Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG. I Cynhaliwyd y Llys rheolaidd ddydd Iau o flaenDr. Robert Roberts (Cadeirydd) G. H. Ellis, William Owen, Dr R. D. Evans, John Vaughan Williams, a Cadwaladr Roberts (hynaf), Ysweiniaid. Meddw ac Afreoius. Yr Heddgeidwad Jenkiu Morgan a gyhuddodd Rowland Rowland (leu.), Ty Iddew, Penrhyn- deudraeih, o fod yn feddw ac afreoius yn Ffair Ffestiniog, Tachwedd 10.—Addefodd y trosedd. Dirwy c swllt a 7/6 o gostau. Meddw. Yr Heddgeidwad R. E. Davies a gyhuddodd William Jones, 4, Bryntawel, Tanygrisiau, o fod yn feddw Tachwedd 16.-Adciefodd y trosedd,-Dinvy swllt a'r costau. Gwnaeth gais am gael amser i dalu, a dywedodd mai hsn iangc ydoedd. Caniatawyd iddo hyd amser talu yn y chwarel lie gweithiai. Yr Heddgeidwad Evan Davies a gyhuddodd Morris Lewis, Gof, Brynygarth, Trawsfynydd, o fod yn feddw yn Trawsfynydd, Tachwedd 26.—Nid ymddangesodd ond anfonorld lythyr yn datgan ei ofid o fethu gadaei ei waith, ac yn addef y trosedd,-Dywedodd y Swyddog mai gof oedd y Diffynyrld yn BJwnglawdd Gwyn- fyydd-Dirwy swllt a'r costau. Helynt y Ci. I Yr Heddgeidwad William Edwards a gyhuddodd un o Ynys Terrace, Blaenau, o gadw Ci beb Drwydded ar Tachwedd 24.— Yr Arolygydd Owen a gyhuddodd yr un Ddiffynyddes o gadw Ci heb eiddychwelyd i'w bercbecog. Dywedodd y Swyddog ei fod yn dwyn y cyhuddia.d ysgafnaf yn erbyn y Ddiffynyddes, gan y gallasai ei chyhuddo o ladrata y Ci.—Ymddangosodd Mr D. White Phillips i ddadleu am i'r Faingc edrych yn dyner ar yrachos —Dirwy o 7/6 a'r costau yn yr achos cyntaf, a 1/- a'r costau yn yr ail: 23/6 trwy'r oil. Arfer laith Anweddus, Yr Heddgeidwaid Evan Davies a gyhuddodd John Morris. Labrwr, Trawsfynydd, o dros- eddu Manddeddfau y Sir, adrar 12, trwy dyngu a rhegi yn Trawsfynydd Tachwedd 26. Eglurodd yr Arolygydd Owen mai y ddirwy uwchaf am y trosedd ydoedd pum' punt. Nid ymddangosodd y Diffynydd. Y Rhingyll J. M. Jones a gyhuddodd Robert Lloyd, Chwarelwr, Bont, Tanygrisiau, o dros- edd cyffelyb yn y Blaenau Tachwedd 26.—Y Diffynydd a ddywedodd nad oedd yn meddwl fod iddo air o fod yn rhegwr, sc yr oedd yn ofni i'r wiad feddw! ei fod yn rhegwr mawr am ei fod wedi cael ei wysio am beth felly.-t,ad- eirydd, Y mae yn dda gan y Faingc weled eich bod yn teimlo eich sefyllfa." Y ftfcingyll Jones a gyhuddodd John Parry Hen Ysgoidv, Tanygrisiau, o drosedd cyffelyb Tachwedd 26.—Addefodd y Diffynydd y tros- edd, ac mai ffraeo a'i frawd yr oedd pan y cyflawncdd ef. Dirwywyd y tri i swllt yr. un a'r costau. Gofynodd Parry am amser i dalu, a dywedodd mai dyD, dibriod ydoedd. Caniatawyd ei gais, Meddw. Yr Heddgeidwad W. Edwards a gyhuddodd un o Ffestiniog, o fed yn feddw yn Church Street, Blaenau Ffestiniog Rhagfyr 6.-Dirwy swllt a'r costau. Dynes yn Ymosod yn Tanygrisiau. Mrs Mary Catherine Williams, 1, Dolydd Terrrce, Tanygrisiau, a gyhuddodd Mrs Maggie Hughes, Bronllwyn, Tanygrisiau, o ymosod ami, Tachwedd 24 YmddaDgesorld Mr R. O. Davies dros yr Achwynyddes.—Tystiodd Mrs Williams i'r Ddiffynyddes ymherian arni trwy ganu edliwiadau am y gwallgofdy iddi. a dy- wedyd am iddi ladrata, yna ymosod arni trwy fwrw dwy gareg ati, ei llusgo gerfydd ei gwallt, a thynu gwaed o'i gwyneb.—Mrs Mary Ellen Williams, Pencraig,a ddywedodd iddi glywed edliw yr Asylum a son am ddwyn, a hi gafodd yr Achwynyddes o afaelion y Ddiffynyddes.- Mewn amddiffyniad dywedodd Mrs. Hughes mai Canu Comic Songs y Living Pic- tures i ddifyru ei phlentyn bach" yr oedd. Rhoddodd ei phlentyn i un arall tra y bu yn ymosod ar Mrs M. C. Williams.—Yr Hedd- geidwad Davies a dystiodd iddo weled gwaed ar wyneb Mrs Williams ar ol yr belynt.-Y Cadeirydd a ddywedodd fod y Faingc yn un- frydol yn dirwyo i 2s 6c a 9s 6c o gostau, gyda rhybudd fod yn rhaid iddi beidio aflonyddu mewn un modd ar heddwch Mrs Williams eto, yn enwedigedliw y Gwallgofdy, neu y delid yn llym iawn ati. Codi Helynt yn y Clwb Rhyddfrydol. I Yr Heddgeidwad R. E. Davies a gyhuddodd of Isaac Roberts, Dorfil Street, Blaenau, o fod yn feddw ac afreolus nos Sadwrn diweddaf. Cafodd ei alw i'r Clwb Rhyddfrydol gan fod y Diffynydd yn codi cynwrf yno, ac yn sirhau Mr. D. White Phillips, Cadeirydd y Sefydliad. Codai gynwrf ar yr heol ar ol dod allan hefyd. —Addefodd y trosedd.—Yr Arolygydd a adgofiodd y Faingc i'r Diffynydd geel ei ddirwyo yn y Llys diweddaf i ddeg swllt a'r costau am ymladd, ac anfonodd ei chwaer i'r Llys hwnw yn lie dod ei hun. Dywedodd Mr. Phillips ei fod ef wedi maddeu i'r Ejiffynydd ar ei gais.-l)irwy5/- a 7/6 o gostau. Yr un Swyddog a gyhuddudd Peter Roberts, Jones Street, Blaenau, o drosedd cyffelyb yn yr un Ile ac ar yr un adeg. Wedi ei gael allan o'r Clwb y tro cyntaf yn dawel, aeth i mewn drachefn fel y bu raid ei droi allan. Cododd gynwrf ar ol hyfly ar yr heol.—Ditwy swllt a 7s 6c o gostau. Gwysio CwmniChwareli Oakeley. I Mr Thomas Henry Mottram, Prif Arolygwr Mwngloddiau o dan y Llywodraeth, a gy- huddodd Gwmni Chwarel Oakeley, Blaenau, o droseddu Adrfn 10, Is-adran 1 (c), o Ddeddf Llaw-weithfeydd, 1901.-Ymddangosodd Mr W. Thornton Joces, Bangor, erlyn, ac am- ddiffynwyd gan Mr H. C. Vincent (Carter, Vincent & Co.), Bangor. Mr Thornton Jones wrth agor yr achos, a I ddywedodd fod yn rhaid iddo alw sylw at adran o'r Ddeddf oedd yn dangos na ddylai neb oedd yn dal unrhyw gysylltiad ar fasnach mewn chwareli eistedd ar y Faingc,- Y Cad- eirydd a ofynodd a'i Did mater o ddewisiad o du yr Ynadon ydoedd hyny.—Mr Thornton Jones, "Nage, O'm rhan fy hun ni fuaswn yn gwrthwynebu yr un o honoch, ond y mae y gyfraith yn bendant yn dywedyd fod yn rhaid i chwi beidio eistedd."—Ar hyny ymneillduodd Dr Robetrs, H. G. Ellis a William Owen oddiar y Faingc, a gwrandawyd yr achos gan Dr R. D. Evans, J. V. Williams a Cadwaladr Roberts. Mr W. Thornton Jones a ddywedodd fod y Ddeddf yn gofyn am i bob peiriant peryglus gael ei amgau (fence), a thrwy nad oedd y peiriant hwn oedd yn liif ar ben echel at lifio cerig wedi ei amgau felly i'w ddiogelu aeth gweithiwr o'r enw David Jones i'r Hit yn Medi diweddaf, a thorwyd ei fraich dde i ffwrdd, a derbyniodd niweidiau trymion eraill i'w gorph. Y mae y peiriant ynddo ei hun yn beryglus, a'r ddirwy o beidio ei amgau yw deg punt, neu gan' punt os niweidid neu leddid un ganddo a'r swm hwnw i fynedf er budd yr un anafwyd neu ei berthynasau. Nid oedd amgauad ar y llif hon ddefnyddid at lifio darnau o lechfaen at wneyd Gwelyau Bacteraidd nac ar y belting droai y peiriant, a cbaa i'r amgauad gael ei ddodi ar ol y ddamwain yr oedd yn eglur fed y perchenogion yn ei weled yn ofynol er diogelwch y sawl weithiai ag ef. Eglurhad y Prif Oruchwyliwr ar na ddodwyd amgauad cyn y ddamwain ydoedd nad oeddid yn meddwl fod angen am hyny neu y buasai yr Arolygwr wedi gslw sylw ato. Ond nid cedd hyny yn gwneyd cyfrifoldeb y perchenogion yn ddim llai, gan eu bod hwy eu hunain yn gyfrifol am wneyd pobpsth yn ddiogel heb i neb oddiallan alw eu sylw at y peth. Mr Griffith John Williams, a dystiodd ei fod yn un o Arolygwyr y Mwngloddiau o dan y Llywodraeth- Ymwelodd a Chwarel Oakeley Medi 24. Yr oedd hyny ar 01 y dcamwain i David Jones, ac yr oedd y peiriant wedi ei arogau, ac yn awr mewn cyflwr boddhaol Yr oedd yn hollol beryglus heb amgauad gan fod corph y gweithiwr o fewn deunaw modfedd i'r llif, a gallai lithrio iddi unrhyw adeg. Mewn adeiiad wrtbo ei hun yn gorphwys ar y prif- beiriandy y mae y beiriant dan sylw, ac ni bu erioed yn yr adeilad hyd Medi 24, ac ni wyddai fod peirianau ynddo gan fod y drws yn gauedig bob tro y bu ar ymweliad ar Chwarel, ac ni ddangosodd neb y He iddo. Mr. John Davies, un o'r Is-Oruchwylwyr fu gydag ef trwy y Chwarel Awst 29, Mewn croesholiad gan Mr Vincent dywedodd Mr Williams nad oedd yn gwybod iddo weled y peiriant hwn o gwbl o'r blaen na gweled ei waith yn liifio y darnau cerig. Ystyriai y peir- iant yn beryglus dan bob amgylchiad heb iddo gael ei orchuddio ag amgauad. Ni bu iddo ef alw sylw at y perygi am na cbafodd gyfle i weled y peiriant erioed yr oedd yn sicr nad oedd yn cofio iddo weled liifio y darnau cerrig a'r peirianau hyn. Ni ddangoswyd y dull hwn o weithio i Ddirprwyaeth y Chwareli fu trwy'r chwarel yn mis Gorphenaf, neu buasai yn sicr o'u cymeryd i'r adeilad'i weled y peiriant yn gweithio. Yr oedd Mr Owen Jones, y Prif Oruchwyliwr, bob amser yn barod i wneyd pobpeth ofynid iddo i ddiogelu y gweithwyr, ac ni chafodd erioed drafferth gyda'r Cwmni i gario allan yr hyn a geisid ganddynt. 1! Mr Griffith John Griffith, 7, Tanrallt Terrace a dystiodd ei fod yn gweithio yn ymyl David Jones pan fu'r ddamwain. Llifio cerig yn ddarnau hir-ysgwar yr oedd. Nid oedd dim am y llif na'r belt yr adeg hono, ond y mae yn awr. Aeth David Jones i'r llif rhywfodd nad oedd neb yn gwybod sut. Yr oedd yn weith- iwr profiadol a gofalus. Mewn amddifyniad dadleuodd Mr Vincent na bu i Mr Williams, yr Arolygydd, alw sylw at y peiriant er iddo ei weled, fel yr oedd amryw yn barod i dystio. yn 1906. Gweithiasant yn hollol lwyddianus heb ddamwain o gwbl hyd yr un ddigwyddodd i David Jones. Teimlai y perchenogion a'r oruchwyliaeth fod pobpeth yn ddiogel oni elwid eu sylw at rhyw berygl gan yr Arolygydd. Gofidiai y Cwmni yn ddirfawr am y ddamwrin ddigwyddedd, a gwnaethant a pharhant i wneyd pobpeth yn eu gallu er diogelwch y gweithwyr sydd ganddynt ac yr oedd yn anffodus eu bod wedi digwydd edrych dros y peth yr achwynid yn awr o'i achos. Ymneillduodd y Faingc, a dywedodd y Cad- eirydd eu bod yn dirwyo i bunt heb gostau, ac yn dymuno datgan eu bod oddiar wybodaeth bersonol yn gwybod fod Cwmni yr Oakeleys bob amser yn gwneyd pobpeth oedd yn bosibl iddynt i ddiogels eu gweithwyr rhag damwein- iau. Mr. W. Thornton Jones, a ddywedodd nad oedd y Diffynwyr wedi dodi eu tystion yn y box i wrthbrofi yr hyn a ddywedodd yr Arolygwr; ac atebodd Mr. Vincent iddynt baidio oddiar y teimladau goreu at Mr. Williams. Yr oedd tri tyst yn bresenol yn barod i brofi iddo weled y peirianau o dan sylw'r Llys yn eu Hawn waith yn 1906, ac na chondemniodd ddim arnynt y pryd hwnw.— Mr. Thorton Jones, "A fydd i'r Faingc ddatgan nad yw yr hyn ddywedodd yr Arolygwr wedi ei wrthbron?"—C&deirydd y Faiagc, "Ni fu i ni wneyd sylw y naill na'r Hall o pa un a welodd Mr. WiLiams y peiriant cyn y ddamwain.-Profodd y ddamwain y dylasai y peiriant gael ei ddiogelu."

Advertising

CYNGAWS MR. O. ISaOED JONES1…

Heddlys Bettwsycoed.I

0 BORTHMADOQ I BWLLHELI. I

PYSGOD AFLAN. -I

PENRHYWDEUDRAETH.

LLANRWST SEWAGE CASE.

CROESOR.