Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
BRAWDLYS MOM AC ARFON. I
BRAWDLYS MOM AC ARFON. Agorwyd y Frawdlys uchod ddydd bwener. Y Barnwr F. G. Horridge eisteddai i wrandaw yr achosion, a llongyfarchwyd y Barnwr ar ei ddyrchafiad i'r Faingc gan Syr A. Osmond Williams, Blaenor yr Uchel-reithwyr. Rhyddhauwyd Thomas Evans a William Thompson, gyhuddid o ladrata oriawr oddiar Henry Huskinson, yn Caergybi Awst 26. Anfonwyd John Simpson, Teiliwr, 58 oed, i garchar am ddeuddeg mis am iddo gael arian trwy dwyll gan Mrs Margaret Jones, Caergybi, trwy honi mai efe oedd ei mhab John Jones gollwyd ar y mor ddeng mlynedd yn ol. Yr oedd hefyd wedi cael arian o dan amgylchiadau tebyg gan Mrs Catherine Jones. Gwelodd hysbysiad am y meibion colledig, ac anfonodd lythyrau i Lundain yn enw y meibion i ofyn am bres gan eu mhamau. Daliwyd ef yn y weithred o dderbyn y llythyrau oddiwrth Margaret Jones a Catherine Jones, Anfpnwyd Laurie Berry, 21 oed, Cook, Llafairfechen, i garchar am ddau fis am gelu genedigaeth ei phlentyn anghyfreithlon. Cafwyd Morris Williams, gwr priod o Chwarelwr. o Cwmyglo, yn euog o dreisio Anfonwyd ef i benyd wasanaeth am dair folynedd. Cyhuddwyd William Robert Jones, gwas mewn masnachdy dillad yn Llanberis, o ddyn- laddiad dyn ieuangc arall o'r enw William Morris Griffith, ar y Wyddfa, boreu Sul Medi 18. Yr oedd Griffith, gyda nifer eraill, wedi myned i ben y Wyddfa, ac wrth ddychwelyd gartref, cymerodd gareg fawr a dododd hi ar gledrau y Reilffordd sydd ar ochr y mynydd gan lithro i lawr ar hyd-ddynt, Gosododd rhywun faea mawr arall tu ol iddo ar y Cled- rau. Cyflymodd y maen olaf fel ag i daraw yn erbyn yr un eisteddai Griffith arno nes ei daflu i fyny i'r awyr a'i niweidio yn angeuoi. Cyhuddid Jones o fod wedi dodi y maen hwnw, ond cafodd y rheithwyr ef yn ddieuog. Twyllo gyda Yswirio Cyhuddwyd Robsrt Henry Jones, 45 oed, Goruchwvlydd Yswirio gyda'r Prudential yn Pwllheli, o ffaglo enwau yn nglyn 9g yswiriant Mary Rowlands, Elizabeth Jcnes, Mary Jones, ac Elizabeth Jones, er- cael £ 15 a £ 34 4s 9c o arian gan y Cwmni, Lewis Davies, 55 oed, teiliwr, a chynt yn Aroiygydd cynorthwyol o dan yr uu Cwrnni yn nosbarth Pwllheli, a gyhuddwyd o ffugio pspurau i gael £ 13 6s Oc a £ 29 9c Oc. I W. O. Jones, 45 oed, Cofrestrydd Geceigaeth a Marwolaethau yn Nefyn, a gyhuddwnd o ffugio pedair rrwydded marwol- aeth er cynorthwyo y ddau gybuddedig arall. Galwodd y Barnwr sylw at ddifrifoldeb yr achosion, a dedfrydodd R: H. Jones a L Davits i naw mis yr uno garchar, a phymtli ig mis ar W. O. Jones, heb yr hwn y buasai yn anmhosibl i'r twyll gael ei wneyd.
F,Pwyllgor Cylchwyl Gerddorol…
F, Pwyllgor Cylchwyl Gerddorol 1" Hancoh. Cynhaliwyd pwyllgor gweitbial Cylchwyl Gerddotoi Harlech, dydd Sadwrn diweddaf, yn Harlech, o dan lywyddiaeth Dr. Prys Williams. Dewisiwyd y rhai canlynol yn Bwyllgor Gweithiol :-Mri E. Evans, J. Mac Lean, R Jones Lloyd, W. Roberts, Forthmadog; Ben T. Jones, Cadwaladr Roberts, J. Tudor Owen, Blaenau Ffestiniog; Rees Jones, Robert Griffith, R. Thymas, John Evans, Abermaw; D. Lloyd Evans, G. Parry Jones, J. C. Owen, R. D. Roberts, Penrhyn; J, J. Thomas, David Jones, W. J. Roberts, R. Jones Morris, Tal- sarnau O. 0. Roberts, Edward Williams, D. Richard Meredith, John Griffith, J. Roberts, Dolgellau; Henry Lewis, J. 0, Williams, John Lumley, Machynlleth; L. Foster Edwards, Harlech Johu Morris, Gray Thomas, John Edwards, Harlech Edwin Lloyd, E. Williams, E, Jones, Trawsfynydd; /J. D. Hughes, Corwen; H. Griffith, H. W. Jones, D. 0. Jones, Towyn R. 0. Roberts, Dyffryn. Hysbyswyd fod y Corau canlynal yn bwriadn ymuno a'r Wyl :-Abermaw. 70; Blaenau Ffestiniog, 150; Corwen, 80; Dolgellau, 120; Ffestiniog, 90 Harlech, 110; Llwyngwril ac Aberdyfi, 100; Machynlleth, 70 Manod, 100: Nefyn, 50; Porthmadog. 110; Penrhyn, 95 Talsarnau, 70; Towyn, 96; Tanygrisiau, 80. Dewiswyd y tonau canlynol:—Delyn Aur (o drefniant John Griffith) .Aberporth (J. Thomas), Sleeper Awake (Bach), Bodeuron (J. McLean), Elijah (Mendelssohn), Wilton Square (Watts Hughes), Rotterdam (o drefniant Ieuan Gwyllt), Rhydrgroes. Dewiswyd Llew Meirion, J, Griffith, a Q. O. Roberts, i ddewis geiriau ar y tonau. Anthem, "Mewn anialwch wyf yn trigo," er cof am y diweddar Mr O. Roberts.
VWVVVVVVVVvvvvvvvvvvvvvvvvv…
VWVVVVVVVVvvvvvvvvvvvvvvvvv HARLECH. Cynhaliwyd Cyfarfodydd DioJch am y Cyn- hauaf yn yr holl-addoldai ddydd Llun. Nos Iau, bu Ap Harri ar ymweliad a ni, a chafwyd hwyl nodedig gydag ef yn Ysgoldy y Tabernacl. Llywyddid gan y Parch Llewelyn Morgan (A.), ac elai yr elw at yr achos Ani- bynol. Gwasanaethodd Miss M. E. Davies, Abermaw, a Miss M. C. Owen, Harlech, wrth y Berdoneg. Datganwyd amryw Ddeuawdau ac Unawdau yn ystod y cyfarfod. Cynhaliwyd !,Cyngor Plwyf Llandanwg yn y Ddarllenfa nos Wener, dan lywyddiaeth Mr. John Edwards, Is-gadeirydd. Yr oedd hefyd .I yO bresenol Mri. James Morris.Morris Jones, ( Hugh J. Hughes, Samuel Williams, Edwaru Griffith, David Pugh, John^Morris,, a Robert Owen (Clerc). Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodion y Cynghor diweddaf. Cododd sylw oddiar y cofnodion mewn perthynas i'r, rhybuddion neillduol i'r Modurwyr, a phasiwyd i symud yr un sydd tt gyfer y Vicarage at Benygraig, ac fod y gwaith 0'1 symud i gael ei adael i Mr James Morris. Darlienwyd llythyr oddiwrth Mr R. O. Davies, Clerc cyngor Dinesig Ffestiniog yn dyweyd fod yno byst lampau i'w gwerthu am 12s yr un a chaniatawyd i'r clerc anfon am bedwar. Cadarnhawyd gwaith pwyllgor y lampau o osod lamp wrth Ty'ny- groes a'r llall yn agos i Dy'r Felin. Pasiwyd i Bwyllgor y lampau gyfarfod i ystyried y cwynion oedd yn bod yn erbyn y goleu, y Pwyllgor i gyfarfod nos Lun am 8-30. Oarllenwyd llythyr oddiwrth Gynghor Abermaw yn cwyno o achos anghyfleusdra teithio ar hyd llinell y Cambrian, ac yn gofyn i'r Cynghor dynu sylw y Cwmni at y gwyn ac i ofyn am welliant yn y cyfeiriad yma, a phas- iwyd i wneud hyn." Pasiwyd i Bwyllgor y Llwybrau fyned i edrych a ydyw railing Uwybr Pengraig yn fodd- haol.—Pasiwyd i roddi Camfa arlwybr Ty'n- ygwter yn lie y llidiart haiarn. — Sylw ar lwybr Glanymor a meinciau y Twthill yn y Cynghor nesaf. Talwyd amryw o Filiau. Pasiwyd i'r dreth fod yr un faint ar flwyddyn ddiweddaf, sef tair ceiniog at y goleu, a ceiniog at dreuliau y Cynghor.
Helynt Chwarel Gorddinen,I…
Helynt Chwarel Gorddinen, Blaenau Ffestiniog. Bu achos y Chwarel uchod o flaen y Barnwr Philimore, ddydd LIun, yn yr Uchel-lys. Eg- lurwyd i Gwmni gael ei gofrestru o dan yr enw "Cwmni Llech-Chwareli Cymreig Cyfyngedig." Blaenau Ffestiniog. Cafwyd cofrestriad i'r City of London Finance Corporation gyda chyfalaf o gan' m l o bunaa, ond nid oedd mwy n> £ 115 wedi ei dala i mewn, a gweithiodd y Gorpboraeth i fyny y cwmni uchod yn 1904 gyda thrwydded i godi decg mil a haner i weithio chwarel lechi Gorddineri am yr hon yr oeddid i roddi dau gant a baner o bunau mewn arian. Glaniodd y cwmni, nad oeddynt yn neb ond Darby a Gyde, mewn an- hawsderau, trwy iddynt dderbyn arian pobl ddiniwed er eu budd eu hunain. Deliwyd atynt yn deilwng gan y Llys, a'r achos yn awr oedd yn nglyn a chan bwy yr oedd hawl i dderbyn yr elw o r chwarel.—Gohirlwyd y gwrandawiad am bythefnos, ar ol gosod y ifeithiau gerbron y Llys.
LLANFROTHEN.I
LLANFROTHEN. I FEARWEL ETO.-Nos Sul, cynhaliwyd cyfarfod i ffarwelio a dymuno yn dda i Miss Laura Evans, y genhades, oedd yn dychwelyd yn ol i'r India am y drydedd waith. Merch ydyw Miss Evans i'r diweddar Mr. Edward Evsns, Gelli Goch, fferm ar ochr y Moelwyn. Siatadodd gyda gtya anhawster, yn cael ei gorchfygu gan deimladau dwys. Ar ddiwedd y cyfarfod, pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Miss Evans, gan ddymuno yn d'tia iddi ar ei thiithyno a llwyddiant mawr ar ei gwaith, Hefyd, anfonwyd em cofion at Miss Ehzabeth Williams, Sylhet. Dydd Mawrth, yr oedd M:ss Evans yn gadael y Rhyd. Yr oedd plact yr ysgol allan i gyd, ac yn chwifio eu cadachan arni hyd nes y ciliodd yn y gorwel,
Cyngaws Lianrws -
Cyngaws Lianrws Crybwyllwyd aches Mr O. Isgoed Jones yn erbyn Cyngor Dinesig Llanrwst yn yr Uchel- Lys o fleen y Barnwr Parker ddydd LlaD, pryd y dywedodd ei Arglwyddiaeth na ddech- reuid arno cyn Tachwedd 1, ac y gallai y Bar- gyfreithiwr ei grybwyil yn nes yn mlaea er hwylusdod i gael y tystion i fyny o Gymru.
Cyfarfod -Misol Qorllewin…
Cyfarfod Misol Qorllewin hleirion. I Cynhaliwyd- Cyfarfod Misol Methodistiaid GorllewinMeirion ddydd Iau a dydd Mawrth, yn Aberdyfi, dan lywyddiaeth y Parch David Hughes, Trawsfynydd. Yr Ysgrifenydd oedd y Parck D. James, Llanegryn.-Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf boreu ddydd LInn. Ymddi- ddanwyd ar swyddogion yr eglwysi Cymraeg a Saesneg, ac ar hanes yr eglwys yn y lie, dan arweiniad y Parch E. J. Evans, Nazareth, a hanes yr achos yn y ddau le dan arweiniad Mr Meyrick Roberts, Towyn.-Amlygwyd i ad- fcyweiriadau yn nghapel Cymraeg Aberdyfi yn ngbyda'r organggostiodd £ 1,500, a bod J916 wedi eu talu.-Caed coflhad am y diweddar Mr Evan James, Pennal, a Mr Evab Jones, Arthog.—Gohiriwyd coffhad am Mr Robert Roberts, Pennal, byd y C.M. nesaf.—Yn nghyf- arfod y prydnawn, darHenwyd papyr gan y Parch E. Jones Edwards, Arthog, ar Lawen- ydd Ysbrydol." Siaradwyd yn mhellach ar y mater gan y Parch J.'H. Symonds,-Yna aed yn mlaen i ymddiddan a'r pregethwyr ieuanc yn yr ysgolion a'r athrofeydd. Darllenodd yr ysgrifenydd lythyrau oddiwrth ddau efrydydd o'r Bala yn methu bod yn bresenol yn y C. M. oherwydd y golygai hyny fwy o gost nag y gallant fforddio. Yr oedd chwech o efrydwyr yn bresenol, rhai o'r Bala a rhai o Aberystwyth. Eglurodd Mr William Jones dros eglwys Aberdyfi nad oeddynt yn disgwyl i'r efrydwyr ddod os nad oedd yn gyfleus iddynt. Yr oeddynt yn foddlon os yr oedd ganddyht esgus digonol,—Yn absenoldeb y Parch W. M. Griffith, MA., Dyffryn, ym- ddiidanodd y Parch R. R. Williams a'r efrjfclwyr, a chafwyd gair o brofiad gan bo b un.—Diolchwyd i Mr William Williams gan y Parch Gwynoro Davies, a rhoddodd air o gynghor i'r efrydwyr. Yna galwyd enwau'r eglwysi.
Advertising
Emynwyr Qwynedd." TRAETHAWD HANESIOL A BEIRN- IADOL AR YR EMYNWYR A'U GTWAITHR (Btiddugol yn Eisteddfod iGadeiriol y Bala), gan J. D. DAVIE S. Ychydig gopiau SWLLT eto ar law i'w cael gan yr awdwr,—J. D,^DAVIES, RHEDEGYDD OFFICE HIGH STREET, BLAENAU FFESTINIOG. I SALE I SALE It: NEW BRYNGWL ymt BRNK HOUSE, 1 PENRHYNDEUDRAETH. I DDECHREU DVDD SADWRNNESAf Medi 24ain, A0 I BARRAtJ AM FIS. Gwerfhir Allan yr oil o'r Sloe am Brisiau a bar syniod i bawb. Deuwch, Gwelwch, a Bernwoh drosoch eich hunan. R A TJ??pG?CM  .????' "a!??" 'V ?ammmim ? [fieal P,. M Dymunir gwneyd yn hysbys B|a %dslxy Frssaiiu a qodir yq y Papyr hwn oqd ylt unig yn ystod J Sale, ac am jtfllafi PAGOD YIA tlftlCs- Dnwch ar y eyfleusdra. Dynia gyfieu,sdra na fldyiid i golSi os auq FARGEII digasifsynioB. Dvmuqaf eich hysbysu y bydd yr holl Stoo yq y ddwy silop ilw gwerthu yq is qan erioed, smwysf eu oiifio- Cofiwch v Cyfeiriad ?  S.   a öank  H. 51 JSR?S, Br?nswil?m & B&nk Douse, ..PEMRHYMEUBR?ETH. TRAWSFYNYDD. Cynhelir Cyngherdd Cystadleuol UWCHRADDOL yn YSGOL Y CYNGOR, NOS SADWRN, Tachwedd 12fedJ 1910, pryd y cynygir ii 10s Oc o wobr am Unawd o waith Dr. Parry rieu-R. S. Hughes, Parti Meibion o ddeg U Adgofion Dedwydd." Gwobr 10s, a medal arian i'r arweinydd. Datganwr a Beirniad- TOM EDWARDS, R.C.M., Rhos, Ruabon. Manylion pellach gan yr Ysgrifenydd- E. MADDOX. Highgate, Trawsfynydd. BILLPOSTING 11 Dymuna HARRY PARRY, Penilech, Harlech, hysbysu ei fod yn gwneyd gwaith BILLPOSTER yn Nosbarth Harlech, Talsarnau, Llanfair, Llanbedr, a Gwynfryn. Byrddau da yn mhob rhan o'r Dosbarth. Rhoddir sylw uniongyrchol i bob archeb. Teleraa rhesymol. BILLPOSTINGU I BILLPOSTING BILL POSTING!! pymuna MORRIS RICHARDS, P E Si L It N Trawsfyqydd, hysbysu y Cyhoedd ei fod yn derbyn Archebion am BOSTIO PUVOARDS, &c., i fyny yn Mhlwyf Trawsfynydd, a'r Cyffiniau. BYRDDAU DA yn y lleoedd mwyaf amlwg. TELERAU MWYAF RHESYMOL, The best advertising RHEDEGYDD. medium in the dis- trict. We, guarantee a larger circulation than any other paper published in Meiripnethshire. Es- tablished since 1879. SALE FLVNVDDOLl AR DDILLAD 0 BOB MATH. BYDD I Mrs. Daniel Jones FRONDE6, BUTTWSYCOEDT YN CLIRIO ALLAN am Brisiau Gostyngol YN YSTOD Misoedd Medi a Hydref. Bargeinlon Sylweddol MEWN COTIAU I FERCHED, BLOUSES a NWYDDAU HAF, ESGIDIAU, &c., &c. DAVIES'S MUSICAL and PICTORAL ENTERPRISE. PUBLIC HALL, FESTINIOG. A GRAND COMBINATION OF SONGS, MUSIC and ELECTRIC, ANIMATED PICTURES. EVERY MONDAY, TUESDAY, and WEDNESDAY NIGHTS. Doors open 8 o'clock, to coramence 8-15. Until Further Notice. ADMISSION 3d. and 6d. CHILDREN'S PERFORMANCE EVERY TUESDAY at 5 o'clock; Id. and 2d. First Series of Pictures to com-I mance October 24th, 1910. A BOON TO MOTHERS.—" Nurserine," is the ideal Nursery Pomade. It destroys Nits and Vermin and all pests in children's hair. It makes the hair soft and silk. Sole Agent, Hugh Jones, Chemist, Medical Hall, Blaenau Festiniog. WtRLEGfi I HARLECH!! SALE OF WORK. DYMUNIR hysbysu y Cyhoedd y byddis yn gwerthu yr oil o'r Nwyddau sydd yn weddill ar ol y BAZAAR mewn adeilad gyfaddas yn Harlecb, Diwrnod Ffair Glan- gauaf, Tachwedd lOfed, 1910. Bydd SOCIAL hefyd yn gysylltiedig ar Sale of Work. Os am Nwyddau da a Bargeiaion digyffelyb, cofier am y dydd yna. Rhaidj Cliria yr oil. EISTEDDFOD GADEIRIOt JMEIRION- DOLGELLAU, CALAN 1911. Prif Feirniaid Mr, David Thomas, M.A., Mus. Doc. (Oxon); a'r Parch. Rhys J. Huws. Il.-Pryddest :-1' Yr Olaf Ddydd." 2.—Y Brif Gystadleuaeth Gorà.wl (a). Anthem-" Light in Darkness" (D. C. Jenkins). Buddugol Calao 1910. (b). Unrhyw ddarn at ddewisiad y Cor. 3.-1Ail Gystadleuaeth Gorawl- (a). "Addoiiad" (J. Ambrose Lloyd). (b). Cry out and shout (P. P. Bliss). 4.-Corau Meibion :—" Good Night, beloved (Ciro Pinsuti.) 5.—Corau Plant— (a). Meddyliau am y Nefoedd (E. D. Lloyd). (b). Unrhyw ddarn. Rhestr gyflawn o'r Testynau i'w cael oddi- wrth yr Ysgrifenyddion- 0. O. ROBERTS. EDWARD WILLIAMS. Baptist = Church, PENRHYNDEUDRAETH. A GRAND BAZAAR in connection with the above Church, will be held DURING the MONTH OF AUGUST, 1911. OFFICERS OF THE COMMITTEE:- Ministers:— Rev. J. G. JONES. Rev. ;5, PIERCE, Secretaries:— Miss M. LEWIS, Griffin Terrace, Mr. W. R. JONES, High Street. Treasurers:— Miss E. A. JONES, Bank Place. Mr. D. JONES, Waterloo House. Argraffwyd "a Chyhoeddwyd gan J. D. Davies and Co., Swyddfar Rheeegydd," High St. Blaenau [Ffesticiog, < 1