Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

HARLECH A'l OLEU. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HARLECH A'l OLEU. I Mr Golygydd.-Darlle,nais gwyn yn eich rhifvn diweddaf am oleuadau Harlech yn ystod oriau yr hwyr, a'i goruchwylwyr, wedi ei arwyddo gan Trethdalwr." Hyd y gwelais i nid oes le i'r achwynwr roi ei droed i lawr. Mae y Pwyllgor yn ddiddadl yn gwneyd ei oreu ar ran y plwyf, y dref, a phersonau unigol, ac hefyd mae lie i gredu ar ran yr achwynwr, ond ei fod wedi bod yn rhy brysur gyda'i gyhuddiad disail. Mae genym fel cynrych- iolwyr lawer, o waith wedi ei dori allan, ac os bydd gormod o farnu ar y cyfryw cyn iddo gael ei orphen, yr hyn sydd yn peryglu pob cynllun, 'does dim i'w ddisgwyl ond llongddrylliad. Fel un o BwyLgor y Lampau cefais achwyniad o'r blaen, gan wraig, nad oedd rhyw lampau penodedig wedi eu goleuo ryw dri munyd a'r hugain (23) ar ol machlud haul, ac yr oedd yn noson weddol oleu a chlir, a'r lleuad wedi pasio ei chwarter cyntaf. Yr oedd yn berffaith resymol ar ran y goleuwr i beidio eu goleu ond yn unig iddo gadw y lampau sydd ar y brif- ffordd, yn y man lie mae peryglon, yn oleuedig A wnaiff y trethdalwr,' neu wraig, fod mor garedig a chyfarwyddo y llythyr i Ysgrifenydd y Cynghor Plwyf, oblegid gall gymeryd yn ganiataol y caiff ef neu hi gydymdeimlad llwyraf y Cynghor, ond ar yr un pryd boed iddo fo neu hi ystyried yr oil o'r amgylchiadau cytf rhoddi yr ysgrifbin i lawr. ac arwyddo yr hon ysgrif gyda yr oil o'r doethineb ac y mae yn feddianol aino.—Yr eiddoch jfh ddiffuant, UN O'R CYNGHOR. Mr. Gol-Carwn yn fawr gael cyfran fechan o'ch newyddiadur i geisio rhoddi ychydig o oleuni i'r un a eilw ei hun yn Drethdalwr." Credwn fod arna; llawn cymaint o angen goleuni ar waith Cyngor Plwyf Llandanwg ag ar y lampau dan sylw. Cawn ofyn ychydig o gwestiynau syml i Trethdalwr. 1, Os ydyw yn teimlo y fath ddyddordeb yn Mhlwyf Llan- danwg rhyfedd na fuasai yn ymwybodol o'r ymdrech mae'r Cynghor uchod yn ei wneyd er sicrhau tai, i weithwyr, cadw meddiant o lwybrau gran y mor, a'r ffyrdd sydd yn arwain yno, os na fyn Trethdalwr dalu dimai yn yr wythnos am y RHEDEGYDD er cael report o weithrediadau'r Cyngor eled i'r llyfrgell gyhoeddus a chaiff ei weled yn rhad. 2. Ai o gyfiawnder a r trethdalwyr mae yn ysgrifenu ? Credwn fod y Cyngor yn ceisio gwneyd cyfiawnder a'r trethdalwyr a'r cyme wr. A fuasai gwaith y Cynghor yn fwy bodd- hoddhaol i Trethdalwr pe buasai y tender ucbaf wedi ei dderbyn ? Nid ydym yn honi bod goleu y lampau wedi bod yn foddhaol yr wythnos ddiweddaf ac mae y Cynghor wedi cymeryd camrai er ei gwella. Cofiad nad yw cicio dyn dros y bwrdd heb roddi iddo fair chance yn rhan o bolisi y gwaed newydd y sonia am dano. Nid ydym yn gwarafu i Trethdalwr roddi help Haw i'r Cyngor i edrych ar ol y goleuwr lampau os ydyw yn awyddus am hyny. Ond bydded iddo gofio fod gwahan- iaeth dybryd rhwng Table Lamp ac ordinary Street Lamp, er hyny credwn y byddai yn fwy cydweddol a dignity y rhyw y perthynai Trethdalwr iddi fod yn y ty cyn 10 o'r gloch y nos. GWA-EDNEWYDD. Dear Sir,—In answer to Mr or Mrs Can'tsee preaching in last week's issue alluding to the lamps, I am putting in a word for myself and beg to say that Harlech can boast of a respectable Committee of men who carry out their ideas for duty's sake, and not favourism, as the intruders would have it be. But if the intruders would care to give Mr R. a lesson on lamp-lighting he would be pleased to accept their kind guidance, but myself I think a little more schooling would do them good, and to teach them to behold the mite which is in their own eye; but that would be a hardship I am sure, as their motto is to trouble their head with work that does not concern them. I beg to say that if it would help to easeMrCantsee's mind that Mr R. did not stop putting light to the lamps until October 10th instead of the 7th when the moon was supposed to show itself and the lamps were started to be put out at 10 p.m. by Harlech time and not Greenwich. Now in conclusion to my dear brother and company I hope their views will be met with in the near future, and next week-end instead of carrying the great book under their arm they will take it to their heart and study the 10th Commandment, EVAN ROBERTS.

MASNACH RYDD: PA BETH YW,I…

ADQCFION ..DYDDOROL.

Y Ddiweddar Mrs. Sanluel Evans,I…

- - - - - - - - - - - - PENRHYNDEUDRAETH.…

[ LLANRWST.

Family Notices