Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

YVVVVVVT BWRDD GWAROHEIDWABD…

Dam wain Angeuol ar y Garn,I…

[No title]

I PWYLLGOR CYLCHWYL HARLECH…

.GAIR 0 APEL. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GAIR 0 APEL. I Mr. Gol.-Nis gwyddom yn iawn at bwy i gyfeirio yr apel, pa un ai at ddynion a merched iepaingc Blaenau Ffestiniog, ai ynte at rieni, ai at yr Heddgeidwaid; ond yn ddiddadl at swyddogion eglwysig a gweinidogion. Cyfekio yr ydym at beth hollol annheilwng o ardal mor uchel ei breintiau a hon, sef ymddygiad rbai pobl ieuaingc yn y Neuadd GynulJ a lleoedd eraill. Rhyw bythefnos neu dair xvythnos yn ol cynhaliwyd cyngerdd elusenol, parchus, yn ol pob ymddangosiad i'r mwyafrif oedd yn y Neuadd, ond nid felly i'r rhai oedd yn "Sic Fon," fel y gelwir y "lie chwech" yno. Cafodd amryw ddynion a merched pftrchus cedd yn eistedd yn y lie hwnw, friw i'w calonau wrth weled rhai pobl ieuaingc, yn ddynion a merched, yn dangos y naill i'r Hall gardiau llygredig ac anweddus. Dengys hyn ryw hyfdra annuwiol yn y ddau ryw fel eu gilydd. Buasem yn meddwl na fuasai yr un dyn ieuanc o Gymro, beth bynag, yn meiddio gwneyd y fath beth hyd yn nod mewn lie anghyhoedd, heb son am wneyd hyny mewn cyuulliad cyhoeddus parchus. Yn awr, wyr ieuaingc a merched yn ogystal, a gawn ni alw eich sylw difrifol at y peth hwn. Bwriwch y ffieidd dra atgas hwn o'ch mysgar unwaith. Nid yw peth o'r fath ond abwyd gan y diafol i'ch tynu a'ch llithio i beth a fo gwaeth. Cofiwch fod eich cymeriad a'ch crelydd yn y glorian, a gwyliwch rhag eich cael yn brin. Hwyrach y byddai yn burion peth i'r Heddlu fod ar eu gwyliadwr- iaeth hefyd gyda'r peth hwn. Y mae yn sicr y byddai yn loes i galonau rhieni y bechgyn a'r genethod hyn pe y gwyddent fod pethau llygredig fel hyn yn eu meddiant. Buddiol fyddai dal ar y sylwadau gwerthfawr wnaed gan Mr G. G. Davies yn Nghyngor yr Eglwysi Rhyddion:-Os am lwyddiant ar yr Efengyl, mai dyledswydd pawb yw dechreu yn ei gylch ei hunan, yn rhieni, athrawon, swyddogion eglwysig, a gweinidogion, ac yna byddem ar well safle i droi allan i'r bvd. GWYLIWR. I

f------I PENRHYNDEUDRAETH.…

I -BLAENAU FFESTINIOG.

An Electrical Wonder.

RHYFYG NID GWROLDEB.--