Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

CYFLWYNEDIG

"Y LLEUAD."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Y LLEUAD." Tra yn eistedd yr ochr allan i'r bwthyn yma, yn nwndwr y ddinas brysur hon, ar noswaith braf,v a'r "LIeuad" yn bur agos yn llawn, daeth y meddyHau syml hyn heibio yn gymysgedig a biraeth am yr hen amser. 0 dacw y Lleuad, Brenhines y nos, Fry, fry, ar ei gorsedd, yn y wybreri dlos, Mor lan yw ei gwyneb, a'r eira gwyn, A'i llewyrch orchuddia bob dol a bryn, Yn ieiangc edrych ei siriol wen, Hebun o'r arwyddion, "Rwy'n mynedynhen." Ai yr un yw y Lleuad, medd lief wrthyf fi, A fyddai yn Nghymru, draw draw dros y Jli, Yn rhoddi goleuni o hyd yn ddifeth, I'r tlawd a'r cyfoethog, heb ddegwm na threth, A saint yr holl oesau ar noson oer, I Seion i foil yn ngoleu y Lloer. Ai yr un i'w y Lleuad, oleua i'r byd, Pan oeddwn yn faban bach bach yn fy nghryd, Heb fedru llefaru na cherdded un cam, Ond disgwyl wrth drefn fawr Rhagluniaeth a mam, Yn hoffi y Lleuad, mae plant Gwalia dlos, A hithau yn gwenu o'r nef yn y nos:. o ie, y LIeuad sydd yno yn awr, Ac yma yr un adeg yn Amerig fawr, Goleuo mae'r Lleuad i bawb yn ei phryd Yn dawel heb rwgnach gwnaiff neges i'r byd, Hi ddengys i ninau mae cariad i'w Duw, Rheolwr cyfanfyd, a thad wrth y llyw. 0 foreu y Cread, mae yn ufudd erioed, A'i goleu yn werthfawr y nos i bob oed, Er myned i'r cwmwl yn mroydd,y nen Daw eilwaith i'r golwg yn Lleuad wen, Mor debyg i'w bywyd y Cristion i hyn, Er myned dan gwmwl, fe erys yn wyn. 38J, Union St., W. WILLIAMS, Utica, N.Y., U.S.A., Medi 20fed, 1910. ER COF Am y ddiweddar Mrs. C. Williams, Beehive, Trawsfynydd, a fu farw Hydref 13eg, 1910, ac a gladdwyd yn Harlech y Llun canlynol. Gyda'r dail disgynodd Hithau'n wyw i fedd; Fe! y dail, hiraethai'n Ysig am ei hedd. Fel y dail yn cilio Ar ol gwneyd eu gwaith, Ciliodd hithau'n mendith Dydd o lafur maith. Deifiodd Hydre' cystudd Wrid y wyneb cu; Taenodd drosto gysgod Prudd ei aden ddu. Diane wnaeth y goleu v Claer, o'r Uygad lion Peidiodd fflam y cariad Losgai dan ei bron. Mud yw'r tafod ganodd Gymaint hyd y daith; Crogwyd telyn arall Ar yr helyg llaith. f Oer yw'r Haw mor gynes Roed i !awer ffrynd; Trymach at y dyddiau Wrth ei gwylio'n myn'd ,Myn'd.nol rhanu golud Calon mam i'w pblant; Myn'd o'i chur tan gario Nodau aeddfed sant. air y deil ei hebw Glan, i hawlio'n parch; Byth ni chloir dylanwad Da, dan gauad arch. Erys ei chynghorion Byw, a grym y ffydd, Drwy y ddrychin dduaf Ddringodd at y dydd. y Cwyno wnai yr Hydref Hyf, o ddor i ddor Hithau ro'em i'w gwely Ola', 'n swn y mor. Canem am y gwynfyd ™ Pur, wrth /o? sy' fwy— Grisial f6r,"—a thyrfa'r Lán heb unrhyw glwy' Bron Wnion, J. D. RICHARDS) Trawsfynydd, Hydref 18, 1910.

CYLCHWYL ----n'I

Advertising

TREFN OEDFAON Y SUL

RHESTR TESTYNAU Cyfarfod Llenyddol…

I The GREAT SKIN CURE.

Advertising