Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

YVVVVVVT BWRDD GWAROHEIDWABD…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

YVVVVVVT BWRDD GWAROHEIDWABD PEN- RHYNDEUDftAETH. Cynhaliwyd cyfarfod y Bwrdd dydd Mawrth, o dan lywyddiaeth yr Is-gadeirydd, Mr R. Williams. Yr oedd befyd yn bresenol Mrs Casson, Mrs Morris, Parch Thomas Griffith, Parch John Hughes, Mri E. M. Owen, Richard Williams, D. Tegid Jones, John Roberts (Trawsfynydd), Wm. Wiliiams, R. W. Vaughan, G. Parry Jones, David Pugh, J. Davies Jones, John Roberts (Talsarnau), E. R. Owen, Capten Morgan Jones. Fowden Jones, R. R. Jones, Dr Jones (Swyddog Meddygol), Wm. Thomas, J B Jades, R. Parry (Swyddogion Elusenol), D, J. Jones (Meistr). Thomas Roberts (Clerc), D. Jones (Clerc Cynorthwyol). Adroddiad y Meistr. Ystyriwyd adroddiad y Meistr. Yr oedd un Thomas Roberts, Pentrefelin, wedi ei dderbyn ar archeb Mr R. Parry. Delid mai at Undeb Lerpwl y dylai apelio, a phasiwyd i roddi archeb i'w symud. Yr oedd William Evans, Porthmadog, wedi ei dderbyn i'r Ty ar yr 8fed, trwy archeb Mr R. Parry. Ar un dydd derbyniwyd Gwen Williams, Trawsfynydd, trwy archeb Mr William Thomas. Yr oedd triAO blant, dan gyfarwyddyd y Boarding Out Committee, wedi myned o'r Ty. Elizabeth Ellen Hughes, 10 oed, i Lanfrothen, Owen Charles Hughes, 6,; a Keturab Hughes, 8, i Ffestiniog. Sylwodd Mr William Thomas fod y plant wedi eu hanfon allan cyn bod y forms angenrheidiol wedi eu llenvri, ond atebid bod pythefnos o amser wedi pasio er pan basiodd y Bwrdd i symud y plant a bob hyny yn ddigon o amser i wneyd y gwaith. Derbyniwyd Kate Williams a'i thri phlentyn i'r Ty o Ffestiniog ar archeb Mr William Thomas, Cyfarwyddwyd y Clerc i wneyd ymchwiliad am dad y plentyn a'i erlyn. Ar dystiolaeth Dr R. T. Jones, a Mr W. H. More, U H., ac archeb Mr J. Bennett Jones, derbyniwyd Robert Jones, Harlech, i'w gadw fel un gorphwyllog. Tystfei y meddyg nad oedd berygl i'w gadw felly. Cyfarwyddwyd y Clerc i ohebu ai deulu am gyfran at ei gycaliaeth. Yr oedd yn y Ty ar ddiwedd y bythefnos 82, o'u cydmaru ag 83 yr amser cyferbyniol y llvnedd. Pension yr Hen. Gofynodd Mr Ffowden Jones a oedd y Meistr werli cael allan y manylion am y rhai fwriadent wneyd cais am Flwydd-dal Henaint. Gofynai hyny er mwyn cael gwneyd y trefniatiau angenrheidiol mewn pryd cyn dechreu y flwyddyn. Hysbyswyd nad oedd dim wedi ei wneyd, a phasiwyd i'r Meistr holi y rhai oedranus a gwneyd trefniad prydlon, Gofynai y Parch T. Griffith pwy oedd i fod yn gvfrifol am gostau tystysgrif, &c., ynglyn a chael pension a chodwyd cwestiynau eraill yn nglyn a gofal meddygol i'r pensioners, &c. Ar gynygiad y Parch John Hughes pasiwyd i anfon at Gaoghellor y Trysorlys i ofyn am eglurh,ad ar ddeddf y blwydd-dal yn ei pherthynas ar tlodion a'r Undeb. Pe tasal yn Saesnes." Gofynai Ann Lloyd, Glandwr, Penrhyn, am ychwanegiad o swllt neii ddau at ei belusen luagat fagu plentyn ei mherch, hyd nes y gwellai hono. Cynygiai Mr G. P. Jones ei bod yn cael 2s yr wythnos am fis, ac eiliai Mr W. Williams, gan ychwanegu eu bod yn gofyn am dystysgrif am iechyd y ferch erbyn y tro nesaf. Gwrthwynebai Mrs Casson godi yr elusen ar y tir fod y plentyn yn un anghyfreithlon. Dv- wedodd y Parch T. Griffith eu bod eisoes yn rhoi cynorthwy at fagu plant anghyfreithlon. Mrs Casson:" Yna, a ydym i ddeall fod y Gwarcheidwaid i gadw holl blant anghyfreith- lon y plwyf. Nid felly yr wyf fi wedi deall Deddf y Tlodion." Mr G. Parry Jones, "Pe tase hon yn Saesnes buasai Mrs Casson y gyntaf i gefnogi." Mrs Morris, Yr ydym yn cael arbed cadw un wrth roi ychydig rhagor i hon." Cynygiai Mr Tegid Jones a chefnogai Mr E. M. Owen, godi 2s yn elusen y nain heb son am T plentyn, a phasiwyd felly. Talu Ol-ddyled Ar gynygiad Mr William Williams pasiwyd i godi elusen un o'r Mtmod oedd yn awr yn Ysbytty Lerpwl o 10s i 15s am ddwy wythnos er mwyn gwastadhau ol ddyJed o 10s oedd yn ddyledus am ei Hetty. Merched mewn Gwasanaeth, Gwrthwynebid elusen dyn o'r Manod am fod ganddo ddwy ferch mewn gwasanaeth, ac nad oedd yn rhoi cyfrif o'r hyn enillant. Ar gynygiad Mr. Richard Williams pasiwyd i roi cymorth am ddwy wythnos arall. Gofynai dyn dall, a chanddo wraig a dau o blant am barhad ei elusen, a chaniatawyd hyny am bythefnos ar y dealltwriaeth clir fod y ferch oedd gartref yn cael ei danfan i jwasanaeth. Rhy fach o lawer." Yn achos hen wr a gwraig o Maenofferen oedd fit' cael 8/- yr wythnos, dadleuai Mr Richard Williams eu bod yn cael rhy fychan o lawer, a'u bod cyd-rhwng y Meddyg a'r! Guardians yn cael eu llwgu. Cynygiai y Cadeirydd eu gadael fel y maent hyd oni symudid hwy i le arall. Mr. E. M. Owen: Oni fyddai yn well rhoddi 10/- o elusen hyd nes y ceid lie iddynt. Ar raniad y Bwrdd pasiwyd i beidio codi yr elusen. Y Nain a'r Plentyn. Yn y cyfarfod blaenorol yr oedd y Bwrdd wedi pasio i'r Meddyg a'r Swyddog Elusenol gyda Mr E. J. Hughes fyned at Margaret Jones, Pantycelyn, i egluro iddi y pwysigrwydd i symud y plentyn a fagai rhag i'w iechyd fod mewn perygl. Mr Wm. Williams a garai gael gwybod pam na buasai y meddyg wedi myned yno yn ol y cyfarwyddyd. Y Parch Thomas Griffith a ofnai bod perygl fod y tlodion yn cael cam. Y perygl oedd iddynt fod yn "dis gyn rhwng dwy stol heb gael y gofal priodol. Mr Richard Williams a gredai y dylid pasio pleidlais o gondemniad am na buasai y meddyg wedi ymweled air wraig yn unol a chyfar- wyddyd y Bwrdd. Mr E. T. Hughes a ddy- wedai fod y meddyg heb ei gweled hyd nos Sadwrn diweddaf. Yr oedd gofal y wraig yn dyn am y plentyn. Yr oedd yn barod i wneyd pobpeth allai i atteb i ofynion deddfau iechyd, ond nid oedd yn barod i'w ollwng. Mrs Morris Bu'r plentyn yma o dan ofal y Board- ing Out Committee. Sylwyd mai clwyn y Pwyligor hwnw oedd nad oedd y plentyn yn cael ei ymgelyddu fel y dylai. Mrs Casson a ddywedai fod gormod o helynt o'r haner yn cael ei wneyd gaiji y meddygon ynghylch dar- fodedigaeth, Yr oedd son am tubercolosis wedi ei gyru hi yn sal. Carlnd oedd yr yraig beth a. gädwai blentyh yn fyw, dyna dedd èl brif angen. Nis gallai neb ei fagu yn blentyn iach os na byddent yn ei gatu. Ac yr oedd y wraig hon yn angherddol hoff o'r plentyn. Credai y dylid gadael y plentyn gyda'i nain, ond pwyso arni i'W gadw yn lan, a'i roi i gysgu mewn gwely ar wahan. Ar gynygiad Mr E. T. Hughes, yn cael ei eilio gan Capt. Morgan Jones, pasiwyd i roi 6/- am bythefnos, a phar o esgidiau i'r plentyn. Trip i Lerpwl I Yr oedd Richard, bachgen dall Eliazer Wil- liams, Bethania, Blaenau wedi cael ei orchymyn i fyned i Lerpwl i sefydliad yno. Dywedodd \Mr William Thomas ei fod wedi myned i Lerpwl. Rhoddwyd ef yn y tren a chiowyd y drws arno, ond dychwelodd yn ei ol yr un dydd. Pasiwyd i bwyso arno ddod i'r Ty, a grdael-elusen ei rieni fel yr oedd am bythefnos ymhellach. Help dros y Gauaf I Ymddangosai dyn ieuanc o'r Blaenau get- bron i ofyn am help dros fisoedd y gauaf. Yr oedd yn briod, ac wedi colli un llygad ac un fraich. Enillai ychydig wrth he! a gwerthu cocos, ond nis gallai wneyd digon i'w gadw yn enwedig yn y gauaf. Yr oedd yn ddyn sobr ac ymdrecbgar. Ar gynygiad Mr E. M. Owen a cbefnogiad Mr W. Williams pasiwyd i roddi kido 4s yr wythnos. DilIad Claddu Pasiwyd i gynorthwyo gweddw ymdrechgar i I dalu am bethau angenrheidiol a gafw'yd i'r plant ar gynhebrwng eu tad. Symud ei Facbgen. Gofynai dyn o Drawsfynydd", am i'r Gwarcheidwaid symud ei fachgen o dan eu gofal i'r Ty. Yr oedd yn dioddef oddiwrth ffitiau er pan yn chwech oed. Yr oedd yn myned yn frwiit at ei chwaer oedd yn cadw ei dy. Dywedai Mr Tegid Jones nad oedd y bachgen ddim ffit i fod ar hyd y stryd, fod ar blant yr ysgol ei ofn, a'i fod yn ymosod ar ei chwaer. Mr Richard Williams Os daw yma bydd raid i ni dala am ofal doctor. Yr oedd ef yn cynyg nad oedd i ddyfod yma i gymeryd cyfrifoldeb oddiar neb. Mr G. R. Jones: Cymerwch rai Ffestiniog oddiyma ynte. Mr Tegid Jones a gynygiai ei dderbyn i'r Ty, os felly y cynghorai y meddyg iddo ddyfod, a phasiwyd foliy, Cym-deithas Gweinyddesau Beddgelert. I Daethai cais oddiwrth y gymdeithas fwriad- edig uchod yn gofyn am rodd tuagat y Drysorfa, Pasiwyd i roddi £3 3s yr un fath ag i blwyf Harlech ar ol gweled fod y gymdeithas wedi cael ei sefydlu. Yr Elusenau 1. I Talodd Mr. Richard Parry mewn Elusenau yn nosbarth Tremadoc yn ystod y bythefnos LC78 10s Oc, ar gyfer £ 77 2s Oc, a gofynodd am £ 11 at y bythefnos nesaf, Talodd Mr. William Thomas £11112s 2c yn Nosbarth Ffestiniog, ar gyfer^lll 17s 9c. a gofynodd am/110. Yn Nosbarth Deudraeth, talodd Mr. J. Bennett Jones £ 67 15s 3c ar gyfer £ 60 12s 6c, a gofynodd am £66. Cyfanswm y taliadau £ 257 17s 5c, ar gyfer £ 258 12s ,3, a'r gofyniadau yn £ 253. Dyled y Bwrdd i'r Ariandyj £ l443 17s Ge.

Dam wain Angeuol ar y Garn,I…

[No title]

I PWYLLGOR CYLCHWYL HARLECH…

.GAIR 0 APEL. I

f------I PENRHYNDEUDRAETH.…

I -BLAENAU FFESTINIOG.

An Electrical Wonder.

RHYFYG NID GWROLDEB.--