Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BLAENAU FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BLAENAU FFESTINIOG. Sportsmen would do well by paying a visit to J. N. Edwards, Ltd., to inspect their new Stock of Cartridges, Powder, Shots, etc. Also Guns, Revolvers, all of the best makes, for the Season now just opened. DIRWESTOL,— Cynhelir cyfarfod cyntaf o gyfarfodydd dirwestol y tymor dyfodol yn School Room, Jerusalem, cos Sadwrn nesaf, Hydref 15, Dechreuir am 6-30. GWYWO YN IF-UANC -Dyna fu hanes Maggie May, geneth fach Kate ac Evan Jones, (Rhiwbryfdir gvnt), yn 13, Tryangle, Mountain Ash, a hi ond 7 mlwydd oed. Dvgwyd ei gweddillion i'w claddu yn mynwent Bethesda, Blaenau Ffestiniog, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch P. Jones Roberts. Y mae ein cyd- vmdeimiad dyfnaf ar teulu yn eu profedigaeth chwerw. Aeth ymaith gyda'r haf i'r hafddydd diddiwedd. TO DYE OR NOT TO DYE ?-You can get a reliable Hair Dye, any colour, from Hugh Jones, Medical Hal], BI. Fcstiniog. CERDDORIAETH MEWN. NATUR,—Traddod- wyd darlith ar y testyn uchod yn Ysgol Uwch- raddol y Merched nos Wsner diweddaf gan y Prif-athro Ellis Edwards, Bala. Yr oedd yn ddarlith fuddiot ac adeiiadol, ac yr oedd yr athro dysgedig yn ei hwyliau goreu yn ei thraddodi. Dywedai fod natur yn llawn o gerddoriaeth. Y tair elfen anhebgor mewn cerddoriaeth ydyw. 1, Rhyw elfen ya symud yn fuan megys llinynau'r Delyn—par nnrhyw beth a symudir yn fuan beroriaeth. 2, Rhyw- beth i gario y swn at y glust, nodcdd dri cyf- rwng, set, dwfr, craig, ac awyr, Cerir swn trwy ddwr bedair gwaith gan gynted ag y gwneir trwy awyr, a chlywir swn yn gynt trwy graig na thrwy awyr. Da i ni yw mai yn araf y cerir swn trwy yr awyr neu fe ddryllid ein clustiau, 3, Y trydydd anhebgor ydyw dust i dderbvn y swn. Er hyny nid yw swn yn dod i fed heb enaid yn enaid dyn y mae cerddor- iaeth )"D dyfod i fod gyntaf. Yn ystod ei ddarlith darluniodd wahsnol gantorion natur yn can a., megys y gwynt, dwr n'ant, afon, tonau y mor a thanau y llyn, cycbod a Hongau, troliau, cerbydau, trams a threns. Sylwai fod dylanwad gan gerddoriaeth i roddi ffurf a tbrzfn ar wahanol wrthrychan-newidia raen yr enaid. Darlith neilldnol o ddyddorol ydoedd hon a thebygol y bydd pob un oedd yn bresenol a'i glustiau yn barod o hyn allan i wrando ar gerddoriaeth godidog natur. Llywyddes y cyfarfod ydoedd Miss Greaves, gan yr hon y cafwyd sylwadau pwrpasol ÐC amserol. Elai'r elw i groufa y Y.W.C.A. YN AMERICA.—Derbyniasom air oddiwrth Mr. J.' P. Williams, Utica, yn hysbysu am farwolaeth sydyn Mr. Griffith P. Williams, 24, Be-lscm Avsnae, tjra gyda'i waith fei Stationery Engineer. Cwynodd nad oedd yn teimlo yn dda, ac eisteddodd i lawr gan farw yn y fan. Yn y trengholiad caed mai clefyd y galon cadd arno. Ganwyd Mr. Williams yn Nghymru 45 mlycedd yn ol, a 24 mlynedd yn ol daeth drosodd i America, a bu fyw 21 o honynt yn Utica. Gwsithiodd am gyfnod fel towr, ond yn ddiweddar cyflogwyd ef gan Frank de Vitc let peirianydd. Yn IS91, priododd Miss Alice Pax, ac yr oedd yn aelod selog o eglwys St. Luke, Gedy weddw; dwy ferch, Grace a Dcrcthy; dau fab, John P. ac Ellis O. Williams, Utica: Mam, Mrs. Anna Williams, Utica; 6C un chwaer, Mrs. Samuel Evans, Marcy, mewn galar ar ei ol. EGLWYS DEWI SANT.—Gwyl y Cynhausf. Onbeiir yr Wyl Flynyddol dydd Sul a dyrid LluD cesaf. Disgwylir yParcbedigion Gwilvm Lewis, B.A., Ficar Llanguiig, a George Salt, B.A., Ficar Bodfean, i bregethu. Datgenir yr Anthemau canlynol yn ystod yr Wyl Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel," Chv. i gewch drigo yn y tir," Llawenbewch yn yr lor." Pregethir nos Sul nesaf yn y Church Hall gan y Parch G. H. Harrison, B A., ac nid" fel yr ymddengys y Cyhoeddiadau SabbothoL, COSB DRCM.—Mewn Heddlys Arbenig, ddydd Mawrth, o fiaeo. Mri G. W. Ellis (Cadeirydd), W. P, Evans, a Cadwaladr Roberts (hynaf). Yr Heddgeidwad A. Williams a gyhuddodd Robert Jones (Bob Do), Dol- garregddu, Blaenau, o fod yn feddw ac afreolus ac ymosod ar y swyddog y coson cynt.— Tystiodd y swyddog ei fod ar-ei ddy!edswydd yn High Street haner awr wedi saith o'r gloch, a gwelodd y diffynydd yn feddw ac afreolus gyferbyn a Canton -House Cymellodd ef i fyned gartref, ac aeth yn ngwmni ei frawd a'r Rhingyll Lloyd. Daeth yn ol yn mhen' peth amser, a chododd gfynwrf drachefn, ac heb un gair o groesni tarawodd ef yn ei wyneb. Wrth fyned ag ef i'r gell bu iddo ei gicio mewn modd claidd iawn.—Y Rhingyll Lloyd a gadarnhaodd yr hyn ddywedodd y swyddog. Bu iddc ef wneyd ei oreu, i'w gael adref yn dawel gan y gwyddai mor beryglas ydoedd yn ei ddiod. Gorweddai ar lawr, a gwrthodai wneyd dim, Llwyddodd i'w gael at adref, ac wrth fyned bygythiai vmcsod ar yr Hedd- geidwad Williams. Dreth yn ol o'r ty, a chododd gynwrf yr ail waith, gan daraw y swyddog yn si wyneb. Nid oadd y swyddcg wedi ei weled yn flaenorol i If nason bono fel nad allasai fod drwg deimlad o gwbl rhyegddynt. Yr oedd ganddo wraig a dau c blant: dynes dda, ymdrechgar, a gwrthodai fyw gydag ef. Yn Dolgellau yr cedd hi a i phlant yn byw. Bu yn y carchar o Dolgellau amryw droion am fis y tro am fod yn feddw sc afreoius, ac yr oedd rhestr fawr o achosicn yn ei erbyn yno ac yma.Y cybuddiecig a ddywedodd ei fod yn y Blaenau er's saith wytbnos, ac heb ddechreu gweithio, ond i ddechreu y diwrnod hwnw yn Chwarel Rhiwbach. Cafodd ddiod gan yr hogiau. Y ddiod voedd achos yr boll helynt, ac os gollyngid ef y tro bwn byddai iddo droi dalen newydd. Yr oedd archeb yn ei erbyn i dalu saith swllt yr wythnos at gynal ei wraig a'i blant.— Y Cadeirydd a ddywedodd iddo gael pob tynerweh gan y Rbicgyll, ac yn ystod ei. brofiad o un mlynedd ar bymtheg ar y Faingc, na chlywodd am dynerwch tebyg o du unrhyw swyddog. Tarawodd swyddog nad oedd wedi gwneyd dim iddo, a phe buasai arf ganddo yr oedd yn debyg mai defnyddio hono a fuasai. Arfonent ef i garchar am bythefnos am fod yn feddw ac afreolus, ac am fis am ymosod ar y swyddog.—Y cyhuddiedig, "Ni fyddaf ond yr un un ar ol dod allan." CERDDOROE -Cynhaliwyd Cyngerdd Elus- enol yn y Neuadd Gyhoeddus, nos Iau diweddaf, Hydref 6, er cynorthwyo y brawd Evan Roberts, Ty Canoj*. Cafwyd cyngherdd rhagorol mewn canu ac adrodd, a'r neuadd yn orlawn o wrandawyr. Canodd Miss Bessie Jones (Soprano) yr unawdau "April Morn," I "Cartref," "Nant y mynydd," "I will extol Thee," a'r ddeuawd Y llaethferch a'r bugail" gyda Mr Powell Edwards, ynghyd ag encores. Mae Bessie yn meddu ar lais swynol, cylch sang, ac yn gallu ei recli yn dda. Yr cedd ei chahu yn boddio y gwrandawyr; yn sicr mie dyfodol disglaer iddi. Can odd Miss Maggie Jones (Contralto) Gwlad y delyn a "Friend." Erccriwyd hitbau bob tro. Dyma gantores eto a dyfodol disglaer iawn iddi; ilais pur a chyfoethog. a chyflawnder o hono. Canodd Mr Powell Edwards "Non Piu Andrai," "Breuddwyd y bardd," "Syr Hani Ddu," "The Toilers," a'r ddeuawd. Yr oedd yntau fel y Ueill yn cael ei ail alw. Nid oes eisiau dweyd dim am y datganwr yma gan ei fod yn hawlio gwrandawiad gyda'i lais swynol, a'i reolaeth dda arno. Bu Mr- J. H. Jones yn ffyddlon i ddod yma o Lanrwst i wasanaethu I yn rhad, hefyd HObt.S mith gyda'i Euphonium, a'z Seindorf fel atfer yn rhoddi ei gwasanaeth, Cafwyd gwledd gerddorol heb amheuaeth, ac Sed drwy y rhaglen yn hapas o dan arweiniad deheuig Mr Silyn Roberts. Terfynwyd trwy ganu Hen wlad fy nhadau," o dan arweiniad Miss Maggie Jones. Hyderwn y bydd i'T brawd anailuog dderbyu elw sylweddol, er ei sirioli, Llywyddwyd gan y Parch R. R. Morn's, yn absenoldeb Mr R, O. Jones, and bu i Mr Jones gyflwyno rhodd anrhydeddus i'r drvsorfa. Gwnaeth Mr Dodd ei ran fel cyfeilydd yn rhad, ac yn ddirodres. SPECTOLS.—Os bydd rhywbeth allan o le ar eich Spectols, gcllir ei gwneyd yn foddhaol gan Mr. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, yr nnig Optician yn Sir Feirionydd, sydd wedipasio Arhol- ladau yn y cyfeirlad hyn. Dymuna J. N. Edwards, Ltd., Berlin House, hysbysu y Cyhcedd eu bod ncwydd dderbyn Stoc enfawr o Lampau at y Tymhor dyfodol, a'r rhai hyny yn cael eu gwerthu yn is nag erioed. Cyn gwneyd eich pryniant yn unman arall, cofiwch am y Bargeimon digyffelyb sydd i'w cael yn y cyfeiriad uchod, ac fe dal yn rhagorol i chwi. Cofiwch y Cyfeiriad: Berlin -,ch y Cyfeiiiad Berlin House", FoOTBALL,-Next Saturday, at the New- borough Park, the following eleven will meet Llandudno Amateurs in a League encounter:— Goal, Bob Smith backs, Tom Hughes & M. J. Morris; halves, Jim Lloyd, W. Bangor Jones, W H. Williams; forwards, Bob Roberts, Johnny Hughes, W. J. Hughes, Harrold Collins, W. R. Owes (Captain).— Reserves, Moses Roberts, Owen Roberts. Kick-off, 3 p.m. Admission, 4d & 2. JERUSALEM.—Nos Fawrth cyfarfu y Gym- deithas Ddiwyl'iadol, o dan lywyddiaeth Mr Owen Jones. Dechreuwyd gan Mr Evan Jones trwy ddarllen a gweddio, Cafwyd unawd swynol dros ben gan Miss Jones, Fronheulog. Adroddiad Boddlonrwydd," gan Mr Owen William Roberts, Lord Street, yn dda iawn. Cafwyd bwyl neillduol gyda chystadleuon Sillebu. ac areithio difyfyr. Adrodd stori gan rai o'r aelodau. Datganodd Mr Robert Morris, Trefeini, "RocK the cradle of the Deep." Adroddiadau campus gan Mri William Jones, Lord Street, a John Edwards, Llythyrgludydd. Cafwyd noson addysgiadol a difyr. FF AITH.-Nid oes unrhyw Optician ya y Deyrnas yn meddu ar Dystysgrifau uwch ar ol pasio Arholladau mewn Prof! y golwg, fic., na Mr. Hugh Jones, Med- cal Hall Blaenau Festiniog.

IRheolwyr Addysg DosbarthI…

Advertising

T ANYGRISIAU. -

Advertising