Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BLAENAU FFESTINIOG.

IRheolwyr Addysg DosbarthI…

Advertising

T ANYGRISIAU. -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

T ANYGRISIAU. CAPMLL,-NO-, Fawtth yn y He uchod, cynhaliwyd Cymdeithas Ddiwylliadol Carmel a'r Canghenau, pryd y cafwyd Anercliiad gampus gan y Parch J. Albert Morgan ar Gyfoeth a Thlodi Siaradwyd yn mbellach gan Mri Richard Jones, Penycefn, a Robert R. Williams, Cwmorthin Road. Diweddwyd trwy ganu ton gynulleidfaol, CYFARFOD AGORIADOL.—Nos Fawrth di- weddaf, yn Vestri Bethel, cynbaliwyd cyfarfod Agoriadol Gobeithlu Bethel, o dan lywyddiaeth Mr Owen Davtes, Post Office, yn absenoldeb y Parch R, Silyn Roberts, M.A. Dechreuwyd tjwy i'r Gobeithiu ganu Baban y Morwr." Cafwyd anerchiad gan y Llywydd, ac awd yn mlaen gyda'r rhaglen a ganlyn:-Solo gan Mr Owen D. Owen, Ty'nllwyn, Detholiad o Alawon Cymreig ar y delyn gan Mr David Francis, a chafodd encore. Adroidiad gan Mr W. R. Williams, Penlan. Chwareuad ar y Flute gan Mr G. W, Humphreys, Caersalem Terries, a Mr D. Francis gyda'r delyn, a chawsant hwythau encore. Solo gan Miss Annie L. Owen. Ty'allwyn. Canu penillion gan Mr D. J. Roberts (Dewi Mai o Feirion), a David Franjis gyda'r delyn, a chwsant dderbyniad gwersog, Ni ymgeisiodd neb ar y prif item, sef canu i rai dros ddeugain oed. Can gan baxti dan arweiniad Miss Lizzie Jones, Dolydd Terrace. Adroddiad gan Mr W, K. Williams, Penlan. Chwaseuad ar y Fluta gan Mr G. W. Humphreys, a David Frarcis gyda'r delyn, Solo gan Miss Lizzie Jones, Dolydd Terrace. Canu penillion gan Dewi Mai o Feirion, a David Francis gyda'r delyn, ac encoriwyd bwy. Cynygiwyd y diolchiadau arferol gan Mr Lewis EdwErfs, Caedfridd, a chefnoawyd gan Mr William Roberts, Llys Twrog, I ddiweddu y cyfarfod canodd y Gobeithlu o dan arweiniad Mr Joseph Williams, Hnullrya, Yr uedd cynulliad da wedi dod ynghyd, a chafwyd cyfarfod rhagorol. Deallwn hefyd fod yna gyfaifod o'r fath i'w gynai yn Dolrhedyn S'adwra wythnos i'r nesaf,-D,

Advertising