Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

HARLECH A'l OLEU. I

MASNACH RYDD: PA BETH YW,I…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MASNACH RYDD: PA BETH YW, I A PHA LE Y MAE? Mr. Gol.—Ffurfiais fy ngofyniadau gyda'r unig amcan o ddangos faint o wirionedd oedd yn yr haeriad nad all masnach yr un wlad ddiffyndollawl lwyddo. Ac os yw hyn yn wir ni bu cynydd ar fasnash yr un wlad ddiffyn- dollawl. Yna o angenrheidrwydd dadfeilio y mae. Am hyn y gofynaie rif llongau masnachol America a'r Almaen er's pedwarugain mlynedd yn ol, a'u rhif heddyw; ac felly y profasai hyn pa un ai gwir ai gau yw yr haeriad. Felly yr hyn a ofyna fy ngofyniadau yw, gwneyd ymchwiliad teg a gwirioueddol i'r hyn a wnaeth masnach y gwledydd hyn yn yr amser a nodais. A gwrando yn ofalus ar yr hyn a ddywedai hi wrthym, yna ein gwaith ni yw rhoddi mynegiad i'w lleferydd hi. Yna cawn weled pa un ai gwir ai gau yw yr haeriad. Felly chwi a welwch Mr,Gol. fod fy ngofyniadau uwchlaw gwrthwynebiad mewn un modd, am mai gwa-¡ hoddiad ydynt i wneyd ymchwiliad i'r hyn sydd wirionedd. Ac yr wyf yn credu fad egwyd orion yn gofyn i bob dyn wneuthur hyn ¡gýda phob peth. Ond fealiai fod Radicaliaeth yn gwahardd hyn, am mai tan ysol fyddai hyn iddi. Ac felly, Mr Gol,, nid yw MÿWilliams wedi deall dyben nac amcan fy ngofyniadau mewn un modd. Nid oes yn llywodraeth Duw yr un creadur, mud na llefarus, a wna bob peth am hynv dos atynt a gwrando, a chlust- feinia ar yr hyn a ddywedant hwy wrthych. Ysgrifena, ac yna ysgrifeni wirionedd, ac yna nid rhaid i ti hidlo cwestiynau ready-made dimeu y dwsiu yn marchnad anwybodaeth. A llefa Mr Williams a'i holl nerth fod ffigyrau yn profi fod Prydain yn llwyddo. Y mae ffigyrau yn traethu gwirionedd ac nid rhan o'r gwir- ionedd. Gwirionedd yw fod nifer o ddineswyr Prydain yn ffurfio yn wahanol gwmniau ac yn adeiladu llongau, ac yn gwneuthur masnach helaeth fel y maent yn myned yn gyfoethog iawn,—dyna wirionedd. Ond mynega ffigyrau wirionedd arall fod eu gwlad yn suddo o dan eu gwadnau ac yn myned yn llai o werth bob dydd o dan lyw'odraeth Masnach Rydd, fel y mae amaethwyr Prydain yn methu a chario eu beichiau. Ac yn y cyfwng difrifol hwn ar ein gwlad wele y meddyg wladweinydd byd- enwog Salisbury yn canfod y Uesgedd a'r gwendid yr oedd ynddo o dan effeithiau Masnach Rydd. A'r hyn a wnaeth ef oedd cymeryd arian yTollau, ie. tollau, ddarllenydd, i wrthweithio effeithiau newynol Masnach Rydd ar yr amaethwyr trwi dalu rhan o'u trethi, am eu bod wedi myned yn rhy weiniaid i gario beichiau trymion Masnach Rydd. Ai tybed fod yn rhaid i America a'r Almaen dalu o gyllid y llywodraeth er cynal amaethwyr eu gwlad? 0 na, y mae eu hamaethwyr hwynt yn cynal eu rhan ar y Llywodraeth. Ond yn Mhrydain rhaid i'r Llywodraeth gynal yr amaethwr. Gogoneddus Fasnach Rydd onide? Ac felly y mae amaethwyr Prydain yn symud a bod wrth yfed y Cod Liver Oil a roddodd Salisbury iddynt. Ond y mae rhoddi ffeithiau fel hyn i Mr Williams mof anmhriodol iddo a phe rhoddid tusw o wair yn ginio i wyryf degi Am hyny, Mr Gol., gadawaf Mr Williams i ymguro ag ef ei hun. Am hyny hefyd, Mr Gol., gyda eich caniatad, ymaflaf yn yr unig wrthwynebiad sydd gan fasnachwyr rhydd yn erbyn y doll, sef ei bod yn achos o ddrudaniaeth. CRISPIN.

ADQCFION ..DYDDOROL.

Y Ddiweddar Mrs. Sanluel Evans,I…

- - - - - - - - - - - - PENRHYNDEUDRAETH.…

[ LLANRWST.

Family Notices