Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
BWRDD GWAROHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.
BWRDD GWAROHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. Cynhaliwyd yr ucbod ddydd Mawrth ciweddaf, yn Swyddfa'r Undeb, Penrhyndeudraeth, dan lywyddiaeth Mr. Owen Jones, Yr oedd hefyd yn bresenol. Mri G. Parry Jones, Richard Roberts, E. M. Owen, Richard Williams, Robert Richards, E. R. Owen, David Pugh, E. J. Hughes, D. Fowden Jones, Owen Evans, R. R, Jones, Parch. J. Hughes, Parch Thomas Griffith, Parch, Collwyn Morgan, Edward Llewelyn, John Williams, Cadben Morgan Jones, J Pritchard, Dr J. R Jones (Meddyg), T, Roberts (Clerc), D. Jones (Clerc cynorthwyol), D. J. Jones (Meistr), j. B Jones, W. Thomas, Richard Parry (Swyddogion Elusenol). Adroddiad y Meistr. Tachwedd 30, rlioddodd Gwen Williams gynt o Drawsfynydd, enedigaeth i blentyn marw-anedig. Rhagfyr 9, daeth Ann Thomas, 35 oed, Harlech, i'r Ty, yn wael, ar gais Dr. Jones, Harlech. Rhagfyr 8, diangodd Robert Jones, 32 oed, Harlech, o'r Ty, a dygwyd ef yn 01 gan yr Heddwas Davies, Harlech. Yn y Ty, 94, ar gyfer 78, a galwodd 45 o jzrwydriaid yn ystod y bythefnos. Dim Ateb. Holai Mr. D. Fowden Jones ynghylch clyu oedd yn y Ty ac yn perthyn i Undeb Texeth, Dywedodd y Cierc nad oedd dim ateb wedi dod oddiwrth Glerc yr Undeb. Aiff o'r Ty ddechreu y flwyddyn, bydd yn myned ar ei flwydd-dal. Mr. D. Fowden Jones, Ie wedj i ni ei gadw ani dii mis." Y Cadeirydd, "Gellid mesurau gorfodol, ond gwell fyddai anfon eto at yr Undeb. Pasiwyd hyny." Ail Ddewis. Dewisiwyd Mr David Jones, Clerc Cynorih wyol, i gymeryd stoc o'r pethau yn y Ty am dymor etc am y cyflog 0 [6. Mawr ganmolid y modd deheuig y gwna ei waith. Siwt o Ddillad. Gofynai gwraig o Biaenau Ffestiniog gyda pedwa? o b.ant &m siwt o ddiliad i'r bachgen hynaf. Caaiatawyd ei chais. Cais am Esgidiau. Gwnaeth teuiu o Biaenau Ffestiniog, ac yr oedd iddynt saith a blant, a'r gwr allan o waith, gais am bedwar par o esgidiau i'r plant fyned i'r ysgol. Y Cadeirydd: "Dymaachosj difrifol, y mae y plant fel pla ar hyd y fan acw yn cardctta ddydd a nos, a syndod sut y mae yr Heddlu heb eu cymeryd i fynu. Y maent yn ofnadwy, nid ydynt yn anfon y plant i'r ysgol, ac y mae yr aches wedi bod gerbron yr Ynadon, ac mae yr Ynadon wedi rhoddi dau fis o rybudd iddynt, ac nid ydynt eto wedi anfon y plant i'r ysgol." Mr D. Tegid jcnss: Nid eu symud i'r Ty fyddai y goreu." Y Cadeirydd. iNi fsdrwa wneyd hyny. Dyna un o wendidau y gyfraith. Y mae Pwyllgor Addysg yn gwneyd eu goreu: chwareu teg iddynt, EC y rcaent yn bwriadu anfon rhai o'r plant i Ysgol Hyflorddiodol, yr hyn a fyddai yn iachawdwriaeth fawr i'r plant." Y Swyddog, Y mae y gwr wedi bod yn gweithio yr wythnos ddiweddaf ac wedi euiil 16s lOc, ond nid oes ganddo waith cyson, Y Cadeirydd, "Pe cai waith cyson, y mae yn un o'r rhai hyny nad oes ond trafferth gydag ef. Mr D. Tegid Jones, "Os ydyw bod heb esgidiau yn rhcswm iddynt beidio anfon y plant i'r ysgol, cynygiai roddi esgidiau." Y Cadeirydd, Y rnae y plant yn iach. Mae yno ddau efaill. Cewcheugweledynrholioar hyd y ficrdd mor hapus ar Gog" (chweithin). Cefnogai Mr R. Roberts roddi esgidhu ir, pedwar plentyn, ac i'r Swyddog ei pwrcasu Hyderai y Patch T. Griffith y gwna y Swyddog edrych na byddo iddynt werthu yr esgidiau wedi eu caei. I Y Gwr yn y Carchar. Daetft achos o ISrynteg gerbron ac yr oedd y gwr yn y carchar am ymosodiad hofiedig. Yr oedd y wraig yn gofyn am elusen iddi hi a'i phlact. Codwyd y cwestiwn 0 hawl, ac ar gynygiad Mr Tegid Jones, a chefnogiad Mr E. Llewelyn pasiwyd i adael y mater i farn y Swyddcg. Dtffro Pobl Porthmadoc. Dywedodd Swyddog Tremadoc am acbos y dylai fyned i'r Cartref yn Rhyl. -Y Cadeirydd a bolai a oedd yn Mhorthmadoc rywun yn tanysgrifio at y Cartref yn Rhyl.-Cadben Morgan Jones a ddywedodd fod yno rai, ond ychydig iawn—Y Cadeirydd, Y mae yn bryd deffro pobl Porthmadoc at eu dyledswyddau i gyfranu at y Cartref hwn, a phasiwyd i'r Swyddog fynu adroddiad o'r tanysgrifwyr fel ag i geisio cael tocyn i fyned i'r Cartref. Arianol. Talwyd yn Nosbarth Tremadog £77 14s Oc ar gyfer £ 71 4s Oc. ac yn gofyn am [90. Yn Nosbarth Ffestiniog £ 112 14s 7c ar gyfer [Ill 19s 2c, ac yn gofyn am £ 130. Yn Nosbarth Deudraeth £ 69 8s 4c ar gyfer £ 69 7s 4c, ac yn gofyn am £ 84. Gweddill yn y Bane yn erbyn y Bwrdd £ 7 6s 6c. Rhoddwyd elusen i 845 ar gvfer 870 yr un adeg y llynedd. Elsiau Eglurhad. -1 Daruenwyd llythyr oddiwrth Lywodraethwyr Gwallgofdy Dinbych yn hysbysu marwolaeth gwraig Cadben Williams, Penrhyn, dydd Gwener, Rhagfyr 2il. Mr G. Parry Jones a ddywedai na cbafodd Cadben Williams wybod am farwolaeth ei wraig hyd y dydd Llun can. lynol Rhagfyr 5ed. Cynygiai anfon at Lyw- odraethwyr y Sefydliad i ymholi ynghylch yr afreoleidd-dra. Pasiwyd hyny.
Advertising
BARGA IN .-A. Half-plate triple extension CAMERA by Houghton's, every possible movement, three double dark Slides, Thornton Pickard time & inst. Shutter, 3-fold Tripod, as new. Optimus 7 x 5 R. R. Lens (list price £ 2-17-6), also Planiscope Telephoto Lens. Price complete, £3 5/ Apply. Victo," RHEDEGYDD Office.
ITRAWSFYMYDD. I
TRAWSFYMYDD. CYMDEITHAS LENYDDOL A DIWYLLIADOL MORIAH.-Cynhaliwyd yr uchod nos Iau, yr 8fed cyfisol, dan arweiniad y cyfaill dyddan Evan Davies, Ty'nypistyll. Cafwyd ton gyff redinol i agor y cyfarfod. Yna awd yn mlaen at y rhaglen :—Adrodd hanes Joseph, W. J. Owens, Bro Dawel; eto i rai dan 16 oed, Evan Jones, Llanfair House; areithio araeth ddi- fyfyr, 1 W. C. Williams, Meirionfa, 2, E. Jones, 3 J. Morris; am oreu ddarllen a chanu penill heb swn na Llyfr Tonau, cydradd laf Miss Parry, Frongaled, a Miss Owen, Bronallt, 2 Miss Jones, Fronwynion; adrodd hanesyn i ddangos cymwynasgarwch neu dosturi, W. C. Williams; datganu unrhyw unawd, cydradd Miss Parry a Miss Owen adrodd emyn, Mrs Lewis, Frongaled cystadleuaeth unrhyw Hen Alaw, cydradd Miss Owen a Miss Parry.— UN OEDD YNO, MARWOLAETH.-—Angau fu wrthi yn gweith. io yn ein hardal yr wythnos hon eto, pryd y torwyd ar ddistawrwydd y boreu gan y newydd prudd fod yr hen frawd William Roberts, 20, Penygarreg Street, wedi marw. Ni feddyliodd neb fod y diwedd mor ages, ond hyny a ddaeth yn hynod sydyn er ei fod yn dioddef llawer o dro i dro, ac yn ei salwch diweddaf, er na fu yn orweddiog ond un diwrnod yn unig, dicddefodd gystudd caled am yr amser byr yna yr hyn derfynodd ei fywyd boreu Sul tua 4 o'r gloch, yn yr oedran cymarol o 59. Brawd iddo ef ydyw yr hen frawd Robert Roberts, Chapel Street, yr hwn hefyd sydd wael ei iech- yd, ac y mae ein cydymdeimlad dyfnsf gydag ,ef yn ei waeledd a'i brofedigaeth chwerw. Chwaer iddo hefyd ydyw Miss Laura Roberts, Penybont, Cydymdeimlwn a hithau hefyd yn ei hunigedd, Yr oedd y diweddar W. Roberts yn aelod ffvddlon gyda'r Methodistiaid Calfin- aidd yn y Traws. Claddwyd ei weddillion yn mynwent Penycafn y dydd Mercher dilynol. Cydymdeimlwn yn fawr a'i blant sydd wedi eu gadael yn amddifad o dad a mam yn eu prof- edigaeth chwerw, ssf dau fab a dwy ferch. Heddwch i'w Iwch. Y NEUADD GYHOEDDUS --Parhan yn hynod weitbgar y mae y chwiorydd gweitbgar yr Ardal gyda'r syniad bwn, nos Lun bu y Pwyllgor wrthi yn gorphen y trefniadau at y Swper a'r Goeden Nadolig, ac hefyd yn trefnu ar gyfer y Bazaar sydd wedi ei threfnu i fod yn ystod yr haf nesaf. Swyddogesau Pwyllgor y Chwiorydd ydynt, Llywyddes, Miss Pugh, Bryngwyn; Is-lywyddes, Mrs Davies, Rectory Trysoryddes, Mrs. Jones, Deffrobrsni a'r Ysg. Mrs. Morns, Bronygan a Miss Jones, Frongaled. Penodwyd y rhai canlynol i gvmeryd i fyny y gwahanol StallsArdudwy Stall, Llywyddes Mrs. Hughes, Brongwyndy Miss Owen, Bronallt; trysoryddes, Mrs. Willi&as, Brynllefritb. Meirion Stall, Lly- wyddes, Mrs. Morris, Glyndwr; Is lywyddes, Mrs. Owen, Glasgoed; Trysoryddes, Miss Jones, Llys Arenig Ysg Miss Humphreys, Diiwyn. Square Stall, Llywyddes, Mrs. Richards, Fronwynion; Is lywyddes, Mrs. Owen, Tygwyn; Trysoryddes, Mrs, Davies] Police Station. Ysg. Miss Jones, Bee- Hive, Mona Stall, Llywyddes, Mrs. Evans, Bull House; Is-lywyddes, Mrs. Williams, London House; Trysoryddes, Mrs. Jones, 4, Peny- garreg Street; Ysg. Mrs Jones, 7, Penygarreg Street. Islyn Stall, Llywyddes, Miss Parry, Frongaled; Is-lywyddes, Miss Lewis, Bron- wyd > Trysoryddes, Miss Roberts, Brynrwy; Ysg, Mrs. Lewis, Vrongaled. Prysor Stall, Llywyddes, Miss Parry, Blaenycwm; Is- lywyddes Mrs. Jones Deffrobani; Trysoryddes Mrs. Hughes, Railway Shop; Ysg. Miss Meredith, Tyllwyd Terrace. Da getsym fod amryw wedi cael gwaith yn ystod yr wythnos hon yn agos i'r Orsaf.
HARLECH.I "..,.....__.........__.--…
HARLECH. l\1U.t'l.Lli.A rOBL lEUANC TABERNACL (B.)-Nos Fercher, Rhagfyr 7fed, cafwyd darlleniad o bapur rhagorol ar "Penhynas Bedydd Crist a'i Demtiad," gan ein Llywydd eleni, sef y brawd William Ellis. Llywyddwyd am y noson gan E. Ll. Roberts. Roedd cynwysiad y papur yn werthfawr iawn, ac yn dangos gallu neillduol i ddangos y berthynas agos sydd rhwng y Bedydd a'r Temtiad. Siaradwyd ymhellach yn adeiladol iawn "gan amryw o'r brodyr a'r chwiorydd. Pasiodd hefyd y Gymdeithas yn unfrydol i William Ellis ddarHen ei bapur yn y gyfeillach y noson dilynol, ac fe gytunodd yntau i wneyd. Yn y cyfarfod diwylliadol nos Wener di- weddaf caed cyfarfod hwyliog dros ben, a dywed y rhai hyny oedd yno na chaed ei well yn Harlech erioed. Llywyddai y Parch D. Davies (B), yn fedrus yn ol ei arfer. Mater y cyfarfod oedd Ethol aelod seneddol." Yr oedd tri ymgeisydd ar y maes yn ceisio am y sedd, sef Mr O. H. Denman (Ceidwadwr), Mr. W. Lloyd Humphreys (Rhyddfrydwr), a Mr John Jones, Rhiwartha (Llafur). Caed ar- eithiau brwd gan yr oil yn datgan eu rhesymau am ofyn ein cefnogaeth. Siaradwyd yn mhell- ach gan Mri D. A. Jones, Jones Williams, H. H. Jones, Robert Davies, W. Williams, W. Lewis, Cwm, Parch Llewelyn Morgan a W. Ellis. Cyn myned i bleidleisio gofynwyd a oedd rhyddid i'r chwiorydd fotio, a phasiwyd fod, a gwnaethant ddefnydd o honi am y tro. Cafodd Mr John Jones (Llafur) fwyafrif o wyth.
I - - - - - ----I--------MINFFORDB.------'"''"''"'
MINFFORDB. MARWOLAETH.—Diwedd yr wythnos, bu farw Mrs Ellen Williams, Pen-y-graig, MinSordd, yn 67 mlwydd oed. Hanai o un o hen deuluoedd hynaf y Penrhyn. Claddwyd dydd Mawrth, yn mynwent Nazareth. Dydd Llan, cynhaliwyd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd yma; a'r nos cynhal- iwyd cyfarfod cyhoeddus yn nglyn a'r Symud- iad Ymosodol, pryd yr anerchwyd gan Miss Lloyd, Lerpwl, a'r Parch John Thomas, Caer- dydd. Nos Fawrth pregethwyd gan y Parch R. T. Watkins, Brynctug; nos Fercber gan y Parch R. Morris, M A., Dolgellau; v a beno (nos Iau), pregethir gan y Parch J. Henry Williams, Porthmadog.
TALSARNAU. -,I
TALSARNAU. I Nos Sadwrn yn Ysgol y Cynghor, am 6.30, cyfarfu Cyngor Plwyf, pryd yr oedd yn bresenol yr aelodau canlynol, Mr Jonathan Parry (Cadeirydd), Mri Richard Jones, John Owen, Griffith Roberts, Cadben Owen Roberts, Thomas Griffiths Robert Evans, John Jones (Clerc). I MATERION. 1. Darllen cofnodion a'u pasio. 2. Gcheb- iaethau ac adroddiadau. Gan nad aeth Mr. Robert Evans i ymweled a Chyngor Llandecwyn i'r diben o gael trafodaeth ar Lwybr Wern Maes Neuadd fel yr oeddis wedi pasio yn y Cynghor blaenorol. Nid oedd adroddiad i'w roddi a syrthiedd y mater trwodd, 3. Goleuni i'r Cyngor, leus yn ddiau yw goleuni, a hyfryd i'r llygaid ydoedd gweled lamp oleuedig ar y bwrdd yn lie goleu dwy ganwyl), fel yn y cyfatfodydd blaencrol, a phasiwyd i'r Cadeirydd a Mr Griffith Roberts i fyn'd i weled Mrs Jones sydd yn gofalu am yr ysgol er cytuno fod iddi of a'u am oleu at wasanaeth y Cynghor i orphen y tymor. 3. Y Development Grant y Llywodraeth. Caed eglurhad o ddarpariaethau y Ddeddf uchod, ynghyd a chynllun y Cyngor Sirol i'w gweithio er buddy Sir gan y Gyngborydd John Owen, Rhosigor. Ni ellir ei rhoddi mewn grym yn 1911, am nad oedd cais wedi ei anfon yn yr amser pdodol i'r awdurdodau 4. Materion eraill. Galwodd Mr Griffith Roberts sylw at le peryglus ar y fiordd yn yinyl Capel Graig. Pasiwyd i'r Ysgrifenydd i alw sylw Mr Thomas Jones, Arolygydd y Ffyrdd, at y He, a bod Mri Richard Joaes a Robert Evans i'w gyfarfod er gweled beth ellid wneyd i'r lle.-Galwyd sylw gan Mr Richard Jones at hen lyfrou pertbynol i'r Plwyf mor belled yn ol ac adeg rhaniad y Plwyi yn ddau fel y ma-e yn awr, a'r fantais o'i cnel i'r Gist. Pasiwyd fod i Mr Jones, yr Ysgrifenydd, i'w cael i'r Gist perthynol i Blwyf Talsarnau, os yn bosibl. GWAELEDD. Drwg genym mae parbau yn bur waei mae y cyfaill ieuanc Mr Owen Roberts, Capel Graig. DisgwyHwn yn fawr y bydd iddo gael adferiad buan. Miss Neta Thomas, Glan Llyn, mae hithau yn gorfod cadw yn orweiddiog er's wythncsau bellach, Miss Tudor, Glanywern, mae hithau hefyd wedi bod yn cwyno, ond erbyn hyn wedi troi ar wella. Dymunwn adferiad i'r oil a hyny yn fuan. Yn Nghymdeithas Bethel, nos Sabbath, darllenwyd papurtra chynwysfawr ar y testyn, "Manteislon hirnrts gauaf," gan Miss Davies, Gwyndu mawr. Caed sylwadau pallach gan yr aelodau. Diclchwyd i Miss Davies am y papur.
BETTWSYCOED.I
BETTWSYCOED. I ST, MARY.—Parch R. M. Jones, M.A. BRYNMAWR.—Parch H. H. Roberts, BA, Capel Curig. TABERNACL.— AT DRIGOLION BETTWSYCOED A'R CYLCH- OEDD.—■Dymuna William Williams, Pontypair Shop, wneyd yn hysbys fod ganddo ddewisiad gwell nag erioed at y Nadolig agoshaol » Xmas a New Year Cards o geiniog yr un i fyny. Hefyd Private Books o Xmas a New Year Cards am Is 9c y dwsin i fyny. Anfoner am weled y llyfrau a gellwch farnu droscch eich hunain. Cedwir hefyd amrywiaeth o Toys a Dollapr gyfer y Nadolig am brishu hynod o isel. Amryw o bethau buddiol eraill fel presents yn y Drapery Line. Dymnnir eich cefnogaetb eleni fel arfer.-ADV. Dysgwylir y Parch W. Llewelyn Lloyd, LlanddeusaM, Mon, a'r Prof. David Williams, M.A., Aberystwyth, i wasanaethu yn nghyfarfod blynyddol Brynmawr y Nadolig. Cawn y fraint o groesawu Cymanfa Ddir- westol Gwynedd i'r pentref hwn yn mis Hydref nesaf. Nos Fawrth, yn Ysgol Glanllugwy, rhoddodd Miss Kent, Bryndyffryn, de i blant Gobeithlu yr Eglwys, yr hwn a fwynhawyd yn fawr ganddynt. Yr wythnos hon, y mae Mr William Thomas a'i briod (gynt o Tandderwen), ond yn awr o Llandudno Junction, yn hwylio am Patagonia i uno a'u meibion.
LLANBEDR, MEIRION._I
LLANBEDR, MEIRION. I Nos Wener, yn yr Ysgoldy, cynhaliodd plant yr ysgol eu cyngherdd blynyddol er budd amddifaid yr athrawon. Yn absenoldeb Mr Davison, llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr Griffith Griffith, Wenallt. Gwneid y rhan gyntaf i fyny o Ganeuon ac Adroddiadau, a'r ail ran o berfformio Cindeiella," yr hyn a wnaed yn codedig o dda, ac y mae Mr Jones, yr Ysgoifeistr, a'i gyd-athrawon, Mr Ellis Owen, Misses Laurah Owen, ac E. J. Griffith, i'w llongyfarch ar ragoroldeb y gwaith a wnaed gan y plant. Prawf yr hyn gafwyd y medr sydd gan Mr Jones i ddysgu y plant, heblaw fod addysg i eraill gael trwy gynyrch eu llafur. Rhanwyd gwobrau am bresenoldeb, dau o'r plant yn y dosbarth anrhydeddus, sef Ellin Jones, Coedllechi, heb golli unwaith mewn chwe' blynedd, a'i brawd heb golli o gwbl mewn pedair blynedd. Diolchwyd i'r Cadeirydd ar gynygiad Mr J. Henry Griffith, Plas Gwynfryn, a chefnogiad y Rheithor. Treuliwyd noson nodedig o ddifyr.
I :- FFESTINIOG. - I
I FFESTINIOG. I CARDIAU NADOLIG.—Cyn rhoddi eich archeb am Private Greeting Cards gelwch yn siop Mrs Roberts, Saron House, i weled y llyfr o gardiau detholedig sydd yno. Dyma'r detholiad harddaf a rhataf sydd i'w gael, I CYMDEITHAS LENYCDOL BETHEL (A).— Cynhaliodd y Gymdeithas uchod ei chyfarfod rheolaidd nos Fawrth. Llywydd, Parch R. T. Phillips. Arweinydd, Mr Owen Hughes, Sun Street. Cyfeilyddes, Miss Laura Pritchard. Cafwyd papur gan Mr Morris Evans, Bryn Olew, ar Y Pedwar Enwad Ymneillduol," Papur rhagorol iawn, a siaradodd amryw.
MAB AFRADLON.
MAB AFRADLON. Wrth ddrws tafarndy yn y dref, Ar noswaith 'rol noswylio, Canfyddais yno dad a mam Mewn tralleid blin yn wy!o Liefarai'r tad mewn tyner iaith A briw o dan ei galon. 'Rwyf wedi dod, dywedai'r tad, Er mwyn parhad fy einioes, Ac os yn ofer eiff fy ngwaith Efe ei hun a'i decs Nid ceisio 'rwyf ei ddrygu ef Na'i gadw rhag pieserau, Ond hoffwn iddo fod yn fab I Dduw y nef a minau. Bum iddo'n dad caredig iawn, Ar lawer nawn ystormus, Pan ydoedd ef mewn nychdod blin A'i enaid gwan yn ofnus, Addefodd i mi y pryd hyn Tra rhedai'n llyn ei ddagrau, Mai Iesu Grist a ga'i y clod Os caffai ddod o'i rwymau. Aeth heibio'r nos o dtallod blin, Ca'dd hit- i fyn'd yn mheilach, A gofal tyner tad a mam I ddwyn ei gam yn 'sgafnach Mae heddyw'n llencyn ugaia oed A'i droed ar Ddeg Gorchymyn," A'i law yn gafael yn ei ctawant Gan herio Duw a phob-dyn, Dywedaf hyn, rnae llwybrau'n dod A bod mae llawer camdda, Bydd eisian nerth rhyw ddydd a ddaw 0 dan y baich ysgafna Daw yntau adref y pryd hyn A mawr fydd grym ei boenau, Pan ddaw'r adgofion oil i gyd Mewn darlun yn eu holau. 121, High Street. EVAN JONES,
-LLINELLAU I
LLINELLAU A gyfansoddwyd 1 deulu Bryn Melyn ar ol clywed am farwolaeth eu hanwyl fam Mrs Ann Roberts, yr hon a hunodd yn yr Iesu Hydref 18, yn 80 mlwydd oed. Mam, wrth siglo'ch cryd a syniai Am y cyfrifoldeb mawr, A osodwyd gan y nefoedd Arni yma, ar y llawr; Mam a'ch dysgodd chwi i gerdded Yn ol troed- ein Iesu gwiw, Mam a fiigodd deulu cyfan Na cha'dd oddiwrthynt friw. Mam garedig a gofalus, Mam yn llawn o nodau'r nef, Mam wrth wneyd ei dyledswyddau Geisis'i ogoneddu Ef Cerddwch rhagorh blant anwylgu Yn y ffordd y'ch dysgodd chwi, Nes cyrhaeddyd at eich rhiaint Sydd a'u cin am Galfari. Ni bydd miwsig Brynymelyn, Byth yr un i chwi, y plant, Am fod telyn hoff y teuiu Wedi colli arail dant Heddyw'n ngwlad yr aur delynau Maent, ni thorrir tant byth mwy, Frodyr a chwiorydd anwyl Mae eich eisiau arnynt hwy. WILLIAM S. KOBERTS.  Utica, New York (gynt Fronoleu, Tanygrisian). I
CYFLWYNEDIGI
CYFLWYNEDIG I I Mr. a Mrs. Robert Roberts, Moelyfronllwyd, Bethania, ar ol eu hanwyl blentyn Thomas John Roberts. Peidiwch wvlo, er mor anhawdd, Ar ol colli un mor lin, Un mor anwyl ac mor siriol, Un mor dlws a phur ei gan. Peidiwch wylo, er mor anhawdd. Mil dedwyddach ydyw ef, Cofiwch eiriau'r addfwynt Iesu Eiddo plant yw teyrnas nef." Peidiwch wylo, ceisiwch ganu— Canu'n beraidd byddai ef, Cana heddyw'n fill pereiddiach, Uwch pob storm yn nheyrnas nef. Peidiwch wylo, diolch ddylech, Am i'ch dderbyn y fath fraint; Sef cael benthyg am ychydig Un sydd heddyw'n ngbor y saint. Peidiwch wylo-daliwch afael Yn yr addewidion mawr, Pethau bern yn ddiddarfod- Beathyg ydyw pethau'r !!swf. D. B. M. I
TY'R ARGLWYDDI. I
TY'R ARGLWYDDI. I Oer gleddir Ty'r Arglwyddi,-a'i rodres Drwy'r brwydro eleni; Yn llawn fewch drwy'n cynllun ni Fwriadwn ei ddifodi. Ty ein pwn, Ty i'n poeni.-ydyw ef, Du deml i'n tlodi; Uchel hwyl! ei chwalu hi A fynnwn i'w sylfaeni. Ysweiniaid fu'n llysenwi-ein tadau, Ddattodir o'u culni; Mewn undeb fu neb na ni Mwy parod i'r gampwri. Dyrysir gwyr di-reswm cysegr Marcwisiaid g&nt godwm; Daw oriau tranc drwy wae trwm, A gwarthrudd ar Dy'r gorthrwm, Chwalir yr holl uchelion-am oesau, O'D gormeswyr mawrion; Ni fydd lie hafaidd a lion I fagu pendefigion, Heb aros i lawr bwrir-y ty hwn; A'i frwnt hawl ddiddymir; Heddyw'n rhwydd iawn y rhoddir Dyrnau tost ar ladron tir. Ty ellyil yw i'n twyl!o,-a hen dy Wnaed er ein diraddio Ha y mae brys yn mhob bro Ar ran gweria i'w guro. Yn wir, tyrfa o wyr tl;rfion-dorant Ei dyrau a'i gloion I oer fyd rhag arfau hoa Rhed segur dywysogioa. Gwanu ei wag ogonedd,—mwy a wneir, A mwychau ei ddiwedd Tori'i fost tarfu ei bedd Wna boll dan Llwydo Wynedd. Rhai o'u hwyl i'w rheoli,-—mwy ni bydd Am iawn barch mae'n gweddi; Yn ein hoes, cyn hir, nyni Gywilyddiwn arglwyddi.
LODES Y BLEIDLAIS.
LODES Y BLEIDLAIS. Garw ei llun, udgar ei Dais.—ydyw Lodes erch ei dyfp-is Gerwin, gwyllt yw gwirion gais Hyawdledd meich y bleidlais. CYFFLY,
SWN HIRAETH.
SWN HIRAETH. Am y diweddar Mr. Johnnie Hughes, Ysgol- feistr, Tanygrisiau. Wedi myned 'rwyt ti ffrindia hoff ynte I weled dy dad a'th fam yn ngwiad y Ne', Mor anodd seiio na chawn eto'th gwmni, Ar lawr y ddaear hon, ein hanwyl Johnnie. Gofalus a phert bob amser fuest ti, Dy rodiad erys o flaen ein llygaid ni, Dy garedigrwydd hefyd oedd yn hynod, A'th bwyll oedd sylwedd, cywir hyd y gwaelod. A'i tybed wir dy fod ti wedi marw ? Dy gorff sydd yn y pridd, ac nid dy enw Bydd byw dy fywyd glan am flwyddi meithion, ArQlygwyd hyn pan gariwyd dy weddillion. Paham y'th alwyd di mor hynodsydyn ? A gei di ddod yn ol os gwnawn ni ofyn ? Na gwelsom di fel angel dan yr amdo, Rhaid yw boddloni--ni ddoi atom etc. Porthmadog, wwwwwvw ISAAC DAVIES,
TREFN OEBFAON Y SLIli,
TREFN OEBFAON Y SLIli, I Y METHODISTIAID. ENGF-DI.-Parch Thomas Hughes, B A., Rhiw. PENIEL.-Parch Howell Williams, Trallwm. GWYLFA.-Pacrh Wm. Foulkes, Llaogollen. BETHF-SDA.-Parch R. Silyn Roberts, M A. | TABERNACL.—10, Parch J. Chrittmas Lloyà, Abermaw, 6, Parch W, Llewelyn Lloyd, Bethel. MAENOFFEREN .-10, Parch W. Llewelyn Lloyd. 6, Parch J. Christmas Lloyd. GARREGDDU.—Parch R. R. Morris. BOWYDD.—Parch Owen Jones, Deganwy. RHIW.—Parch J. E. Hughes, B.A,, B.D., Engedi. BETHEL.-—Parch D. Hoskins, M.A. Caernarfon S4PEI. SEISNIG (English Chapel),-Rev D. J. Lewis, B.A., Waenfawr. YR ANNIBYNWYR. BETHEL.-IO, Parch J. R. Parry, 6, Parch R. T. Phillips. HYFRYDFA.—Myfyriwr o Goleg Bangor. BETHANIA.—10, Parch R. T. Phillips. 6, Parch J. R. Parry. JERUSALEM.—30, Parch Thomas Griffith. 6, Parch John Hughes. BRYNBOWYDD.—Parch Job Miles, Aberys- twyth. SALEM.—10, Parch John Hughes. 6,lParch Thomas Griffith. CARMEL.—Mr D. R. Jones (Afallon). Y WESLEYAID. EBENEZER.-10. Parch P. Jones Roberts. 6, Parch J. Pugh Jones. DISGWYLFA.—10, Parch Mr D. D. Hughss. 6, Parch P. Jones Roberts. SOAR, RHIW.—10, Parch J. Pugh Jones. 6, Mr J. H. Roberts. TANYGRisrAU.—10, Mr J. H. Roberts. 6, Mr D. D. Hughes. FFESTINIOG.-IO, Parch Rhys Jones, 6, Mr J. R. Jones, Rhiw. Y BEDYDDWYR. SEION.—Parch B. D. Harris, Fforddlas. CALFARIA.-Parch E. Cefni Jones. CIERSALEM.—Mr. Phillip Lloyd. PISGAH-Mr William Humphreys (Elihu).
Advertising
"GOLUD GOREU—GWLADGARWCH." DYGWYL DEWI, 1911. DETHLIR yr uchod dan nawdd y Gymdeithas Gymraeg, ac Arwest Llyno y Morwynion, yn Neuadd Gyhoeddusf BLAENAU FFESTINIOG. Y Ciniaw- NOS FERCHER, MAWRTH laf, 1911. Y Cyngerdd Cymreig, NOS IAU, MAWRTH 2il, 1911. Manylion Llawn i Ddilyn. ROBERT GRIFFITH, TEGFAN. DEWI MAIO FEIRION. (Cyd-Ysgrifenyddion).
Family Notices
Genedigaethau. JONES.-Rhagfyr 3, priod Mr John Jones, Springfield Terrace (gynt Manod Road), Bl. Ffestiniog, ar fab.