr yd yn codi pris y bara. Dywedodd Mr Balfour hyny yn York (Jan- uary 12th, 1910) I believe that a small duty on corn with preference to the Col- onies, will tend to diminish, rather than increase the price of bread." Os yw hyn yn wir, fe ddywed Crispin y rheswm paham na ddarfu i Mr Balfour yn 1903 ostwng dim ar dreth yr yd ar ol bod mewn grym am flwyddyn, Rhaid cofio fod Mr Balfour yn siarad cyn yr etholiad ac felly yr oedd eisieu votes; ond wedi cael y votes mae Mr Balfour yn dweud fel hyn I sometimes see my opinions quoted, as if I had promised that their should be no use in the price of food. How could I or anyone else promise that ? Ond dyma fel dywedodd Mr Jesse Collings yn York February 13, 1908, "They could not help tenant, if they were to give him 10/- duty to-monow on every quarter of wheat he raised, what would happen. In a very short time that ten shillings would appear in the rent." Chwareu teg i Mr Jesse Collings am fod yn onest trwy ddweyd y gwir. Dyma, Syr, yw byd y rheswm a'r goleuni mae Crispin am ei ddwyn iddo. Mae yn rhaid fod gan yr hen gyfaill rhyw syniad rhyfedd am reswm a goleuni. ROLLIE WILLIAMS.
LLYTHYR AGORED AT DRETH-I…
LLYTHYR AGORED AT DRETH- I DALWYR TRAWSFYNYDD. I Mr. Gol.Goddefwch i mi gael y cyfle hwn i alw sylw Trethdalwyr y Cylch at y Llwybr Cyboeddus sydd yn cael ei alw yn Llwybr Bwlchgwyn, Ai tybed nad allwn hawlio ei gael mewn gwell trefn nag sydd arno ar hyn o bryd. Mae yn beryglus ei dramwyo fel y mae, yn enwedig pan fydd gwyll y nos wedi disgyn arno, ac fel y gwyddoch fod mwnwyr yn tram- wyo y ffordd yma bob amser o'r nos ar hyn o bryd o'r Gwaith Aur sydd newydd gael ei ail- agor. A buddiol fyddai edrych at y llidiardau sydd ar ei hyd. Poenus yw gweled plant yr ardal yn csisio cael mynediad trwy y rhai hyn. Gwn am famau ydynt yn gorfod myned i ddan- fon eu plant pan yn myned i'r ysgol am eu bod yn cwyno nad allant agor y llidiardau hyn. Clywais am un amaethwr a ddylai fod yn gyfrifol beth bynag, yn dweyd os nad oedd y llwybr a'r llidiardau yn iawn ganddynt am iddynt fyned ar hyd ffordd arail, sef y ffordd droi, yr hon sydd yn llawer iawn mwy cwm- pasog. Ai tybed ei fed yn meddwl os oedd ef yn ddigon ffol i wneyd hyny fod pawb arall yr un modd. Hynyna y tro hwn, disgwyliaf na chaiff y sylwadau hyn basio yn ddisylw. Ydwyf, UN AM EI IAWNDERAU. I
AIL LYTHYR AOOREDI AT DRIGOLION…
AIL LYTHYR AOORED AT DRIGOLION TRAWSFYNYDD. Anwyl Syr,—Gyda'ch hynawsedd arferol, credaf na siomir fi o gongl fecban y tro hwn drachefn. Erbyn y darllenir hwn bydd cylch- lythyr wedi ei anfon led-led y Plwyf hwn yn dymuno am bresenoldeb y Chwiorydd oll yn Ysgol y Cynghor, nos Wenef nesaf. Mater y Neuadd Gyhoeddus fydd gerbron. Mae pob argoelion fod y mudiad wedi enill serch y wlad arLlan. Trefnu i'r Chwiorydd ddechreu gweithio yn ddiymdroi fydd amcan union- gyrchol y cyfarfod. Cofied yPwyllgorfod yno yn gryno i gwrdd a'r Chwiorydd. Estynwn" wahoddiad siriol a thaer i bawb ddod i'r Ysgol nos Wener, Carem weled pob ty yn anfon ei gynrychiolydd. Sylwch. l.. Mae yr apel at y Cyhoedd yn gyffredinol. 2. Cael Ystafell Gyhoeddus, eang, ganolog, gyfleus, a phwrpasol yn mhob modd, yw unig nod y Symudiad, a phwy a wad wir a mawr angen y cyfryw. Nid oes unlle trwy Gymru oil yn dioddef cymaint o ddiffyg hyn. 3. Bydd yn eiddo Cyhoeddus, ac Did yn eiddo na phwyllgor na neb dyn, tros byth, Y Cyhoedd yn unig fydd a gair i'w ddweyd yn nglyn a hi, Uchelgais gwerth galw gwlad i'r rcaes onide ? Gan hyny, ymddiosgwn, ac ymarfogwn i'r gad, a chofiwn am Nos Wcner Nesaf. CARWR Y SYMUDIAD. I
HARLECH A'I OLEU. I
HARLECH A'I OLEU. Mr. Gol,-Carwn gael congl fechan o'r RHEDEGYDD i dynu sylw Cynghor Plwyf Llandanwg at druenusrwydd y goleu sydd ar hyd y ffyrdd yn Harlech. Mae'r unarddeg aelodau sydd yn gwneyd i fyny y Cynghor wedi eu dewis i edrych ar ol dyddordeb y plwyf, ac yr wyf yn dymuno yn ddifriftfl ofyn iddynt fel un o'r trethdalwyr ai nid eu dyledswydd yw rhoddi gwell goleu ar y lampau ? Mae eu naill haner heb oleu o gwbl arnynt, a gellir bron wadu y goleu ar yr haner arall, ac y mae rhai o'r rhai hyny yn cael eu diffodd cyn deg. A oes cytundeb wedi ei wneyd rhwng yr un sydd yn eu goleuo a'r Cynghor ? Os oes, mae yn rhaid ei fod yn un llac iawn, neu mae wedi ei dori lawer gwaith ac os wedi ei dori y mae, dylai y Cynghor ar bob cyfrif alw am tenders eto. Credaf mai ugain punt mae y trethdalwyr yn orfod dalu am y go!eu y tymhor gauaf yma; oni ddylai y Cynghor Plwyf weledfad y treth- dalwyr yn cael y goleu maent yn talu am dano? Yr ydym yn cofio yn dda adeg yr etholiad yn mis Mawrth lawer o siarad am roddi gwaed newydd yn y Cynghor (ac fe lwyddwyd i roddi peth) i ba beth nis gwyddom. Mae yn ymddangos ar hyn o bryd beth bynag mai gwaethygu mae pethau, o'r hyn lieiaf gyda'r goleu, ac nid ydyw etc ond dechreu y gauaf. Meddyliwch am y peth, gyfeillion, a chofiwch fod y trethi yn uchel iawn yn barod. Yr eiddoch, TRETHDALWR.
AN OPEN LETTER TO ALL MY FRIENDS…
AN OPEN LETTER TO ALL MY FRIENDS IN DISTANT PARTS OF THE WORLD. My Dear Friends.-Some of you have left Blaenau years and years ago in search of some- thing that would be to your advantage to help you on towards success in life and what hard- ships you have to encounter in your attempt to raise the standard of living and better yourselves in this world of commerce, no one will ever know. America, Awstralia, India, New Zeal- and, and South Wales, are the principal count- ries you have penetrated for these explorations, and now wherever you have gone even if you are to be found in the very centre of the tropical regions of the Dark Continent of Africa, you are always ready to hear and receive anything in relations to your dear old home. In the first place, I have taken lately some idea into my head to explore the region of my native land, while on this expedition I met two gentlemen who happen to be in the ranks of great inventors of modern times. As it happens, their line of advance are in different directions, therefore at present I must drop one of them, for the time being, and follow the track of the other, in the directions of his enterprising ideas. The first gentleman I will introduce to you is Mr. 0. J. Owen, of Newfoundland, who is at present on a flying visit to his native place. All at Blaenau know Mr. Owen quite well, since he was in connection with the old mill (yr hen felin flawd). At present Mr Owen has a great scheme on hand for manufacturing roof- ing tiles. For many years we have been look- ing at the old rubbish heaps which are to be found overstanding our locality, and often wishing somebody to come and make use of all this rubbish and solve a great problem of reaping a fortune from our refuse: to this object Mr. Owen has been directing his thought and energy these last ten years and at last he has succeeded in his attempt. Through his ingenious method this dark problem has been solved at last. Mr Owen in his laborat- ory showed me his new discovery of making roofing tiles out of slate rubbish. I was not long in Mr Owen's company before I found out that I was in the presence of a gentle- man possessing a strong will, and a deter- mination to colquer all difficulties. He shewed me different samples of thaee roof- ing tiles, and proved beyond doubt that be had succeeded in his object. While he was thus explaining to me he was not .ong I can tell you setting my thinking pot boiling over in the direction of our industry. The samples of tiles he showed me were beautifully got up in colours of various shades to represent different classes of slates. They are altogether unique, specimens of the tile makers art. We must acknowledge that the makers of these articles have made a desperate attempt to wrench from us our staple industry and the only means of livelihood we have in our locality. We have been entirely helpless to oppose them at their own game. As for instance, when a merchant would send for a sample of roofing tile, it was useless for us to send a roofing slate. But some day,I hope to see in dear old Blaenau, mills & chimney stacks like those of Lancashire with both industries nourishing. I have care- fully considered the various methods adopted by Mr Owen for making these tiles, and I am of opinion he has been successful in all its departments. Someday, I Lope your service will again be required in your native land, when the darkest cloud will be over our slate industry. I intend, with the editors permission, to introduce another wonderful invention to you in another letter. I remain, Yours faithfully, W. J. PENNY,
[No title]
Englyn i gydymcteimlo a Gwilym Glan Conwy, Bangor, Pa, U.S.A., ar farwolaeth ei ferch bach, Blodwen Conwy. Cei nerth yn y rhyferthwy,—a goleu, Gwilym. i'r d'wyll adwy; A dawn cin, Blodwen Conwy, Mewn Nef mae hon i fyw mwy. Llanrwst. R. E.
Y WAWR.
Y WAWR. Y Wawr, a red i wirio,-i fyd oil, Fed Duw fyth yn cofio; Rhoddi'r amwisg mae'n wisgo I greu dydd i'w gread O. Llanrwst. R. E.
LLINELLAU CYDYMDEIMLAD
LLINELLAU CYDYMDEIMLAD A'r bardd "Dwyryd," Mmffordd, yn ei gystudd diweddar. Ha Dwyryd ces dy daro-was hwySiog, A salwch di-groeso A thrwy'r swynol freiniol fro, Canoedd oedd iti'n cwyno. Am unwaith y "Pnumonia"—a gefaist, A gofid mi goelia, Y salwch o'th geseilia', Ddygai y doeth feddyg da. Dy awen deg, fardd diwyd-a ddaliodd, Er dy ddolur enbyd, A deil hon, diail o hyd, f Yw ei hasbri a'i hysbryd, Diolch wnei di a d'awen—am foddion, Am feddyg mor drylen; Iechyd ddaw a ti'n llawen, O'r swn mawr a seinia mhen." I Dduw Ner am adferiad-i fwynder, Ei fendith yn wastad; Dod yn lion i'th dirion Dad, Dy amlwg gydymdeimlad. Pecmachno. DEWI TUDUR.
I LLANRWST.
I LLANRWST. I TREFN Y MODDION SABBOTHOL. I Yr Eglxvys Sefydledig, ST. CRWST.—10-30 a 6, Gwasanaeth Cymreig. I ST. MARY.-—11, a 6. Gwasanaeth Seisaig. I y Methodistiaid, SEION.-Parch, O. Evans, Colwyn Bay. HFOL SCOTLAND,-Parcn. R. Rowlands. Annibynwyr. TAB F-R NACL. -Parch. W. Cynwyd Williams. EBENEZER.— Wesleyaid. HOREB.-10, Mr Idwal Davies. 6, Mr G. Jones. ST. JAMIJS (English).—Mr. Fisher. Bedyddwyr. PENUEL.-Parch OwenADavies, D.D. EGLWYS BABAIDD.-ll, Cymun Sanctaidd- 6-30, Gwasanaeth Cymreig, y Tad Treb- aol, O. M 1. Llongyfarchwn Mr E. Davies-Jones, Cyf- reithiwr, ar ei benodiad yn Ysgrifenydd Cymdeithas Gydweithiol ac Ariandy Benthycol Amaethyddiaeth yn Ngogledd Cymru. Pen- derfynwyd yn y Gynhadledd bwysig gynhaliwyd ddydd Iau yn Llangefni i sefydlu Cymdeithas i Ogledd Cymru, a dewisiwyd Mr. Jones i'r swydd bwysig uchod yn eithaf naturiol, gan ei fod mor weithgar gyda'r mudiad o'r cychwyn, ac y mae ei safle bresenol yn ddyledus gan mwyaf i'w ymdrechion ef. Cynhaliwyd gwasanaeth Diolch am y Cyn- hauaf yn y Capel Seisneg y Sabboth diweddaf, pryd y pregethwyd gan y Parch H. Water- worth, Agorodd y Gymdeithas Ddiwylliadol ei chyfres cyfarfodydd nos Fercher yn y Neuadd drefol o dan lywyddiaeth Mr W. Hughes, U.H. Agorodd Mr R. G. Jones drafodaeth ar "Pre- servatives gyda phapur campus. Cymerwyd rhan yn y drafodaeth gan y Cadeirydd, Mri W. Williams, J. D. Jones, Evan Jones, R Thomas, John Hughes, W. Morris, R. G. Owen, a J. J. Lloyd. Y mae pwyllgor Cymdeithas Ddiwylliadol Horeb wedi pasio trwy fwyafrif o un i gynal Rhestra Beiblaidd yn He cyfarfodydd llenyddol yn ystod y tymor; ond deallwn y rhoddir y mater eto o flaen yr holl aelodau cyn pender- fynu dim yn derfynol. Agorwyd Cymdeithas Ddiwylliadol Seion nos Wener pryd y traddododd y Parch W. Thomas anerchiad rhagorol ar Gymdeithas." Darparodd y boneddigesau wledd o de blasus, a dilynwyd gydag unawdau gan Miss Daisy Owen, Mri Dennis Rogers Jones, Evan Pugh, a David Ellis, Diolchwyd yn gynes i Mr Thomas am ei anarchiad. Cyfeiriodd Mr D. J. Williams yn nghyfeillacb Seion nos Sul at ymadawiad Mr T. R. Jones a'i deulu am Patagonia. Buont yn nodedig o weithgar a ffyddlon yn yr Eglwys, yr Ysgol Sul a chyfaifodydd yr wythnos. Deallwn fod mudiad ar droed yo y dref i wneyd Tysteb i Mr Jones cyn iddo ein gadael, ac ni bu achos teilyngach o gefnogaeth erioed gan na bu ef yn ol o wneyd ei oreu gyda phob mudiad da yn ein mysg oddiar y daeth i'n tref. Dydd Iau, yn yr Eglwys blwyfol, unwyd Mr Grenville Thomas mewn glan briodas a Miss Winifred Owen, Mission Room, Heol Scotland. Nos Fercher, yn y Church House, bu i Mr Evans, Gwydyr, ar ran Cor yr Eglwys gyflwyno anrheg werthfawr i'r par priodas gyda dymuoiadau da iddynt am fywyd hir a ded- wydd. Gofelid am yr anrhegion gan Mrs Hughes, Denver House, a Mrs Allsup, Salis- bury Terrace, ac i'w hymdrech hwy y mae llwyddiant y mudiad yn ddyledus, Nos Iau, yn nghapel Penuel, o dan lywydd- iaeth Miss Jones, Dulas, cynhaliodd y chwior- ydd gyfarfod o dan nawdd y Y.W.C.A., pan yr anerchwyd gan Miss Hughes, Llanelli, a Miss Hill, Ysgrifenyddes Cenhadaeth Zenana. Yna rboddodd Miss Jones, yr ysgrifenyddes leol hanes y gwaith yn ystod y flwyddyn, achafwyd anerchiad gan Mrs Thomas, Frondeg ac unawd gan Miss Gwyneth Roberts, I HEDDLYS.—Dydd Llun, o flaen Mri O. Isgoed Jones, L, W. Jelf Petit, W. B. Halhed, T. P. Osborne Yale, W. J, Williams, Edward Mills, a W. Hughes. TROSGLWYDDO TRWYDDED.—Ar gais Mr Latimer Jones, rheddwyd trosglwyddiad dros dro o drwydded y Black Horse Inn, Llanrwst, o enw A. Parry i enw Thomas Price Roberts, Penrhyn Arms, Penrhynside, Llan- dudno. TROI ALLAN:-Ar gais Mr T. Latimer Jones caniatawyd archeb i droi John Williams ac Edward Jones allan o 17 ac 18 Wellington Terrace. ADDYSG,-Daeth yr achos gohiriedig ddy- gwyd gan Mr Thomas Williams, Swyddog ,presenoldeb o dan yr Awdurdod Addysg, yn erbyn George Edwards, Narrow Street, yn mlaen, am iddo esgeuluso anfon ei dri phentyn i'r ysgol yn gyson. Tystiwyd am y troion y buont yn absenol.—Taflwyd yr achos allan. TROCHI DEFAID.-Gwysiwyd Rt. Williams, Bwlch Farm, Glanconwy, am esgeuluso trocbi ei ddefaid yn unol a Rheolau Bwrdd Amaethyddiaeth. Yr oedd wedi dywedyd iddo drochi y defaid, ond cafodd y swyddog nad oedd hyny yn gywir gan i'r Diffynydd ei hun addef wrtho.—Dirwy o ddeg swllt a'r costau. MEDDW AC AFREOLUS—Dirwywyd Joseph Jones, o Sir Fon, ddeg swllt a'r costau neu 14 niwrnod o garchar, am fod yn feddw a chodi cynwif yn Scotland Street nos Sadwrn. MEDDW AC AFREOLUS A LLADRATA — Patrick Morris, yr hwn a gyhuddwyd ddydd LInn blaenorol o fod yn feddw ac a orchymyn- wyd i adael y dref a ymddangosodd i ateb cyhuddiad o fod yn feddw ac afreolus yn Heol Scotland nos Sadwrn, ac hefyd o ladrata chwarter pwys o de.—Tystiodd Mr Thomas Lewis Parry, Old Stamp Office, i'r carcharor ddod i'w fasnachdy nos Sadwrn, a chodi helynt yno pan ddaeth y swyddog i' gymeryd allan. Collodd y te, a chafodd yr Arolygydd Wyse y te yn ei logell wrth ei archwilio yn y gell.—Anfonwyd ef i garchar am 28 niwrnod. GWERTHU BARA HEB EU PWYSO.—Mr John Clarke Jones, Arolygydd Mesurau a Phwysau, a wysiodd Hugh William Hughes, Stanley Stores, Junction, a Price Hughes, Glasfryn, Glanconwy, o werthu bara heb eu pwyso.-Dirwy o swllt a'r costau yn y ddau achos. HERWHELA.—Robert Wood, Ceidwadhelwr- iaeth ar Etifeddiaeth y Foelas, a gyhuddodd Evan Morris, Beudy Gwyn, Capel Garmon, o fod yn berwhela ar yr etifeddiaeth uchod Medi 16 Ymddangosodd Mr Lloyd Carter i erlyn. Tystiodd R, Wood ei fod wedi gosod maglau ar gae Penrhyddion Canol Medi 15, a tua haner awr wedi pump boreu dranoeth aeth i'w hedrych a gwelodd y Diffynydd gyda Gwningen yn ei law yn dod o gyfeiriad y maglau. Gof- ynodd iddo yn mha le y cafodd y wningen, ac atsbodd, "Nid ar eich tir chwi." Gwrthododd ar y dechreu roddi ei enw, ond yn y diwedd bu iddo ei roddi. Edrychodd y wningen, a galwodd sylw y Diffynydd at ol y fagl ar ei gwddf, Dywedodd wrtho yn mhellach ei fod yn myned i edrych y maglau, ac os y gwelai fod gwningen wedi ei chymeryd o honynt y rhaid mai hono ydoedd. Yr oedd ol y Diffyn- ydd ar hyd y cae iw weled yn amlwg, gan ei bod wedi barigo mor drwm yn ystod y nos, o'r IIe'r oeddynt hyd at y fagl. Nid oedd llwybr trwy r cae. Gweithiai yn y cae am y clawdd a'r un yr oedd y maglau, a bu iddo ef (y tyst; golli pump a wningod o honynt, ond nis gallai ddywedyd mai y Diffynydd a'u cymerodd. Mewn amddiffyniad dywedodd Evan Morris ei fod y boreu dan sylw yn gadael y Bettws cbwarter i bump, a daeth ar hyd y llwybr cyhoeddus arweiniai i Ty'nrhyddion Pella. Pan wrth yr Ynys, sylwodd ar wningen yn rhedeg i dwll mewn hen wal, a rhoddodd yntau ei fraich i mewn ar ei hoi a thynodd hi allan. Er mwyn tori y ffordd aeth o'r llwybr ac ar draws y cae lie gwelodd Wood ef. Gwelodd Wood yn dod ac ni cbeisiodd osgoi rhagddo. Gofynodd Wood iddo lie cafodd y Wningen, ac atebodd yntau mai oddiar dir Arglwydd Penrhyn. Ar neges iddo ei hun y bu yn y Bettws.—Yr Arolygydd Beresford a dystiodd i Morris gael ei ddirwyo i ddwy bunt ar Ionawr 11, 1909, gyda'r costau, am herwhela.—Dirwy o bunt a'r costau, a gini i'r cyfreithiwr erlynol.
BETTWS Y COED.
BETTWS Y COED. BRYNMAWR.-Parch D. O'brien Owen, Caer- narfon. ZABERNACL.-Parcb Evans, Bangor. ST. MARY.-Parch R. M. Jones, M.A. AT DRIGOLION BETTWSYCOED A'R CYLCH- OEDD.—Dymuna William Williams, Pontypair Shop, wneyd yn hysbys ei fod wedi cael bob math o batrymau newydd at y dyfodol mewn Suitiau dynion a bechgyn am brisiau hynod o resymol. Gwneir Suitiau i fesur ar fyr rybudd, gwarentir fit ar style ddiweddaraf. Gellir cael Suitiau i fesur am 22/- ac uchod, Hefyd cedwir Readymades i ddynion a bechgyn, a Mens Cord Trousers, a Boys Cord Knickers, bob math o Grysau dynion, Collars, a Scarfs. Hosanau dynion o 1/- y par i fynu. Ladies Blouses a Skirts a rhai Muslin, Aprons, pob math o Stationery, a Post Cards,—ADVT, Dydd Mawrth, bu farw Mrs Jane Davies, gweddw y diweddar Mr Nathaniel Davies, Gorphwysfa, yn 70 mlwydd oed. Bu'n gys- tuddiol am flynyddoedd, a dyoddefodd pobpeth yn nodedig dawel, Yr oedd yn gristion cywir, ac yn aelod yn Brynmawr. Cleddir prydnawn Sadwrn. Cydymdeimlir yn fawr a'i hunig fab sydd wedi ei adael ar ei hol, a'r hwn a fu yn aqrprliiy wrthi a pofalus am dani ar Vivrl w D- J- J blynyddoedd. Y mae yn llawen genym ddeall fod Mr Robert Parry, U.H.. Pendyffryn, wedi troi ar wella o'i gystudd trwm. Hefyd, y mae Mr Ellis Morris Roberts, Ty Capel y Tabernacl, lie y mae yn swyddog ffyddlon, yn graddol wella o'i afiechyd poenus. Caethiwyd ef i'w wely am amryw wythnosau. Boed i'r ddau adferiad buan. Ceuir y masnachdai am un o'r gloch bob nawn Iau o hyn hyd ddiwedd mis Mawrth, Cofied y cwsmeriaid am hyn. Yr wythnos ddiweddaf, aeth Mr Alun Rawson Williams, Bron Celyn, i Goleg Bangor am gwrs pellach o addysg. Y mae Cyfarfod Llenyddol Elim i'w gynal ddiWedd y mis hwn, a pharotoir ar bob Haw ar ei gyfer. Hefyd, y mae testynau Cyfarfod Llenyddol Brynmawr allan o'r wasg. CynheliK hwnw yn mis Mawrth. Cynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch am y Cynhauaf mewn moddion Seisneg yn St. Mary nos Sul, pryd y gwasanaethid gan y Ficer. Neithiwr (nos Fercher) cynhaliwyd gwasanaeth Cymraeg, pryd y pregethwyd gan y Parch W. G. Jones, B.A St. Martha, Blaenau Ffestiniog. Prydnawn heddyw (dydd Iau) am haner awr wedi un o'r glocb, bydd Organ Recital pryd y chwareuir yr* organ gan Mr Llewelyn Jones, F.R.C o., Christ Church, Llanfairfechan, a chenir hefyd gan Mrs Llewelyn Jones, Heno pregethir gan y Parch J. Owen, Ficer Bryn- eglwys. Bydd yr holl gasgliadau yn myned at I yr Ysbyttai a'r Homes.
IFFESTINIOG.
FFESTINIOG. Hwyrach y bydd yn ddyddorol i chwi ddeall Mr. Gol. fy mod wedi gweled rhifyn o'ch newyddiadur yn Callao, Peru, yr wythnos ddiweddaf, gan Mr. Robert E. Jones, Pengwern Villa, o'r ardal uchod. Rhyfedd felymaeygwendidmasnachol diweddaf wedi chwalu ein becbgyn ieuanc, Ynghorph y ddwy flynedd diweddaf mae y bachgen ieuangc yma yn ymarferol wedi amgylchu y byd, gaa ei fod wedi bod yn China, India, Japan, Canada, ac yn awr ar daith i Peru, gan alw yn Brazil, Monte Video, Buenos Ayres, a Patagonia. Caffed iechyd i ddychwelyd adref unwaith,eto i'w dymuniad eich GOHEBYDIX: