Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

12 erthygl ar y dudalen hon

TRAWSFYNYDD. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRAWSFYNYDD. I Nos Iau, 15fed cyfisol, yn Vestri Moriah yn Nghymdeithas y Bobl Ieuanc, cafwyd dadl rbagorol ar Pa un ai yr aelwyd, ai yr eglwys sydd yn gyfrifol am ddirywiad yr Ysgol SabbotboL" Yn absenoldeb Mr Hugh Jones, Ty'nddol, ilywyddwyd yn fedrus gan Mr J. Griffiths, Tyn-y pistyll. Agorwyd dros yr aelwyd yn ddeheuig, gan Mr R. Jones, Tremprysor, ac ategwyd yn hynod o fedrus, gan Mrs Lewis, Pant-y-celyn, Agorwyd dros yr egiwys, gan Mr J. Williams, Gwynfa, gyda llawer o dan yn ei speech, a medrusrwydd. Cafwyd gair yn fyr gan amryw o'r brodyr, Yna rhowd y raatsr i bleidlais, ac yr oedd y ddwy ochr yr un faint. Yna rboddodd y Llywydd ei bleidlais yn 01 ei dyb ef mai yr aelwyd oedd fwyaf cyfrifol, ANRHYDEDD. Gwelwn fod Miss Gwen Evans, merch ieuengaf Mr a Mrs David Evans, Station Road, sydd yn gwasanaethu gydag Arglwydd ac Arglwyddes Mount Stephen, yn Brocket Hall, wedi cael yr anrhydedd o weini ar eu Mawrhydi y Brenin a'r Frenhines yr wythnos ddivJeddaf, pan ceddvnt ar ymweliad a'r Palas ucbod. Diau yr erys yr aragylcbiad r yn fyw ar ei chof flycyddoedd lawer, ac y caiff gy.feirio ato yn y dyfodol gyda dyddordeb arbenig. CYMDEITKAS PDIWYLLIADOL EBENEZER (A )—" Noson gyda'r Beirdd gafwyd yn y Gymdeithas hon nosi Iau, Rhagfyr 8fed, a phrofodd yn ddyddorol ac adeiladol, Yn absenoldeb y llywydd penodedig, llywyddwyd gan weinidog yr eglwys, pryd y darllenwyd papyrau IJafiuÚwr, a meddylgar i'w ryfeddu, gan y rhai cantynol:-Mr. Omri Roberts, Bodlondeb, ar "Elfed Mr Ellis H. Evans, Ysgwrn, ar Ben Bowen Mrs Owen, Glis- goed, ar Ann Griffiths; a Mr Edwin Lloyd, Rhiwlas, ar Eifion Wyn." Gwnasth y pedwar eu gwaith yn odidog, a chafodd neges bywyd a barddoniaeth yr arweinyddion hyn ei ddangcs allan yn onest iawn. Rhoddwyd datganiad gan Mr Ellis Jones, Bodlondeb, a'i barti, yn ntchreu ac ar ganol y cyfarfod, a mawr werthfawrogid eu gwasanaeth. Cyfarfod Cystadleuol brwd geir nos Iau, Rhagfyr 22ain. Dener yno's llu, MARWOLAETH,—BA angau yn bylcha eio yr wythncs hon yn ein hardal. Yn blygeiniol iawn boreu ddydd Mawrth diweddaf bu farw Mr Isaac Roberts, Ty'nybryn. Bu yn nychu am lawer o flynyddoedd. Yr oedd yn ffarmwr profiadol. Gadawodd weddw a phedwar o blant i alaru ar ei aIr gyda pa rai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf. DEWIS ORGAN YDD.—Bu eglwys Moriali, M. C yn dewis Organydd i'r Egiwys nosSabboth diweddaf, a syrthicdd y goelbren ar Miss Jennie Hughes, Brongwyndy. Bu Miss Hughes wrtbi yn anhlysurol o'r blaen. Merch ydyw i'r Cyngborydd Robert Hughes, Brongwyndy, Y mae Egiwys Moriah yn edrych yn mlaen hefyd am eu Gwyl Bregethu flynyddol y Nadolig eleni eto, Llawen genvru ddeall mai un o biant yr ardal hon sydd yn cynal gwyl bregethu y Wesleyaid yn Ffestiniog eleni, sef y Parch Richard Jones, BA., Bagiiit, Mab ydyw Mr Jones i'r ban frawd Mr Griffith Jones, Frongaled. EIN MASNACHDAI.—Y mae yn amlwg oddi- wrth ein masnachdai fod y Nadolig yn ymyl, gan yr olwg atdyniadol a welir ar y ffenestri. EISTEDDFOD Y NADOLIG,-Clywsom fod dau gor yn bwriadu myn'd oddiyma i'r Eisteddfod i'r Blsenau i geisio am y wobr. Pob llwyddiant iddynt, ""AA..A.AÂ,A

-Cyfarfod Ysgol Utlca,- I…

-,---THARLEOH. -.VI

FFESTINIOG.

CAROL NADOLIG.I

MAE ARNOM EISIAU MAM.I

-A -CHRISTMAS WISH I

IGAIR 0 GYDYMDEIMLAD j

IIER COF I

BLAEiMAU FFESTINIOG.-I

rv PRENTEG, "^V%^i

I:- W- - - J 7YYYYYYYT;LŠAÑÃU1